Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Y Tangnefeddwr.
Y Tangnefeddwr. Dyma'r enw ar yr hwn yr ydys wedi dech- reu galw Mr. D. Lloyd George, ac y mae'n enw anrhydeddus iawn. Yr oedd yr anghyfod rhwng Adeiladwyr Llongau Gogledd Lloegr a'r Peirianwyr sydd yn eu gwasanaeth wedi cyrhaedd pwynt oedd yn gwneyd sefyll allan yn debygol ac o fewn ychydig yn anochelad- wy. Y foment briodol cynygiodd Mr. Lloyd George ei wasanaeth iddynt i'w dwyn i gymod a'u gilydd, ac y mae eisoes wedi llwyddo i fesur sydd yn rhoddi lIe i ni obeithio yn hyderus y llwydda i fesur llawn. Yn mhob rhan o'i waith fel Llywydd Bwrdd Masnach y mae yn gwneyd gwasanaeth rhag- orol a gwir werthfawr i'r wlad, a da ydyw gweled fod ei wrthwynebwyr gwleidyddol yr un mor barod a'i gyfeillion i gydnabod hyn ac i roddi iddo y clod a haedda. Nid yw yn ormod dywedyd na fu ymhlith ei flaenoriaid yn y swydd a ddelir gadddo gynifer ag un yn haeddu ei gyffelybu iddo, ac nid oes mewn cylchoedd masnachol yr un Tori na fyddai yn ddrwg ganddo ei weled yn ei gadael. Rywfodd neu gilydd mae wedi enill ymddir- ied y meistr a'r gweithiwr yr un ffunud. Wrth ei wel'd yn gwneyd gwaith mor dda nis gallwn beidio meddwl am yr amser y bu chwarelwyr Bethesda yn sefyll allan. Y pryd hyny Mr. Gerald Balfour oedd Llywydd Bwrdd Masnach, ac ymddangosai mor am- ddifad o ewyllys ag o allu i wneyd 'dim i ddwyn y pleidiau i gymod a'u gilydd. An- hawdd oedd gwybod paun i'w ddirmygu ai i cJosdurio wrtho, gan mor ddiymadferth oedd. Mae Cynrychiolydd Gwir Anrhyd- eddus Bwrdeisdrefi Arfon yn oludog mewn cymhwysder i'r swydd a ddeil, ac y mae ganddo gydymdeimlad a gwroldeb i roddi ei law i waith anhawdd heddychu, heb adael i ofn meistri ei atal. Gan mor fawr ydyw ei lwyddiant yn Swyddfa Bwrdd Masnach, fel yr enwir ef eisoes fel Cangheliydd y Ttysor- lys os bydd Syr Henry Campbell-Bannerman yn gorfod ymddiswyddo. Bwrir mai Mr. Asquith a gymerai ei le, ac mai olynydd Mr Asquith yn y Trysorlys fyddai Mr. Lloyd George. Mae Cymru yn llawenhau wrth weled mab sydd mor hoffganddi wedi gosod angenrhaid ar ddeiliaid Prydain Fawr yn gyffredinol i dalu iddo y fath warogaeth ac i ymddiried mor llwyr ynddo.
Golygfa Brudd.- - --- - *'I
Golygfa Brudd. I Bu amser pan yr oedd Arglwydd Rose- bery yn Rhyddfrydwr mewn gwirionedd, ac yr edrychid arno fel un a fyddai yn olynydd nid anheilwng i Mr. Gladstone. Mae'r gobaith hwnw wedi ei chwalu, ac wedi ei chwalu yn llwyr ac am byth. Yr oedd Ar- glwydd Roseberry yn dirfeddianwr mawr y pryd hyny, ond nid tirfeddianwr yn unig oed, 'Yr oedd yn wladweinydd. Erbyn n mae'r gwladweinydd wedi ei lyncu gan y t' -feddianwr, ac mor ychydig ydyw ei ddy- lanwad. Bu ganddo ddylanwad mwy ar y wlad nag oedd gan neb arall yn awr nid oes nemawr Nneb yn talu sylw i ddim a ddywed. dd Mawrth ceisiodd Arglwydd Camperdown, a chafodd gan Dy'r Ar- glwyddi ail-ddarllen Mesur Tyddynod Bych- ain Ysgotaidd. Ei amcan oedd gosod rhwystr ar ffordd y Llywodraeth ynglyn a mesur felly sydd wedi myned trwy ei dryd- ydd 'darlleniad yn Nhy'r Cyffredin, ac ar gael ei anfon i Dy'r Arglwyddi yn yr un ffurf ag y gwrthodwyd ef ganddynt y llynedd. Brysiodd Arglwydd Roseberry i gefnogi ei frawd Camperdown. Tystiodd ei fod wedi dyfod i'r ty a meddwl hollol agored i argy- Jioeddiad, ond mae'n anhavdd credu ei fod 'yn dysgwyl i neb gredu peth felly. Fel y rhan fwyaf o'i frodyr y mae wedi penderfynu gofalu yn gyntaf am ei fuddianau ei hun a'i debyg. Mae hanes Arglwydd Rosebery yn hanes prudd dros ben i'r rhai y mae yn hys- bys iddynt, a'i ddirywiad mwy nag un ystyr yn resynus i'r eithaf. Nis gallwn feddwl am dano heb deimlo yn ofidus.
Barn Mr. T. P. O'Connor am…
Barn Mr. T. P. O'Connor am y Llywodraeth a Mr. Bir-rell. Dywedodd Mr. OC'onnor yn Blackburn I ychydig ddyddiau yn ol na fu erioed lywod-1 raeth rnor ddemocrataidd a'r llywodraeth bresenol. Gwyddom hyny er's yn agos i ddwy flynedd, a'n hatebiad i Mr. O'Connor ydyw y dylai ef ar blaid y perthyn iudi roddi idol well cefnogaeth nag y mae wedi ei chael ganddynt hyd yn hyn. Mae yn ddemocrataidd hyd at fod yn Sosialaidd yn ystyr oreu y gair, ac yn ngwyneb hyn yr ydym yn rhyfeddu na fyddai Democratiaid a Sosialwyr yn fwy awyddus i'w helpu yn ngwyneb yr anhawsderau osodir ar ei ffordd gan Dy'r Arglwyddi, ac i gydweithio a hi yn tw,y egniol yn ei hymdrechion i wella cytlwr y bobi yn mhob modd. Rhoddodd Mr. O'Connor ganmoliaeth uchel i Mr. Birrell hefyd, gan ddywedyd fod yr heddwch wedi ei gadw yn yr Iwerddon, ar hyd y gauaf sydd ar fyn'd heibio, gan y Gwyddelod fel ad- daliad i Mr. Birfell am ymddiried ynddynt. Anhawdd, iawn. oedd iddo ymddiried yn- ddynt, feddyliem, wedi'r modd y bu i'w cynrychiolw.yr ei rwystro yn ei ymgais y llynedd i roddi iddynt fesur helaethach o lywodraeth leol. Dichon eu bod erbyn hyn wedi gweled eu camgymeriad, ac y byddant yn ddoethach ac yn fwy diolchgar y tro nesaf y bydd yn gyfaill cywir iddynt yn estyn ei law i wneyd daioni i'w gwlad.
Treuliau'r Fyddin a'r Llynges.
Treuliau'r Fyddin a'r Llynges. Cyfrifir v bydd treuliau'r fyd -in eleni yn £ 30,837,024, ychydig iawn yn llai na'r flwyddyn ddiweddaf. Gof yna' r LIywodraeth am R33,942,000 i ddwyn treuliau'r llynges- ychydig mwy na'r IIynedd. Dichon nas gallasai wneyd dim yn amgenach tra mae y ddwy blaid wleidyddol dan ddylanwad ys- pryd milwrol i'r mesur y maent. Ond y mae yn berffaith sicr fod yn amhosibl i'yr wlad ddal i wario symiau anferthol fel hyn ar arfau rhyfel. Ni werid ond ychydig mwy na haner hyn ugain mlynedd yn ol, a hysbysid ni y pryd hyny fod y wlad yn hollol ddiogel. Gwerir ar y fyddin a'r llynges gymaint deir- gwaith ag sydd yn ofynol i roddi blwydd-dal henaint o bum' swllt yr "wythnos i bob un wedi cyraedd 65 mlwydd oed. Dyma'r lie i gynilo; a d¡ma'l lie y bydd yn rhaid cynilo hefyd cyn yr el llawer o flynyddoedd heibio. O'r 64 miliwn a werir, pa sawl miliwn wastreffir yn hollol. Gwyddom ddigon am ywersyllfa yn Nhrawsfynydd i wybod fod gan Swyddfa Rhyfel lawer i'w wneyd i atal gwastraff nad yw yn orfod dywedyd am dano ei fod yn gywilyddus.
I RHYDDFREINIAD Y PRYDLESOEDD.
RHYDDFREINIAD Y PRYDLESOEDD. Syr,-Llawenydd mawr gan lawer ydoedd gweled yn eich rhifyn diweddaf fod Mr David Davies am ddwyn yn mlaen Fesur i gael gallu gorfodol i gael safleoedd i godi addoldai, ac i ryddfreinio prydlesoedd y cyfryw. Ac hefyd Mr Brace am ddwyn yn mlaen fesur i rydd- freinio y prydleseedd a gallu gorfodol i ddalwyr prydlesoedd i brynu i fyny y budd sydd yn y cyfryw. Dyma gwestiwn oedd yn cael sylw mawr yn yr ardal hon bymtheg ac ugain mlyn- edd yn ol, a llawer iawn o breswylwyr yn ael- odau o gymdeithas ag oedd yn hyrwyddo rhyddfreiniad y prydlesi, ac yr oedd enw Henry Broadurst yn enw teuluaidd ar bob aelwyd ag oedd yn dal prydles, fel un ac oedd yn myned i ddwyn oddiamgylch trwy Senedd ein gwlad y gallu i weithwyr Ffestiniog i brynu eu prydles- oedd fel y byddai eu tai i fod yn eiddo iddynt ac i'w plant ar eu hoi, Ac onid ydym hefyd yn cofio am y Parch T. J. Wheldon yn myned i Lundain i roddi tystiolaeth o flaen y Pwyllgor Seneddol hwnw, yn gosod allan ein hachos ni yn yr ardal hon, pa un oedd yn dangos fod ein cyflwr ni yn waeth nac odid un rhan o'r wlad. A'r adgofion dymunol a hiraethus sydd genym am gyfarfodydd y diweddar Tom Ellis, pryd y byddai yn dadlenu ein hangenion, oblegid yr oedd efe yn eu deall, a chanddo gydymdeimlad llawn a hwynt, nes y byddai brwdfrydedd a sel dros y diwygiadau angenrheidiol hyny yn tori dros y lie. Ond erbyn heddyw mae yn hollol wahanol, pan geir cyfarfod cyhoeddus, mae rhyw ddifrawder llethol wedi dod drosom, ac nis gwn beth i'w gyfrif am dano, os nad siom- edigaeth yn arweinwyr gwleidyddol y cylch yma, a diffyg ymddiriedaeth yn ein Cynrychiol- ydd Seneddol. Beth amser yn ol tybiwyd fod yma ddeffroad, pan y ffurfiwyd y Clwb Rhydd- frydol, ond gwelwyd yn fuan iawn arwyddion o wendid o'i ddeutu, ac fod yn rhaid cael Bwrdd Peli i'w ddal i fyny, a daeth ein Haelod Seneddol "allan yn anrhydeddus iawn (i'w dyb ei hun a rhyw ddyrnaid o fechgyn dibrofiad sydd yn mwynhau eu hunain wrth chwareu) trwy anrhegu y sefydliad a bwrdd peli ychwan- egol, ond cofied yr Yswain o Gastell Deudraeth na wnaiff hyn mo'r tro gan weithwyr gwasgedig Ffestiniog, nid yw hyn ond rhoddi iddynt gareg pan y maent ar hyd y blynyddoedd yn dyheu am fara, ac yn ngolwg goreugwyr yr ardal nid yw namyn sarff yn rhith pysgodyn. A dyddor- 01 iawn ydoedd dadl dau werinwr a'u gilydd am vstyr dyrchaflad ein Haelod Seneddol yn aelod ar Bwyllgor Cegin Ty'r Cyffredin. Myn- ai un fod yn rhaid cael etholiad yn y Sir fel gyda Sam Evans a Lloyd Morgan, tra y daliai y llall ei fod yn gyfystyr a dyrchafiad i Dy'r Ar- glwyddi, ac na chaern glywed mwy am Mr Os mond Williams. Da fuasai genym gredu y diweddaf yn gywir, ond ysywaeth gorfodir ni i gredu ei fod yn datguddio fod mwy o gymwys- derau yn ein Haelod Seneddol i fod yn nghegin Ty y Cyffredin nac yn yr ystafell He y ilunir deddfau ein gwlad, a mawr hyderaf y cymerir y mater i fyny heb oedi i drefnu ar gyfer Eth- oliad Cyffredinol, trwy i ni fynu cael un i gyn- rychioli ein buddianau, fel ac y gwneir gan ael- odau llafur y Senedd.—Yr Eiddoch, CLIWARELWR.
VVVWVWWVVWK/WVWWVVWW CAPEL…
VVVWVWWVVWK/WVWWVVWW CAPEL GARIVSOft. GOHIRIO.-Y mae anechyd mor gyffredinol I yn mhlith plant yr ardal, fel ag i orfodi cau yr ysgol am bythefnos. Edrychai y plant a'r holl ardal yn mlaen at y Cyngerdd oedd i'w gynal nos Sadwrn; ond oherwydd yr afiechyd y plant nid gwiw meddwl am ei gynal yn bresen- ol. Daetbpwyd i'r penderfyniad o'i obirio hyd nos Sadwrn, Mawrth 28. Hyderwn erbyn hyny y bydd yr afiecliyd wedi cilio, a'r plant wedi cael eu cefn atynt. Mawr fu'r paratoi at y Cyngerdd hwn, a siomiant mawr i'r plant oedd methu ei gael yr amser y trefnwyd i'w gynal.
TRESFRiW. ! TREFRIW.I
TRESFRiW. TREFRIW. MARWOLAETH SYDYN.—Dydd Sadwrn, yn hynod o sydyn, bu farw Mrs. Ann Pierce, Hill Cottage (Gellilydan gynt). Yr oedd wedi cyraedd ei 84 mlwydd, ond er hyny, ni j freuddwydiodd neb fod ei diwedd mor agosj Gadawa bump o blant mewn galar ar ol mam dyner a gofalus, a'r rhai y cydymdeimlwn yn fawr, Claddwyd heddyw (ddydd Iau) gan dorf luosog o gydnabod a plwyfolion. GWAITH DOLGARROG.—Cafodd yr ardal hon deimlo grym yr ystorm fawr ddydd Sadwrn. Syrthiodd wal adeilad mawr yn ngwaith Dolgarrog, tua thri o'r gloch y prydnawn. Amcan-gyfrifir y golled yn ddau gant o bunau. Yr oedd safle a maint yr adeilad yn rhoddi cyfle i'r gwynt gael taraw arno yn ei holl rym.
IBWRDD Y GWAROHEIDWAID. PENRHYNDEUDRAETH.
I BWRDD Y GWAROHEIDWAID. PENRHYNDEUDRAETH. Cynhaliwyd y Bwrdd uchod yn y Tyloty ddydd Mawrth diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. Owen Jones (Cadeirydd), ac yr oedd hefyd yn bresenol, Mri. W. Jones (Is-gadeirydd), William Williams, E. M. Owen, Richard Roberts, Richard Williams, W. W. Morris (Ffestiniog), D. Tegid Jones, William Wil- liams (Trawsfyuydd), Robert Richards, David Pugh, Owen Evans, John Pierce, Cadben Morgan Jones, Morgan Roberts, John Roberts (Talsarnau), Edward Llywelyn, John Williams, Owen Lewis, John Pritchard, Mrs. Lucy Jane Casson, R. W. Vaughan, W. Thomas, Richard Parry, a J. B. Jones (Swyddogion Elusenol), Dr. R, Jones (Meddyg), Thos. Roberts (Clerc), D. Jones (Clerc Cynorthwyol), aD. J. Jones (Meistr y Tv). I I Y Ty. J Chwefror 13, symudwyd Hugh Tecwyn Griffiths, 7 oed, i'r Western Counties Asylum Star Cross, Devonshire, trwy orchymyn y Bwrdd.—Chwefror 14, daeth Lizzie Mary Hughes, a'i phlentyn i'r Ty o Beddgelert, trwy archeb Mr. Richard Parry.—Chwefror 19, bu farw Richard Jones, 84 oed, brodor oPenmorfa yn y Ty, a chladdwyd ef yn mynwent Penmor- fa.—Yr un dyddiad aeth Maggie Mary Owen, a'i dau blentyn allan o'r Ty ar ei chais ei hun. —Chwefror 23, bu farw Grace Evans, 81 oed, o Penmorfa, yn y Ty,—Chwefror 18, diangodd Evan Lloyd, Saer Maen, allan o'r Ty heb roddi y rhybudd priodol.-Chwefror 21, daeth Catherine Jones, 45 oed, o Tanrhos, Ffestiniog, i'r Ty, yr oedd bron yn wallgof.-Chwefror 22, rhoddwyd gwledd i'r tlodion yn y Ty gan Mr. John Morris, Penrhyn a'i Barti (Parti y Tren Bach), a mwyhhawyd ef yn fawr, a diolchwyd iddynt gan y Gwarcheidwaid,—Yn y Ty 88, ar gyfer 76 yr un adeg y llynedd, a galwodd 52 o grwydriaid yn ystod y ddwy wythnos ddiwedd- af. Achos Evan Lloyd, Saermaen. I Y Meistr a adroddodd fod Evan Lloyd, Saermaen, wedi diangc o'r Ty, heb roddi un- rhyw rybudd o gwbl, ac yr oedd y JPorter wedi myned ar gefn Bicycle, ac wedi cael ei hanes yn Penybwlch ac yn Beddgelert, ond nid oedd wedi clywed dim yn ychwaneg. Mr. Richard Williams Y mae wedi bod yn y Blaenau hefyd. Dr. Jones mewn atebiad i'r Gwarcheidwaid a ddywedodd fod Evan Lloyd yn hollol gyfrifol am yr hyn oedd yn ei wneyd, ac nad oedd yn wan ei feddwl o gwbl. Y Cadeirydd a ddywedodd y dylid cael ei hanes, pe ond i gael y dillad oedd yn perthyn i'r Tyloty yn ol, a phasiwyd hyny yn unfrydol, Ewyllys William Francis. I Y Cadeirydd a sylwodd fod yn gywilydd o beth fod y Gwarcheidwaid wedi cael ymddwyn tuag atynt fel yr oedd ynglyn a'r achos hwn. Yr oedd Evan Richards wedi addaw gwneyd pob peth yn iawn tuag atynt ond aeth at gyf- reithiwr i roddi costau, a gwelid yn awr fod ,C,l Is mOc wedi eu talu i Mr. Lloyd George & George. Dylem brotestio yn erbyn peth fel hyn. Y Cadeirydd yn Diolch. I Diolchodd y Cadeirydd am ei teimlad caredig tuag ato yn ei waeledd. Y mae yn fantais fawr i chwi i mi fod yn absenol weiteiau er mwyn i chwi ddeall y gyllwch wneyd hebddof a rhag ofn fod rhywbeth bach yn fy nghalon yn peri i mi feddwl nas gallwch wneyd nebof (chwerthin). Adroddiad y Meistr. I Yr oedd y Meistr yn gofyn am werth £ 76 o nwyddau i'r Ty ar gyfer y ddwy wythnos nesaf. Hefyd yr oedd o dan orfodiaeth i hys- bysu y Gwarcheidwaid nad oedd yn derbyn yr House Coal yn ol y gytundeb. Nid oedd yn ei gael ond rhyw haner tunell yn awr ac yn y man, ac yr oedd hyny yn peri anhwylusdod. Pasiwyd i alw sylw y Contractors at y mater ar unwaiih. Diogi sydd arno. I Pan oedd achos labrwr o Ffestiniog yn dod o flaen y Bwrdd, sylwodd y Cadeirydd nas gallai y Gwarcheidwaid gadw pobl oedd yn gweithip pob dydd, ac fod ganddynt blant heb fod yn iach. Yr oedd bachgen y dyn hwn yn rhy ddiog i weithio, ac yr oedd wedi myned yn wael trwy ddiogi. Pe buasai wedi ceisio gweithio. gallai fod wedi dod yn iach erbyn hyn. Dylem roddi ein naw yn drwm ar achosion fel,hyn. Gwrthod. I ■ Gwrthodwyd rhoddi elusen i Ellen Pritchard, [ Plasisa Terrace, yr hon a adawyd yn weddw trwy farwolaeth ei gwr yn y Deheudir. Budreddi a Thlodi. Mr. W. 1 nomas a ddywedodd ei fod wedi rhoddi nwyddau i deulu sydd yn byw yn Rhiwbryfdir. Yr oedd tri yn y teulu, sef y gwr, gwraig, a bachgen bychan oeddynt wedi ei fabwysiadu, Aeth i'r ty, ac yr oedd y wraig yn wael yn ei gwely. Nis gallai fyned i'r ystafell gan fod yr arogl yn ei orchfygu. Gallai ddyweyd mai hwn oedd y ty mwyaf budr a fu ynddo erioed. Y Cadeirydd a ddywedodd fod bwn yn achos difrifol iawn. Dyma ddau wedi cymeryd bachgen bychan i'w fabwysiadu heb ddim modd o gwbl i wneyd hyny. Yr oedd yn bechod fod y bacbgen bach hwn yn gorfod dioddef, a dylid hysbysu yr awdui-dodau priodol ar unwaith. Gadawyd y matter yn Haw y Swyddog. Y Cadeirydd yn Teimlo. I Gwnaeth hen wreigan o Blaenau Ffestiniog, ga.is am gynorthwy plwyfol. Yr oedd ganddi ddau Lodger, ac yn derbyn 7/6 oddiwrthynt, a gofynai am ychydig gan yr Undeb at hyn. Mr. Morgan Roberts a ddywedodd ei fod yn adnabod y wraig yma yn dda, ac yr oedd yn sicr nad oedd ganddi ddim, neu ni fuasai byth yn dod ar ofyn y plwyf. Y Cadeirdd a ddywedodd ei fod yntau yn cydolygu a Mr. Morgan Roberts. Yr oedd yn adnabod yr hen wraig yn dda. Yr oedd yn byw yn bur agos i'w dy ef, ac awgrymai idd- ynt roddi 51- yr wythnos iddi. Cefnogwyd gan amryw. Mrs. Casson: Yr wyf yn cynyg gwrthod rhoddi dim. Y Cadeirydd Ar ba sail, Mrs. Casson. Mrs. Casson Y mae yn derbyn 7/6 oddi- wrth y Lodgers. Y Cadeirydd Faint o brofit y mae yn gael oddiwrthynt. Y mae yn rhoddi gwely, te a siwgr, &c., iddynt. Mrs. Casson: Ni ddylai y Gwarheidwaid dalu haner ei rhent iddi gadw Lodgers. Y Cadeirydd Diolch i Dduw nad wyf fi o'r teimlad hwnw (clywch, clywch. Pasiwyd i roddi 51- yr wythnos. r Dadl ar Babyddiaeth. Hysbyswyd fod dyn o ddosbarth Porth- madog wedi marwa gadael dau fachgen bychan ar ei ol. Yr oedd y tad ymadawedig yn Bab- ydd selog, a dadleuai Mrs. Casson dros anfon y plant i Goleg neu Ysgol Babyddol. Yr oedd yn credu ei bod yn ddyledswydd ar y Gwarch- eidwaid ofalu am y plant yma i'w dwyn i fyny yn nghrefydd eu tad fel ag yr oedd eraill yn cael eu dwyn. Mr. D. Tegid Jones: Paham y dylem ni gadw y rhai hyn mewn Coleg Pabyddol? Ein dyledswydd ni oedd gofalu ein bod yn cael cartref cysurus, ac nid oedd a fynom ni o gwbl a dysgu crefydd i neb. Y Cadeirydd Yr oedd ganddo barch i grefydd pawb. Methodist selog oedd ef, a> hoffai i'r plant gael eu dwyn i fyny yn Fethod- istiaid. Nid oedd ef yn credu mewn Pabydd- iaeth, ond os oedd eraill o wahanol farn, dylent gael pob chwareu teg i'w barnau. Yr oedd ef yn cefnogi Mrs. Casson. Mr. D. Tegid Jones: Yr wyf yn gwrthwyn- ebu, ac y mae y Sir hefyd yn erbyn codi ysgol- ion Pabyddol, a beth sydd eisiau i ni fel Gwarcheidwaid fyned i gostau ynglyn a Pbab- yddion. Mr. Richard Williams Yr wyf fi yn synu at y Cadeirydd yn cefnogi (chwerthin). Y Cadeiryod Yr ydych wedi synu at bethau rhyfeddach na hyna lawer gwaith (chwerthin). Mr. Richaid Williams: Y mae y Sir i gyd yn eich herbyn (chwerthin), Y Cadeirydd: Nid oes genyf ofn yr ua o honynt am siarad fy marn. Yr wyf yn nes i fy lie nach haner. Pasiwyd i geisio cael lie i'r plant gyda theu- luoedd fel yr oeddynt yn gwneyd gyda phlant eraill. Ni phleidleisiodd neb ond Mrs. Casson a'r Cadeirydd dros eu hanfon i ysgol Babyddol. Diodydd Meddwol ac Eiusen Blwyfol. Mrs. Casson a gynygiodd ddal elusen gwraig weddw o Porthmadog. Yr oedd llongwyr yn myned i'w thy i ymyfed. Yr bedd wedi clywed gan yr heddgeidwaid fod y ty hwn yn llawer iawn gwaeth na thafarn, a chynygiai fod yr elusen i gael eu hatal. Cefnogwyd gan amryw, a phasiwyd yn unfrydol. Y Cadeirydd Y mae tai yn codi yn yr ardaloedd a mwy o gyfleusderau i yfed ynddynt nag oedd yn y tafarndai, ac yr oedd wedi clywed am un fellv yn nghyffiniau v Blaenau. Achos Dyrus. I Yr oedd gwraig weddw o Ffestiniog wedi bod yn cadw ty i hen lane yr hwn a fu farw yn ddiewyllys. Dywedid fod cytundeb wedi ei wneyd gan yr ysgutorion iddi gael byw yn y ty yn rhad ac am ddim. Mr. Richard Williams a ddywedodd ei bod yn dlawd iawn, a chynygiai roddi 4/- yr wyth- nos iddi, a phasiwyd hyny. Arianol. I Talwyd allan gynorthwy am y ddwy wythnos I ddiweddaf fel y canlyn:-Tremadog /72 19s 5c Ffestiniog £ 114 3s 6c Deudraeth £ 6S 13s 4c, sef cyfanswm 0£255 16s 3c.
LLANRWST.-1
LLANRWST. -1 TREFN Y MODDION SABBOTHOL. I Yr Eglwys Sefydledig. St. Crwst.—10, Parch. J. Morgan, B.A. 6, Parch. D. C. Davies, B.A. St. Mary.—10, Parch. D. C. Davies, B.A. 6, Parch. J. Morgan, B.A. Y Methodistiaid. Seion.—Parch. William Thomas. Heol Scotland. -Pirch. R. Rowlands. Yr Annibynxvyr. Tabernacl.—Myfyriwr o Goleg Bala-Bangor. Ebenezer. -Cyfarfo d Gweddio. Y Wesleyaid. Horeb.—10. Mr. David Davies, Penmachno. 6, Mr. Edward Jones, Llanrwst. St. James (English Chapel).—Mr. F. D. Tomkinson, Colwyn Bay. Y Bedyddivyr. Peiiuel.-Parch. E. Cefni Jones, Blaenau Ffestiniog. CYFREITHIOL.—Da genym weled ein cyfaill ieuangc tlentog, Mr. Edward Jones, ar 01 pasio ei arhol\ad cyfreithiol, wedi sefydlu yn Swyddfa Mri. R. O. Jones a Davies, gyda'r rhai y bu yn astudio yn eu Swyddfa yn Blaen- au Ffestiniog. Dymunwn ei lwyddiant yn fawr. HOREB.-Cynhaliodd y Gymdeithas ei chyfarfod nos Lun, o dan lywyddiaeth y Parch. Edward Davies, pryd y cafwyd anerch- iad ar Ddyn a Phethau," gan y Parch. W. J. Jones, Eglwysbach. Cafwyd araeth wyddonol o'r fath alluocaf ar Ddyn a syniadau y Dad- blygwyr. Diolchwyd yn gynes i Mr. Jones ar gynygiad Mr. E. Davies-Jones, a chefnogiad Mr. Edward Mills, U.H. Y FARCHNAD.—Ni welwyd Marchnad mor fechan er's llawer iawn o amser. Ychydig iawn o brynwyr ddaeth i'r dref, a llai fyth o werthwyr. Bydd y Ffair ddydd Mercher nesaf, a dichon fod hyny wedi effeithio iraddau ar y Farchnad yr wythnos hon. SOSIALIA 'ID.-Nos Iau, cynhaliwyd cyfarfod o'r Aelodau i drafod gwahanol faterion cysyllt- iol ar Frawdoliaeth. Neithiwr (nos Fercher) cafwyd dadl ar, A ddylid estyn yr Etholfraint i Fercher ?" Cymerwyd yr ochr gadarnhaol gan Mr. Hugh Jenkins, a,r nachaol gan Mr. Ifor Davies. Rhagorol o beth oedd gweled "y Sosialiaid yn cymeryd achos y Merched i fyny mor unol a selog. Bydd y Chwiorydd Ethol- iaethol yn ddiolchgar iawn i'w pleidwyr eiddgar yn Llanrwst yn sefyll i fyny ar eu rhan yn y dyddiau blinion hyn. MARWOLAETH.—Gyda gofid dwys iawn yr ydym yn hysbysu am farwolaeth Mrs. Margaret Jane Jones, anwyl briod ein cyd- drefwr parchus, Mr. W. E. Jones, Anglesea House. Bu Mrs. Jones yn wael am lawer iawn o amser, fel yr oedd ei phriod wedi ei barotoi megis, i'w goll'vng gan fod pob gobaith ait adferiad wedi diflanu; ond ergyd bron oedd yr alwad iddi ei adael, mor sydyn boreu ddydd Mawrth. Yr oedd Mrs. Jones tua 52 mlwydd oed. ac yn wraig o gynheddfau meddyliol cryfion ac ysbryd caredig addfwyn. Cydym- deimlwn yn fawr a'n hanwyl gyfaill yn ei brofedigaeth chwerw, ac a'i unig fab, Mr. Idris Jones. Nodded y nefoedd fyddo dros y ddau yn eu galar. MUTUAL.—Nos Iau, o dan lywyddiaeth Mr. D. J. Williams, cafwyd papur campus ar Yr Hil Ddyfodol" gan Mr. R. G. Owen. Siaradodd yr oil o'raelodau oedd yn bresenol ar gynwys y papur, a diolchwyd i Mr. Owen am dano. SEION.-Cyfarfod cyfeillgar gafwyd yn y Gymdeithas nos Wener. Darparwyd y wledd gan y Boneddigesau. Llywyddwyd gan Mr. O. Evans-Jones, a chymerwyd rhan mewn canu, adrodd, &c., gan y Parch. W. Thomas, Mri. O. R. Hughes, David Ellis, J. R. Jones, G. T. Phillips, G. Williams, Misses Thomas a Williams, a Mrs. Williams, Gwynfryn. Cafwyd noson eithriadol o ddifyr. HEDDLYS.—Dydd LIun, o flaen H. J. W. Watling (Cadeirydd); W. J. Williams; Wil- liam Hughes; Parch. H. Rawson Williams; .Edward Mills, a J. R. Williams, Ysweiniaid. ESTYNIAD ORIAU ,-Caniatawyd estyniad oriau i Mr. Mc'Farlane, Victoria Hotel, ar Mawrth 2. ADNEWYDDU TRWYDDEDAU.-rMr. J. E. Humphreys, a wnaeth gais am adnewyddiad trwydded y Red Lion Inn.—Y Milwriad Savage, Goruchwylydd Mri. Ailsopps, Dar- llawyr, a hysbysodd eu bod wdi sicrhau tenant boddhaol yn mherson Arthur Wildman, yr hwn oedd yn cymeryd lie John Roberts, daliwr presenol y drwydded.—Adnewyddwyd y drwydded i John Roberts, ac yna gwnaeth Mr. Humphreys gais am drosglwyddiad y drwydded i Arthur Wildman, Menai Bridge, yr hyn a ganiatawyd. TAIR TAFARN.—Yn y Liys diweddaf, bu i'r Ynadon, yn unfrydol, benderfynu peidio adnewyddu trwyddedau Glanconwy, Cambrian Vaults, a Coach & Horse, Llanrwst, gan eu cyflwyno i'r Pwyllgor i benderfynu swm eu hiawn. Heddyw daeth cais am drwydded i'r tair. Mr. Trefor Lloyd (yn cael ei gyfarwyddo gan Mri Chamberlain a Johnson), ar ran y Tenant, a ofynodd am aduewyddiad trwydded y Cambrian Vaults. Dadleuai nad oedd y rhybuddion o'r gwrthwynebiad i'r Ty wedi cu gwneyd yn y ffurf briodol.-Mr. Amphett drcs yr Heddlu, a wrthwynebodd y cais. Rhoddwyd tystiolaeth am wasanaethu y rhybuddion gan yr Heddgeidwad John Jones.—Gohiriwyd am bythefnos, Mr. Trefor Lloyd a wnaeth gais am adnewyddiad trwydded Glanconwy ar yr un ddadl yn nghylch y rhybuddion: a Mr. J. E. Humphreys ar ran y Coach & Horse ar yr un tir,—Mr. Amphett a ymddangosodd yn y ddau achos dros yr Heddlu, a gohiriwyd am bythefnos. HEB OLEU.—Dirwywyd Henry Jones, Plas- tirion, Llanrwst i swllt a'r costau am fod heb oleu ar i olwynfarch Chwefror 11.—Herbert Hughes Williams, Tanymarian, Bettwsycoed, a ddirwywyd i chwe'cheiniog a'r costau am drosedd cyffelyb. ADDYSG.-Thomis Williams, Swyddog Gorfodol, a gyhuddodd Thomas Evans, Glan- rhyd, Llanddewi, o esgeuluso anfon ei fachgen, Edward Owen Evans, i'r ysgol. Yr oedd wedi colli 98 allan a 315.-Eglurwyd fod y bachgen yn dyoddef o dan anffodion naturiol, a bod ei gynhyrfu yn ei wueyd yn waeth.—Dirwy 6c a'r costau. MEDDW AC AFREOLUS.—Yr Heddgeidwad Holgate, a gyhuddodd Ralph Kirsup Williams o fod yn feddw ac afreolus Chwefror 15.— Dirwy 5/- a'r costau. Bu 34 o weithiau o flaen y Faingc.
NANTYRHIW, LLANRWST.
NANTYRHIW, LLANRWST. YSGOL NEWYDD.—Yn Mhwyllgor Addysg y Sir, ddydd Gwener, bu i Mr Edward Roberts, Brymbo, ar ran y Pwyllgor Adeiladu, hysbysu nad oedd ond un cynyg wedi ei dderbyn am adeiladu Ysgol yn Nantyrhiw, am y swm o [988. Nid oedd y cynyg wedi ei dderbyn, a ch yflwynwyd y mater i Mri W. J. Williams, a J. K. Williams, gyda'r Cynllunydd i dderbyn cynygiad heb fod dros ^"910. Eg!urodd y Cyn- llunydd fod yr ardal yn un anhawdd cario def- nyddiau at y lie, gan y byddai eisieu tri cheffyl i dynu pob llwyth yno. T
DOLWYDDELEN.
DOLWYDDELEN. DARLITHio.-Bu ein cyfaill Ellis o'r Nant, yn traddodi darlith, nos Wener, o flaen Cym- reigyddion Maenceinion, ar "Chwedlau a Thraddodiadau yr aelwyd yn yr Hen amser." Ni raid i ni ddywedyd fod y sylwadau yn wir werthfawr, gan fod y LIenor hyfedr yn ei elfen wrth drafod materion o'r fath. Dylai holl Gymdeithasau y wlad glywed y Ddarlith hon. DAM WAIN ANGEUOL.—Dydd Gwener, wrth chwareu "gweithio chwarel" gyda nifer o blant eraill mewn twll yn Ngheunant Peny- geulan, daeth maen mawr i lawr ar James Owen, bachgen 13 oed, Mr. Elias Owen, o Graigydon. Lladdwyd y bychan yn y fan gan y niweidiau a dderbyniodd, a brawychwyd yr holl ardal gan y digwyddiad. Yn y trenghol- iad ar. y Corph dychwelwyd rheithfarn o "Farwolaeth Ddamweiniol." Hebryngwyd gweddillion y bychan anwyl i'r fynwent ddydd Mawrth, yn nghanol arwyddion o alar dwfn, a chydymdeimlad a'r rhieni yn eu profedigaetb chwerw.