Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
Gair i'r Boneddigesau. MilMIMIIIl III Mil III III lllllllllllllllllllllllllllllW s > Mae y Tywydd Oer fel y gwyddocli > y $< yn gofyn DilladCyncs. Mae genym ? > < < ychydig o JACKETS a BLOUSES < i S 5 rhagorol wedi eu gadael, ac elsiau eu > S > < CURIO am bris mor isel, fel y bydd < > < S yn fantais dirfawr i cltwi eu gweled. > < I < I SHOP YR ERYR, Church Street, TURN. OVER MAYPOLES NEW LEAF -Fresh from Sunny India and Ceylon- into the dear old Family Tea-pot at Home, and then pour out the most delicious, refreshing, and comforting cup for all in this glad NFW YEAR'EIGHT! "MAYROLE" TEA the very best of all blends, costs you only 1/6 a lb. and there are reliable Mayp:ole Blends a 1/4 & 1/2. MAYPOLE PfiSRV CO., LTD 12 CHURCH STEET, BLAENAU FESTINIOG. OVER 54Q BRANCHES NOW OPEN. ueuiun uA nuaid uto ';uXuji2 SmjoS pisS i ouà p,UÃ! wu ipMiBjoo OIÐ31-1 N\f o hxvh aos o n;ajoc) PR!S!Ma.J,-e JBppJBH 5pO}g x EVA A 'DOiMiisadidi ia 'sd* Mima ii-onoHoaAigw z JOJpiUip^^W < 'saiiCE feiuocjx •ixifil  ?? ? ?B? N. ?  NVO T??QolM?  Stationervf êàilt:Y Ciood Note Paper of every description, in neat boxes' 6d. and Penny Packets, the trade supplied at wholesale prices. = •FOREIGN NOTE PAPER. Shop y WEALTft: The Reward of Thrift. Without Gambling! Without Speculating!! Without Risk! Invest Your Savings in Government PREMIUM BONDS. They are guaranteed as to principal and I interest, consequently as safe as British 8 Consols. They bear fixed interest in | most cases from 2 to 4 per cent, and I give the holders the chance of acquiring a fortunes by periodical Drawings with Prizes from iE24,000 down to £20. A shoemaker whose wages were only 25/- per week has drawn the First Prize of £ 24,000 the Ottomm Government Riilroid onds, which he bought only two months before for ;66-10-0. They appeal alike to the man with tho sands and the man with shillings, EASY TERMS (from 10/- per month) of Payment if desired. Write a postcard for descriptive Booklet. The Anglo-American Finance Corporation 41, King William Street, London, E.C.
NODIADAU WYTHNOSOL-I
NODIADAU WYTHNOSOL I Cadeirydd Plaid Llafur. I Mae tymhor gwasanaeth Keir Hardie fel cadeirydd (neu arweinydd) Plaid Llafur yn Nhy'r Cyffredin wedi dirwyn i fyny. Pan gyferfydd y Senedd, gelwir aelodau'r blaid ynghyd i ddewis olynydd iddo. Yr oedd yn ddealledig mai Mr. Shackleton—yr aelod dros Clitheroe-a benodid, ond mae ef new- ydd anfon llythyr at holl aelodau'r blaid i'w hysbysu nas gall weled ei ffordd yn gllr i ymgymeryd a'r gwaith. Dywed fod y gwaith sydd ganddo i'w wneyd fel aelod o Bwyllgor Seneddol pwysig yn cymeryd i fyny gymaint o'i amser fel nas gaHai hebgor yr amser angenrheidiol i waith Arweinydd y Blaid. O'r braidd y cyfrifir hyn yn rheswm digonol, ac nid yw pawb yn credu mai dyma reswm gwirioneddol Mr. Shackleton dros wrthod yr anrhydedd y bwriadwyd ei rhoddi arno. Credir ei fod yn rhagweled anhawsderau nad yw yn barod i'w wynebu. Er nad oes yn y blaid neb yn fwy ei ofal am fuddianau Llafur nag ef, y mae yn llawer mwy cymhedrol ei olygiadau na'r rhan fwyaf o'i frodyr. Ac nid dymunol ydyw i wr fod yn arwain plaid a'r mwyafrif o'i haelodau yn awyddus i fyn'd rhagddyni yn gyflymach ac yn mhellach nag ymaeefyiibarodi-fyn'd. Dywedyproph- wydi mai Mr. Ramsay MacDonald neu Mr. G. N. Barnet a ddewlsir i'r swydd. Perthyn i'r naill a'r Hall o honyntfesur helaeth ogym- hwysder iddi diffyg penaf y naill a'r llall ydyw diffyg pwyll, a thuedd i ymosod yn ddiachos ar Ryddfrydwyr. Maent ill dau yn Sosialwyr. Maent yn well yn hytrach nag yn waeth o hyny. Mae Mr; MacDonald yn Uenor o tadd dda, ac wedi cyhoeddi rhai H?frau ar Sosiaiaeth—Hyfrau a ddangosantl ei fod wedi talu sylw mawr i'r cwestiwn, ai fod yn ei ddeall yn drylwyr, ac yn fedrus iawn i amddiffyn ei olygiadau. Dichon er hyny nad efe na Mr. Barnet a ddewisir ond y syrth y coelbren ar wr yn sefyll yn rhywle tua haner y ffordd rhyngddynt hwy ar y naill law a Mr. Shackleton ar y llaw arall. Gobeithiwn yr etholir y dyn goreu, pwy bynag ydyw.
"Ansafadwy fel Dwfr."
"Ansafadwy fel Dwfr." Ofnwn fod y geiriau hyn yn rhai y gellir eu cymhwyso at Mr. Richard Rigg oblegid y mae yn cael cryn drafferth benderfynu pa un a'i Rhyddfrydwr ai Ceidwadwr ydyw. Rai blynyddoedd yn ol, pan yn ddyn ieuanc iawn, ymwrthododd a Thori- aeth ei dad, ac ymunodd a'r Blaid Rydd- frydol. Dewisiwyd ef yn 1900 i ymladd brwydr Rhyddfrydiaeth yn Ngogledd West- moreland, ac ymladdodd hi yn dra effeithiol. Detid y sedd gan y Toriaid y pryd hyny, ond cipioc'd ef hi oddiarnynt, a chafodd fwyafrif sylweddol ar ei wrthwynebydd, Ond cyn dyfod o etholiad cyffredinol1905 yr oedd Mr. Rigg wedi edifaru o herwydd cefnu ohono ar y blaid y'i magwyd ynddi. Dychwelodd i'w le, ac yn yr etholiad hwn\V ymgeisiodd fel Tori. Gwrthwynebwyd ef gan Mr. Leaf Jones yr hwn a etholwyd trwy fwyafrif o dri. Yn ddiweddar aeth y gair allan fod Mr. Rigg wedi edifaru drachefn a'i fod ar ofyn am le vmhlith y Rhyddfryd- wyr eto, a chafwyd fod y gair yn wir. Ychydig ddyddiau yn ol yr oedd yn un o'r siaradwyr penaf raewn cyfarfodydd a gyn- huliwyd mewn gwahanol leoedd yn vr etholaeth. Dywedodd mewn geiriau eglur ei fod wedi ei argyhoeddi o gyfeiliorni ei ffordd, mai wrth y Blaid Ryddfrydol yn unig y gellir disgwyl i wneyd y gwaith y geilw y wlad am dano, a'i fod yn awyddus i fod yn aelod o honi. Tystiodd hefyd ei fod yn bwriadu gwneyd cymaint ag a all i gynal breichiau Mr. Leif Jones ac i wneyd ei ddychweliad yn hollol sicr pan ddaw ethol- iad. Rhaid fod Mr. Rigg yn ddyn gonest a chywir ei amcan cyn y buasai yn cydnabod ei gamgymeriad mor rwydd, ond anhawdd iawn ydyw i'.r cyhoedd yrnddiried yn ei farn. Ei anhawsder ydyw cael "argyhoeddiadau sefydlog." Dyna brofiad Mr. A. J. Balfour hefyd. Cydnabu ef nad oedd ganddo "argyhoeddiadau sefydlog" ar Fasnach Rydd a Diffyndollaeth ychydig iawn o flynyddoedd yn ol, ac ymddengys i ni nad yw wedi llwyddo i'w cael byd yn hyn. Gobeithiwn fod Mr. Rigg wedi llwyddo; on id ydyw caiff cyn hir ei fod yn gyff gwawd rhai, ac yn wrthrych tostiri eraili, ac yn am- ddifaid o gymhwysderau seneddwr yn ngolwg pawb.
Etholiad Canolbarth Dyfneint.-I
Etholiad Canolbarth Dyfneint. I Ymleddir y frwydr hon yn aiddgar dros ben, ac y mae pob lie i gredu y Ilwydda Mr. Buxton i gadw'r sedd yn feddiant i'r Rhydd- frydwyr fel y mae er's amser hir. Mae ar- weinwyr Plaid Anibynol Llafur wedi gweled yn dda anfon cenadwri yn yr hon yr apeliant at- i weithwyr yr etholaeth i ymgadw rhag pleidleisio dros y naill na'r llall o'r ymgeis- wyr, ond dywedir nad oes ond tua dau gant o'r etholwyr yn cyfrif eu hunain'fel yn perth- yn i'r blaid hono, ac mai cydmarol ychydig o'r rhai hyny a gydsyniant a'r cais. Yr ydym ffaelu deall pa reswm oedd gan yr ar- weinwyr dros gymeryd y fath gam a hwn, oblegid y mae Mr. Buxton yn Rhyddfrydwr o'r iawn ryw. Ychydig. os dim, sydd rhyng- ddo a bod yn Sosialydd cymhedrol ac yn 'sicr y mae mewn cydymdeimlad Ilawn a Llafur. Er hyny wele arweinwyr y blaid hono yn ceisio perswadio yr etholwyr i wara- fun eu cefnogaeth iddo ef yn ogystal ag i'w wrthwynebydd. Gwyddent yn dda nad oedd berygl i'r un o honynt gefnogi yr ym- geisydd Toriaidd, 'yr hwn sydd yn ddiffyn- dollwr rhonc, ac na fuasent yn gwneyd hyny ped erfyniasant yn daer arnynt. Yr hyn y maent yn ymarferol yn ei wneyd ydyw ceisio eu rhwystro rhag cefnogi y Rhyddfrydwyr, ac nid yw hyny yn ddim amgen na cheisio ganddynt chwareu i ddwylaw y Toriaid. Pa fantais a ddichon ddeilliaw i Lafur o wneyd hyrjy nis gwyddom, ac nid ydym yn tybied fod neb arall yn gwybod. Da genym fod rhesymau dros gredu fod aelodau Plaid Anibynol Llafur yn, Nghanolbarth Dyfneint yn ddoethach a chraffach na'r rhai y tybir eu bod yn athrawon iddynt. ac nad ydynt yn barod i ymddwyn at Mr. Buxton, golygiad- au yr hwn sydd yn dyfod mor agos at eu boddloni, fel pe bai elyn iddynt yn unig am nad yw yn barod i ymwrthod a'r enw Rhyddfrydwr. Angen penaf Plaid Anibynol Llafur ydyw arweinwyr rhydd oddiwrth rag- farn, ac yn barotach i wrando ar lais rheswm nag i adael deimlad eu llywodraethu.
 Syr John Gorst.
 Syr John Gorst. Er's pah beidiodd Syr John Gorst a bod yn aelod o Dy'r Cyffrediu, y mae wedi byw allan o olwg y wlad i fesur helaeth. Nid oedd iddo le yn Nhy'r Cyffredin-hyny yw, yr oedd cyn ei adael wedi myn'd i gyflwr oedd yn ei wneyd yn anmhosibl iddo gael lie comfforddus yno. Yr oedd wedi peidio a bob yo Geidwadwr, ac nid oedd yn ddigon o Ryddfrydwr i gymeryd ei le ymhlith Rhydd- frydwyr. Er's pan adawodd y Senedd mae wedi cerdded yn mhell ar hyd ffordd Rhydd- iaeth, ac yr ydym yn dechreu meddwl y deil i gerdded ymlaen hyd oni chaiff ei hun yn mhlith Sosialwyr. Dyma'r casgliad a dynwn oddiwrth araeth a draddododd yn Lerpwl nos Lun diweddaf ar wahoddiad a than nawdd Cymdeithas Sosialaidd yn y ddinas hono. Er i'r cadeirydd ddywedyd nad yw Syr John yn Sosialydd, dengys ei araeth mai ychydig iawn yn wir sydd rhyngddo a bod. Nid oedd ganddo ddim da i'w ddywedyd am y Blaid Doriaidd. Dywedodd am Weinydd- yddiaeth Mr. Balfour ei bod wedi colli cyf- leusterau rhagorol i wneyd gwaith da; a chwanegodd mai ofer ydyw disgwyl wrth y Blaid Doriaidd (neu Undebol) i wneyd dim a'i ddyben i wellhau cyflwr cymdeithasol y bob!. Am y Blaid Ryddfrydol dywedodd ei bod yn bresenol ar ei phrawf ac na cheir ef yn ei chondemnio hyd oni bydd y prawf drosodd. Cydnabu fod Ty'r Arglwyddi yn rhwystr ar ffordd y Llywodraeth i wneyd y gwaith y rnyn ei wneyd canmolodd hi am ddwyn ymlaeu ddau fesur a gyfrifir ganddo yn fesurau rhagorol yn y rhai y mae grym cyfraith yn awr-Cyfraith Man Dyddynod, Cyfraith Archwiliad Meddygol Plant tyn yr Ysgolion-a llawenycha yn addewid Mr. Asquith i ymaflyd yn nghwsstiwn pwysig Blvvydd-dal Henai,t yn y Senedd-dymhor sydd ar ddechreu. Rhybuddioddj jBlaid Ltafur rhag y ifolineb o geisio troi'r Wein- yddiaeth Ryddfrydol allan, a therfyn-odd ei araeth trwy nodi rhai mesurau Sosialaidd y y mae ef yn awyddus i'w gweled yn cael eu dwyn ymiaen ac yn barod i'w pleidio. Teim- lwn yn sicr iawn y bydd Syr John Gorst yn mhen ychydig amser yn galw ei hun yn Sosialvdd. Mae yn Sosialydd eisoes, ond nid yw eto yn barod i alw ei hun ar yr enw.
Y Brawdlysoedd Chwarterol.
Y Brawdlysoedd Chwarterol. Yn mhob un o'r Brawdlysoedd Chwarterol gynhaliwyd yn Ngogledd Cymru yr wythn^p ddiweddaf, gwelodd rhyw rai yn dda alw sylw at yr aniweirdeb yr honant ei fod yn gyffredin iawn yn N gogledd Cymru. Ar hyn o bryd nid ydym yn barod i addef fod Gogledd Cymru yn waeth yn y peth yma, ac nid ydym yn haeru ei fod ddim yn well na rhanati eraill y deyrnas. Yr unig gas- gliad eHir dynu oddiwrth areithiau y gwyr a alwasant sylw at y mater ydyw ei fod gryn lawer yn waeth. Arnheuwn a'i y Frawdlys Clnvarterol ydyw'r lIe priodol i drin yr achos, ac yr ydym yn hollol sicr nad drin 3,r ?ic t .os, ac yr yt. y gwyr a ddygasant y mater i sylw ydyw y gwyr cymhwysaf (o gryn lawer) i'r gwaith. Ychydig iawn a wydaant am gyflwr cym- deithasol y Siroedd yn y rhai y maent wedi eu gwneyd yn Ynadon Heddwch am eu bod yn Doriaid ac yn perchen eiddo, ac am hyny yn unig. Drwg genym orfod dywedyd nas gallwn gredu mai sel dros rinwedd a sancteiddrwydd" a'u cymhellodd i wneyd yr hyn y maent wedi ei wneyd. Wedi dy- wedyd hyn rhaid i ni chwanegu nad yw cyflwr moesol y wlad yn agos at fod yr hyn y gellir (yn rhesymol; disgwyl iddo fod yn ngwyneb y treuliau uehel sydd eiddi, ac y gwnai arweinwyr y bobl mewn pethau crefyddol yn dda i roddi ystyriaeth ddwys i'r mater, a symud wedi hyny i wneyd yr hyn a fernir yn fwyaf effeithiol fel moddion i wellhau ei chyflwr. £
Oyfarfod Chwarterol y Wesleyaid.
Oyfarfod Chwarterol y Wes- leyaid. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Wesley- aid prydnawn Sadwrn diweddaf yn Ebenezer, Blaenau Ffestiniog, o dan lywyddiaetb y Parch Thomas Isfryn Hughes, arolygwr y gylchdaith. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parch J. Maelor Hughes, Llan; Mri Richard Jones a Griffith Jones, goruchwylwyr; Mr Richard Roberts, ysgrifenydd y gylchdaith, ynghyd a chynrych- iolaeth dda o bob eglwys yn y gylchdaith. Dechreuwyd yn y drefn arferol. Wedi darllen a chadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol, cafwyd cyfrif yr aelodau. Da genym ddyweyd fod y cyfrif yn dangos cynydd ar y chwarter blaenorol, a pharodd hyny lawenydd i'r cyfar- fod. Derbyniwyd cyfraniadau yr eglwysi, a thalodd pob lie yn Ilawn. Yn y cyfarfod hwn yr oeddis yn ethol goruchwylwyr am y flwydd- yn ddyfodol. Diolchwyd i Mr Richard Jones, Rhiw, a Griffith Jones, Trawsfynydd, am eu gwasanaeth yn y flwyddyn ddiweddaf, ac ail- ,c etnoiwya nwynt l'r unryw swydd am y flwyddyn ddyfodol. Cydnabyddodd y ddau frawd mewn modd diolchgar yr ymddiriedaeth a osodwyd arnynt, ac addawsant wneyd eu goreu yn y dyfcdol, fel yn y gorphenol. Diolchwyd i Mr, Richard Roberts, Llan, am ei wasanaeth fel ysgrifenydd y gylchdaith, ac ailetholwyd ef am y flwyddyn ddyfodol. Diolchodd yntau am yr anrhydedd. Yr un modd hefyd y gwnaethpwyd gyda y brawd John Owen Jones fel gohebydd y cyfarfod. Bu casgliad y gweinidogion methedig o dan sylw. Cafwyd trafodaeth faith ar pa fodd i wneyd y casgliad hwn yn deilwng. Pasiwyd i'r arolygwr "ratio yr eglwysi gyda golwg ar y cyfryw. Ynglyn a chyfarfodydd blynyddol ymddiriedolwyr y gwahanol eglwysi gadawyd y trefniadau yn nwylaw y gweinidogion a'r swyddogion. Pasiwyd i dalu cysgliad y Gen- hadaeth Dramor yn niwedd y mis hwn. Bu yr achos dirwestol dan syiw, gwasgwyd mewn modd neilldtfol Y pwysigrwydd ar i bob aelod eglwysig fod yn llwyrymwrthodwr. Pasiwyd i gael cynhadledd o holl swyddogiori y Gylchdaith yn ystod y cbwarter nesaf. Gad- awyd ar y Gweinidogion drefnu amser a lie ei chynhaliad. Hysbyswyd y cyfarfod fod y Parch. Edward Davies, Llanrwst, wedi addaw dyfod i'r Gylchdaith yn olynydd i'r Parch. Peter Jones Roberts. Hefyd, pasiwyd i wahodd y Parch. Rhys Jones, Aberdyfi, i olynu y Parch. John Maelor Hughes yn y Llan. Dygodd hyn waith y cyfarfod i derfyn- iad, ac yn ddilynol i hyn, cafwyd ymddiddan ar agwedd ysbrydol i'r achos yn y Gylchdaith, 'c os bu y nefoedd yn agos rhyw dro, credwn yn sicr ei bod yn y cyfarfod hwn. Siaradwyd yn wresog gan amryw o'r brodyr, a chan yr' Arolygwr. Cafwyd cyfarfod rhagorol iawn, a therfynwyd trwy weddi.—HAFODFAB.
[No title]
Y mae swn am ymryson yn mhlith pleidiau gwleiayddol Sir FiEne. Y mae y Ceidwadwyr am ddod a Mr. H. A. Tilley, Rhy[, allan yn erbyn W. J. Sumrners, i geisio enill Bwrdeisdrefi y Sir. Y mae Mr, Harold Edwards, mab Esgob Llanelwy, yn dechreu cynai cyfarfodydd fel ymgeisydd am y Sir yn erbyn Mr. ]. Herbert Lewis, A.S. Mewn cyfarfod eglwysig yn Nghaenwrfon ddydd Mawrth pendetfynwyd cynal eyfres o gvfarfodydd i amddiffyn yr Eglwys q: Bangor, Caernarfon, Penisa'rwaen, a Phenygr.^s. Y mae £4,354 wedi eu tah1 mewn tar%-s,, iadau at walla cyflwr Ysgoiion plwyf Penar er mwjn eu cael i fyry- a gofynic*> A; Addysg Sir Flint.
I Ffraeo Etc.
Ffraeo Etc. Cyn fod Mr. John Redmond a Mr. Wil- liam O'Brien wedi gorphen gwaith heddwch y maent wedi ail-ddechreu ffraeo, neu rhyw- beth tebyg iawn i hyny. Maent o'r hyn lleiaf yn anghytuno a'u gilydd, ac yn dy- wedyd am eu gilydd eiriau heb fod yn rhy barchus a charedig, a dywedyd y lleiaf. Mewn ataeth a draddododd Mr. O'Brien ychydig ddyddiau yn ol cyfeiriodd at gefnog- wyr mwyaf selog Mr. Redmond fel y Red- mondiaid cochion." O'r braidd y mae geiriau o'r fath yma yn ddim help i leddfu teimladau neu i uno pleidiau. Mae Mr. Redmond wedi cymeryd mwy o ofal ac wedi cadw gwell llywodraeth ar et dafod. Ofnwn er hyny na orphenir gwaith heddwch ymhlith cynrychiolwyr seneddol yr Iwerddon ar hyn o bryd.