Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

IESGEULUSDRA GWARCHEIDWAID…

News
Cite
Share

ESGEULUSDRA GWARCHEIDWAID FFESTINIOG. Anwyl Syr,—Fel darllenwr cyson o'ch papur ac fel un sydd yn cymeryd dyddordeb dwfn yn yr adroddiadau a gynwysa am waith ein gwa- hanol Fyrddau Cyhoeddus, goddefwch i mi alw sylw at achos sydd yn fy nhyb i yn wir bwysig er lIes y cyhoedd ac yn enwedig er lies tlodion yr ardal hon. Cyfeirio yr wyf at es- geulusdra mawr ein Gwarcheidwaid o ddos- barth Ffestiniog yn mynychu y cyfarfodydd rheolaidd yn y Penrhyn, yr hyn sydd yn gyfys- tyr ag esgeulusdra o'u dyledswyddau, ac o fuddianau y trethdalwyr a gynrychiolant. Yr wyf wedi sylwi yn ddiweddar fod eu sel wedi lladfo yn ddirfawr, ac nad oes ond un neu ddau y gellir cyfrif ar eu presenoldeb yn mhob cyf- arfod. Pa fodd y gallant gyfiawnhau eu di- faterwch ? Ai achosion rhanau eraill o'r dos- barth yn unig sydd yn cael eu trafod yn y cyf- arfodydd? Os nad oes achosion o Ffestiniog yn dyfod yn mlaen, paham y mae hyny yn bod, mae digon a ddylent gael eu dwyn, ac os yw achosion Ffestiniog yn cael sylw yno, pa- ham nad yw y rhai sydd wedi eu hethol i fod yn enau i Ffestiniog yno i ddadleu eu dadl Yr wyf yn methu yn glir a chysoni llesgedd ein Gwarcheidwaid ar ol eu hethol a'u hawydd mawr yn amser yr etholiad am gael eu hethol. Cyn cael eu hethol meddent yr anrhydedd o fod eich ffyddlawn wasanaethwyr," ond erbyn hyn gallant oil o'r bron ddweyd mai "gweision anfuddiol ydynt. Nid oes ganddynt yr an- thydedd" o fod yn "ffyddlawn" mwyach. Tybed ai er mwyn gvasanaethu yr oeddynt tnpr drachwantus am gael eu hethol, ai ynte er tnwyn rhwystro rhywrai eraill i eistedd ar Seddau sydd mor ami yn weigion oherwydd eu habsenoldeb hwy, ac i wasanaethu yn eu lie. Dylid dwyn Gwarcheidwaid ac aelodau cy- hoeddns eraill i wybod a chofio ei bod yn gymaint o rwymedigaeth i fod yn ffyddlon i ymddiriedaeth gyhoeddus y gofyna dyn am dani trwy bleidlais y bobl, ag ydyw i fod yn ddiwyd a gonest fel gwas cyflog mewn swyddfa neu waith cyhoeddus. Buan y galwai y Gwar- cheidwaid esgeulus hyn un o weision yr Undeb i gyfrif am unrhyw esgeulusdra o ddyledswydd, ac fel mater o egwyddor dylent gymwyso yr un driniaeth atynt eu hunain. Ni ysgrifenir y geiriau hyn mewn yspryd edliwgar, ond mewn awydd am weled y Gwarcheidwaid yn talu mwy o sylw i'w gwaith ac yn dwyn mwy o sel drosto. A thybiais fod dechreu y flwyddyn yn amser priodol iddynt droi dalen newydd."— Yr Eiddoch, GWARCHODWR URCHEIDWAID.

...............................................…

Cyfarfod Cystadleuol Salem,…

GARN DOLBENMAEN.

I BETTWSYOOED. I

^/V^/VVVV\AA/VVN/V*«/V^*SA'VV\A/VVVV\…

YsgoSIon Brymbo.

..,vvvvv.,vFFESTINIOG.I

AAAAAAAAA»VVVVVVWVWWVW^^V…

Pwyllgor Addysg Dosbarth Ffestiniog.

LLANRWST.I

Advertising

TWYLLO CYHOEDDWYR Y "RHEDEGYDD."

rvvvvvvvvvv NODION O'R CYLCH.

Family Notices