Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
PEN BLWYDD "Y RHEDEGYDD."I
PEN BLWYDD "Y RHEDEGYDD." I Gryda'r rhifyn hwn cychwyna Y RHED- EGYDD ar ei ddegfed flwydd ar hugain, a chymerwn fantais ar yr achlysur i ddi- olch i'n darllenwyr liuosog am y gefn- pgaeth helaeth a chyson a roddwydd iddo ar hyd ei yrfa. Nid yw y RHED- EGYDD erioed wedi ymroi i ganmol ei httn, megis y mae arfer rhai, ac am hyny goddefiir i ni ddweyd yn y cyfwng hwn fod ei gylchrediad heddyw yn fwy laag y bu erioed, a'r mwyaf o ddigon yn yr holl ddosbarth. Er cymaint sydd Wedi gadael yr ardal a'r dosbarth yn ys- tod y ddwy flynedd ddiweddaf, da gen- ym allu dweyd na effeithiodd hyny i Ieihau un mymryn ar gylchrediad y RHEDEGYDD. Feallai mai un rheswm arnhyny yw fod y rhai sydd yn gadael yr ardal yn gorfod cael y papur lie byn- og y b'ont. Nid yw y rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi gadael yr ardal ond yn byw mewn lluestai, a phan dyr gwawr ar bethau yma codant eu pebyll a dych- welant i'w gwlad; ond yn y cyfamser tnaent yn awyddus i gadw mewn cyff- yrddiad a bywyd yr ardal, a gwnant hyny trwy gyfrwng y RHEDEGYDD. Yr ydym yn derbyn profion parhaus o'r mawr werth a roddir ar ein papur gan a ein plant sydd ar wasgar. Un dydd p cawsom lun nifer o ddynion ieuainc 'y v Blaenau yn eistedd yn nghanol coedwig fawr yn America i wrando un yn darllen Qewyddicn oddicartref allan o'r RHED- EGYDD. A'r dydd o'r blaen derbyniodd Mr. J. R. Arthur lythyr oddiwrth gyfaill iddo yn Idaho yn dweyd mai ychydig feddyliai ei fod ef yn darllen "Taith i'r Aipht a newyddion y Blaenau allan o'r BHEDEGYDD i gynulleidfa o un-ar-bym- theg bob wythnos. Gallem luosogi eng- reifftiau pe byddai angen. A thra yn gwasanaethu yn fwy nag erioed ein plant sydd ar wasgar, ma yn llawen genym allu dweyd ei fod hefyd yn cael derbyniad helaethach gartref yn awr nag erioed. Teimlwn bod hyn yn gosod rhwymau mawr arnom i wneyd pobpeth yn ein gallu i wasanaethu yr ardal a'r eyleh mor ffyddlon a chydwybodol ac etiei thiol ag sydd bosibl. Ymdrechwn wneyd y RHEDEGYDD yh register cywir Q tTlvyd y cylch a wasanaetha--yr hyn yn ein barn ni yw gwir swyydogaeth lieol. Ar yr un pryd, gan bod y RHEDEGYDD yn bapur teuluaidd ar ganoedd o aelwydydd lie na ddarllenir un papur arall, coisiwn at yr hyn a nod. wyd roddi cipdrem o leiaf ar brif ddig- Wyddiadau gwleidyddiaeth, masnaeh a chrefydd y tu allan i'r dosbartb. Wrth .ddiolcb i'n darllenwyr a'n dosbarthwyr am eu ffyddlondeb i ni hyd yma, ac wrth ddymuno iddynt unwaith eto Flwyddyn Newydd Dda, gofynwn hefyd am barhad o'u cefnogaeth i yru y RHEDEGYDD rhagddo ym mhellach eto ar ei yrfa rw) dd i lwyddiant.
^AAAAAAAAAA/S^WsA^WWSAA/WVV…
^AAAAAAAAAA/S^WsA^WWSAA/WVV BETTWSYCOED. Llaw-weithfa Diodydd Anfeddwol Benar View, Blaenau Ffestiniog. Diodydd Anfedd- wol o'r Dosbarth Uwchaf. Yn cael eu dos- barthu yn wythnosol yn eich ardal. Anfonwch lythyr-gerdyn am restr o'r prisiau.—ADV. Pregethir y Sabbath nesaf yn Brynmawr gan y Parch. H. H. Roberts, B.A., Capel Curig yn St. Michael gan y Parch, R. M. Jones, M.A., Ficer a chynelir cyfarfod gweddi yn y Tabernacl. Y mae genym i longyfarch Mrs. Phillips (Llinos Elsi), ar ei llwyddiant yn Nghyfarfod Llenyddol Trefriw gyda datganu Unawd i Soprano neu Denor. Hefyd Mr. Hugh H. Jones, Pentredu, gyda'i Draethodau, yn yr un Wyl. Hir y parhaont i gadw enw da y Bettws i fyny. Drwg genym ddeall trwy air ddaeth o Batagonia, fod Mr. John Pritchard, mab Mrs. Catherine Pritchard, Hafodlas, wedi marw yn yr oedran cynar o 25ain. Nid oes ond ychydig amser oddiar y bu farw ei dad. Cydymdeim- lwn yn fawr a'i fam drallodus yn ei phrofedig- aeth chwerw. Nos Nadolig, yn EglwysSt. Michael, cafwyd gwasanaeth arbenig at ganu Carolau. Awd trwy y gwasanaeth gan y Parch. R. M. Jones, M.A., Ficer, a datganwyd lluaws o Garolau yn swynol iawn gan Gor yr Eglwys o dan arwein- iad Mr. Rowlands, yr Ysgolfeistr. Hefyd swynwyd pawb gyda chanu melus Mr. Hugh Hughes (Glanllugwy), a'i gyfeillion. Yr oedd yn liawen genym weled yr hen gyfaill rhadlon yn ail afael mewn gwaith sydd mor agos at ei galon. Dydd Iau, cafwyd cyfarfod pregethu yn nghapel Elim, Pendredu. Pregeihwyd am dri a chwech o'r gloch gan y Parch. Thomas Hughes, M.A., Rhiw, Blaenau Ffestiniog. Cafwyd pregethau grymus ac effeithiol, a cyn- ulliad lon'd yr adeilad. Drwg genym ddeall fod Miss Davies, Green Oak, yn ewyno er's peth amser. Cydunwn a'r holl ardal i ddymuno ei hadferiad buan. Gwehvn fod y lluaws mawr o blant yr ardal wedi dod drosodd ar ymweliad a ni dros y gwyliau. Hefyd amryw ar ymweliad a'r plwyf cyfagos-Capel Garmon. Da genym eu gweled yn edrych cystal, ac yn ymddangos mor dded- wydd a llwyddianus. Yn Cross Hall Street, Lerpwl yr oedd Mr. Evan Lewis, a Mrs. Josephine Lewis, yn gwas- anaethu ddydd Nadolig. Mawr ganmolid eu datganiadau ar gyfrif eu coethder, eu chwaeth, a'u melusder. Rhagorol yn sicr. Llongyfarchwn Miss Henrietta Rawson Williams, ar ei phenodiad yn Athrawes yn Mangor. Miss Williams oedd yr Athrawes Gynorthwyol yn Ysgol y Genethod, a theimlir chwithdod mawr ar ei hoi yn mysg y plant. Bydd bwlch mawr ar ei hol yn Nghapel Bryn- mawr, lie yr oedd yn chwareu yr offeryn. Boed iddi bob Uwydd a thangnef yn ei chylch newydd. Yn Llundain y mae Mr. W. R. Rawson Williams, brawd Miss Williams, yn gwasanaethu am dri Sul. Y mae ei allu fel pregethwr yn cael ei deimlo eisoes, ac amlwg yw, fod dyfodol. dysglaer o'i flaen. Y mae llawenydd cyffredinol oherwydd fod y twnel dorid yn nglyn a'r Pool Mine o'r diwedd wedi cael ei dori trwodd. Y mae llawer iawn o arian wedi ei wario ar hwn er mwyn gallu sychu y mwnglawdd rhagorol sydd wedi gorlifo. Y mae y gwaith o dan ofal Cadben Mitchell, ac nis gallesid cael ei well at orchwyl o'r fath gan faint ei brofiad a'i fedrusrwydd. Nos Lun, torodd tin allan yn Pool Mine, a gwnaeth ddifrod mawr. Llosgwyd y Swyddfa ac amryw bethau gwerthfawr yn nglyn a'r adeilad. Hyd yn hyn y mae yn ddirgelwch sut y torodd y tan allan. Cofied pawb am y Te parti a'r cyngerdd blynyddol ddydd Sadwrn nesaf. Y mae Ysgol Brynmawr (M.C.) wedi dewis Mr. Richard Morris, Mount View, yn Arol- ygydd, Mr. John Hughes, Fronheulog, yn Arolygydd y Plant, a Mr. William Evans, Bank Llugwy yn ysgrifenydd. Ysgol y Taber- nacl (A.) a ddewisiodd Mr. HughR. Williams, Ty Capel yn Arolygwr, a Mr. William Thomas, Beaver Grove, yn Ysgrifenydd. Mr. Morris Jones, Pentredu Ffarm yn Arolygydd Elim (M.C.), a Mr. Abel Henry Davies yn Ysgrif- enydd. Daeth y newydd i'r ardal am farwolaeth Mr. Elias Owen, Porthaethwy, y diweddaf o hen deulu Coedmor (gynt). Claddwyd ef ddydd LIun yn Porthaethwy. Yr oedd wedi pasio 80 mlwydd oed. MARW YN CANADA.—Boreu ddydd Llun yn nghanol Ilawenydd a miri Nadolig a Blwyddyn Newydd, trydanwyd yr ardal hon gan y newydd sydyn a galarus fod y bachgen ieuanc Robert Jones, Pentre Du Farm wedi marw yn Canada. Rhyw ddau fis sydd er pan yr ymadawodd a chartref dan wenau a dymuniadau da, pawb a'i hadwaenai, a chredem fod dyfodol disglaer yn ei aros. Ysgrifenai adref yn barhaus at ei rieni, ac at rai o'i gyfoedion, a deallem ei fod yn dod ymlaen yn gampus. Gwelodd swydd- ogion yr Ariandy ag yr oeddyn wasaIlaethu fod defnydd dyn ynddo, a rhoddasant bob cefnogaeth iddo. Cyn myned i Canada bu yn ngwasanaeth Mr. D. White Phillips, Cyfreithiwr, BIaenau Ffestiniog, a thystiolaeth Mr. Phillips ydoedd ei fod yn fachgen addawol iawn ymbob ystyr. Gellir dyweyd am dano fel am Timotheus gynt-" Ei fod er yn fachgen yn gwybod yr Ysgrythyr Lan, a chredwn ei bod wedi ei wneuthur yn ddoeth i iachawdwr- iaeth. Bu yn hynod ffyddlon gyda chrefydd. Erbyn hyn mae gobeithion tad a mam a chyf- eillion wedi chwalu, a hawdd iawn dyweyd Mai nid fel yr edrych dyn yr edrych Duw," ac mai,— Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel lor Yn dwyn ei waith i ben," &c. Tarawyd ef a Dipheria, a bu farw y Sabbath 29ain, yn 18 oed. Y mae cydymdeimlad llwyraf yr ardal gyda y teulu torcalonus yn eu profed- igaeth lem ac anisgwyliadwy. Dangosodd Mr^ White Phillips garedigrwydd mawr yn yr am- gylchiad, trwy ddod yn bersonol i hysbysu y rhieni o'r amgylchiad torcalonus. Daeth pell- ebyr yn hysbysu fod ei weddillion wedi eu rhoddi i orphwys yn naear. Canada ddydd Mawrth.
IGwaith Dwfr Harlech.- Ymchwiliad…
I Gwaith Dwfr Harlech.- Ymchwil- iad Oyhoeddus. Boreu ddydd Mawrth, cynhaliwyd Ymchwil- j iad Cyhoeddus H. A. Reid, Arolygydd, o Fwrdd y Llywodraeth Leol i'r cais a wneid g&n Gyngor Dosbarth Deudraeth am fenthyg mil o bunau ychwanegol at y ddau fenthyciad blaen- orol gafwyd at dalu am y Gwaith Dwfr. Y rhai canlynol oedd yn bresenol:—Mri. Thomas Roberts (Clerc Cyngor Deudraeth), Thomas Jones (Arolygydd), J. S. Foster (Peirianydd), Edward Griffith (Cadeirydd y Cyngor Plwyf), Parch. D. H. Williams, Ficer, John Lloyd, Belle View, H. L. Piggott, Goruchwyliwr y Glyn, Evan Williams, Adeiladydd, Owen Morris (Hynaf), Daniel Parry, Fferyllydd, John Edwards, Saer, J. Price, Llechwedd Du, ac Evan Jones, Porkington Terrace. Pasiwyd yny Cyngor Piwyf nos Sadwrn i'r holl aelodau fyned i'r Ymchwitiad er mwyn gofyn unrhyw gwestiwn ddymunent yn nglyn a'r mater, ond ni wnaeth rhagor na dau o hon- ynt ei hymddangosiad. Aeth yr Arolygydd trwy y cyfrifon, a gofynodd am eglurhad ar amryw o'r symiau gan Mr. Thomas Roberts, fel Clerc, a Mr. Foster, fel Peirianydd. Gof- ynodd Mri. E. Griffith, John Lloyd, ac Owen Morris amryw o gwestiynau, ac ar ol rhoddi cyfle i bwy bynag arall ewyllysiai ofyn am ryw eglurhad, cauwyd yr Ymchwiliad. Aeth y Swyddog ac amryw eraili i weled y Gronfa gan ei bod yn gollwng, a rhoddwyd cyfarwyddyd i'r Arolygydd i wneyd ar-brawf er cael gwybod faint o ddwfr oedd yn colli, ac anfon y cyfrif i fyny i'r Swyddog. Nid oedd y cwestiwnau yn holiol i'r pwynt, ond gofynwyd i ba beth yr oedd eisiau y mil punau, neu a oeddynt i wneyd rhagor o waith ac atebwyd mai i dalu dyled- ion, ac nad oedd hyn yn cynwys yr estyniad i Bias Amherst na'r estyniad i Tantwtil, na chostau y gyfraith, felSy bydd eisiau swm mawr o arian eto ryw ddiwrnod.
I LLANRWST.
I LLANRWST. TREFN Y MODDION SABBOTHOL. Yr Eglwys Sefydledig. St. Crwst.-IO, Parch. D. C. Davies. 6, Parch. J. Morgan. St. Mary.-IO, Parch. J. Morgan. 6. Parch. D. C. Davies. Y Methodistiaid. Seion.-Parch. William Thomas. Heol Scotland-Parch. R. Rowlands. Yr Annibynwvr. Tabernacl.—Parch. J. R. Jones, Henrhyd. Ebenezer.—Cyfarfodydd Gweddio. Y Wesleyaid. Horeb, -Parch., Edward Davies. St. James (English Chapel).—Rev A. F. Hubbard, Conway. Y Bedyddwyr. Penuel.—Mr. R. T. Pritchard, Llangoed. GWAELEDD. Drwg genym ddeall am waeledd Mr. W. Williams, Ysgol Ganolraddol. Nid yw wedi bod yn agos yn gryf er's tro. Cydymdeimlwn yn fawr ag ef yn ei brofedigaeth o golli ei frawd, a dymunwn iddo adferiad buan. Gwyiiau tawel gafwyd eleni. Traddododd y Parch. W. Thomas bregeth arbenig i'r plant yn nghapel Seion yn y boreu, a chafwyd cyfar- fod adloniadol iddynt yn yr hwyr yn nghapel Horeb. Cynhaliodd eglwys Bethel ei gwyl de a chyngherdd cystadleuol Dydd Nadolig. Yr oedd y lie yn anghysurue: o lawn cyn amser dechreu. Arweiniwyd gan Mr. E. Pughe, Mount Plesant. Y beirniad cerddorol oedd Mr. E. Festin Jones, A.c., Blaenau Ffestiniog, yr hwn a ganodd amryw weithiau. Cyfeiliwyd gan Mrs. Roberts, Cartrefle. Beirniad y farddoniaeth oedd Dewi Mai o Feirion. Yr amrywiaeth Mri. John Davies, Bryniog T. Tudor Willliams, Lewis M. Hughes ac E. Pughe. A ganlyn oedd y buddugwyr:—Ar- holiad Safon IV. Willie Thomas, Melinycoed. Unawd, Flia Bererin:" 1, Miss Hilda Thomas, Coed Llydan Bach 2, MissGwladys Williams, Town hill, Llanrwst. Arholiad Safon V. Mr. B. Thomas, Coetmor, a Mr. Robert 0, Evans, Coed Llydan Mawr, yn gyfartal. Cystadleuaeth gyda llythyren: 1, R. M. Jones; 2, Ben. Thomas, Melinycoed. Pedwarawd; Parti o Bethel, dan arweiniad Mr. D. Davies. Darn heb atalnodau: 1, R. D. Jones, Siamber Wen; 2, Cadwaladr Rbberts, Llanrwst. Unawd baritone: Mri. Hugh Owen a Hugh Jones, Capel Curig, yn gyfartal. Ffon gollen i fugail: Mr. W. Jones, Tymawr, Melinycoed. Dau englyn Isnant a Mr. Rt. Evans, Llanrwst, yn gyfartal. Parti Mr. John Jones, Bron Fedw. oedd yr unig un ymgeisiodd ar "Y Seren Unig," ac yn wir deilwng o'r wobr. Yr ysgrifenydd ydoedd Mr. Owen Hughes, Melinycoed, a gwnaeth ei waith yn ddiguro. MARWOLAETHAU.—Y mae genym y gorch- wyl prudd o hysbysu am farwolaeth Mr. Rd. Griffith, cariwr, gynt o Cambrian Vaults; a Mr. Robert Thomas, Crydd, Watling Street. Cyraeddasant oedran teg, a gadawsant fylchau amlwg ar eu hol. CINIAW I'R PLANT.—Am ddau o'r gloch, ddydd Gwener, yn y Central Restaurant, eis- teddodd o 160 i 170 o blant tlodion y dref wrth y byrddau i fwynhau ciniaw rhagorol roddid iddynt gan y Gymdeithas Sosialaidd. Yr oedd yn bleser edrych arnynt yn cyfranogi o'r dan- teithion. Teimla y Gymdeithas yn wir ddiolch- gar i bawb am eu cyfraniadau, ac i'r Parch. Richard Rowlands am ei gynorthwy gyda rhanu tocynau. MARWOLAETH MISS ISGOED JONES, PLAS- YNDRE.—Wedi bod yn gwywo yn raddol er's tua blwyddyn, cafodd y foneddiges hawddgar ac anwyl uchod ollyngdod o'i holl gystuddiau yn gynar boreu ddydd Llun, yn ei 23 mlwydd o'i hoedran. Yr oedd hi fel Lili yn Nyffryn Conwy, ac yn gymeriad i'w hefelychu mewn moesgarwch boneddigaidd a phrydferthwch bywyd glan ac addurnedig a grasusau nefol. Cafodd ei haddysg yn Penrhos College, Colwyn Bay, ac yr oedd yn un o'r rhai mwyaf dymunol yn ei hymddiddan a'i chwmni. Datganai ei phrofiad yn ami trwy y geiriau, Simply to Thy Cross I cling. Boreu dydd Sadwrn, diolchodd i'r Parch. William Thomas ei gweinidog, am ei ofal caredig am ei llwyddiant ysbrydol, a boreu dydd Sadwrn dywedodd wrtho, Nid anghofiaf chwi byth na wnaf byth Bydd Plasyndre yn wag iawn heb Miss Jones, gan mor ddymunol oedd ei phresenoldeb yno. Chwith meddwl am y ty hebddi. Mae cydymdeimlad dyfnaf yr holl wlad a Mr. a Mrs. Jones yn eu profedigpleth lem o golli eu unig blentyn a feddent. Yr Arglwydd a fyddo'n dirion wrthynt. Cleddir heddyw (dydd Iau) rhoddwyd ei gweddillion i orphwys yn mynwent Capel Seion.
AA/VWW\/V\WVWVWVVVVVV\\VV…
AA/VWW\/V\WVWVWVVVVVV\\VV BRAWDLYS CHWARTEROL MEIRION. Dydd Mawrth, cynhaliwyd y Frawdlys Chwarterol yn Dolgellau o flaen Mr. Osmond Williams, A.S., ac ynadon eraill.-Gofidid oherwydd absenoldeb Arglwydd Raglaw y Sir trwy afiechyd, a phasiwyd i anfon eu dymun- iadau am ei adferiad buan.-Mr. John Humph- reys, Cyfreithiwr. Porthmadoc a wnaeth wrth- dystiad cryf yn herwydd anibendod pwyllgor Iawnyddu. Hwn oedd yr ail dro iddo fod yn bresenol trwy lawer o anghyfleusderau, ac yn y diwedd yn cael nad oedd digon wedi dod yn nghyd i wneyd gwaith. Nid oedu hyny yn gyfiawn a theg. Y Cadeirydd a ddywedodd nad oedd yn synu dim at wrth- dystiad Mr. Humphreys. Yr oedd yn beth i ofidio yn fawr am dano nad oedd Ynad- on yn cymeryd dyddordeb yn amgylchiadau y Sir. Mr. Lloyd, Raggatt, a ddywedodd iddo ef ddod o bellder mawr y boreu hwnw, ac yr oedd wedi ei siomi yn fawr am nad oedd digon o aelodau yn bresenol i fyned yn mlaen gyda'r gwaith. Penodwyd Mri. Foulkes Jones, Corwen a R. O. Wayne, Corwen, ar y pwyll- gor i ymweled a charchar Rhuthyn a Dr. R. Roberts, BIaenau Ffestiniog; a R. J. Morris, Tycerig, ar Bwyllgor Carchar Caernarfon.—Y Prif Gwnstabl a adroddodd i 1,334 o grwydr- iaid gael eu cynorthwyo yn ystod y chwarter, ar gyfer 1,247 yr un chwarter y llynedd. Yr oedd y cynydd hwn o 87 i'w briodoli i ddyfod- iad nifer fawr i geisio gwaith yn Dolgarrog, ger Llanrwst. Yr oedd ychydig o leihad yn nifer y troseddwyr yn ystod y chwarter.— Gan nad oedd yr un carcharor i'w broil, cyflwynwyd menyg gwynion i'r Cadeirydd.— Cyfeiriodd y Cadeirydd at lytbyr ddaeth i r Arglwydd Raglaw oddjwrth foucddwr yn Si" Ddinbych yn dadleu fod angen am sefydla cymdeithas i atal anfoesoldeb yn Ngoglat'o Cymru, &c. Sylwodd Mr. Williams fod pob un o honynt yn awyddus i wneyd eu goreu yn ngwyneb anfoesoldeb, ond yr oedd yr> rial allan yn gryf yn erbyn yr awgrym fod y felldith hwnw yn Ngogledd Cymru. Nid oedd ef yn meddwl fod angen am benderfyniad gan ei fod yn dod fel yr oedd oddiwrth Sais mewn Sir -.trall.-Apeliodd John Vernon Pugh, Prif Reolwr cwmni Rudge-Whit worth, Coventry, j yn erbyn dedfryd ynadon Dolgellau, y rhai a'i dirwyasant ef i £5 a'r costau am or-yru ei fodur. Taflwyd yr apel allan gvda chostau.
I:
I: I Daw deuddeg o Ddeddfau newyddion i weithrediad gyda dechreu y fhvyddyn loon — Man-ddaliadau, Ymddiriedolwyr cyboeddus, Goleuon ar Gerbydau, Llaw-weithfeydd, Buchfrechu, Eiddc Gwragedd Priod, P.tner- iaeth Gyfyngedig, Ymenyn a Margarine, Tros- eddwyr Cyntaf, lechyd Cyhoeddus, Breintebau a Chynlluniau, a Pris Teithio ar y Reilfi'yrdd. Y mae pob un o'r Deddfau hyn yn proffesu bod yn "Ddeddf i wella" rhyw Ddeddf flaen- I orol, ac hyderwn y profant felly wrth ea rhoddi I mewn ymarferiad.
) Jehu mewn Helbu.
) Jehu mewn Helbu. Y mae Henry Davis, gyrwr modur yn ngwas- anaeth Miss Joseph, Hyde Park Gardens, wedi ei draddodi i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o "Ddynladdiad" am achosi marwolaeth Mrs. Hannab Munday, Plimlico, trwy redeg cerbyd modur ar ei thraws. Yr oedd ganddo ddwy lodes tua 16 oed bob un gydag ef yn y cerbyd, a phasiai fel dyn sengl gyda hwy er ei fod yn briod, ac wedi gadael ei wraig. Yn ychwaneg- ol at ei draddodi i sefyll ei brawf, cafodd ef a'r ddwy, lodes wers lem gan y Trengholydd am eu hymddygiadau y noson y bu y ddamwain.
I - Glanhau Esgidiau.
I Glanhau Esgidiau. Y mae gwaith Firm neillduol yn cynyg coron o rodd i bob un o'r glanhawyr esgidiau oeddynt yn defnyddio eu hysbysiadau bwy gyda'u gwaith ar yr heolydd, wedi bod yn achlysur i daflu cryn oleuni ar yr alwedigaeth o lanhau esgidiau ar yr heolydd yn Llundain. Yr oedd un Harry Reeves wedi dewis Ilecyn wrth yr Hen Swyddfa Rhyfel i wneyd ei waith, a mynych y dywedodd na werthai ei le am bunt y dydd. Bu farw yn werth eiddo a gyrhaeddai dros dri ffigiwr.
I Ffrwydriad mewn Ystorfa.…
I Ffrwydriad mewn Ystorfa. Er- gydion. I Cymerodd ffrwydriad arswydus le ddydd Mercher, yn Ystorfa Ergydion Mri. Dyke & Co., gwneuthurwyr drylliau, Aldermanbury, yr hon sydd yn nghanol dinas Llundain. Lladdwyd un dyn, ac anafwyd lluaws. Yr oedd swn y ffrwydriad fel twrf taranau, a thaflwrd y drysau a'r ffenestri ymaith yn ei crynswtn. Yr oedd yr ystafell He bu'r ffrwyd- riad yn ngwaelod yr adeilad, gyda gwaith ar- graffu Mri. Snelling ar y llawr uwchben. Llwyr ddifethwyd y naill le a'r llall. Rhedai prcs: wylwyr y swyddfeydd a'r masnachdai cyfagos i'r heol mewn arswyd mawr, ac achoswyd dychryn cyffredinol yn y rhan hono o'r ddinas.
I Agor Bedd Druce.
I Agor Bedd Druce. Y mae y cyngaws sydd yn myned yn mlaen am dyngu anudon yn nglyn a marwolaeth Mr. T. C. Druce, yn tynu sylw yr holl deyrnas. Gellir crynhoi yr achos i un frawddeg, sef mai yr un yw Mr. T. C. Druce a'r pumed Dduc Portland, ac felly mai ei fab, Mr. G. H. Druce, ddylai fod yn Dduc Portland yn awr. Dywed- wyd yn y tystiolaethau fod T. C. Druce wedi marw a chael ei gladdu yn 1864, ond na fu farw Due Portland hyd 1879. Daliai nifer o dystion na bu T. C. Druce farw yn 1864, ac yn ol Mr. Caldwell, sydd wedi myned drcsodd. i'r America ar ol rhoddi ei dystiolaeth, arch heb gorph ynddi a gladdwyd, a bod darnau o blwm wedi eu dodi ynddi. Er mwyn clirio pob am- heuaeth ar byny, rhoddodd yr Ysgrifenydd Cartrefol, a Changellydd yr Esgobaeth gania- tad i agor y bedd. Agorwyd hi boreu ddydd Llun, a chaed ynddi dair arch, ac ar un o hon- ynt, "Thomas Charles Druce, Ysw., bu farw yr 28ain o Ragfyr, 1864, yn ei 71ain flwydd." Wedi agor yr arch, cafwyd ynddi gorph dynol mewn amdo corph dyn oedranus gyda barf ar y wyneb. Felly y mae y chwedl am ffug gladdedigaeth" wedi ei chwalu i'r pedwar gwynt. Nid yw yn hysbys yn awr pa ffurf a gymer y cyngaws. A A
\AAAA/VWWWVVWVWWV VVVWV |…
\AAAA/VWWWVVWVWWV VVVWV Tyngu Anudon. I Y mae y Prif Gwnstable Tho 113.S Jones wedi penderfynu rhoddi tyngu anudon yn y Llysoedd i lawr trwy gymeryd cwrs yn erbyn y personau y mae ganddo amheuaeth cryf yn eu cylch., Y mae Ynadon y Bala wedi traddodi John Wil- liams, Arenig Street, Bala, a. George Thompson, Penucha, i sefyll eu prawf yn Mhrawdlys Dolgellau ar y cyhuddiad o dyegu anudon mewn achos o herwhela wrandawyd Tachwedd 30. Tyngodd y ddau eu bod yn y ty gyda'u gilydd y noson y dywedid eu bod allan yn herwhela. Som? y bydd i schosion eraili gaei eu dwyn yn miaen.
I BLAENAU FFESTINIOG.
BLAENAU FFESTINIOG. Pregethir yn nghapel Jerusalem, y Sabboth nesaf, gan y Parch. O. Davies, Ganllwyd; a'r Parch. J. Rhydwen Parry, Bethania, am 10 yn Bethel, Ffestiniog. CYFARFOD YMADAWOL. — Ymadawodd y cyfaill ffyddlon W. J. Evans, gynt Waterfield Place, Bethania, Blaenau Ffestiniog, o'n plith, ar yr hwn achlysur y cynhaliwyd cyfarfod ym- adawol iddo gan Gymry Schenectady, oher- j wydd ei ymdrech gyda'r Achos Cymreig yn y He. Cyflwynwyd iddo Feibl Hardd gan Ruth Jones dros y Cymry yma, yr hon sydd yn ferch- ieuengaf i John J. Jones, Lafyette, sef brodor o Conglywal, ac yn gefnder i Griffith Roberts, Neuadd-ddu. Caed cyfarfod adlon- iadol, y cyntaf ericed yn Gymraeg yn yr ardal hon. Gwasanaethwyd ynddo gan y rhai can- Ilynal :-Can. "Hen Wlad fy Nhadau," gan Owen Jones, brodor o Rhuddlas, Sir Gaer- narfon anerchiadau y Beirdd Can gan Ben. Mates Can, Christmas Lulla By," gan Rnth Jones; Adroddiad, "Wesul tipyri," gan W. Williams; Can gan Ed. Maites; Penillion gyda'r delyn, gan J. Jones a Wm. Williams Araeth fyrfyfyr; Adroddiad, "Shon, chwareB teg," gan W. Williams, brodcr o Tunygrisiau Detboliad ar yr offeryn gan James Mates, I ddiweddu y cyfarfod cafwyd can, "Gwnewch Pobpeth yn Gymraeg," gan William Williamsg" a'r gynulleidfa yn uno yD y cydgan. Ar ol y cyfarfod cafwyd gwledd i'r corph o wahanol ddaateithion. Yrn\vaha~.wyd gan ddymuno mordaith gysurus i'n cyfajll. Cafodd pawb eu boddlcni yn gampus, tua haner cant mewn nifer. Cadeirydd y cyfarfod oedd Mr. Wm. Williams. Y mae ein cyfaill wedi cael y fraint o weled un o ryfeddodau y byd, sef Ehaiadr y Niagra, yn ngwmni ysgrifenydd y Uineliau hyn a chyfaill arall, a golygfa ardderchog ydyw. Disgynasom yn Buffalo, yn yr hwn Ie y caw- som y fraint o weled cof-golofn yr Arlywydd Mc'Kinley, yr hon sydd yn hardd iawn, gan ei bod y diwrnod hwnw yn ddydd ei goffadwr- iaeth—y Civil War. Yr oedd yr hen filwyr wedi crynhoi at eu gilydd mewn gcrymdaith. Er wedi gwargrymu gan henaint yr oeddynt yn edrych yn non y diwrnod hwnw. Aethom wedi hyny gyda y Trolley Car at Rhaiadr y Nisgra, 27 milldir oddiyno. Dychwelasom adref erbyn boreu dranoeth wedi trerdio diwr- nod hapus dros ben. DIRWESTOL.—'Yn nghyfarfod dirwestol nos Sadwrn diweddaf canwyd Carolau. Dechreu- wyd gan Mr. Evan R. Jones, Bsthesda. Llyw- yddwyd y cyfarfod gan Mr Hugh S. Jones i, Carol gan Mrs Ephr&im, a'r gynulleidfa yn uno yn y cydgan. Carol gan Mri John Jones a'i barti. Wm, Eyan Jones a'i barti, Miss Ell ell Jones, Penygroes, Mr Lewis Jones a'i bartil, Mr Richard Thomas, Mr David E. Jones a'i barti (ddwywaith), Mr. Evan Williams a'i barti, etc gan Mr Lewis Jones. Adroddiadau gan Miss Myfanwy Jones a Mr Robert Morris l Triawd gan Mr David H. Jones a'i gyfeillion, a David Griffiths a'i gyfeillion. Diweddwyd y cyfarfod gan y brawd Mr. John Hughes. Bydd Band of Hope Gwylfa yn gwasanaethu nos Sadwrnnesaf.-T.R. TEML Y DUFFWS.-Nos Wener diweddaf. cynhaliodd y Demi hon ei chyfarfod. Agor- wyd yn y drefn arferol. Adroddiad gan Robert O. Williams. Can gan Mrs Ephraim a Miss Katie Jones, Cromwell Street. Adroddiadau gan Jennie Williams a Mrs Owen, Tanybwlch. Rhoddwyd aeron i bob aelod o'r Demi gan y chwaer Mrs Owen, a'r un modd wythnos i nos Wener diweddaf gan y chwaer Mrs D. G. Wil- liams, am ba rai y diolchwyd iddynt yn gynes gan y Deml am eu rhodd caredig. Cauwyd y Demi yn y drefn arferol.—T.R. ANKHEGION.—Rhoddodd Mr. W. Lloyd Roberts, cynberchenog y RHEDEGYDD, anrheg- ion i bob un o'i denantiaid yn y Blaenau a Llan Ffestiniog yn wythnos y Nadolig. Gwaith caredig yw cofio mor haelfrydig am danynt. LLONGYFARCHIAD.- Dyrnunwn longyfarch Mr. D. R. Jones, AvallonJ ar ei waith yn enill dwy gini a choron arian hardd, gwerth pedair gini, yn Eisteddfod Goronog Lerpwl, Gwyl y Banc, am y bryddest oreu, pedwar cant o lin- ellau ar y testyn A'r hwyr a fu, a'r bore a fu, y dydd cyntaf." Dywedai'r beirniad-y Parch. D. Adams, B.A.. fod ei Bryddest ar ei phen ei hun yn y gystadleuaeth, ac yo wir deilwng o'r Goron Cenedlaethol.—CYFAILL. Y PARCH. J. JENKINS (GWILI).—Deallaf mai y Prif-fardd a'r pregethwr poblogaidd Gwili o Rydychain fydd yn pregethu yn nghapel Seion y Sul nesaf.-Hefyd bydd yn dda gan luaws, mae'n debyg, ddeall ei fod yn rraddodi Darlith ar Ganwvll y Cymry." yng Nghymdeithas Ddiwylliadol Seion, nos Fawrth nesaf, am 7.30, pryd y bydd croesaw cynes i bawb ddod i'w wrandaw. Mae Gwili yn en* wog iawn, ac yn adnabyddus i lawer yn Ffes- tiniog fel ysgolor, bar dd, a lienor, o'r radd flaenaf. Dewch yn Ilu i'w wrando. BARDD. Deallwn mai y Parch. Cefni'Jones, Calia-ria, ydoedd yr ail, o 14 o ymgeiswyr, am Gadair yn Mon y Nadolig. Os nad ydym yn camgymeryd, dyma yr ail, bryddest Iddo- oedd yn ail hefyd o nifer dda gyda'i brydde* gyntaf. Mae Mr. Jones yn hawio safle amlwg yn mhwlpud ei enwad fel pregethwr gailuog a meddyliwr cryf. Cydnabyddir ef bellach yn mhiith ein beirdd. Daiied y bardd-bregethwr Cefni ati nes cael Cadair i eistedd ynddi fel un tra theilwng o'r anrhydedd. Prophwydwn hyny yn fuan.—CYFAILL. CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL SEION.—Nos Fawrth, dan lywyddiaeth Mr. R. Jones (Peror- fryn). Darllenodd Mr. Griffith Roberts bapur llafurfawr a chlir, a1' Sosialaeth a Chrisaonog- aeth." Zmdriniodd ei bwnc amserol. gvda deheurwydd neillduol, gan osod ei bwyntiau yn egiur a chEr. Yr oedd ei bapur yn liawn o wersi buddiol, ac addysgiadol, a chafwyd gwobr dda am. ddod ¿rwy'r oerni i'w wrando. Siaradwyd yn mhellach yn fvr ac i bwrpas gan Mri. M. Williams, Griffith Roberts, Wil- Ham Hughes, S.. S. Jones a'r Llywydd.—Da | oedd bod yno.