Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

TAITH I'R AIFFT.

News
Cite
Share

TAITH I'R AIFFT. GAN MR. J. R. ARTHUR. I CAIRO: Y BANORAMA GYNTAF. Os myn y teithiwr, yn ystod y dyddiau cyntaf wedi cyrhaedd Cairo, dreulio oriau difyr ac adeiladol, a chasglu cynhauaf o wybodaeth fuddiol, gellir gwneyd hyny drwy eistedd yn ei gadair siglo yn nghynteddau neu ar balconies y Gwestai a llogi dragoman deallus i wylio, ac i egluro yn hamddenol llanw y lluaws cymysg a elai heibio yuo o foreu hyd yr hwyr. Nis gall y teithiwr symud na throi ei olygon i unrhyw gyfeiriad heb weled panorama o wrthrychau sydd yn gyforicg o hynodion. Teimla fod lliwiau yno yn anaturiol o ddysglaer, defodau 1 ac arferion yn ddyeithr a rhyfedd, a gwynebau a gwisgoedd yr hil ddynol mor wahanol, nes peri iddo dybio ar y dechreu fod y gwrthrychau cyflym-symudol sydd megys yn ymwthio ar ei olygon, fel yn perthyn i wlad hud a lledrith. Gorchwyl anhawdd yn bresenol yw gwneyd detholiad a'r nodiadau a wnawd fel hyn yn Cairo. Gwelwyd cynifer o wrthrychau hynod, a chymaint i'w ddweyd am danynt, fel yr ydym mewn penbleth beth sydd oreu ei ddewis a'i ddesgrifio pe yn ein gallu i wneyd hyny. j Mabwysiadwn felly y pethau a ymddanghosai) i ni y gwrthrychau pwysicaf y panorama a ddadlenid o Baen ein golygon. Dyma Arab I Se;ks patriarcbaidd a thywysogaidd ay gefa nifer o asynod porthianus a diamynedd. Dynion tal, cyfartal, lluniedd gwynebau clasurol yr asynod a'r marchogion wedi eu gwisgo yn Lardil ryfeddol, a diliwhd aur iwch yr haul uchod yn peri iddynt fod yn I wrthrychau prydfeUh a phleserus i graffu arnynt. Mid oes amhenaeth bellach yn fy meddwl nad oedd y Skeiks hyn yn bortread byw o Moses yn teithio drwy y wlad hon i ymgynghori a blaenoriaid gwahanol Iwythau Israel, pan yn gweithio allan gynllun yr Exodus. Ategir hyn gan hanesiaeth ddarlun- iadol annileadwy a drosglwyddwyd- i lawr i ni ar feddroddau cesol yr Aifftiaid gynt. Dyma res hardd o gamelod rhwysgfawr dan ofal Arabiaid a Negroaid o ganolbarth Affrica. Cluda y camelod lwythi anferth, a symudant yn bwyHog a mawreddog gan dori eu llwybr am y Bazaar heibio cerbydau, troliau, a'r hil ddynol amrywlijv sydd yn dylifo heibio. Yn ymrwbio yn erbyn gweision livery boneddigion tramorol yn en top-boots a'u top-hats, gwelir crwydriaid digysur, noethlwm, gwar-gam, hen a hagr a .Cingalese maingorff, mewn diliad gwynion, a'u llygaid eryraidd yn ymholi ahwn a'r Hall a gawsent ddweyd ei ffortiwn neu ragfynegu eu tynghed-dyfodol. Yn eistedd ar y palmant dyma swynwyr nadrodd, pen, traed, a choesnoeth, a seirff ffyrfion o riwogaeth y pythons yn eu hamgylchu. Sylwir fod y seirff a'u penau i fyny a'u tafodau hirgul yn ymddangos fel yn barod i fwrw colyn os byddai galw am ymladS gornesi: a'r dyrfa gymysglyd o luddewon, ac Arabiaid, Moors a Maltese, y Swiss a'r Serviaid oedd yn cael boddhad i'w golygon a difyrwch i'w meddyliau, Dyma nifer o trams llychlyd a budr a'u clychau clebarddus a'u conductors difoes. Wrth iddynt fyned heibio gwelwn eu bod yn orlawn o'r hil ddynol, ac ambell i ddyn gwyn, oherwydd llogell ysgafn hwyrach, i'w weled yn mhlith niggers seimlyd, pedleriaid llychlyd, a begeriaid carpiog, fel dysgl arian rhwng crochanau duon Dyma un o'r trams yn arafu a'r gair Dames wedi ei argraffu mewn llythyrenau breision ar draws y cerbyd. Tram i foneddigesau yn unig oedd hwn—a'r funyd y safodd gwelid cystadleuaeth fywiog am fynediad i mewn rhwng nifer o fetched yn cario plant yn fforchcg ar eu hysgwyddau Dacw gatrawd o fihvyr dewrfryd, y Soudanese, dynion talgryf, ysgwyddog, ystwyth, creulon, eu crwyn o Jiw yr ebony, ac yn ymddangos i'r edrychwyr yn ymfawrhau yn eu galwedigaeth, Yn gwibio heibio hefyd dyna gerbyd y Khedive a Modur Arglwydd Cromer heb lesghau gyr- ant ar frys yr holl garnolion ereill i gornelau o flaen y cerbyd cyntaf gwelir gweision duon fe! y gloeyn (Sais) yn rhedeg a'u holl egni i glirio y *,f o t d d a'umartelli claerwyn yn ymledu fql awyrenau yn yr awel. Egiurai yr olygfa hdn yr ymadrcdd Beiblaidd, "Wele yr wyf yn anfon fy nghenad o flaen fy ngwyneb, yr hwn a baratoa y ffordd c'a blaen." Dyna fintai o Americaiajd newydd gyrhaedd Cairo, addolwyr y MightyDoJhr. Dandies perffeithiedig yn ol safon fy ngbyd-deitbwr a'u hunanoldeb fel y sylwodd un arall, yn gryfacli na'u chwaeth, Ymgysgodentrbag y gwres dan helmau pabwyr, esgynent grisisu y Gwesty yn llafurus, a gwelid y dragomen fel haid o wenyn yn pwyso yn daer wrth eu sodlau,' ac yn arfer pob dyfais er cyplysu eu gwasanneth wrthynt. Dyma werthwyr dyfroedd sherbet, licorice, a lemonade, a'u liestri pres yn seinio -ï gri eu galwedigfieth. Wrth edrycb arnynt ceir syniad am rym geiriau Esaiah, "dewch, prynwch win a Slaeth, heb arian ac heb werth." Ond nid oedd gwisg na gwyneb y rhai hyn yn Cairo yn temtio dyn i brynu elfenau disycheduoddigerth pedleriaid gcesynol. mewn International Post- cards a Matches made in Germany." Dacw Nubiaid a'u hwynebau yn desglirio felygloeyn, yn cydnabod Italiaid am grafu yn greulon hen ffidlau gwahanglwyfus ar ymyl yr heol. A dyma, Algeriaid cyírwys mewn dwfn fyfyrdod yn sefyll gerilaw nifer o Arabiaid yn trysgu ar y palmant tan wneyd chwyrniadau ansionarus, Dacw swyddcgion swyddfeydd tramor, yn rhodio yn benuchel, ac yn vmddangcs i ni fel yn yniwybodoi o'u pwysigrwydd a'u cyfrifoi- deb. '1 Eu gwisgoedd mor berffaith ag y gallasai athrylith teilwriaid byd y gorliewin eu gwneyd Frock-coat, gwasgod wen, liet silk, &c. Safant am ychydig ar y groesffordd er csgoi bon'eddig- esau Aifftaidd yn marchogaeth Astride ar fulod graenus, ei traed mewn velvet slippers, a'u hwynebau wedi eu gorchuddio a mws!in. dim ond dnu lygaid yn y golwg i wylio y dyrneidiau blodau persawrus oedd ar war bob un o'r mulod. Dyma olygfa hynod eto, Dervish ysgafndroed, gwyllt yr olwg, noeth o'i goryn i'w sawdl oddi- gerth gwregys o galico yn nghylch ei Iwynau. Dilyna gerbyd yn cynwys swyddogion Prydein- ig gan fwrw ei draed dros ei ben. Chwifia bastwrn yn beryglus bob tro y codai a'i ddull yn fwy o her nag o erfyniad am gardod. Dyma hefyd nifer o Negroaid croenddu, trwyn fflat, ffroenau llydain, danedd fel yr Ivori, gwefusau tewion, dynion byr, dyddorol, gewynog cyfar- chant eu gilydd wrth fyned heibio, a dygant dair stripe lydan ar eu gwynebau, creithiau ofergoeliaeth fel y cawn sylwi eto. Dyma gyn- ulliad o Fellaheen, gwerin & hen frodorion yr Aifft, meibion y tir yn brasgamu heibio mewn gynau glas carpiog a chlytiog; a phob un a chap (Feze) coch a tassel yn hongian o'u coryn. Hefyd nifer o weicidogion Coptaidd yn bugeilio bagad o weddwon gwywedig; gwyr y gynau duon. hetiau hirgul a byr gantal, gruddiau gwael llymion liwydd-ddu, llygaid bychan ym- ofyngar. Dacw Brydeinwyr mewn dillad Khaki yn cael digrifwch wrth geisio bargeinio a hawkers am necklaces a bracelets wedi eu gweithio yn gelfydd o gregin y Soudan. Dacw Bedoniniaid mewn flowing robes o liwiau cynhes a chain a rhwymyn y pen (glas, coch, gwyn neu felyn) wedi ei dorchi yn bryd- ferth a chelfydd, ac yn dynodi y llwyth y perth- ynent iddo. Yr oedd agwedd hardd, corffolaeth dal, a gwisgoedd dysglaer addurnedig y bobl hyn yn destyn hir efrydiaeth a difyr i'r golwg hefyd oedd gweled masnachwyr cyfoethog. CyfreithVyr mor syehed ag act senedd, milwyr yn tincian eu medals, begeriaid amleiriog, hedd geidwad tordyn, dragomen neu oraclau henaf- iaethau, cyfnewidwyi" arian wedi ymdrwsio yn ofalus, yn cydgyfarfod, yn ymdöni drwy eu i gilydd, a phob un yn gwisgo diwyg eu i alwedigaeth neu y genedl y jpeffchyna iddi. Wedi myned ar gfwydr a chael salle fanteisiol i wylio gogoniant haul machludol, clywyd llais ireiddiol cyhoeddwyr yr awr weddi yn mlith y Mahometaniaid (Muzzins) oddiar rodfeydd pinaclau y Temlau (Minarets) un Duw sydd a Mahomet yw ei broffwyd, dewch i weddi." a gwelir yr adeg hono holl ddeiliaid crefydd y Koran gyda ffyddlondeb diledryw yn ymgrymu, lie bynmg y ddigwyddant fod, i weddio ar Dduw ffynfaonell pob daioni a thrugaredd, oblegid Allah is Great." (I'w barhau).

I-PENMACHNO. |

I- - - I ? -A -R LE0H -

Advertising

I Ystormydd Mawrion arFor…

r\AVvVVVWVV\VWWVWvVWWAI I…

Advertising

BLAENAU FFESTINIOG.