Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

.TAITH I'R AIFFT.

News
Cite
Share

TAITH I'R AIFFT. GAN MR. J. R. ARTHUR. CEFNU AR MALTA. PAN yn hwylio allan o Ynys Malta, yr oedd y mor yn es- mwyth ryfeddol—tonau man a brigwynion yn canlyn eu gilydd yn drefnus, ac yn tori ar draethau yrynys; cychod glanwaith a thrwsiadus y Maltese yn treiglo yn ol a blaen ar ei wyneb yn rheolaidd, a'r wylan wen yn cael ei siglo yn dyner i gysgu ar ei fynwes gariadus, a murmur y mor mawr fel miwsig mciodaidd. Uwchben yr oedd:— "Yr Haul yn wynias ei wyneb, A'r awel yn chwaon o wres, Heb bluen wen deneu o gwmwl Yn Hen i liniaru y tes." Ein cyfeiriad nesaf oedd Alexandria—820 o filldiroedd i'r de-ddwyrain o Ynys Malta. Hwyliwyd allan o Valetta ar ddydd Mawrth, a disgwyliem gyraedd Porthladd AJexandria, foreu y dydd Gwener canlynol. Cawsom achlysur i grvbwyll am harddwch y gorllewin, a phrydferthwch yr uchelfeydd min yr hwyr, pan yn morio heibio ynysoedd Sicilly a Goza, am Malta ond yr oedd y golygfeydd ar y wybren hwvrol wrth forio rhwng Malta ac Alexandria, ar ncsweithiau hafdesog a thawel, yn Uawer prydferthn.ch a chyfoethocach nadim a welsom yn flaenorol ar y fordaith o Lerpwl. Yr oedd y golygfevdd yn rhy berffaith bryd- ferth i'r"" un arlunydd allu ei desgrifio. Ac nid oedd neb o'm cyd-deilh wyr chwaith mor ddifeddwl, yn ngwyneb y faih olygfeydd nefol, nad oeddynt yn barod i gydnabod, oddiar deimladau cymysglyd o lawenydd, syn- dod, a pbarch Fod Duw yn lion I d pob lie, Presenol yn mhob man," &c. Broa ar dsrfyn y dydd, gwelid yr boll deitb- wvr gydag ychydig eithnadau yn ymneilkuio i gonglau a chilfachau arbenig ar fwrdd y llestr, a chyda gwylder addolgar, yn dyrchafu eu golygon fry i'r wybren hwyrol ac i wyJio gog- oniant yr haul machludol. Ac os y digwyddai i ni ymneillduo yr adeg hono, i gilfach lie nad oedd dim i aflonvddu ar ein rnytyrdodau, yr oedd y meddwl—y ddolen gydiol hono rhwng "dyn a gwyn angel gwawl "wrth syllu, mewn teimladau dwfn addolgar, draw dros y moroedd maith. yn cad rhyw awgrymiadau o'r tragwyddol a'r anherfynol. Ac yn ei unigedd felly, dychmygai glywed y distawrwydd mawreddog yn sibrwd yn ei glUstiau o bob cyfeiriad, "Addola Dduw." lechyd i ddyn ydyw ymgolli yn nganol anher- fynoldeb. Ychydig oriau yn nghynt teimlem fod teyrn y dydd yn rhoi tro trwy ei ymher- odraeth faith, ac yn gwasgaru yn garedig ddi- luw o oleuni disglaer a gwres grymus i'w daeiliaid yn mhob man yn ddiwahaniaeth, ond yr adeg hono yn disgyn i lawr y wybren hwyrol yn nghanol anialwch o gymylau ysgafn, sidan- aidd., tonog. Byddinoedd o gymylau wedi eu gwisgo mewn gynau claerwvnion a phrydferth, a'r oil yn traethu Mewn cydgan ogoneddus fyw Y Ilaw a'n gwnaeth un Ddwyfol yw." Ac o mor ddisglaer mor dawel! mor fawredd- og yr oedd Arch-offeiriad ein cyfundrefn, ar ol ei vrfa wybrenol, yn ymsuddo megis i or- phwys ar fynwes aur-donog y Hi yn y Gorllewin a'i lewyrchiadau melynaidd yn disgyn yn bel- ydrnu euraidd nes peri fod Mor y Canoldir o'm cwmpas yn llwybrau porfforaidd ac yn lanerch- au bach prydferth melyngoch, a'r Tabor mewn aflaeth yn hwylio ei thonog delyn, ac yn rfuvydd rwygo grudd yr eigion virth brysuro rhagddi am gyfandiroedd dieithr y dwyrain. Graddol ond vn urddasol, yr oedd Sheceina y dydd yn tynu at lineil y gorllewin—yri is, yn is, yr ymostyngai, nes y daeth i gyffwrdd ar y gorwel, a'r adeg hono gwelid ei belydrau yn taro yn wastad ar fawrwych for y Canoldir, nes peri i'r dwfr yn y pellafoedd, ymddangos i deithwvr y Tabor, fel dol o wydr toddedig—a pheri i donau bach swynol llednais, arianaidd, godi a phlygu eu penan o'n cwmpas, ac fel yn ymgrymu yn foesgar ar ymadawiad eu Brenin -yr haul-drwy ddorau a phyrth rhuddaur y Gorllewin. Yn ddilynol, ymddanghosai yr Haul fel yn disgyn i for tawel-mor a glanau euraidd iddo, a mor a'i draethellau, yn ymddangos i'r teithwyr ar fwrdd y Tabor, fel wedi ei fritho a gemau ac aur puredig, a'r llestr ar ganol y Canoldir fel ysbryd unigrwydd yn ymsymud ar wyneb y dwfr. Yn ebrwydd wedi i Frenin y dvdd fachludo o'r golwg, yr oeddym yn canfod weoyn ei adlewychiadau hawddgar uwchlaw y gorwel, fel coffadwriaeth y cyfiawn, yn fendigedig, ac yn arledu draw dros wyneb yr uchelderau, a'r wybren wedi ei britho a mor o fan gymylau amryliw. Mor fawreddog ac eto mor fyrboedlog Oedd yr olyg- fa. Ar fyr gweHd gwyneb y mor wedi ei orch- uddio a chysgodau a thywylhvch, a'r bvd wedi ei draddodi i ymdaeniad graddol y nos ANWYLYD Y LLYN HELI. YN yr hwyr wedi machludiad haul, ceid dracbefn, oddiar fwrdd y LIang, panorama. o dlyfni anarluniadwy ar wyneb y eiyfnder. Yr oedd pob nos yn danges gwybodaeth" ac yn traethu ymaèrodd" am fawredd yr hwn a ddywed wrth yr eigion "hyd yma yr ei." Oblegyd p:m fyddai goleuni arianaidd y lloer yn liusern i'm traed ac yn llewyrch i'm llwybrau," yr oedd hon ogoniant y ffurfafen—yn fydoedd a chartrefi, o heuliau a phlanedau diri-yn cael eu hadlewyrchu ar wyneb y mor fel cynifer o berlau llachar, a'r Tabor yn ei gwisg glaerwyn yn ymddangos i ni fel pe bai yn crogi mewn globe o wydr ncu yn bongian mewn pal Os v di- gwyddai i awel ddod yn araf i sychu eiwedd a thrwy hyny donni ei wyneb, ymddangosai y Hu nefol, yr adeg hono, fel boglynan arian dvs- glaerwycb yn dawnsio yn orfoleddus yn y dwr. Bryd arall, min yr hwyr, os y digwyddai i gawod o wlaw tyner guro ychydig ar ei wyneb tywyll, fe'i gwelid, dan ei dylanwad, yn tyw- ynu ac yn dysg'eirio. Dyn a rai o'r prydferth- ion a welsom ar for caredig y Canoldir rbwng Malta ag Alexandria. Ac ris gallem sefyli foreu, nawn na hwyr, ar fwrdd y Tabor," lie yr oeddym yn gallu gweled yn mhell dros wyneb y dyfnder mawr, heb deimlo fod y mor yn meddu ar allu i gynhyrfu galluoedd ar- dderchccaf dyn i ddwfn fyfyrdad-a'i fod hefyd, yn meddu gallu i ldu. eangu, coethu, a grymuso'r meddwl, aoynrhoi syniad ardderch- 'Ll l wn a ddeil ei dd.,yf- og ydddo am fawredd yr Hwn a ddeil ei ddyf- roedd yn gledr ei law. LLYNGES RWSIA. YN fuan ar ol hwylio allan o Mslta, cafwyd golygfa achlysur- odd ferw gwyllt yn mhlith y teith- wyr. Pan yn Gibraltar fe gofiwch i ni weled Llyngbesoedd Ffrainc, Germany, Spaen ac Italy. Yn Algiers, yr oedd yLlynges Americanaidd, ac yn Malta yr oedd y Llynges Brydeinig, a rhwng Malta ac Alexandria daethom yn sydyn ac anisgwyliadwy ar draws y gweddill o Lynges Kwsia, yncrwydro ad ref o Japan. Ceisiodd ein Captain siarad a hwy, ond yr oeddynt yn rhy ddiog neu ystyfnig i iiteb, ni fynent gymdeithasu a m, na gwybod dim rim ddig-Vyddiadau y byd. Yr oeddynt yn teithio yn ol 4 milldir yr awr i gyfeiriad y Baltic, ac ni ymddanghosent unrhyw frys i ddychwelyd i wlad y gorthrymder mawr, sef Rwsia. I barhau.

VNAVWWWAV\/V\AAWWVVVWV I Cyai^or…

W/S/WSAAAAAAAAAA^VVWV\A^AA/…

I MINFFORDD."*,

.EGLWYSBACH.

0 GADAIR YNYS FADOG.

NANTMOR.

Advertising