Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

TAITH PR AIFFT.

News
Cite
Share

TAITH PR AIFFT. GAN MR. J. R. ARTHUR. I DRAGOMEN. MAE trafod arweinwyr yn fusnes trafferthus iawn, yn fwy felly yn Cairo nac un man. Gyda yr arwemwyr a'r aragomen yn Cairo, y mae yn ofynol i'r teithiwr gadw ei bres yn ei ben, ac nid yn ei galon, oblegyd mae eu cadw mewn llogellau yn anmhosibl. Canfyddwch cyn pen ychydig ddyddiau yno, fod gan y rhan fwyaf o'r arweinwyr ei favour- ite spots i'ch harwain iddo, fel y gallant eich rhwydo mewn lie ag y bydd safe conduct' oddiyno yn item frawychol. I'r ymwelydd anghyfarwydd y mae yn anmhosibl iddo allu gwahaniaethu yn Cairo rhwng guide gonest a'r tout diegwyddor a'r dragoman twyllodrus, oblegid mae y naill fel y llall yn meddu ar certificate dan law y British Consul, ac yn llwythog a llythyrau cymeradwyaethol. Siaradent ychydig Saesneg, a chynygiant eu gwasanaeth i'r teithiwr fel cyfieithwyr, ac i'w gynorthwyo i fyned drwy y ddinas. Er mai pla dychrynllyd ydynt, cyfloga bawb fydd ar ymweliad a'r Aifft. dragoman; ac un o'i brif ddyledswyddau ydyw amddiffyn y teithiwr rhag pedleriaid, a merched, a phlant, a hen bobl yn llefain am gardod (backsheesh). Dull y dragoman o amddiftyn ei feistr rbag y plaau hyn ydyw arfogi ei hun a phastwn, a chenllif o ymadroddion enllibus. Arswyda y pedleriaid a'r begeriaid rhag myned yn ddigon agos i gael bias y pastwn-mae y dragoman yn specialist yn y gelfvddyd o'i handlo, ond nid yw ei ym- adroddion gwawdlyd yn gwneyd dim mwy o argraff ar y dosbarthiadau hyn nac ydyw dwr ar gefn hwyaid. Os digwydd i'r dragoman ar ryw achlysur orfod absenoli ei hun am ychydig o funydau, gwelir un o'r pedleriaid yn gwir- foddoli i ymgymeryd a'r cyfrifoldeb pro tem o warcheidio y teitbiwr ac yna pan ddychwel y dragoman, hawlia gardod (backsheesh) gydag awdurdod am gadw begeriaid ereill draw PEDLERIAID. DosBARTH eithafol wrthwyn- ebus ac un o flinderau y dwyr- ain ydyw y pedleriaid. Crea y dosbarth hwn chwerwedd a cnynroad yn nheimladau y teithiwr mwyaf gwastad oher- wydd yn benaf eu taerineb a'u hystyfnigrwydd. Mae yr heolydd yn llawn o bedleriaid o bob oed a chenedl, mantelli gleision a chapiau coch, ac yn bla a blinder lie bynag yr eir. Unwaith y cyrhaeddir pyrth porthladd Alex- andria, dilynir y teithiwr gan y creaduriaid beiddgar hyn. Cynygiant iddo yn" ddiball postcards, lluniau, matches, delwau, a criau esgidiau, braidd bob nwydd y gellir meddwl am dano. Gwthiant gelfi i logellau y teithiwr er ei waethaf nes peri i'w gynddaredd ffinio ar wallgofrwydd. Ni cheir gan y dos- barth hwn, mewn' unrhyw iaith ddynol bron, er iddi gael ei ereiddio ar cabledd mwyaf, gymeryd y gair No yn nacaol. Cymeryd atebiad nacaol? Na choeliai fawr! Mewn un math o oslef na cyweirnod. Ac osna fydd rhai o'r teithwyr ddigon cartrefol, parod, ac ystwyth i bwysleisio ei nacad a bonclust, fe fyddant at eu trugaredd. Dvma y geiriau glywir yn barhaus yn rhwygo awyr llychlyd cynteddau, pyrth, a beddrodau Cairo pan fydd y masnachwyr ynfyd hyn yn hofran o gwmpas y teithiwr :—No! no, thank you No. I tell you! No, no! Be off! Getaway! Imshi! I don't want it! I tell you I don't want it! No, nor that, nor anything, clear off! I don't want a scarabaeus! No, nor a foot of a mummy, nor a sundried Nile Brick. No no, I tell you! No, confound you! No! No!! No ac felly yn mlaen yn barhaus, hyd nes y ceir ymwared a hwy drwy fyned i mewn, feallai, i deml neu feddrod. Wedi myned i mewn, a chrwydro fel ci ar ol y guide am aceri lawer, a gwrands ar y dragoman yn rhoi amlinelliad o hanes y lie a'i araeth yn debyg i pawnshop—" peth yn hen a pheth yn newydd, peth yn wir a pheth yn gelwydd," nes bydd y teithiwr, wrth ddod allan, wedi ei lwyr ddrysu. Ac yn y porth wrth ddod allan, canfydda haid frash o Hamids a Hassans yn paratoi eu nwyddau i wneuthur ymosodiad adnewyddol drachefn arno. "Mister medd- ai y cyntaf, 50 postcards for ten pence! Scarabee," medda r Hall, forpiaster Very good, Rameses." medda'r Hall. Mummy antecker, Mister Flowers, feathers, beads, say 'ow much! Shut up. You no want Rameses No Arright! Dyna feiddgarwch gwerthwyr hynafiaethau ffugiol yn cynwys, arian, tlysaii, modrwyau, delwau; a dyna y fath ystyfnigrwydd geir yn mhlith pedleriaid sydd yn beidio fel gwenyn o gwmpas pob lie sydd o ddyddordeb i'r ymwelwr ar Aifft. Pan fyddai y dosbarthiadau hyn yn heidio ac yn cau o'n hamgylch ac yn aflonyddu yn ormodol, yna byddai un o'r teithwyr yn sefyll yn dra sydyn, pesychu yn galed a thynu gwyneb mor ddifrifol a phe bai yn ddiwedd amser. Wedi cymeryd safle felly adroddai yn fan ac yn fuan rigwm tebyg i hyn :— 60, 11, 2, 17,-l, 40, 9, 4, 12, 5. 15, 1, 80, 2ft, 19, 0, 3, 2, 4, 8, 13. Wedi gwrando ar ymadroddion tebyg i hyn yn caelei pwysleisio yn effeithiol mewn oslef ddi- eithr, ceid gweled y begeriaid yn fynych yn llygadrythu ar eu gilydd ac yn troi ymaith gan ddweyd, Oh Allah, hen dramoriaid tlawd ydynt." BACKSHEESH. 0 gwmpas cynteddau, pyrth, I grisiau, a heolydd sydd yn arwain at demlau, beddrod- au, a gwrthrycbau hynahaethol, ymosodir yn ddiarbed gan ddosbarth arall o wybed dynol- un o felldithion gwledydd y dwyrain. sef heidiau o gardotwyr a gwrthrychau dirmygus o bob math. Gelwir y cymeriadau atgas, yr ysgerbydau erchyll a brwnt yma, gan deithwyr yn Backsheesh. Cynwysa y Backsheesh gor- achod heb drwynau, merched heb glustiau, dynion heb goesau, plant heb freichiau, crwyd- riaid o bedlemodd, lladron ac ysbeilwyr, bydd- ariaid a begeriaid, aphob un a'i wyneb diwenau yn areithio yn hyawdl ar ei fythol flinderau. Yn eu plith gwelir y mawr a'r bach, y cryf a'r gwan, y cyflym a'r araf, meibion a merched, rheibus, gwancus, ac ysglyfgar hyf, haerllug, a ffyrnig, yn barod i ymladd battle royal a'u gilydd ond taflu tair ceiniog i'w plith; a'u budreddi yn gyfryw fel y byddai yn ofynol i'r arch-golynwr Mosquito fod yn alluog i drafod rhaw cyn y gallasai eu pigo. Fel yna, mae gweithredoedd y Backsheesh yn eithafol wrth- wynebus, ac yn suro pleserau y teithiwr, ac o ganlyniad edrychir ar y dosbarth yma yn y dwyrain fel hen balasdai adfeiliedig yn cael eu preswylio gan ysbrydion aflan ac ellyllon mileinig, ac eir heibio iddynt megys mewn dychryn ac arswyd. [ PRES. Os na fydd y teithiwr i wledydd I tramor yn hanu neu yn perthyn i ddosbarth y cyfoethogion, mater tra l phwysig iddo ydyw deall ac ymgydnabyddu a coins y wlad yr ymdeithia ynddi. Y darn arian pwysicaf yn yr Aifft ydyw y piastre." Mae pump piastre yn swm cydwerth a swllt neu yn fwy cywir 97! piastre yn swm cyfartal i'r sofren Brydeinig, Rbenir piastre yn symiau llai a gelwir y darn agosaf i'r ileiaf yn two parar' neu hatling y wraig weddw" am y rheswm fe dybir mai dau ddarn o'r un gwerth a para roddodd y wraig weddw hono gynt yn Nhrysorfa y Deml. Wrth weled afon' hael- frydedd yn llifo i'r drysorfa, syrthiodd golygoii Ceidwad y byd ar y wraig hono yn taflu ei chalon gyda'r hatlingau ac iddo ddweyd: Ond hon o'i heisiau a fvvriodd yr hyn oll a feddai, sef ei holl fywyd, "—ac fel yna mewn undeb a chrefydd gall gwragedd ddyfod yn anfarwol gyda dwy hatling Fel rheol gwelir fod swm gwerth y dernyn wedi ei gerfio arno yn mhob gwlad, felly hefyd yn yr Aifft, oddi- gerth hyn o wahaniaeth, fod swm gwerth y dernyn yno wedi ei argraffu mewn tlythyrau arabaidd. A dyna bembleth ceisio eu cofio! Ymdrecha y teithiwr ei hadnabod wrth ei maintioli yn hytrach na mynu deall yr argraff sydd arnynt gan mor ddyrus ydynt. Er hyny, os na ymdrecha y teithiwf a llogell ysgafn ddeall yn drwyadl werth arian y wiad yr ym- deithia ynddi, buan y daw yn newyn arno oherwydd ceir dynion yn Cairo fel mewn dinasoedd eraill sydd yn gwylio eu cyfle i gamarwain yr anwybodus4 ac i dwyllo y rhai hyny sydd yn crwydro ac heb ddysgu elfenau cyntaf yr art o deithio, ac yn y cysylltiad hwn, "ysgol ddrud ydyw profiad." Mae aur yn brin iawn yn yr Aifft, methwyd er ymweled ag oddeutu dau ddwsin o gyfnewidwyr arian yn Alexandria a Cairo ddod o hyd i sofren na haner sofren (aelwir yno yn Masri aNusseh) i'w rhoddi yn mhlith y casgliad o gyngreiriau cywrain a ddygwyd oddiyno. Hawddach oedd smuglo clamp o Fummy o'r Aifft na phrynu sofren ond teimlwn yno mai prin y cawsai gwrthrych tolciog, rhiglog, a lledraidd felly y croesawiad a haeddai o fewn Museum Blaenau Ffestiniog. Tybiwn pe y deuwn a Mummy drwy y North Western Tunnel y gallasai beri teimladau cythryblus yn mynwesau rhai o'n Cynghorwyr Dinesig, hwyrach ymweliadau mynych yr hunllef a'r Alltwen a'n llyfrgellydd caredig. (I'w barhau).

I CYNGOR DINESIG LLANRWST.

/VV??/?\???/?V\/\/\???\??????s/??\/???.I…

■wwwwwvwwwvwvwwvw I Y Prifathraw…

Y Weinyddiaeth Newydd. ' (

VVMAAMA/WWvVWWWWWVWI Mr. Tom…

Cymanfa Ganu y Methodistiaid…

TRAWSFYNYDD.

LLANFROTHEN.