Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
23 articles on this Page
i Cystadleuaethau Llanrwst…
i Cystadleuaethau Llanrwst a'r Cylch. CYNGERDD CYSTADLEUOL.-Troes cystad- leuaeth yr Her-Unawd yn nghyngerdd y Ddar- llenfa nos Fawrth yn ilwyddiant mawr. Daeth 12 yn mlaen a dyfarnwydfel y canlyn :—1, Miss A. Jones, Mona Villa; 2, Mr. Hugh Jones, Capel Curig; Miss. M. Jones, Mona Villa. Uongyfarchwn y tri. CYSTADLFUAETHAU ST. MAIR, TREFRIW.— Llywyddwyd gan W. J. H. Watling, Ysw., U.H., ac arweiniwyd gan Mr, R. E. Thomas. Enillwyr y gwobrwyon oeddynt:—Unrhyw Ddeuawd, 1, P. Evans a R. Roberts; L. Rob- erts a J. Ellis. Set o D'oyles A. Jones. Llanrwst. Stol drithroed, Hugh Davies, Ty'rbont. Cyllell bapur, J. Roberts, Fedw. Socks i Blentyn, Miss Jones, Ty'rbont. Wain gigydd, Mr. Thomas, Llanrwst. Adroddiad i rai dros 16eg oed, Lizzie Evans. Unawd i Fechgyn dan 16 oed, 1, E. Owen Bryngoleu 2, James Evans, Ysgubor Gerrig. Party Meibion, Hugh Rob- erts, Railway Terrace, Llanrwst. Adroddiad i rai dan 10 oed, 1, M. Evans; 2. A. Evans. Crochet Tie, "Lucy," yr hon ni ddaeth yn mlaen. Unawd i rai dan 14 oed, 1, Kitty Rob- erts, Fedw 2, Gertrude Davies. Unawd i rai dan 9 oed, M. Evans; 2, A. Evans. Adroddiad Seisneg, Nansi Prysor. Her Unawd, Miss My- fanwy Evans, Apathocari's Hall, Llanrwst. Unawd i rai heb enill 5/- yn flaenorol, Jennie Davies. Deuawd i rai dan 16 oed, 1, Albert Evans a T. E. Owen; 2, Mary Hughes a Kertrude Davies. Parti o Blant, parti Wil- liam Owen. Cafwyd cyfarfod rhagorol. CYSTADLEUAETH GWYTHERIN. Cafwyd hwyl campus gyda'r Wyl hon eleni. Enillwyd y gwobrwyon gan:—Adroddiad i rai dan 16 oed, 1, Gwladys Edwards ac Evan Jones, Gwytherin, 2. Sarah Jones, Llanddewi. Adroddiad i rai dan 10 oed, 1, Annie Jackson; 2, Howell Morris; 3, Catherine Griffiths a Cledwen Williams. Adroddiad i rai dan 13 oed, 1, Mary Edwards, Gwytherin 2, T. Williams, Llanfairtalhaiarn; 3, Gwyndaf Morris, Gwyth- erin; 4, Lizzie Roberts, Gwytherin. Darllen darn heb ei atalnodi, Evan Thomas, Penywaen. Prif Draethawd, Hugh H. Jones, Pentredu, Bettwsycoed. Ateb cwestiwnau ar wybodaeth gyffredinol, E. R. Jones. Darllen Penillion, 1, D. Hughes, Llangernyw; 2, E. R. Jones, Llansanan. Unawd Tenor neu Soprano, Winnie Morris, Llanddewi. Deuawd i rai dan 16 oed, Winnie Morris, a M. Williams, Llan- ddewi. Unawd i Blant dan 16 oed, Maggie Williams, Llanddewi. Unawd Baritone, D. O. Jones, Tyddyn Dolben, Llangernyw yn oreu o 11. Deuawd Tenor a Bass, D. O. Jones a Daniel Parry, Llangernyw. Unawd Soprano neu Denor, Bessie Evans, Gwytherin. Pedwar- awd, Parti Mr. Davies, Nantymerddyn. Dadl, R. Edwards, a R. Morris. Ysgrifenu alaw genid ar y pryd, Evan Thomas. Her Unawd, cystadleuodd naw, a rhoddwyd haner y wobr i Miss Jones, Llansanan. Englyn, David Wynne. Unawd Baritone, J. Morris, Llan- ddewi. Chwe Phenill Coffa, Adgof," yr hwn ni ddaeth yn mlaen. Corau Meibion, Cor Gwytherin.
BLAENAU FFESTINIOG. I
BLAENAU FFESTINIOG. I LiMF-Ric.-Daeth 64 i'r gystadleuaetb am Dlws Arian cynygiedig gan Mr. W. Jones Penny am wneyd llinell i orphen y penill hwn i'r Shop yn Ffordd Newydd:— There's a Fish Shop commencing with P. It started in Tin Town you see The fish is supreme, And the potatoes so clean." Dyfarnodd Bryfdir y wobr gyntaf i Allan Griffith, Park Square, Ilinell yr hwn ddarllenai fel hyn:- So, no more Italians for me." A'r ail wobr i R. W. Davies, Caerblaidd Offices, llinell yr hwn oedd,— But the worst, there's no green Pea." CYMDEITHAS LENYDDOL Y GARREGDDU.— Cynhaliodd y Gymdeithas uchod ei chyfarfod rheolaidd nos Fercher diweddaf, dan lywvdd- iaeth Mr. J. R. Jones, Darbod, pryd y cafwyd papuraii rhsgorol ar Y darganfyddiadau di- weddarsf." (1). "Radium," gan Miss Grade Williams, Newborough Street, (2). "Y Blaned Mars," gan Miss Ellen Jones, Bowydd Street. Treuliwyd noson ddifyr ac adeiladol. MARWOLAETH MRS. RICHARD WILLIAMS, PARK SQUARE.—Am haner awr wedi pump o'r gloch boreu heddyw (ddydd lau), bu farw Mrs. Jane Williams, anwyl briod Mr. Richard Williams, Masnachydd Glo, 2, Park Square, yn ei 55 mlwydd o'i hoedran. Daeth Mrs. Williams i'r ardal hon amser adeiladu capel y Tabernacl, a bu yn briod a Mr. Richard Wil- liams am 29 mlynedd. Genedigol ydoedd o Lawrvbettws, Corwen. Yr oedd yn hynod flaenllaw gyda symudiadau cyhoeddus yr ardal. Bu'n wael ei hiechyd er y Pasg diweddaf, ac yn orweddiog am 14 wythnos. Mae ein cyd- ymdeimlad dyfnaf a'i phriod sydd wediei adael wrtho ei hun i alaru ar ei hoi. Bwriedir claddu yn mynwent Bethesda ddydd Sadwrn. Y RHEW.—Yr oedd yn anhawdd iawn cerdded yr heolvdd boreu ddydd .lau oherwydd y rhew a chafodd llawer o'r gweithwyr godwm wrth fyned at eu gwaith. KHYS LEWIS.—Cafwyd perfformiad rhag- orol gan Gwmni o Dreffynon o Drama Rhys Lewis" drefnwyd o nofel Daniel Owen gan Mr. J. M. Edwards, M.A. Yr oedd v neuadd yn orhwa, a rhoddodd y cyfeillion y boddlon- rwvdd llwyraf i'r dorf fawr wrandawai arnynt mor astud. Gwnaed elw da at yr achos Seisnig oddiwrth y cyfarfod. CYMDEITHAS DMWYLLIAr'OL DEW! SANT. —Nos Fawrth, trsddodwyd I'i:h g.an Mr.:f), I' D, Roberts, ar "HynaSaethauPhvyf Ffestm- L1rwydrlwyd gn Mr. TCeble \oViBLuns, yr hwn ?'cdar hyio bryd yn fyfyriwr j yn Ngholeg Duwinyddol Salisbury. Yroedd j y ddarlith yn hynod o ddyddorol drwyddi a rhoddwyd hi allan mewn modd meistrolgar. Canwyd gan Jennie Williams a'i pharti, ac adroddwyd gan Victoria Jones ac Ida Price Edwards. Siaradodd amryw, a llongyfarch- wyd y Darlithydd ganddynt oil. Yr un modd derbyniodd y Cadeirydd ieuaingc a thalentog ganmoliaeth ucbel am y modd y cvflawnodd ei waith. Fos Fawrth nesaf bydd Mr. W. E. Davies yn darlitho ar The use and abuse of wealth." Mae llythyrau dyddorol wedi dyfod oddi- 'wrth Mr. R. G. Roberts, mab Mr. W. Lloyd Roberts, cynberchenog y RHEDEGYDD, o Buenos Ayres. Dywed Mr. Roberts, yr hwn sydd yn ngwasanaeth un o Ariandai y dref hono, i haid o locustiaid dalu ymweliad a hwy rhyw fis yn ol, ac mor ysglyfaethus oeddynt fel y difasant bob gwelltyn gwyrdd o fewn y lie am bellder mawr. Ar hyn o bryd mae yr hin- sawdd yn boeth eithriadol. Mewn rhedegfa gychod fis yn ol, yr oedd deugain mil o'r trig- olion wedi ymgasglu ar lan yr afon yn dyddori eu hunain i edrych ar yr olygfa. Mae amryw Gymru yn arcs yno, a llawer o hwyl a gant wrth ymgomio am yr Hen Wlad. Mae yr Hispaeniaid yn garedig wrthynt, ac yn gwneyd pob ymgais i ddysgu iddynt yr iaith. Carant y drychfeddwl o gael Cymru ieuainc yn wyr i'w merched, gan y tybiant wrth sylwi arnynt fod eu hamcanion yn gywir. Dangosir y moes- garwch mwyaf i bobl ieuanc Cymru yno mewn byd ac eglwys. Hyderwn allu cael gan Mr. Roberts i ysgrifenu llith ddyddorol i ni yn y dyfodol agos. BETHANIA.-Gan fod y dwfr wedi rhewi yn y pibelli, methwyd a thwymno y Capel y Sul diweddaf. Gweithred ragorol o eiddo y Cor ydoedd pasio i'r Trysorydd roddi gini c'r wobr a enillasant yn Eisteddfod y Nadolig i drysorfa y Capel. Dyna esiampl gwerth ei dilyn gan Gorau eraill. Y TYWYDD.- Y mae cryn lawenyddo weled y tywydd wedi troi oddiar y rhew oedd wedi cloi pobpeth i fyny, a golwg y buasai raid atal y chwareli pe daliasiai fel yr oedd yr wythnos ddiweddaf. Y mae degau o bibelli dwfr wedi ymrwygo, a chryn anghysur a cholled wedi ei wneyd mewn ami i dy yn yr ardal trwy y dwfr bistylliai o honynt yn yr ystafelloedd. CHWARELI OAKELEY.—Ganol dydd Llun, bu i anffawd ddigwydd i'r gwifrau gariant y nerth trydanol i weithio chwareli Oakeley, fel nad oedd gan yr holl weithwyr ddim i'w wneyd ond troi eu gwynebau am gartref.am y gweddill o'r dydd. Yr oeddid yn ofni ar y dechreu y buasai raid sefyll am yr wythnos, ond llwydd- wyd isgael pobpeth i drefn yn ystody prydnawn fel ag i weithio dranoeth fel arferol. LLYS Y PLANT.-Fel y:gwelir yn eincor ofnau hysbysiadol, y mae Urdd Henafol y Coedwigwyr yn cynyg telerau nodedig o ffafriol i blant i ymuno a hwy o 6 i 17 mlwydd oed, Gwelir y telir 4/- yr wythnos am yr haner blwyddyn cyntaf fel claf-dal, a 2/- yr wythnos am yr ail haner blwyddyn, a £ 5 ar farwolaeth aelod, tra nad yw y taliadau i'r clwb ond o 7/0J i 8/8 yn y flwyddyn. .DAMWAIN.-Dydd Llun wrth ddod i lawr o'r Graigddu ar J ei Gar Gwyllt, cyfarfu Mr. Thomas Evans, Uwchlaw'r ffynon. Bethania, a damwain trwy fyned yn y niwl a'r gwlaw yn erbyn gwagen ar waelod yr incline. Anafodd ei goes yn iled drwm. Hefyd cyfarfu Mr. H. Evans, Jones Street, ddydd Mercher, yn chwarel Oakeley, ac anafodd ei goes yn lied dost. LLAWFEDDYGIAETH.—Da genym gael ar ddeall fod merch .hynaf Mr. a Mrs. M. E. Phillips, B.Sc., wedi dal y llawfeddygiaeth yr aeth dani yn Llundain yn rhagorol, a bod rhagolygon am ei llwyr wellhad. STEAM LAUNDRY.—Fel y gwelir oddiwrth ein colofnau hysbysiadol fod Mr. Evan R. Morris wedi agor Steam Laundry yn Geufron, Blaenau Ffestiniog,, lie yr ymgymerir a phob math o waith Laundry. Yr ydym wedi synu laweroedd o weithiau na fuasai rhywun wedi dechreu Laundry er's blynyddoedd yma, ond wele y cyfle i gael gwneyd y gwaith wedi dod at ein drvsau, a hyderwn y croff y cyfaill hwn bob cefnogaeth. Y mae ganddo adeilad hardd wedi ei godi ar gyfer y gwaith, yr hwn a gynwysa y peidanau diweddaraf. .CYFARFODYDD GWEDDIO.—Cynhaliodd y gwahanol enwadau trwy yr holl gylch eu cyf- arfodydd gweddio yn ystod yr wythnos hon fel y gv-neir bob amser ar ddechreu blwyddyn. Peth dymunol yw gweled ein gwlad fel hyn yn talu eu tevrnged i Dad ein hamserau a Duw Khpgluaiaelh Yr oedd y cynulliad yn lied luosog a chryn eneioiad ar y gwasanaeth mewn llawer lie.
Cyn-aefpd SenedcSoL
Cyn-aefpd SenedcSoL Baeth hysbysrwvdd o India am farwolaeth Mr. Lewis Pugh Pugh, brodor o Aberystwyth a mab i Mr. John Evans, Lovegrove. Cymer- odd yr enw Pugh with ddod i mewn i etifedd- iaeth ei ewythr. Bu yn eistedd dros Sir yn y Senedd, ond pin ad-drefnwyd y seddau ciHodd o'r maes a dychwelodd i India, He yr .ymarferai fel Bar-gyfreithiwr. Ganwyd ef yn 1837. a bu drosodd yn ei wlad ecedigol y liynedd.
- - - - - - - - - - M. oedd…
M. oedd y Plentyn yn Ft Yr "vyf yn gwybod fod y plentyn yn farw, ob'egid ysgyd.wo.is ef," meddai dynes oedranu s mewn treugh^Had ddydd Mercher yn Stepney. Ffordd ryf!dd iawn i gael allan a oedd vbywun *vedi marw," meddai y Trengholydd, —" Yr neddwn yu meddwl am ysgwyd tipyn o fywyd id do," atebai hithai.—Un o'r Rheith- wyr, Hwyrach ei bod yn ei dvbio yn gynlhin i adfer aradliad yn y ccrph.
[No title]
s-vyc. ni^nro anferth am chwe'cheiiiiog n, Vjl1 r1nro anferth am chwe'cheir.iog 'in a" v"vrth gan E. B. Jones & Co. Nis geH" .vcU vmeyd yn well na rhoddi prawf arnynt.
Teithio heb Docyn.
Teithio heb Docyn. Yn Heddlys Pwllheli, cyhuddwyd Robert Thomas Evans, Commercial Traveller, Caer- narfon, a William Parry, Masnachwr Anifeil- iaid, Porthmadoc, o deithio ar Linell y London & North Western heb docyn. Bu i Evans godi tocyn yn Gaernarvon am Penygroes; ac aeth yn ei Baen am Afonwen, a phan ofynwyd iddo yno am ei docyn, dywedodd, "Season." Dangosodd Parry docyn oedd wedi pasio ei ddyddiad.—Dirwywyd Evans i ddwy bunt, a Parry i ddwy bnut a deg swllt.
Ysgol Newydd i Fflint.
Ysgol Newydd i Fflint. Daeth gair o'r Bwrdd Addysg yn hysbysu fod y Llywodraeth wedi penderfynu cyfranu £ 2,730 o grant Mr. M'Kenna at godi ysgol newydd yn Fflint. Bwriedir i'r ysgol gynwys lie i 350 o blant. Y cynyg isaf am wneyd yr adeilad ydoedd eiddo Mr. A. B. Lloyd, Fflint, am y swm o £ 4,150, ac y mae y gwaith wedi ei osod iddo.
Liosgi i Farwolaeth.
Liosgi i Farwolaeth. Dydd Mercher, darganfydd wyd corph llosg- edig Anne Jones, 70 mlwydd oed, yn yr Erw, Llanfairynhornwy, Mon. Yr oedd ganddi arferion hynod iawn, a mynai gael byw wrthi ei hun er's blynyddoedd, a'i hunig gwmni ydoedd tua dwsin o gathod.
- - - - - - ....- -Athrawon…
Athrawon Sir Gaernarfon. Y mae yn gwbl amlwg fod yr athrawon per- thynol i'r Ysgolion Elfenol yn Sir Gaernarfon am ddod i wrthdarawiad pendant ag awdurdod addysg y Sir. Nid yw yr amgylchiadau agos yn foddhaol er's cryn amser, a throi dust fuddar wnaeth y Pwyllgor at bob cais o eiddo yr athrawon i fyny hyd yn hyn, a bellach daw y peth o flaen y cyhoedd. Y mae cael adeilad- au cymwys a diogel i iechyd y plant yn fater pwysig iawn, ond y mae yn ddyledswydd ar v pwyllgor ofalu fod nifer yr aihrawon yn ddig- onol os am gael addysg effeithiol i'r plant. Y mae yr Athrawon wedi cyhoeddi adroddiad o'u hochr hwy, ac ymddengys ei bod yn un nodedig o gref. Gall ar yr un pryd fod atebiad cyflawn a boddhaol i'w roddi i'r cyfryw. Fodd bynag, y mae yr achos yn awr yn nglor- ian y farn gyhoeddus. Dylai y sefyllfa gael ei chodi o dan y trefniant newydd, yn hytrach na gadael i'r athrawon gwyno fod yr hen drefn yn rhagori Ilawer iawn ar yr un y maent odditani yn bresenol. Y mae yn rhy fuan i ni ddatgan barn ar y sefyllfa ar hyn o bryd, ond hyderwn y deuir i ddealltwriaeth boddhaol.
Yfed Dwfr o'r Pibelli
Yfed Dwfr o'r Pibelli Dylai pobl adael i'r dwfr redeg o'r pibelli am beth amser cyn yfed y dwfr," ebai Mr. Maitland, Trengholydd West Riding, wrth gynal trengholiad ar gorph Fred Midwood, goruchwylydd Yswiriol, yr hwn a fu farw trwy wenwyniad ar ol yfed dwfr o bibell gyflenwai ei dy. Tystiodd ei weddw ei fod yn arferol ag yfed glasiaid o ddwfr oer bob boreu o'r pibelli, ac iddo wneyd hyny y boreu y bu farw. Tyst- iodd yr Arblygydd fod y dwfr yn y dosbarth yn nodedig o feddal, a bod dwfr felly yn fwy tueddol i dyuu plwm o'r pibelli. Gwyddai am amryw wedi cael eu gwenwyno gan y dwfr wrth ei yfed yn syth o'r pibelli wedi iddo fod yn sefyll ynddynt dros y nos. Yr oedd y bobl wedi eu cyfarwyddo i adael i'r dwfr redeg am beth amser cyn defnyddio dim o hono at was- anaeth personol.
Geiriau cryfion yn Nghyngor…
Geiriau cryfion yn Nghyngor y Bala. Cyfarfu Cyngor Dinesig y Bala nos Wener, Mr. Daniel Roberts, U.H., yn y gadair. Crewyd cryn gyffro yn niwedd y cyfarfod part gododd Mr. J. B. Parry i ddyweyd ei fod wedi clywed y cyhuddid ef o Iwgrwobrwyo gohebydd i beidio cyhoeddi adroddiad o'r cy- farfod diweddaf.—" Yr wyf wedi bod yn aelod o'r Cynghor hwn am chwe' blynedd," meddai Mr. Parry, ac nid oes genym gywilydd o ddim ddywedais nac a wnaethum yn ystod y blyn- yddoedd hyny, ac y mae'r cyhuddiad sydd wedi ei wneyd yn fy erbyn gan un o'r cyngor- wyryn gelwydd."—Dywedodd Mr. Jordan ei fod yn synu at Mr. Psrry yn cymeryd syhv o beth fel yna.—Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cyhuddiad cyhoeddus wedi ei ddwyn yn erbyn y Cynghor, felly nid oedd ganddynt ddim i'w wneyd a mater Mr. Parry.
-.,ø"-......,..--"""""-""'-"""""'-'-.....-...-".,-......-Damweiriiau…
-ø" Damweiriiau Pi" tan Teuiu. Digwyddodd dwy ddamwain ddifrifol yn nheulu Mr a. Mrs Wm. Jones, Tai Smith, Pen- ycae, o fewn wythnos i'w gilydd. Yr wyth- nos ddiweddaf eisteddai Mr William Jones wrth y bwrdd, yn cael ei de, ac fel yr oedd Mrs Jones yn tywallt te iddo o'r tepot, syrth- iodd y gwaeiod allan, gan arlwys ei gynwys- iad ar ben bachgen bychan pedair blwydd oed oedd yn digwydd cerdded dano. Galwyd y meddyg i fewn, gan yr ofnid y collai y bychan ei olwg, ond gwedi ymchwiliad pellach, caf- wyd fod ei olwg yn dda, ac y mae yn gwella yn raddol. Boreu LInn, fel yr oedd bachgen arall wyih oed o'r un teulu yn chwaren ar railings ar oebr y ffordd, syrthiodd drosodd, a daeth ei droed yn glymedig ynddynt a chafwyd cryn drafferth i'w ryddhau, Y mae wedi anafu ei ffer yn arw iawn.
[No title]
Trwy hyaawsedd Syr Thomas H. Elliot,. K. C. B., ysgdfenydd y Bwrdd Amaethyddiaetb, anfonodd Mr. AHred T. Davies, ysgrifenydd y Bwrdd Addysg Cymreig, sypyr. o lyfcsa • y Bwrdd ar Amaethyddiaeth (yn Gymraeg) i Alr. R. Berwyn, y Wladfa Gymreig.
Advertising
y Ddau GiiKStiiiMi ddplaf rod uwcbat ar tddwl Jlrdalwpr ffesfiniog a'r cplcb p dpddiau byn m tYDYW yn ON EST yn Nghyfarwyddwyr ?? ?weithfeydd dynu cyflog diwrnod am bob Sadwrn goliiir pan y gweithir dim ond pedwar diwrnod? A'r llall yw- YN mha le y ceir ESGIDIAU GOREU i bob oed at y tywydd gw!yb pre- senol ? Gadewir y cyntaf i'r Ardalwyr ei ystyried, ond y mae y Cambrian Boot Co., 44, HIGH STREET, BLAENAU FFESTINIOG, yn barod i atteb y cwestiwn olaf, gan ddweyd- MAI GANDDYNT HWY Y MAE YR ESGIDIAU GOREU I'R GWEITHIWR, naill ai at y Sul, neu ei ddiwrnod gwaith, i'r Gwragedd neu i'r Plant. Y maent eleni etto wedi darparu Darluniau Ardderchog (gweler y ffenestr) I harddu tal pwy bynag a bryno Bar o Esgidiau am y mis preseqol. Gwitefr Esgidiau Cartref o bot math, ac adgyweirir pob math, am brisiau rhesymol, gan weithwyr profiadol, gyda'r defn- ddiau goreu. unn HENAFOL Y COEllWlqwy (LLYS Y PLANT), BLAENAU FFESTINIOG. Dymunir galw sylw rhieni a phenau teuluoedd at y Tablau ffafriol canlynol sydd wedi eu mabwysiadu gan y Gangen uchod: O Y ¡ Blaen- Cyfraniad BUDDIANAU. Oiie/ikd cS ,un n YVmmuiinmon -a|. 81 yoy dd 0 I 0|af^a| 4 yp wyth> S. C. S. C, I nos am yr haner blwydd- 6, 7, 8. 0 6 7 Ot yo Glotaf, a 2/- yr wythe lov I I 0 S 7 7 nos am yr all haner 12, 13, 14 1 0 8 2 bhvyddyn. Tal ar farwolaoth itelod, 15, 16, 17. 1 6 8 8 £5.
Ymddygiad Anynol. I
Ymddygiad Anynol. I Er fod pythefnos wedi myned heibio y aiae beddgeidwaid y Bala yn parhau mewn tywyll- wch parthed y ddamwain i Mr. Owen Jones, ffrwythwr, ddydd Nadolig. Wrth ddod adref o Lanfor goddiweddwyd Mr. Jones gan ddyn ar gefn ceffyl, ac yn hollol ddisymwth tarawyd ef i lawr, gyda'r canlyniad iddo dderbyn briw hyll i'w ben. Disgynodd y marchogwr, ac heb gymaint a chynyg cynorrhwy i Mr. Jones trodd yn ei ol i gyfeiriad Llanfor, gan adael Mr. Jones lie yr oedd. Cerdclodd yntau gydag an- hawsder i'r Bala, a phan gyrhaeddodd Dr. Williams yr oedd yn anymwybodol. Hyd yn ¡ hyn nid oes neb yn gwybod pwy yw y dyn.
Tocyn -ReilfFordldl.- - -
Tocyn ReilfFordldl. Aeth casglwr tocynau at James Penfold yn Willesden Junction i ofyn am ei docyn, Nid wyf byth yn defnyddio pethau felly," meddai, ac y mae yn beth hawdd i fyned o gwmpas hebddynt. Fe ddaethym o Scotland heddyw boreu." Wrth gael ei gadvv yn y ddalfa er gweled a oedd y cyfeiriad a roddodd yn un cywir, dywedodd, Bydd hyny yn redeg ar ol gwyddau gwylltion wedi'r cwbl, gallaf eich I sicrhau.
- - - - - - - - Foreman ilr…
Foreman ilr Rheithwyr. Mewn trengholiad yn Poplar gofynodd swyddcg y Trengholydd am i'r Rheithwyr enwi eu Fore.-nin-Un o'r Rheithwyr, Mr. Foreman!"—Y Swyddog, "Nid ydych wedi dewis eich Foreman eto, folly ni ellwch wneyd unrhyw sylw. Un o'r Rheithwyr, Dywed- ais Mr. Foreman,"—Rheiihior arall, "Dyma fi.Y Swyddog, O msddeuwch i mi."— Devvisiwch Mr. Foreman yn flaenor i'r Rheith- wyr. I r- r-
[No title]
I .>r evm canlympj iy Ddeddf newydd j y tiJae canoedd o b. a xu wedi en gosod o dan I ofal gwylwyr anghyoedd
LLYS YNADOL BLAENAU ----,-FF-ESTINIOG.…
LLYS YNADOL BLAENAU FF-ESTINIOG. Dydd lau, o flaen G. H. Ellis, J. Lloyd Jones, a J. Vaughan Williams, Ysweiniaid. Can nad oedd yr achos cyntaf o'r rhestr faith oedd i ddod gel" brcsn y faingc wedi benderfynu panleeddym yn myned i'r Wasg, rhaid arcs hyd yr wythnos nesaf heb ni allu cyhoeddi hanes y Llys.
- - - - -'-"""-"""""""-_"-'…
Chwareu Crogi. Dydd Llun, bu i fnchgen naw mlwydd ced o'r enw Robert M'Gabey, Belfast, grogi eihun wrth linyn wedi ei glymu ar bost y gwely Tystiai tad y bachgen iddo ymgrogi tra yr oedd ef a'i fam yn yr Eglwys. Dywedai Proffesscr Symmers, Queen's College, y gallai y llinyn oedd am ei wddf fod wedi ei roddi gan y bach- gen ei hun, ond y gallai fod wedi gwney d hyny wrth chwareu ymgrogi. Gwyddai ef am am- ryw oedd wedi cyfarfod a'u diwedd trwy ddir eidi peryglus felly.
Cig i'r Mcch ?I
Cig i'r Mcch ? Yn Heodiys Accrington, cafodd prynwsr gwartheg o'r enw Robert Harrison, ei gyhuddo o ddangos cig pydredig arwerth. Addefodd fod y cig yn cael ei ddangos at bcrthi mcch, Yn ixafr y diffynydd dywedwyd nad oedd dim o'r cig wedi ei werthu. Cafodd ei ddirwvo ddeg punt, neu. fis o garchar, a chymerwyd y drwydded lladd-dy oddiarno.
[No title]
Yn ystod y Uynedd ymfudodd m n aothau yr America. Ceisiodd miloedd a chwaneg gael dyfcd i'r Weriniaeth; ond wyd hwy yn eu holau o dan y dueddf 3 hardda i annymucolion gael glanio, r .'i
Ei dynu i'r Olwyn.
Ei dynu i'r Olwyn. Pan aeth William Powell, wasanaethai yn Melin Boughrood Castle, Brycheiniog, at yr olwyn ddwfr ddydd Mercher, llithrodd yn ddamweiniol i'r dwfr, a thynwyd ef i'r olwyn. Lladdwyd ef yn y fan, a chydag anhawsder mawr y cafwyd ei gorph yn rhydd.