Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LLAN-I…
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LLAN-I GOLLEN. MR. GOL.—Yr wyf wedi derbyn gwahodd- iad cynes oddiwrth amryw o'r cantorion yn Blaeuau Ffestiniog i ffurfio Cor Cymysg i gystadlu yn yr Eisteddfod uchod, ac hefyd yn Llanrwst y Llungwyn. Yr wyf wedi rhoddi ystyriaeth fanwl i'r cais, ac wedi dod i'r pen- derfyniad o dderbyn y gwahoddiad. Nid wyf yn meddwl bod yn Blaenau sefydliad cyffelyb ar droed ar hyn o bryd, os oes, hoffwn i ddim ar un cyfrif fod yn rhwystr i'r cyfryw. Beth bynag, parod wyf fi i ddechreu ar y gwaith yn ddioed. Anfoned y cantorion ar cantoresau eu henwau i Mr. O. V. Jones, Draper, Church Street. Ydwyf ya bur, Organydd, Llanrwst. D. D. PARRY. I
CLYCHAU. I
CLYCHAU. Syr,—Dro yn ol tarawyd fi yn sal gan yr In- fluenza. Dydd Sul oedd y diwrnod yr ymosod- wyd arnaf, a diwrnod i'w gofio fydd o hefyd. Nid oedd seibiant i'w gael oherwydd y gofid y y diwrnod hwnw na'r nos ddilynol. Ond boreu dranoeth, cefais ychydig esmwythdra. a meddyliais y buaswn yn cysgu tipyn, a rhodd- ais fy hunan mor dawel ag y medrwn i'r amcan hwnw. Ond gyda fy mod yn gwneyd hyny dyma y drol llefrith at y drws, a rhaid oedd canu y gloch, bid siwr, i alw sylw pobl ein ty ni a thai pawb eraill o gwmpas, iddynt gael gwybod fod y llefrith yno, a mawr oedd twrw y merched wedi iddynt gael rhyw fymryn o esgus i ddod at eu gilydd. Gallwch ddirnad fy nheimladau, Mr. Golygydd, o dan yr am- gylchiadau hyn. Fodd bynag, fe ddaeth taw- elwch am funyd-dim ond am funyd. Oher- wydd daeth trol arall a chloch arall heibio, a rhag ofn fod neb o'r cymydogion heb gael eu deffro, roedd yn rhaid cael gwasanaeth y gloch ac fe wnaeth gryn lawer o wasanaeth hefyd. Aeth hwn eto i ffwrdd, ond cyn iddo braidd fyned o'm elyw, dyma swn cloch fyddarol arall o hono wedi cracio mewn caledwaith, ac yntau y gwerthwr llefrith yn edrycb yn flin ac yn eis- tedd yn y cerbyd fel pe bai wedi cael ei scriwio wrth y sSt, nid wyf yn cofio ei weled yn defn- yddio ei aelodau isaf erioed, ond mae y gloch mewn bri ganddo, ac wrth law yn wastadol. Yn mhen ychydig wedyn, daeth tipyn o am- rywiaeth i'r chwareu, o ran daeth trol arall heibio a rhywun yn gwaeddi nerth esgyrn ei ben "Llae-th, llae-tb!" Yr oeddwn yn bur ffond o laeth enwyn bob amser, ond buasai yn well genyf beidio clywed ei enw y boreu hwnw a finau mor sal. Dyma enyd o dawel- wch eto, a chauais inau fy llygaid am hun, ond cyn i mi aHu cysgu daeth dwy o droliau glo heibio, a chlychau fyth a hefyd ac felly aeth y boreu bythgofiadwy hwnw heibio heb i mi gael y tawelwch y deisyfwn am dano. Yn awr Mr. Golygydd, a ydyw ddim yn bosibl i chwi ddylanwadu ar y bobl dda sydd yn eistedd o amgylch y bwrdd yn. ystafell y Cyngor bob mis, i roddi atalfa unwaith ac am byth ar betb fel hyn. Byddai hyny yn gymwynas, a phobl iach a cbryfion, ac yn drugaredd a llawer un sydd fel finau wedi bod dan yr WMFFRA WESLA.
CYMDEITHAS GORAWL Y PENRHYN.
CYMDEITHAS GORAWL Y PENRHYN. Mr. Golygydd.-Yn y rhifyn diweddaf o'ch newyddiadur poblogaidd, g WE aeth un a eilw ei hun "Peredur," gais at y pwyllgor am ail gyfarfyddiad y Gymdeithas Gorawl uchod. Y mae yr hyn a ysgrifenodd, yn hollol gywir mewn perthynas i'r penderfyniad, a basiwyd oddeutu mis Mai diweddaf, sef, fod y Cor yn cyfarfod ddiwedd yr haf a, rhoddi perfformiad o'r cyfanwaith "Ancient Mariners." Ond, yn ystod y seibiant yna, bu cyfnewidiad, trwy i'r Arweinydd ymgymeryd a galwedigaeth, oedd yn ei gadw oddicartref, oddigerth yn achlysur- ol dros y Sul. Ond, os ydyw Peredur," yn ysgrifenu oddi ar wybodaeth, mewn perthynas i'r dyfodol, sef, fod yr Arweinydd eto yn llawn sel, felly, credaf fel yntau, mai dyledswydd y Pwyllgor ydyw cyfarfod yr Arweinydd, er ceisio syrthio ar drefniant boddhaol at y dyf- odol. Y mae yn resynus fod ardal mor gerdd- orcl a'r Penrhyn, ac yn meddu ar Arweinydd mor neillduol o fedrus, heb Undeb Corawl, a hwnw yn sefydlog. Yn ei absenoldeb achlys- urol, credaf y gallesid yn hawdd gael un o'r dynion ieuanc i ymgymeryd a'i le, gan fod yma dalentau ddigon, ond rhoddi cefnogaeth i'r cyfryw rai. Os ydyw y Cor yn barod dylai y Pwyllgor drefnu amser cyfarfod, trwy anfon cyhoeddiad i holl eglwysi y cylch, neu unrhyw gynllun arall mwy effeithiol. GLYNDWR.
Y FASNACH LECHI. ... - - -…
Y FASNACH LECHI. MR. GOL.-Un gair gyaa eicn caniataci 'mewn perthynas i un a gyfenwa ei hun J. Watkin Edwards, mewn rhan yn feirniadol ar fy ysgrif yn eich colofnau am Mawrth upfed a'r hugain, methais er chwilio am gyfeiriad yr enw hwnw. Yn ddiweddaf oil gofynais i Swyddogion y llythyrdy. Nid oedd yr enw yn adnabyddus iddynt hwythau. Fel yr ydwyf wedi penderfynu yn y dechreu nad wyf yn bwriadu gwneyd un sylw o neb, os na fydd hwnw yn ddigon gwrol i ymddangos dan ei enw priodol. Darllenais ei lythyr drosodd, dechreua gyda swn siomedig na fuasai rhai o enwogion y Liberal Club yn ateb fy llythyrau. Mae gyda fi. ffrindiau calon yno, ac yn barod i ddatgan eu barn yn yr un cyfeiriad. Nid wyf yn cymeryd fy safle o ben pentan plaid na sect, ond fel dinesydd, ac yn dymuno llwydd- iant a lies Chwarelwyr Ffestiniog, ac hefyd yr Ymerodraeth Brydeinig, yr hon nad yw yr haul byth yn machlud ami. Ar oli mi gymeryd tipyn o drafferth a trio cael o hyd i'r ffigyrau Bwrdd Masnach am gyfnod o ddeng mlynedd diweddaf, wrth edrych ar y ffigyrau a gweled bod mwy o gerig yn dod i fewn nag oedd yn myned allan ar hyd y blynyddoedd, i tybiais yn fy niniweidrwydd mai anfantais i ni yn y chwareli Meirion ac Arfon oedd hyn. Ond ar ol i Mr Edwards graffu ar fy ffigyrau gwelodd oleuni arall arnynt, ac y mae yn ym- resymu fel hyn yn ngwyneb hyn mae ffigyrau Bwrdd Masnach yn union yr hyn a ddisgwyliem am y deg mlynedd diweddaf. Derbyniwyd mwy i fewn nag a anfonwyd allan. Ymresyma mai lies i ni oedd hyny. Na fedrem ni gyflenwi y galwad, ac yntau ei hun meddai yn gwybod mwy am wneyd llechi nag am y fasnach. Os ydyw yn gwneyd Ilechi neu yn trigianu yn agos i Ffestiniog, gwyr cystal a hyny bod y brif chwarel yn gorfod gweithio pedwar diwrnod yn yr wythnos yn agos i flwyddyn bellach o her- wydd methu cael prynwyr i'r cerig, a'r chwar- elau eraill sydd yn gweithio amser llawn, ond bod nifer eu gweithwyr yn llai o lawer o herwydd yr un gwyn ei bod yn methu gwerthu. Hefyd nifer fawr o chwarelau llai wedi gorfod cau yn hollol o ddiffyg galwad ar eu cynyrcb. Ar peirianau yn aros yn segur, ac yn rhydu yn ofer-er colled i'w perchenogion, ac yn ddigalon i bawb i edrych arnynt. Onid ydyw Mr. Edwards yn ymresymwr diguro a'r ffeithiau hyn yn hysbys iddo. Tybiaf fy hun nad ydwyf yn fympwyol ar unrhyw gwestiwn, ac nad ydwyf yn hoffi syniadau eithafol gan neb. Ond rhaid i mi gyfaddef yn onest bydd yn angenrheidiol cael cryfach ymresymwr na Mr. Edwards cyn i mi gilio o'r pentan yr wyf yn sefyll arno ar y mater hwn. Yr ydym yn son am fasnach rydd, nid ydyw ein Masnach yn rhydd. Fel gwyr pawb mae yn rhaid cael cyllid i goffrau y Llywodraeth i dalu cyflogau ein llywodraethwyr ac i'r nifer luosog o swyddogion sydd o danynt. Hefyd i gadw y fyddin a'i llynges er mwyn gofalu am heddwch a diogelwch i Mr. Edwards a minau. Trwy y doll sydd yn bresenol, mae rhan helaeth o'r cyllid yn cael ei sicrhau. Gwyddom fod yn rhaid cael yr arian. Hyn yw ein dadl, onid oes modd cael yr arian yn fwy esmwyth ac yn fwy manteisiol i'r wlad yn gyffredinol trwy Atdrefnu ? Mae tollau yn bresenol ar nifer fawr o nwyddau, ac yn dwyn llawer miliwn i gyllid y llywodraeth yn flynyddol. Rhoddaf y ffigyrau ar rai ohonynt, er mwyn eich darllenwyr lluosog. Credaf bod Mr. Edwards yn hysbys o honynt yn barod, ond er mwyn eraill nad ydynt mor ffodus, hwyrach byddant o ddyddordeb ac yn agoriad llygad i ambell un. Gwyddom oil am Ffestin- iog bod y te mor dderbyniol a'r dorth. Fel y canlyn y mae'r toll ar y bwydydd sydd yn dod 1 fewn. Blwyddyn Gyllidol 1906-07. Toll. Cyfanswm. Siwgr ?c.ypwys. 6,260,000 Te 5c. „ ?5,597,000 Ffigs, Plums, a Raisins f c. y pwys. t346,000 Cocoa Ie. y pwys. £247.000 Coffee lic. y pwys. 175.000 Currants ic. y pwys 6122,000 Chicory 2c. y pwys. £ 49,000 Cyfanswm £ 12,796,000 Cyfanswm cyllid am y flwyddyn yn diweddu Mawrth 31, 1907, am ymborth, diod, a tobacco, £ 64,864,000. Fel y gwelwn mae rhan fwyaf o'r nwyddau o dan doll yn bresenol, ddim i'w cael yn y wlad hon oherwydd yr hinsawdd, ddim yn fanteisiol i'w cynyrchu. Wrth edrych o un cyfeiriad, onid ydyw yn afresymol i'r wlad dolli nwyddau sydd yn dod i fewn, nad ydyw yn bosibl iddi ei gynyrchu ei hun, a gadael nwyddau eraill ddod i. fewn yn ddidoll, a ninau yn cynyrchu cyflawnder o hono. Credaf mai doeth a rhesymol fyddai lleihau neu symud yr oil ar rai o'r nwyddau sydd a toll arnynt yn bresenol, a'i roi ar nwyddau eraill sydd yn dod i fewn i'r wlad hon, a digonedd o'r nwydd hwnw yn cael ei gynyrchu gyda ni ein hunain, a methu cael gwertbiant iddo, oherwydd bod y nwydd tramoryn IIanw y farchnad.-Dadleua llawer I mai gyda ni ein hunain mae'r rhwystrau mwyaf i lwyddiant masnachol. Nid y gystadleuaeth dramor yw y gwaethaf. Cydnabyddaf ar unwaith bod gyda ni ein diffygion a llawer o le i wella. Hwyrach os caf hamdden gwnaf sylw o rai ohonynt yn fy llythyr dilynol. Credaf fod y mater yn werth ein sylw mwyaf difrifol.—Yr eiddoch, &c., Adeiladydd. DAVID JONES.
VWsAAAAAAMMMM/VWWWWV IFOOTBALL.
VWsAAAAAAMMMM/VWWWWV I FOOTBALL. NORTH WALES COAST FOOTBALL. LEAGUE. Table up to and including last Saturday. DIVISION I. Goals. P. W. L. D. F. A. P Ban gor .17 11 2 4 .58 .25 .26 Beaumaris .17 .11 4 2 .50 .26 .24 Holyhead .16.11. 5 0 .59 .19 .22 Llandudno A.18 8 7 3 .27 .37 .19 Colwyn Bay 17 7 7 3 .58 .40 .17 Rhyl Res.18 7 8 3 .49 .34 .17 *Carnarvon 19 8 9 2 .41 .63 .16 Bl. Festiniog 18 7 .10 1 .37 .64 .15 Denbigh .19 7 .11 1 .33 .42 .15 i Conway .19 6 .11 2 .36 .58 .14 Llanrwst .18 3 .12 3 .16 .53 9 j *Two points deducted for playing illegabl man. Last Saturday's Results :— Colwyn Bay 3 Blaenau Festiniog 3. *Rhyl Reserves 3; Llandudno 0. Conway 2 Llanrwst 0. Bangor Reserves 2; Denbigh 1. Next Saturday's League matches:— April 17th. *Beaumaris v, Bangor. A. C. Slater. April 18th.—*Festiniogv. Colwyn Bay.-R. D. Richards. *Conway v. Denbigh.—R. Hersee. *Llandudno v Rhyl.—H. P. Edwards. April 20th.Holyhead v. Festiniog. H. R. Edwards. *Home team.
[No title]
/WWWWWWWWWWWWVWv Raphael Tuck's Birthday Cards and Picture Post Cards. Perfection of Art in all variety of Subjects. Id each.—RHEDEGYDD OFFICE.
IY Diweddar Mr. William BleddynI…
I Y Diweddar Mr. William Bleddyn Lloyd, U.H. Chwith iawn genym orfod ysgrifenu y diweddar am y gwr anwyl uchod, yr hwn a hunodd yn yr angeu yn oriau man boreu ddydd Gwener, yn Bod Eifion, Dolwyddelen. Ped- werydd mab y diweddar Mr. Bleddyn Lloyd, Gorddinen, Dolwyddelen, ydoedd Mr. Lloyd, ac yr oedd yn 49 mlwydd oed. Yr oedd yn ddyn a hoffid yn fawr gan bawb ar gyfrif ei natur dda a'i gymwynasgarwch diderfyn. Yr oedd yn ddiarhebol am ei haelioni yn mhob cylch, a'i galon fel ffynon yn IIifo drosodd mewn cyfranu i hyrwyddo pobpeth daioni, a thori angen y trallodedig, Yr oedd o natur grefyddol, ac yn ddyn lanwai i'r ymylon y cymeriad o Foneddwr Cristionogol." Anaml y cyfarfyddid a dyn mwy unplyg a diymhon- gar, a thynerwch yn nodwedd amlycaf yn ei holl ymwneyd a phobl o'i gwmpas. Yr oedd yn adnabyddus mewn cylchoedd eang yn Ngogledd Cymru. Bu am gryn amser yn gyfrifydd yn Ariandy Mri. Pugh Jones, yn Blaenau Ffestiniog, a symudodd oddiyno i fod yn Oruchwyliwr Ariandy yr un Cwmni yn Llanrwst, a bu yn gofalu am y lie hwnw yn ystod y cyfnewidiad fu yn mhryniant yr Arian- dy Cenedlaethol Cymru, ac ar ol hyny gan y Metropolitan Bank, y perchenogion presenol. Yn ystod ei dymor yn Blaenau Ffestiniog dew- isiwyd ef yn Flaenor yn Eglwys y Rhiw, (M.C.), ac ar ol ei symudiad i Lanrwst, dewisiwyd ef yn Flaenor yn Eglwys Seion (M.C.). Yn 1898 penodwyd ef yn un o Ynadon Sir Ddinbych, a chyflawnodd ddyledswyddau gyda phwyll a doethineb oedd mor nodweddiadol o hono. Tua thair blynedd yn ol, ymneillduodd o'r Ariandy i fod yn Archwilydd dros Ogledd Cymru i'r National Provident Institution. Cafodd gystudd trwm a phoenus am dros flwyddyn, a bu yn orweddiog am amryw wyth- nosau: tawel ac amyneddgar ydoedd yn ei gystudd fel yn mhob cylch arall. Gadawodd fab a merch yn eu galar a'u hunigrwydd ar ei ol. Yr oedd ei briod hawddgar (merch y di- weddar Mr. J. Vaughan Williams, Tanymanod, Blaenau Ffestiniog), wedi ei ragflaenu er's rhai blynyddoedd, a chladdwyd hi yn mynwent Seion, Llanrwst. Yno hefyd y dodwyd ei gorph yntau ddydd Mawrth. Daeth torf fawr i'w hebrwng i dy ei hir gartref. Gwasanaeth- wyd wrth y ty gan ei weinidog, y Parch. O. J. Griffith, B.A., ac efe gyda'r Parch. William Thomas, Seion, a wasanaethodd wrth y bedd. Heddwch i lwch y gwr tawel, caredig, a chym- wynasgar. Yn dawel bu i r diwedd-was pwyllog, Nis pallodd ei nodwedd Lloyd y Bank ni lwyda bedd-dad serchog Aeth yn wridog i borth anrhydedd. Ni welir mwy oleu'r man,-wedd heulog Dol'ddelen mor ddiddan; Eto collwyd Llwyd o'r Llan 0 urdd enwog Gorddinan. Llanrwst. mmi lit?? R.E.
Adolygiad y Wasg.I
Adolygiad y Wasg. I PULPUD CYMRU.-Derbyniasom y rhifyn o'r "Pulpud "I am y mis hwn, a chynwysa Bregeth ragorol gan y Parch. David Davies, Llandudno, ar Arglwydd. dysg ni i weddio," gyda dau ddarn barddonol, a dwy ysgrif fer, ond nodedig dda. Llawen genym weled y Pulpud yn parhau yn ei rym. TYST DIRWESTOL.-Parha y Tyst i lefaru yn glir a croyw ar faterion Dirwestol, a cheir ysgrifau da yn y rhifyn am y mis hwn, a rhoddir arbenigrwydd i Fesur y Trwyddedau, fel y gallesid dysgwyl yn naturiol iddo wneyd. Ysgrif dda yw yr un ar y Parch. Evan Jones, Caernarfon. Myned ein darllenwyr gael y Tyst a'r Pulpud. ARWRIAETH JOHN ANTHONY, 0 waith Mr. Evan Rowlands (Ap Llechwedd), 127, High Street, Blaenau Ffestiniog. Llyfryn bycban dyddorol dros ben, ac y mae yn dda genyf gael Ilongyfarch yr awdwr ieuanc ar ei waith yri ysgrifenu ystori mor ddestlue a deheuig. Mae'r adranau wedi eu gosod yn drefnus a naturiol iawn. Ychydig sydd o lenyddiaeth o'r natur yma yn perthyn i'n Llenyddiaeth ni; yn wir, y mae yma rhy fyehan o lawer. Mae Ilyfrau.o'r nodwedd yma wedi magu a meithrin llawer o ddarllenwyr. Dymunaf iddo gylchrediad helaeth. J. LLOYD JONES, Llyfrgellydd, Blaenau Ffestiniog. CYMRU.—Daeth rhifyn Ebrill o'r cyhoedd- iad gwerthfawr hwn i law, gyda darlun o'r Bardd, y Lienor, a'r Pregethwr adnabyddus J. D. Ffraid, "Adda Jones" yFaner. Cynwysa, fel arferol, nifer o ysgrifau dyddorol dros ben. Y mae gan y Golygydd restr o Enwogion Cymry." Wrth gwrs, ni honir ei bod yn gyf- lawn, gofynir am gynorthwy i'w chwblhau. Ysgrif flasus yw yr unar Owen Jones y Gelli," a charem gael rhagor cyffelyb iddi. Parha y Golygydd i draethu "Hanes Cymru" gyda'i fedrusrwydd a'i rwyddineb arferol. Ceir nifer o ddarnau tarawiadol o waith Isaac Roberts, brawd Ieuan Gwyllt, ac wrth eu darllen methem a gwelad y cysgod lleiaf o reswm dros gyrchu dwfr llwyd o Heini i'w ddodi gyda barddoniaeth uchelryw o'r fath. Ysgrif hynod o ddyddorol i ni yw eiddo Llew Meirion ar Hen Offerynwyr Dolgellau." Melus, moes mwy. Campus o beth fyddai cael ysgrifau o'r fath o wahanol drefi Cymru, a gwnelant gyfrol wasanaethgar yn hanes ein gwlad. Rhifyn gwerthfawr yw hwn drwyddo.
PENMACHNO. I
PENMACHNO. I ARWRIAETH JOHN ANTHONY, neu Ramant Bywyd Cymro, gan E. Rowlands (Ap Llech- wedd), Blaenau Ffestiniog. Mynwch gael un o'r Llyfrau hyn. Y mae canmoliaeth cyffred- inol iddo fel yr un mwyaf difyri'w ddarllen. Nid yw ei bris ond trwy y Post, 7c., i'w gael gan yr awdwr, neu gan Mr Robert Morris, Llyfrwerthwr.
TREFN -OEDFAON Y SULI
TREFN OEDFAON Y SULI Y METHODISTIAID. Cymanfa Bregethu y Pass. PENIEL.-Nos Sadwrn, am 7 o'r gloch, Parch. J. Hughes, M.A., Lerpwl. Y Sabboth, am 10, Parch. J. Williams, Caergybi. 2, Parch. H. Barrow Williams, Llandudno. 6, Parchn. J. D. Jones, Ynysbwl; a J. M. Jones, Caerdydd. Dydd Llun, am 10, Parch. S. T. Jones, Rnvl. Am 2, Parch. J. Williams. 6, Parchn, J. Hughes, M.A., a J. Williams. BETHESDA.—Nos Sadwrn, am 7 o'r gloch, Parch. H. Barrow Williams. Y Sabboth, am 10, Parch. J. M. Jones. 2, Parch J. D. Jones. 6, Parchn. John Williams a S. T. Jones. Dydd Llun, am 10, Parch. J. Hughes, M.A. 2, Parch. H. Barrow Wil- liams. 6, Parchn. H. Barrow Williams a J. M. Tones. TABERNACL.—Nos Sadwrn, am 7 o'r gloch, Parch. J. D. Jones. Y Sabboth, am 10, Parch. S. T. Jones, Rhyl. 2, Parch. John Williams. 6, Parchn. H. Barrow Williams a J. Hughss, M.A. Dydd Llun, am 10, Parch J. M. Jones. 2, Parch. J. D. Jones. 6, Parchn. J. D. Jones a S. T. Jones. GARREGDDU.—Nos Sadwrn, am 6-30. Parch. Thomas Williams, Gwalchmai. Y Sabboth, am 10, Parch. Peter H. Griffith, Llundain. 2, Seiat Gyffredinol: mater. "Gweddi," yn ol y Bregeth ar y mynydd. 6, Parchn. J. T. j Job, Carneddi a W. E. Prydderch,Abertawe. Dydd Llun, am 10, Parch. W. E. Prydderch. 2, Parch. J. T. Job. 6, Parchn. Thomas Williams a Peter H. Griffith. TANYGRISIAU.—Nos Sadwrn, am 6-30, Parch. J. T. Job. Y Sabboth, am 10, Parch. W. E. Prydderch. 2, Parch. Thomas Williams. 6, Parchn. Thomas Williams a Peter H. Griffith. Dydd Llun, am 10, Parch. Peter H. Griffith. 2, Seiat Gyffredinol: mater, Buchedd y Saint," seiliedig ar Rhuf. xii, 1-2. 6, Parchn. J. T. Job a W. E. Prydd- erch. CAPEL SEISNIG (English Chapel).—Rev. John Owen, M.A. Bowydd. RHIW.—Parch. T. Gwynedd Roberts, Conwy. YR ANNIBYNWYR. BETHEL.—Mr. D. R. Jones, Blaenau Ffestin- iog. HYFRYDFA.—Parch. J. Williams-Davies. BETHAN IA. -Parch. D. Davies. Preswylfa. JERUSALEM.—Parch. E. Richards, Tonypandy. BRYNBOWYDD.—Parch. J. Jerman. Nebo. SALEM.—Cyfarfod Gweddi. CARMEL.—Cyfarfod Gweddi. Y WESLEYAID. EBENEZER.—Pregethwr Dieithr. DISGWYLFA.—10, Mr. E. R. Evans, 6, Mr. G. G. Roberts. SOAR, RHIW.—10, Mr. G. G. Roberts, 6, Parch. T. Isfryn Hughes. TANYGRISIAU.—10, Cartrefol, 6, J. J. FFESTINIOG.-IO. Parch. T. Isfryn Hughes, 6, Cyfarfod Gweddi. Y BEDYDDWYR. SEION .-Cyfarfod Gweddi. CALFARIA.-10, Cyfarfod Gweddi, 6, Mr. Hugh Roberts, B.A. MORIAli.-IO, Parch. E. Cefni Jones. PISGAH.-Mr. Phillip Lloyd. CAERSALEM.—Mr. J. D. Davies.
BETTWSYOOED.
BETTWSYOOED. At Drigolion yr ardal a'r amgylchoedd. Y mae Wm. Williams, Pontypair Shop yn dymuno hysbysu ei fod wedi cael pob math o BATRYMAU newyddion at y tymhor dyfodol mewn Siwtiau dynion a bechgyn am brisiau hynod o resymol. Siwtiau i ddynion am 18/- i fyny. Trowsusau o 6/6 i fyny. Hefyd mewn amrywiaeth mawr i blant am brisiau rhesymol. Gwarentir fit a'r Style diweddaraf. Gellir eu cael ar fyr rybudd. Hefyd Job math o Grysau, Hosanau dynion a Scarfs. Dymunem eich cefnogaeth.—ADV. ARWRIAETH JOHN ANTHONY, neu Ramant Bywyd Cymro, gan E. Rowlands (Ap Llech- wedd), Blaenau Ffestiniog. Mynwch gael un o'r Llyfrau hyn. Y mae canmoliaeth cyffred- inol iddo fel yr un mwyaf difyr i'w ddarllen. Nid yw ei bris ond 6c; trwy y Post, 7c, i'w gael gan yr awdwr, neu gan Mr. W. Williams, Pontypair Shop. Cynhaliodd Cymdeithas Lenyddol Undebol ei chyfarfod terfynol nos Wener diweddaf, dan arweiniad Mr. E. G. Jones, Ty'r Capel. I agor y cyfarfod cafwyd chwareuad ac y Delyn gan Telynor Elsi. Yna cafwyd anerchiad gan y Llywydd. Deuawd gan Misses E. A. Ellis, Canol Rallt, a Jennie Jones, Green Bank. Yna cafwyd Beirniadaeth gan Mr. D. Jones, Glan'rafon, am yr "Awgrymiadau goreu i wneud y Gymdeithas yn fwy llwyddianus," yr oreu oedd Miss M. M. Davies, Maelgwyn House, ail, Miss A. Evans, Oakfield. Adroddiad gan Mr. Owen Davies, Bank Llugwy. Dadl gan Misses M. Jones, Glan'rafon, ac A. I. Roberts, Arfon House. Beirniadaeth ar y Serch Lythyr gan Mr. J. Rees Lloyd, Bronant, yn ddoniol dros ben, goreu, Mr. D. C. Hughes, Willoby House, ail, Miss Annie Evims, Oakfield. Deuawd gan Misses E. A. Ellis a Jennie Jones. Adroddiad gan Mr. T. Evans, Oakfield. Siomedig fu'r gystadleuaeth ar y Pedwarawd a'r Wythawd. Fe ellai fod amgylchiadau yr ardal, ar prysurdeb ar gyfer y dyeithriaid wedi bod yn rhwystr i'r Cantorion. Beirniaid Cerddorol oedd Mr. H. R. Williams, Ty'r Capel. Pasiwyd yn unfrydol bod aelodau y Gymdeithas yn myned at Llyn Crafnant, i gael Picnic, Sadwrn Mai 16. Cafwyd diolchadau cynes gan y brawd H. R. Williams, i'r rhai fu yn gwasanaethu, ac hefyd i'r rhai fu yn paratoi gyda'r Gymdeithas yn ystod y tymor, yn enwedig yr Ysgrifenyddes lafurus a llwyddianus, Miss Mary Davies, Maelgwyn House, ac awgrym Nredig i'r cantorion at y tymor nesaf os gwel Rhagluniaeth yn dda ein cadw gyda'n gilydd. Yna trodd pawb am ei cartref yn llawen wrth feddwl am y Trip.— GOH.
LLANRWST.
LLANRWST. TREFN Y MODDION SABBOTHOL. Yr Eglzvys Sefydledig. St. Crwst.—10, Parch, J. Morgan, B.A, 6, Parch. D. C. Davies, B.A. St. Mary.—10, Parch. D. C. Davies, B.A. 6, Parch. J. Morgan, B.A. Y Methodistiaid. Seion.-Parch. Evan Davies, Trefriw. Heol Scotland.—Parch. O. S. Jones, Deganwy Yr Annibynwyr. Tabernacl.-10, Cyfarfod Gweddi. 6, Parch. W. Cynwyd Williams. Ebenezer.—Myfyriwr o Goleg Bala-Bangor. Y Wesleyaid, Horeb.—Cyfarfod y Pasg-Parch. R. Morgan, Caernarfon. St. James (English Chapel).—Mr. J. T. Jones, Colwyn Bay. Y Bedyddwyr. Pennel.-Migs Eleanor Williams (Abigail Uwchlyn), Llanuwchlyn. CENHADOL.—Dydd Iau a dydd Gwener, bu Van Genhadol John Williams ar ymweliad ar dref o dan ofal y Parch. T. Dixon Ruther- ford, M.A. Cynhaliwyd cyfarfod i bobl mewn oed nos Iau yn Ngbapel y Tabernacl, a nos Wener i'r plant. Yr oedd y cyfarfodydd hyn yn nodedig o ddyddorol, a dangosid amryw bethau o'r Meusydd Cenhadol yn India, China, Affrica, Madagasgar, Mor y De, a New Guinea, a gwisgwyd cyfeillion i ddangos dull- iau y gwledydd hyny o wisgo. Traddodwyd anerchiad gan Mr. Rutherford, a chasghvyd at Gymdeithas Genhadol Llundain. LLWYDDIANT CERDDOROL.—Llongyfarch- wn Miss Katie Williams, Manchester Clothing, ar ei gwaith yn enill tystysgrif yr Intermediate Grade am chwareu y berdoneg, yn yr arholiad a gynhelid Ebrill 7fed mewn cysylltiad a'r Trinity College, Llundain. Ei hathraw ydoedd Mr. D. D. Parry, Organydd. WEDI 42 MLYNF-DD. Y mae Mr. Hugh Williams, mab y diweddar Mr. a Mrs. William Williams, Ffeltiwr," Scotland Street, wedi dod i ymweled a ni ar ol bod am 42 mlynedd yn America. GOBEITHLU.-Cynhaliodd Gobeithlu Seion eu cyfarfod terfynol nos Wener, pryd Y cyfranogwyd o wledd ragorol ddarparwyd gan Mr. Roberts, Grosvenor House. Yr oedd y trefniadau o dan ofal Mr. W. H. Williams, Gorsaf-feistr, R. J. Williams, John Hughes, J. Williams, a Mrs. Williams, Gwynfa. Eisteddodd nifer fawr wrth y byrddau, am y rhai y gofelid gan Mrs. D. J. Williams, Mrs. T. Rogers Jones, Mrs. Williams, Gwynfa, Mr. R. J. Williams, Mrs. Hughes, Berwynfa, Misses Jones, Merddyn Uchaf, Miss Davies, gynt o Paris House, a Miss Williams, Ty'r Orsaf. Wedi y wledd cafwyd eyfarfod nodedig o hwyliog o dan lywyddiaeth y Parch. William Thomas. Canodd Cor y plant yn swynol iawn amryw weithiau o dan arweiniad Mr. J. Williams, Gwynfa. Datganwyd hefyd yn brydferth gan Misses Menai Williams, Florrie Jenkins, Doris Roberts, Annie Hughes, Alice Lamb, Mattie Davies, ac Annie Davies, Back Watling Street. Da^leuwyd yn fedrus gan Miss Annie Hughes a Willie Hughes, Salem Square Miss Gwyneth Roberts, Eagles Hotel. Edith Williams, Ty'r Capel, Madge Jenkins, Eirianfa, Daisy Owen, Llys Meurig, ac Enid Jones, Borthwen. HEDDLYS.—Dydd Llun, o flaen y Milwriad Johnstone, O. Isgoed Jones, Dr. Jones, a Wm. Hughes, Ysweiniaid. Dirwywyd Enoch Hughes, Pen Tai, Glanconwy, i 2/6 a'r costau am fod yn feddw ac afreolus.—Richard Bam- ford, 1, Victoria Terrace, Llanrwst, a ddirwy- wyd i 2/6 a'r costau am arfer iaith aflan.- Thomas O'Brien, o Galway, a ddirwywyd i 5/- a'r costau neu saith niwrnod o garchar, am fod yn feddw ac afreolus yn Heol Scotland nos Sadwrn.
I PENRHYNDEUDRAETH.VA"'VAA'
I PENRHYNDEUDRAETH. VA"'VAA' JUMBLE SALE.—Dydd Sadwrn diweddaf, cynhaliwyd y Sale uchod, er budd Trysorfa y Weinydaes, a throdd allan yn- llwyddiant tu hwnt i ddim oedd neb yn ei ddisgwylachafwyd elw sylweddol i'r Drysorfa. Yr oedd y Stalls dan ofal y boneddigesau canlynol ac sydd yn aelodau o'r pwyllgor. Miss Williams, Boston Lodge, Mrs. Pritchard, Bodhyfryd. Mrs. D. Lloyd Evans, Mrs. Richards, Cloth Hall, Mrs. Jones, Bryn, Miss Jones, Mount Pleasant, Miss Jones, New London House, Miss Jones, Griffin Hotel, Miss Jones, Manchester House, Mrs. Salt, Miss Evans, Briwet, Miss Pritchard, Bodhyfryd, ac yr oedd y boneddigion canlynol yn rhoddi gwasanaeth gwerthfawr wrth eu cynorthwyo. Mri. Llywelyn Williams,, Godfrey Williams, C. R. Beresford, D. Lloyd Evans, G. P. Jones, R. Baxter, Ellis Edwards, Tim Phillips, a Willie Davies. Yr oedd Te wedi ei baratoi dan ofal Miss Owen, Hyfrydle, a Mrs. J. Humphreys, Gwalia, ac yn gwasan- aethu wrth y byrddau yr oedd Miss Owen,. Meiribn House, Mrs. Llywelyn Williams, Miss Roberts, Brithwernydd, Miss Owen, Brynderwen, Mri. Albert Davies a Llewelyn Williams, Llwyncelyn. Rhoddodd Mr. W. Lloyd Davies, Talsarnau, ei wasanaeth yn yr Arlunfa, a chafodd hwyl neillduol 3-n y ganghen hon ac elw da. Yr un modd gwasan- aethoedd Mr. R. G. Humphreys, Porthmadog, fel arwerthwr.' Rhoddodd ei wasanaetb yn rhad a mawr ddiolch iddo am ei garedigrwydd at yr achos da hwn. Llongyfarchwn yn galonogyr Ysgrifenyddesfedrus Miss Beresford, Minffordd, ar ei dull dirodres o gario y gwaith yn mlaen a chyda'r fath lwyddiant eithriadol.
ITREFRIW.
TREFRIW. CERDDOROL.—Gwelwn fod enw Miss Enid Hughes yn mhlith yr ymgeiswyr llwyddianus yn arholiad y Trinity College, Llundain, a gynhaliwyd Ebrill 6fed, a llongyfarwn hi a'i hathraw. Mr. D. D. Parry, Llanrwst ar ei jlwyddiant.