Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

TAITH I'R AIFFT.

I-PENMACHNO. |

I- - - I ? -A -R LE0H -

Advertising

I Ystormydd Mawrion arFor…

r\AVvVVVWVV\VWWVWvVWWAI I…

Advertising

BLAENAU FFESTINIOG.

News
Cite
Share

BLAENAU FFESTINIOG. Y mae Tocynau gogjyfer ac Eisteddfod Gwyn Dews i'w cael ar I Werth yn Shop U Y GLOCH." DEDDF Y MAN-DDALIADAU.-Dymunwn alw sylw at y cyfarfod gynhelir yn y Neuadd Gyhoeddus, Heno (Nos Iau), pryd y bydd Mr. R. O. Davies. ac eraill, yn siarad ar y Ddeddf uchod a'i hegluro. Dechreuir yn brydlon am saith o'r gloch. Croesaw i bawb. CYMDEITHAS LENYDDOL Y GARREGDDU.— Cynhaliwyd yr uchod nos Fercher diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr, J. R. Jones, pryd y dar- llenwyd papyr gan Miss Laura Jones, Oxford Street, ar Carlyle: ei hanes a'i waith." Cafwyd papyr rhagorol, ac wedi siarad pellach arno gan yr aelodau. ymwahanwyd, wedi cael noswaith ddifyr. YMADAWIAD MR. HUGH LLOYD.—Dym- unir gwneyd yn hysbys fod symudiad ar droed i roddi anerchiad i Mr. Hugh Lloyd, Superin- tendent y Brittanic Assurance Co., ar ei ymad- awiad o'r ardal. Ac os dymuna rhywun fwrw ei hailing i'r drysorfa gellir gwneyd hyny i Mr. D. Williams, J.P., Glasfryn, Mr. H. E. Hughos, Boys' Higher Grade School, neu Mr. R. C. Jones, Architect, o hyn hyd y 13eg o Fawrth, Bara Shop yn Rhatach na Bara Cartref. Mae E. B. Jones & Co., yn parbal1 i werthu y Dorth Fawr am Bris Bach. Torth yn ddigon o faich i ddyn am Chwe'cheiniog. CYFREITHIOL.—Dymunwn longyfarch Mr. V JOun Davies, brawd Mrs. R. O. Davies, ar e i lwyddiant yn pasio ei arholiad cyfreithiol. Pasiodd gyda first class honours yn un o bedwar. Efe oedd' yr unig Gymro a'r IJu fu dan arholiad a gyrhaeddodd y safle anrhyd- eddus hon. Gyda Mri. R. O. Jones a Davies y bu yn astudio, ac y mae ei lwyddiant eithr- iadol yn glod mawr i'r firm ac iddo yntau. Deallwn ei fod am sefydlu yn yr un Swyddfa, fel y cawn ei gwmni a'i wasanaeth yn ein pliih fel ardalwyr. Y mae POST CARDS o'r Royal Oakeley Silver Band i'w# cael am Geiniog yr un yn Shop Y GLOCH. Anfonir haner dwsin i UIl- rhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol am 7c.' ARDDANGOSFA'R LLUNGWYN. Cynhal- iwyd pwyllgor yr ArddaDgosfa nos Iau, yn y Farchnadfa, pryd yr oedd nifer eithriadol o luosog wedi dod yn nghyd, a dangosodd pawb ddvddordeb dwfn yn y gweithrediadau. Gan mai hwn ydoedd prif bwyllgor y flwyddyn, buwyd yn eistedd o haner awr wedi saith hyd yn agos i ddeg o'r gloch, a gwnaedsgwaith mawr. Wedi i Mr. Lewis Davies (ysgrii'enydd) ddarlien nifer o lythyrau awd yn mlaen i enwi Llywyddion, &c. Pasiwyd i'r ysgrifenydd ohebu a boneddigion neillduol i fod yn Llyw- ydd. Yna dewisiwyd J. Vaughan Williams, Ysw., U.H., Tanymanod, yn Is-lywydd Mr. William Powell, Dwyryd House, y cyn-gadeir- ydd, yn Gadeirydd a Mr. William Jones, Erw, yn Is-gadeirydd. Yr oedd Mr. Powell yn methu bod yn bresenol oherwydd afiechyd, a llanwyd y gadair gan Mr. W. Jones. Awd trwy y gwahanol Classes yn y Ceffylau, Cwn, Dofednod, &c., a phasiwyd hwy wedi gwneyd cryn lawer o gyfnewidiadau ynddynt. Un cyfnewidiad pwysig iawn yw, fod Tournament Milwrol i'w gynal yn lie y Neidio os gellir trefnu i'w sicrhau. Enwyd nifer fel Beirniaid yn y gwahanol Adranau, a gohiriwyd y gweith- rediadau er mwyn rhoddi amser i'r ysgrifenydd ymohebu ar wahanol faterion cyn cyhoeddi y Schedule. BYDD J. N. Edwards, BerlinQHouse, Blaen- au Festiniog, yn ddiolchgar i'w gwsmeriaid sydd heb ddod a'u llyfrau i'w gwneyd i fyny, os deuant a hwy ar unwaitb gan ei bod yn derfyn blwyddyn: EGLWYS CARMEL. Y mae Adroddiad Blynyddol yr eglwys hon a'r canghenau newydd ddod o'r Wasg, a dyddorol iawn i ni yw edrych trwy y cyfryw, a gweled y cyfrif am y gwaith a -wnaed yn ystod y flwyddyn ddi- weddaf. Rhif yr aelodau ar ddechreu y flwyddyn ydoedd 320, ac ar y diwedd 289. Da genym weled y rhif wedi cadw i fyny mor dds, yn enwedig yn ngwyneb y ffaith i gynifer a 57 ymadael, 12 fyned heb lythyrau a cholli eu haelodaeth, ac angau'dori 5 i lawr nifer fawr yw 74 allan o'r 320. Derbyniwyd 43 i gan ychydig ar y bwlch wnaed yn benai trwy am- gylchiadau gwasgedig yr ardal. Casglwyd f306 8s 2c yn ystod y flwyddyn, o'r rhai yr oedd £ 127 Ss 9c at y weinidogaetli. Dengys hyn ffyddlondeb ac haelioni mawr ag ystyried mor isel yw masnach yn yr ardal ar hyn 0 bryd. Y mae y Parch. John Hughes yn ei Gyfarchiad i'r Eglwys ar ddechreu yr Adrodd- iad yn cyfeirio at ei íwriad i newid maes ei lafur ar cl bod yn Tanygrisiau am 14 mlynedd. Bu y tymor hwnw yu un dedwydd iawn, ac an- hawdd yn ddiau gan y ddwy ochr yw dygymod ar syniad o dori cysylltiad mor anwyl. Boed bendith ar Eglwys Carmel ac ar Mr. Hughes yn y dyfodol fel y bu yn y gorphenol. DARLUNIAU.—Bydd Mr. Llew P. Griffiths, Rhiw Studio," Blaenau, Ffestiniog am ych- ydig amser yn unig, yn gwneyd Darluniau Mawr (Enlargements) o unrhyw Photograph am y swm bychan o 3s. 5c. yr.un (yn wir werth 7s. Dyma gyfle ardderchog i ddarllenwyr Y RHEDEGYDD gael darlun ma.wr o'r rhai sydd yn anwyl ganddynt gan Gymro, ac nid gan ddi- eithriaid sydd yn dod ar hyd y wlad, y rhai feallai a gadwant eich darlun a'ch arian. CYFARFOD YSGOL.—Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol o dan nawdd Undeb Ysgolion Anibynwyr Ffestiniog a Maentwrog, yn nghapel Salem, y Sabboth diweddaf. Cyfarfod Boreu Llywydd, Mr. Hugh Hughes, Talwaenydd. Dechreuwyd gan gynrychiolydd Bethel, Mr. M. Jones. Holi y Dosbarth Hynaf allan 0 Marc xiv. 22-36. Am 11-20. cynhaliwyd Cyfeillach yr Ysgol SabbothoL Mater Ysbrydoliaeth y Beibl," yn cael ei agor gan Mr. W. R. Evans, Tan-y-bwlch Cottage. Wedi sylwadau pellach gan amryw frodyr terfynwyd trwy weddi gan Gynrychiolydd Jerusalem, Mr. E. W. Rowlands. Cyfarfod 2 o'r gloch:- Llywydd, Mr. Elias. Roberts, Llwynygell. Dechreuwyd gan Gynrychiolydd Hyfrydfa, Mr. T. Penny. Holi y Dosbarth Canol gan Mr. Robert Jones, The Square, allan o Marc x. Bali y Plant yn "Hanes Eliseus," gan Mr. Robert Griffiths, Tegfan, Wynne's Road. Canodd y Plant amryw Donau yn ystcd y cyfarfod. Terfynwyd trwy weddi gan Gynrych- iolydd Brynbowydd, Mr. J. E. Jones. Cyfarfod yr hwyr :-Anerchiad gan y Parch. T. Griffiths, ar y Tadau Pererinol." Cafwyd Unawdau gan Miss Blodwen Jones a Miss Roberts yn ystod y cyfarfod. Yr oedd yr holi yn fywiog a'r atebion yn gyffredinol. Fe fu i'r elfen newydd oedd yn nghyfarfod y boreu, ychwanegu llawer at ddyddordeb y cyfarfod. Cafwyd cyfarfod da ac yr oeddynt yn wir adeiladol.-w, Y.M.A.—Nos Fercher diweddaf, cynhaliwyd cyfarfod rhagorol o dan lywyddiaeth Mr. Owen Owens, Deintydd. pryd y cafwyd anerch- iad meistrolgar gan Mr. R. 0. Davies, ar Bwngc y Tir." Yr oedd ymdriniad Mr. Davies ar y mater hwn yn glir ac argyhoedd- iado!. Siaradwyd yn mhellach gan yParch. R. Silyn Roberts, Mri. E. T. Edmunds, R. T. Jones, R. C. Jones, Deryl, a Hugh Lloyd.- Neithiwr cafwyd dadl ar "A ydyw Cymry i'w cvfiawnhau i'w galw yn genedl ?" Agorwyd yn gadarnhaol gan Mri. O. T. Owen a T. G. Davies ac yn nacaol gan Mri. Daniel G. Jones a Lewis Jones. MAENOFFEREN,— Cynhaliwyd cyfarfod y Gymdeithas nos Iau, o dan lywyddiaeth Mr David Davies. Cafwyd dau bapur campus, y naill gan Mr. Evan Elias Jones, ar Daniel Rowlands, Llangeitho," a'r llall ar Grefydd Buddha" gan Mr. E. T. Edmunds, B.A. Treuliwyd noson adeila.dol iawn, ac y mae clod mawr yn ddyledus i'r ddau frawd am baratoi papur mor nodedig o dda.. CBRDDOROL.—Yn Seion, Llanrwst, yr oedd Mr. T. Tudor Owen, A.R.C M., yn gwasanaethu fel Beirniad Cerdclorol yr wythnos ddiweddaf. Nos Fawrth, yr oedd yn canu yn Pentraeth, Mon. Deallwn ei fod yn rhwym i arwain amryw Gymanfaoedd Canu yn ystod yr haf, MARWOLAETH.—Dydd Sadwrn diweddaf bu farw Mr. John Evans, Dolgarregddu, yn 69 mlwydd oed, wedi cael cystudd trwm er na pharhaodd yn hir. Yr oedd yr ymadawedig yn gymeriad pur adnabyddus, wedi gweithio blyn- yddoedd yn y Llechwedd. Yr oedd yn aelod selog o Egiwys Tyddyngwyn. Efe oedd dos- barthwr cyhoeddiadau yr Eglwys; a dymuni'r arnom ar ran ei weddw ofyn i'r rhai hyny oeddynt wedi bod mor garedig a rboddi addew- iciioniddo iel derbynwyr yr Haul a'r Cyfaill Eglwysig am Fis lonawr a fyddant cystal a galw am danynt. Y mae 12 neu 15 o'r Haul ar law a nifer cyffelyb o'r Cyfaill, os nad mwy. Gan fod y diweddar frawd yn anllythyrenog ac yn gwneuthur y cyfan ar gof yn ei ddull ei hun gwelir yr anhawsder y mae y weddw fynddo. Claddwyd dydd Mercher yn Mynwent St. Michael, Ffestiniog.