Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

BLAENAU FFESTINIOG. I

News
Cite
Share

BLAENAU FFESTINIOG. BUDDUGOLIAETHAU CYSTADLEUAETHAU Y NAIDOLIG.-Bu-isai eleni yn eithriad i'r boll flynyddoedd blaenorol pe na chawsant y fraint o longyfarch ein cyfeillion ar eu buddugoliaethau. Gwelwn mai William Emrys Jones, mab hynaf y Bardd Bryfdir enillodd ar ddarlunio golygfa Gymreig ar Lythyr-gerdyn yn nghystadleuaeth "y Genedl." Ac am y Difyniad goreu o Lyfr Cymreig, Mr. John W. Jones, 4, Cae Ffridd, Tanygrisiau. Enillodd Bryfdir y Goron yn Nghylchwyl Bedyddwyr Bangor, Afallon x* y Goron yn Nghylchwyl Temlwyr Da Lerpwl, ac Ap Elfyn y Gadair yn Cemaes -Mon.Fel y gwelir yn yr adroddiadau na fu ein Datgan- wyr ar ol. Daeth Mr. John Prodger, Llan, allan yn fuddugolaethus gyda'r Unawd Tenor, ac unawd arall yn Nghystadleuaeth Porth- madoc. Mewn dosbarth arall o gystadleuon, cafodd Mr. John Hughes, 191, Manod Road, gyntaf allan o 19 gyda'i Golomen (Fantail), a tbrydydd gyda Cholomen arall (Jacobin) gwobr arbenig o Gwpan am yr Aderyn Goreu yn Pwllheli, ddydd Iau, a gwobr arbenig o Electro Toast Fork am y Ffigyrau goreu yn ei ddosbarth. Hefyd cafodd M; John Humph- reys, Penygroes, Bethania, drydydd allan o 33 gyda'i Golomen (Exhibition Homer), a Gwobr Arbenig yn ei ddosbarth o Polished Oak Tray. Ganddo ef yr Qedd yr Exhibition Homer oreu yn yr Arddangosfa. Da genym glywed am lwydd pob un o honynt. MARWOLAETH MISS GWENDOLEN JONES- Chwith ydyw meddwl fod y chwaer ieuanc hon .vedi ein gadael am y byd ysbrydol. Bu farw yn Mangor Rhagfyr 20fed, yn nhy teulu oedd- ynt yn gyfeillion iddi, wedi cael cystudd trwm iawn, ond byr. Dygwyd ei gweddillion adref i dy ei rhieni yn Penstation ar yr 21ain., a chym- erodd y gladdedigaeth le ddydd Llun y 23ain. yn mynwent Bethesda, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. J. Rhydwen Parry. Cydymdeim- Hr yn gyffredinol a'i rhieni Mr. a Mrs. Richard Jones, yn eu profedigaeth lem o golli geneth mor brvdferth yn mhobystyr, fel un o'rtelynau a dorwyd mor gynar a 18 oed. Yr oedd yn aelod yn Jerusalem pan yma, ac wedi ei symud- iad i Bangor ymaelododd yn Pendrefn. Yr oedd yn nodedig am ei ffyddlondeb, ac am ei gallu i ddysgu.—D.D. Gwywo, gwywo wnaeth y lili Dyfai'n brydferth yn fy ngardd; Pan yn cofio am ei thlysni Hiraeth yn fy nghalon dardd Ond pan gofiwyf am y blodau Sydd yng ngardd Paradwys Duw Try fy nagrau yn llawenydd— Nid oes yno un yn wyw. E. G. DAVIES. SF-ION.-Nos Fawrth, disgwylir ddarlith gan y Bardd-bregethwr poblogaidd J. Jenkins (Gwili) ar Ganwyll y Cymry." Croesaw cynes i bawb i'r wledd. Dechreuir y cyfarfod am 7-45 er mantaisi'r ardal yn gyffredinol ddod i glywed y Prif-fardd. Disgwyl Bangor-Team, Goal, Ellis Hughes; backs. Jim Lloyd, Richard Jones; halves, M. E. Morris, J. Kinnear, W. Jones; forwards, Robt. Roberts, Wm. Williams, Meirion Jones, John Jones (capt.), W, R. Owen. Kick-off 2-30. Admission 4d, Boys 2d. LLWYDD CYN-FRODOR.—Da genym ddeall am lwyddiant y cerddor medrus, Mr. W. 0. Jones (Eos y Gogledd). Enillodd yn Eistedd- fod y Nadolig y wobr gynygiedig am bedair Ton at Gymanfa y Plant, a dwy gini yn Eis- teddfod Goronog Lerpwl am Unawd Tenor ar "Bedd Glyndwr" (Bryfdir), pan oedd 11 u o gerddorion medrus yn ymgeisio. Gwelwn iddo fod yn beirniadu yn y Trallwm ddydd Nadolig, a thranoeth yn Llanfaircaereinion. Yr oedd tair o'r Tonau enillodd yn Eisteddfod y Nad- olig ar eiriau o waith Bryfdir. Boed iddo lawer o lwydd y flwyddyn hon eto. Yn mherfformiad RHYS LEWIS HENO, (nos Iau), chwareuir y berdoneg amryw weithiau, a chenir hen alawon Cymreig swynol. Gellir cael tocynau yn Shop y RHEDEGYDD. "AREDIG YN Y DWYRAIN."—Miss Lizzie Jones, Broncludwr, enillodd y wobr gynygiedig Mr Evan Williams, lsfryn (Llywydd Gobeithlu Bethania), am y crynhodeb goreu o Aredig yn y Dwyrain o dan yr hen oruchwyliaeth. Yr oedd y gystadleuaeth wedi ei chyfyngu i rai dan 16egy., ac i Obeitblu Bethania yn unig.—Hwyr- ach y cawn ei glywed yn nghymdeithas y bobl ieuaingc. COR MEIBION Y MOELWYN. Taer ddy- munir presenoldeb holl aelodau y Cor uchod, yn yr Assembly Rooms, nos Wener nesaf am 7-30. Mater pwysig yr American Tour i ddyfod o dan sylw.—D. J. WILLIAMS, YSG. DAMWAIN YN Y GRAIGDDU.—Dydd Llun diweddaf, cyfarfyddodd Mr. Evan Williams, Trawsfynydd a damwain dost yn y chwarel uchod trwy gael ei daraw yn ei ben gyda handl y Craen. Dywedir iddo gael archoll fawr a ihori asgwrn ei ben. Nid oedd ond ychydig ar paBftoedd wedi dechreu gweithio yn y Graigddu. SYMUDLVD Y PARCH. JOHN HUGHES.—Yn Seiat Carmel nos Fercher, hysbysodd y Parch. John Hughes, ei fod wedi derbyn yr alwad roddwvfl iddo gan eglwys Jernsalem, ac y bydd yn dechreu ar ei waith yn yr eglwys hon yn mis Ebrill nesaf. Mae yr holl ardal yn falch nad vw svmudbd Mr. Hughes yn golygu colli ei uasan-ieth ononi. Y mae bellach "wedi gwneyd lie mawr a dylanwadoi iddo ei hun yn ein plith a buasai ei symudiad I ardal ardal arall yn golled ddirfawr i ni. Ein dymuniad vw ar i'w ddylanwad mawr fyned yn fwy eto yn ei faes newydd. Y TYWYDD CALED.—Mae y tywydd caled yn dechreu cyfyngu araom mewn rhai manau. Aeth yn s'mit yn y Rhosycld dydd Gwener di weddaf. ac nid ydynt wedi frail u ail gychwyn eto. Os ,n,ry yrhenv,vn hir -mae n ofnvjs y bydd ISeoedd eraill wedi en c'oi ganddo ac v gv.'Srha^or o ddwylaw yn sector. TE PARTI EBSNEZEK- Cynsa* WYD GY. de flynyddol Ebenezer dydd Iau diweddai, a throdd allan yn Uwyddianus iawn. Gwnaeth y boneddigesau eu rhan yn ardderchog mewn trefnu a gweinyddu. Yn yr hwyr, cafjpyd Darlith ar Yr Eangder Diderfyn," gan Mr. Caradoc Mills, Llanrwst, a chafwyd cynorthwy y Llusern i ddarlunio rhyfeddodau seryddiaeth. Cymerwyd y gadair gan Mr. D. WhitePbillips, yr hwn wrth gyfeirio at y Seren a ddywedodd fod yr hwyliau wedi eu gosod a'i fod ef wedi ei roddi i ofalu am y llyw i'w harwain i'r wybren- au yr hyn oedd yn gyfrifoldeb pwysig. Eglur- odd fod Seryddiaeth yn un o'r gwyddonau bynaf, ac yn destyn astudiaeth gan y Chineaid 4000 o flynyddau cyn Crist. Adwaenir Mr. Mills yndda fel Sigma y Cymry, a gwyr y rhai ddarilenasant ei ysgrifau gwerthfawreifod yn rheng flaenaf gwyddonwyr ein gwlad. Profodd y ddarlith yn hynod addysgiadol a dyddorol. Wedi'r ddarlith cynygiodd y Parch T. Isfryn Hughes, ac eiliodd Mr. Thomas Jones, High Street, bleidlais o ddiolcbgarwch i'r Dar- lithydd, Cadeirydd, a'r Ysgrifenydd, Mr. G. James Morgan am eu gwasanaeth gwerthfawr i sicrhau llwyddiant y cyfarfod a'r wyl. GWYLNOS.—Cafodd y Seindorf Wylnos hynod o boblogaidd nos Fawrth yn y Neuadd. Llywyddwyd gan y Parch. Ben Thomas, B.A., St. Dewi; ac arwelniwyd yn hapus nodedig gan Mr. Ben T. Jones, Manod Road. Gwnaeth y ddau eu gwaith gyda doethineb a chymerad- wyaeth cyffredinol. Gwasanaethwyd gan y- Seindorf, yr hon a chwareuodd ddarn cystad- leuol Colwyn Bay, a darn pystadleuol Dol- gellau. Hefyd yr oedd cwmni o bedwar,— Miss May John, Madame Annie Grew, Mr. J. A. Bovett, a Mr. Allister M. Procter, y rhai a ddatganasant yn odidog wahanol Unawdau, Deuawdau, a Phedwarawdau. Cyfeiliwyd yn ei dull medrus ei hun gan Miss A. E. Owen- Davies, A.R.C.M. Canodd Miss May John yn ei dull swynol arferol er yn dyoddef dan anwyd trwm, a thynodd y ty i lawr pan ganodd Hen gadair freichian fy mam."—Am Madame Annie Grew, y hi yn ddiddadl oedd 'favourite' y cyngherdd. Yr oedd ei datganiad o'r "Lost Chord yn un o'r pethau goreu a glywyd yma erioed, ac fel encore datganodd "Killarney" gyda theimlad nodedig.—Am y Tenor a'r Bar- itone, datganai y rhai hyn yn dda a naturiol, ond nid oedd eu dewisiad o ganeuon ar gyfer y gynulleidfa yn un doeth iawn, a thrwy hyny yr oeddynt yn gorfod canu o dan gryn anfan- tais. Yn Eisiau canoedd o Weithwyr gonest i ddod a'i Llyfrau Accounts, ac ymdrechu dod a chymaint a allont o gregin beddwch i J. N. Edwards, Berlin House, y mis hwn yn ddi- ffael.

ITREFRIW.I

- - - - - - - - - - - - -…

Advertising

.EISTEDDFOD MEIRION. I

IMarwolaeth y Parch. William…

Family Notices

IO'R PEDWAR CWR.

Advertising

I -HedcEIu Meirion. -j

I ft/3arw©Ja,eih "Arlunydd…

I^'"^ AT'. Y BE3RDO. !

Boddiad Dyn o Gaernarfoii

Difa y Diwerth a'r Anymunot.