Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

BLAENAU FFESTINIOG.

News
Cite
Share

BLAENAU FFESTINIOG. SEION. Cynhaliwyd y Gymdeithas nos Fawrth o dan lywyddiaeth Mr. Robert Jones (Perorfryn). Wele y rhaglen;-Ton gyffredinol. Adroddiad o Salm gan Master Ivor Emrys Williams, Llangefni. Canwyd dwy don gan Barti o'r Gymdeithas, "Tyner wyn y praidd," ac "Ust, boed bedd," o* dan arweiniad Perorfryn. Adroddwyd dernyn o waith Cernyw Y Bad ar y Niagra," gan Mr. Hugh S. Jones, Richmond Terrace. Cystadleuaeth enwi lleoedd, neb yn deilwng. Adroddiad "Enwau Llyfrau yr Hen Destament," Mary Thomas, Moriah. Prif atdyniad y noson ydoedd perfformiad o'r Ddrama newydd ac adnabyddus "Moses Bach," gan Pedr Hir, gan gwmni o'r Gymdeithas. Cynrychiolid y gwahanol cymeriadau fel y canlyn:-Iocebed, Miss Deborah Lewis; Miriam, Miss Jennie Hughes Thermiwtus (merch Pharaoh), Miss Lizzie Parry; Llangcesi, Misses Maggie Ann Lloyd; Mary Lewis; Nellie Blodwen Hughes; Lily Jones; Gwladys Arthur; Kate W. Jones. Rhian, Miss Maggie Roberts; Moses, Master Richie Roberts Aaron, Master Willie Roberts. Canwyd yn Llys y Brenin i groesawu y mab yno gan Barti y Gymdeithas. Yr oedd ol dysgyblaeth dda ar y plant oil, ac y mae y Gymdeithas yn ddyledus iawn i Mrs. J. J. Hughes, Brynteg, Wynne's Road, am y trafferth a'r draul a gymerodd i berffeithio'r cwmni, ac hefyd yr oedd y perfformiad yn coroni y tymor mewn gwaith a chynulliad. Daeth tyrfa fawr yn nghyd, a chafodd pawb eu boddhau yn ardderchog. Talwyd y diolchiadau gan y Mri. William Hughes ac S. S. Jcnes. Diweddwyd trwy ganu Ton. MARWOLAECH.—Nos Iau, Chwefror 6ed, 1908, bu farw Mrs Ellen Jones, yn ei phres- -wylfod yn South Delta ar ol cystudd maith a blin gan cancer yn ei chyllau. Tua thri mis yn ol dechreuodd yr afiechyd poenus ami, a chynghorwyd hi gan ei meddyg i fyned o dan Operation, ac fe aeth i lawr i Baltimore i weled un o brif feddygon y dref. Cynghorwyd hi gan y meddyg hwnw i ddychwelyd adref gan fod yr afiechyd wedi myned yn rhy bell. Daeth adref a dioddefodd gystudd blin hyd nes y daeth angeu i'w gollwng yn rhydd. Merch ydoedd i William ac Ellen Jones. Ganwyd hi yn Cwm, Penmachno yn y flwyddyn 1838, yn yr hwn le y mae un brawd iddi yn aros eto, sef David Jones. Oddeutu'r flwyddyn 1878 sym- udodd i Corris i fyw, ond ni bu ei arhosiad yno yn hir, a symudodd oddiyno. i Tanygrisiau, lie y collodd ei mherch Lizzie.-Yn 1890 daeth trosodd o'r wlad yma gan sefydlu yn y pentref hwn, lie yr oedd tri o'i brodyr a'i hunig chwaer wedi ymsefydlu er's rhai blynyddoedd. Yr oedd yn gymeriad pur a diymhongar. Gadaw- awodd ddau fab a merch i alaru ar ei hoi. Dydd Sabboth, Chwefror 9fed, claddwyd ei gweddillion yn Mynwent Slateville.—JOHN BOBERTS, Delta, Pa. CYMDEITHAS Y GWEINYDDESAU.—Cynhal- iwyd y cyfarfod blynyddol nos Fawrth, yn Ysgoldy y Garegddu, dan lywyddiaeth Mr Andreas Roberts. Darllenwyd a chymeradwy- -wyd adroddiadau yr Ysgrifenydd (Mrs Rhyd- wen Parry), a'r Trysorydd (Mr H. Puleston Jones). Dangosent fod casgliadau y rhan- barthau yn llai o -12 19s. 3c. nag oeddynt y llynedd, a thanysgrifiadau perchenogion y chwarelau ac eraiil yn llai o £ 20 13s. Oc. Felly mae lleihad o J33 12s. 3c. yn Incwm y Gym- deithas y flwyddyn hon. Y mae hyn yn ofidus, end cyfrifir am dano, nid gan ddiffyg dyddor- 4deb yn y gwaith da a wneir gan y Gweinyddes- au, ond gan y dirwasgiad masnachol sydd yn parhau. Anfonodd Miss Greaves lythyr i ddy- wedyd ei bod dan orfod, oherwydd pellder ffordd, i roddi i fyny ei lie fel Llywydd, ond ni fynai y cyfarfod glywed son am hyny, a pben- derfynwyd yn unfrydol a brwdfrydig i wneyd cais taer ati i aros yn ei lie. Ail-etholwyd Mrs Bowton, Mri Owen Jones, Dolawel, a Walker Davies, Cae'rblaidd yn Is-lywyddion Mr H. Puleston Jones yn Drysorydd, a Mrs Rhydwen Parry yn Ysgrifenydd. Cymerwyd rhanyn y jgweithrediadau gan y Parchn John Owen, M.A., a George Davies, B.A., a Dr Jones, a'r Mri J. Rhydwen Parry, Barlwydon Davies, a Richard Williams, ynghyda Mrs D.G. Wil- liams, Bronallt; Mrs Morris, Bronygraig; a Mrs Griffith. Tegfan. Cytunent oll i ganmol gwasanaeth gwerthfawr y gweinyddesau, ac i ddeisyf y gefnogaeth lwyraf eto. FOOTBALL Next Saturday, at the Recreation Ground, Festiniog will meet Llandudno in a League match. The following team will represent Festiniog Goal, Samul Roberts; Backs, Carter, Jim Lloyd Half Backs, Bert Bradley, Corporal J. Kinnear, Will Jones Forwards, John Jones (Capt.), Meirion Jones, W. R. Butt, William Williams, W. R. Owen. Kick off 3 p.m. Admission 4d, Boys 2d, Children ld, Ladies Free. ENILL.—Yn Nghyfarfod Gwylfa nos Sad- wrn diweddaf enillodd Caradog Davies, Cae'r Meddyg, y wobr gyntaf ar ganu ag adrodd.— Da iawn. YMADAEL.- Y mae Mrs. Williams, priod y diweddar David Williams, Foelfronllwyd, Manod Road, wedi ein gadael am ei hen gar- tref yn Lerpw!. YR YSTORM WYNT.-Nid bychan y cafodd yr afrdal hon ddiofedd oddiwrth y gwynt cryfc ddydd Sadwrn. Chwythwyd Corn Simdde yn Conglywa' i lawr talcen Beudy Gwair Pen-y- Gwndwn, Bethania; ac ami do Zicc a mail wrthrychrau sigledig eraill. Trwy drugaredd ni chlywsom am anafu o'r un dyn nac anifail. YN GWELLA.Ða 5enym ddeall fod Miss Myfanwy Jones; Uccorn, yn prysur wellao'i bafiechyd blin. CYHOEDDIADAU.—Yr oeddym wedi myned i'r Wasg cyn derbyn y cyfnewidiadau canlynol -Ebenezer (W.). Mr. W. O. Jones, Aber. Am ddeg y boreu, pregethir yn yr Eglwysi Anibynol gan y gweinidogion yn y drefn a canlyn —Bethel, Parch. John Hughes; Hy- frydfa, Parch, J. Rhydwen Parry; Bethania, Parch. R. Talfor Phillips; brynbowydd, Parch. J. Williams-Davres; Carmel. Parch. George Davies, B A. ER COF,-Nos Wener yr 21ain cyfisol yn ei phreswylfod, bu farw priod ieuangc a hawddgar Mr. Robert Williams, 32, Lord Street, yn 29 mlwydd oed. Daeth y ddyrnod mor annisgwyliadwy fel y rhaid wrth nerth goruwch ddynol i gynhal yn y brofedigaeth. Yr oedd yr ymadawedig yn anwyl a charuaidd gan lu mawr o berthynasau a chyfelllion, ac wedi enilllle amlwg yn meddyliau yr ardalwyr. Y mae eu cydymdeimlad a'r brawd yn ei alar a'i dristwch yn gyffredinol pan ar ddechreu eu gyrfa briodasol, ni fu ond ychydig gyda blwyddyn i'r ddau ynghyd.. Dydd Mawrth y 25ain cymerodd y claddedigaeth le. Yr oedd llu o berthynasau agos a chyfeillion wedi dod o Lancestyn, Lleyn i weinyddu y gymwynas olaf i un oedd anwyl ganddynt. Gwasanaethwyd vn y ty ac ar Ian v bedd yn mynwent Llan Ffestiniog gan y Parch. John Hughes, Tany- grisiau. Dymuna y priod a'r tad profedigaeth- us ddiolch yn garedig i bawb am eu caredig- rwydd eithriadol yn yr amgylchiad.

I TANYGRISIAU. -I

FFESTINIOG.

I I TRAWSFYNYDD.-:

Advertising