Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
Gair i'r Boneddigesau. ) Š I > Mae y Tywydd Oer fel y gwyddoc,> > S > | < yn gofyn Dillad Cynes. Mae genym ? > < | ychydig o JACKETS a BLOUSES < > J > rliagorol wedi eu gadael, ac eislau ea > S CLlRIO am bris mor isel, fel y bydd I < II yn fantais dirfawr I cliwi eu gweled, > < flI. 1t'YMI1' n- SHOP YR ERYR, Church Street. <KBBH3gaBaHaBE^a»^s»g?i^.rergg5EGga>gsr7r^ri?^i'i^^ !r:,m.14I!- yaw—n, TURN OVER.. NEW LEAF -Fresh from Sunny India and Ceylon- into the dear old Family Tea=pot at Home, and then pour out the most delicious, refreshing, and comforting cup for all in this glad NEW YEAR 'EIGHT! "MAYPOLE" TEA the very best of all blends, costs you only 1/6 a lb. and there are reliable "Maypole" Blends at 1/4 & 1/2. mAVFOLE PAIRV O., LTP. 12, CHURCH STREET, BLAENAU FESTINIOG. OVER 540 BRANCHES NOW OPEN. -Iluiu uutuun uÁ nuAjd uA:) 'juAuae SmjoS peS i ouA ptuAj tur ipmjbjoq ui uu H N o hxvw soa o ♦najor) peis!A\aa -itu juppjen >po;s A 3:VW A ,!)OINIlsgjj '19 'soMKime HDnoiioaAvaw Z <$auo £ seuioqx NVO "dvavaaaMia Stationery & Fancy Coods. Note Paper of every description, In neat boxes 6d. and is. Penny Packets, the trade supplied at wholesale prices. FOREIGN NOTE PAPER* Shop Y i eel ,Bt Ffesfiniog. I r iiiiiiii■ iiiIIIIIIIIIIIIHiiiiiniiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiimil IIIII Rooms HI mol- WEALTH: The Reward of Thrift. Without Gambling! Without Speculating! Without Risk Invest Your Savings in Government PREMIUM BONDS. They are guaranteed as to principal and interest, consequently as safe as British I| Consols, They bear fixed interest in 1 most cases from 2 to 4 per cent, and I give the holders the chance of acquiring a fortune by periodical Drawings with gI Prizes from 924,000 down to iezo. I A shoemaker whose wages were only I 25/- per week has drawn 1 the First Prize of L- 24,000 of the Ottoman Government Railroad Bonds, which he bought only two months before for f6-10-0. They appeal alike to the man with thou- sands and the man with shillings. EASY TERMS (from 10j-per month) of Payment if desired. Write a postcard for descriptive Booklet The Anglo-American Finance Corporation 1 41, King William Street, London, E.C. I
At-ein Gohebwyr.
At-ein Gohebwyr. Diolch i chwi un ac oil am eich ffyddlondeb yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Hyderwn am yr un ffyddlondeb y flwyddyn hon eto. Ymdrechwch fod yn fyr, hollol anmhleidiol a theg, heb roddi lliw teimladau personol ar ddim a ysgrifenwch. Dylai pobpeth gael ei adrodd fel y bu, a gadael i'r cyhoedd farnu y gweithrediadau.
NODIADAU WYTHNOSOL
NODIADAU WYTHNOSOL Apelgmewn Pryd. Cofia darllenwyr ddarfod i ni yn ddi- weddar alw sylw at y ffaith fod darllawyr a thafarnwyr y deyrnas wedi ffurfio cymdeithas dan enw camarweiniol, a'i dyben i amddi- ffyn eu buddianau trwy berswadio pobl i gredu fod ymgais fwriadedig y Llywodraeth i ddiwygio'r deddfau trwyddedol yr un peth ag ymgais i gyfyngu ar ryddid personol trigolion y wlad. Dywedasom yn mhellach fod Arweinwyr LIafur yn cyfrif y gallent fforddio anwybyddu cylch-lythyr cyfrinachol a wasgarasid trwy rai cylchoedd, a'u bod yn ameu doethineb a diogelwch hyny. Da genym weled yn awr fod rhai o oreugwyr LIafur ydynt yn aelodau o Gymdeithas Ddirwestol Swyddogion Llafur ac Undebau Llafurol wedi cymeryd cwrs gwahanol trwy gyhoeddi apel glir a chref iawn at weithwyr y Deyrnas Gyftinol. Ynddi deisyfant ar- nynt wrthod arwyddo deiseb sydd wedi ei pharotoi gan Gymdeithas y Darllawyr, ac ant ymlaen i dystio fod y fasnach mewn diodydd meddwol yn cynyrchu cnwd tor- eithiog o dlodi a throseddau anfad a gwall- gofrwydd a bod yr amser wedi dyfod i weithwyr y deyrnas i hawlio awdurdod i bob ardal i wrthod caniatau ceisiadau am drwy- ddedau newyddion ac am adnewyddiad hen drwyddedau. Dygant ar gof benderfyniad y cytunwyd arno yn Nghynhadledd Flyn- yddol Undebau LIafur a gynhaliwyd yn Belfast y Ilynedd i'r perwyl yma, a dywed- ant am yr hyn a ddywed darllawyr ynghylch cyfyngu ar ryddid personol yn ddim amgen na gwatwar noeth a sarhad." Wrth yr apel ragorol hon ceir enwau rhai o brif gynrychiolwyr seneddol Llafur, ac y mae yn llawen genym weled yn eu plith enw y gwir Anrhydeddus John Burns ac enw'r hen ryfelwr profiadol y Gwir Anrhydeddus Thomas Burt. Teimlwn yn hyderus y bydd i'r genadwri hon lawer mwy na dad- wneyd y gwaith y dichon fod cylch-lythyr y darllawyr wedi ei wneyd-bydd yn foddion i enill cefnogaeth boll weithwyr y deyrnas i'r Weinyddiaeth yn ei hymdrech i wneyd Prydain Feddw yn Brydain Sobr, ac i ddwyn cysur a llawnder i leoedd ag y mae blinder a phrinder wedi arfer ymgartrefu ynddynt.
Yn mhen dwy Flynedd.-1
Yn mhen dwy Flynedd. -1 Erbyn hyn mae dwy flynedd wedi myn'd I heibio er's pan ffurfiwyd y Weinyddiaeth, ac mae'n amlwg ei bod, ar ddiwedd dwy flyn- edd o waith da a wnaed mewn amgylchiadau ac yn ngwyneb anhawsderau a'i gwnaethant yn waith caled, cyn iached a chyn gryfed, ac mor iraidd ag oedd yn y dechreuad. Hyd yn hyn nid yw ei gwrthvvynebwyr chwerwaf wedi cael cyrnairit-ag esgus dros haeru fod yr anghytundeb lleiaf yn mysg ei haelodau, ac mae'r Blaid Ryddfrydol yn Nhy'r Cyffredin fel yr oedd dranceth yr Etholiad Cyffredinol. Un yn Ilai ydyw nifer ei hae!odau. Gwag- hawyd wyth-ar-hugain o sec'dau, o'r rhai yi- oedd y Rhyddfrydwyr yn da! pedair-ar-ddeg i'r Toriaid wyth, ac Ymreolwyr Gwyddelig I chwech. Enillodd y Toriaid un sedd—Rhan- barth Brigg o swydd Lincoln—a dyna'r cwbl. Mae'n wir fod Mr. Victor Grayson, Sosialydd, wedi enill Dyffryn Colne a gyn- rychiolid o'r blaen gan Ryddfrydwr, a bod Mr. Pete Curran, aelod o Blaid Anibyno! Llafur wedi cymeryd lie y Rhyddfrydwr a gynrychiolai Jarrow, ond beth am hyny. Mae'r ddau aelod newydd yn well Rhydd- frydwyr na'r gwyr ag y cymerasant eu lle- oedd. Dychwelodd yr hen Dori pybyr, Mr. Henry Chaplin i'w gynefin yn y seaedd. Wedi iddo fod allan o Dy'r C yffredin am flwyddyn a haner o henvydd i'w hen ethol- aeth ei wrthod, dewisiwyd ef gan etholwyr Wimbledon i'w cynrychioli hwy. Hyd yn hyn nid yw Arglwydd Hugh Cecil wedi cael ei ffordd yn ol i'r senedd. Er ei fod yn Dori o'r sect fanylaf ni fyn droi ei gefn ar Fasnach Rydd, ac y mae hyny yn fai sydd yn nghol- wg arweinwyr y Blaid Doriaidd yn gorbwyso ei holl rinweddau.
I" Breuddwyd gwrach wrth ei…
I Breuddwyd gwrach wrth ei Hewyllys." Gobeithiwn, a chredwn hefyd, fod hwn yn enw priodol i'w roddi ar "brophwydol- iaeth a brophwydir drachefn a thrachefn gan rai o'r newyddiaduron Toriaid mwyaf blaenllaw. Daliant i haeru fod nerth natur- iol Syr Henry gCampbeIl Bannerman wedi gwanhau i fesur a'i gwna yn anmhosibl iddo barhau i aiwain Ty'r Cyffredin ddim yn hwy, ac y bydd iddo o herwydd hyny geisio lie esmwythach yn Nhy'r Arglwyddi. Haerant fod Mr. Herbert Gladstone, yr Ysgrifenydd Cartrefol, ar gael ei symud i'r lie hwnw. Anhawdd credu fod hyn yn wir. Nid ydym yn cyfrif ei fod yn bwysig iawn yn mha un o'r ddau dy seneddol yr eistedda Mr. Herbert Gladstone, oblegid rhaid ei restru ymhlith aelodau lleiaf y Weinyddiaeth, ond byddai symudiad Syr Henry Campbell Bannerman o Dy'r Cyffredin yn golled an- rhaethol i'r Rhyddfrydwyr yno, oblegid mae ei ddylanwad arnynt yn hollol anghydmarol. Mae hyny, ynghyd a'i Iwyddiant mawr iawn fel arweinydd Ty'r Cyffredin yn ddigon o reswm dros i'r Toriaid ddymuno ei wel'd yn symud oddiyno, a drwg ydyw gorfod meddwl na pharai afiechyd y Prifweinidog ofid iddynt os gesyd angenrhaid arno i ollwng yr awenau o'i law. Credwn, fodd bynag, ei fod wedi gwella yn rhagorol, ac y gwelir ef yn ei le ddydd agoriad y senedd wedi adnewyddu ei nerth. Anffawd o'r mwyaf yn ein barn ni fyddai iddo ef nac unrhyw aelod arall o'r cyfringylch gael ei wneyd yn aelod o Dy'r Arglwyddi ar hyn o bryd, pan y mae'r Weinyddiaeth wed estyn ei llaw i ddwyn y sefydliad rhyfedd hwnw i well trefn.
ICwyn Arglwydd Curzon.-I
I Cwyn Arglwydd Curzon. I Cyn iddo ymgymeryd a swydd bwysig Rhaglaw yr India, gwnaed y boneddwr hwn yn Arglwydd," ond nid yn aelodo Dy'r Arglwyddi. Mynai fod yn rhydd, ar gyf- lawniad tymor ei wasanaeth yn yr India, i ddychwelyd i'w le yn Nhy'r Cyffredin. Yn awr y mae yn cwyno yn erbyn Syr Henry Campbell-Bannerman am ei fod wedigwrth- oà caniatau iddo gymeryd ei le ymhlith yr holl gynrag!awiaid eraill ar feinciau Ty yr Arglwyddi." Ni ddeil y gwyn hwn mo'i chwilio. Yn un peth, Mr. Balfour oedd y Prif-weinidog pan ddychwelodd Arglwydd Curzon o'r India, ac os dylasai rhywun ei "anfon" i Dy'r Arglwyddi, Mr. Balfour ddylasai wneyd. Ond mae'n ddigon hysbys mai anghytundeb rhwng Mr. Balfour a'i Weinyddiaeth ac Arglwydd Kitchener ar y naill law ac Arglwydd Curzon a barodd i'r Rhaglaw Anibynol ac uchelfrydig ymddis- wyddo pan y gwnaeth. Heblaw hyn, mae'r geiriau yn y rhai y cwyna y gwr siomedig yn awgrymu ei bod yn rheol i benodi cyn-rag- lawiaid yr India yn aelodau o Dy'r Arglwyddi Mae'r awgrym heb sail, ac felly yn gamar- weiniol. Yr oedd ei holl flaenoriaid yn y swydd (ond un-Syr John Laurence) yn aelodau o Dy'rArglwyddi cyn cael eu penodi yn rhaglawiaid, ac ni ellir fod dyrchafiad zun-Syr John Laurence—yn gwneyd rheol y rhaid ei chadw. Y mhelIach gwna Argwydd Curson addefiad nad yw yn peri iddo sefyll dim yn uwch yn ein golwg. Tr™y daywed- yd fod "y Prif-yueinidog presenol wedi gwrthod caniatau iddo gvmeryd ei le &c," cydnebydd ei fod ef, neu ryw un drosto, wedi gwneyd cais at y Prif-weinidog. Pe dywedasai rhywun arall ei fod wedi ymos- twng i gardota felly, ni fuasem yn ei gredu ond rhaid i ni ei gredu pan yr ydym yn ei gael o'i enau ei hun. Drwg genym orfod ei gredu, oblegid yr oeddym wedi arfer edrych i fyny at Arglwydd Curzon fel gwr o yspryd gwir bendefigaidd. Anhawdd ydyw i n; barhau i wneyd hyny. Fel rheswm dros beidio dychwefyd i'w le yn Nhy'r Cyffredin dywed fod ei iechyd yn rhy wael. Gofidus genym am waeledd ei iechyd, ond mae rheswm arall sydd yn ddigon ynddo ei hun dros iddo aros allan o'r ty hwnw. Fel Arglwydd Hugh Cecil y mae yn Rhyddfas- nachwr, ac ni dderbynir effelymgeisyddgan Doriaid unrhyw Ethoiaeth hyd oni chofleidia Ddiffyndollaeth. Ar hyn o bryd ceisir gan yr Arglwyddi Gwyddehg ei adewis yn un o'r 28 pendefig sydd yn eu cynrychio!i hwy yn Nhy'r Arglwyddi. Bu un o honynt- Arglwydd Kilmaine— farw yn ddiweddar.
■ Cyngreirio yn erbyn y Cyhoedd.-I
■ Cyngreirio yn erbyn y Cyhoedd. -I Hyn mae Cwmniau'r Rheiiffyrcld gWa-j hanol yn ei wneyd yn bresenot. Rhagwelant y bydd i'w gwasanaethwyr trwy y cytundeb I a'r trefniant a wnaed gan Mr. Lloyd George, gael cyflogau uwch nag a gant yn awr am weithio dros lai o ori a u nag a weithiantyn awr. Maent wedi penderfynu mai y cyhoedd ac nid hwy (y cyfarwyddwyr a'r rhanddalwyr) sydd i dalu y drau! chwanegol hon. Er mwyn cyraedd eu hamcant.maent wrthi yn brysur i drefnu i gydweithio a'u gilydd yn lie cystadlu yn erbyn eu gilydd fel y maent wedi arfer gwneyd. Yr wythnos cyn y pdi. weddaf hysbyswyd fod dau o'r prif gwniniau wedi cwbihau trefniadan i gydweithio a'u gilydd mor llwyr a phe buasent yn un Cwmni, ac wedi cytuno faint o bob can punt o'r enillion a delir i randdalwyr y naill gwmni a faint i randdalwyr y Hall. Bydd cyfran y naill gwmni yn fwy na chyfran y Hall am y rheswm fod ei gyfalaf yn fwy a'i reilffyrdd yn fwy. Yr wythnos hon cy- hoeddir fod dau gwmni mawr arall wedi gwneyd cytundeb cyffelyb, a'r canlyniad cyntaf ydyw codiad sylweddol iawn ynmhris tocynau diwedd yr wythnos rhwng flawer o leoedd a enwir. Gwelir pa mor sylweddol ydyw pan ddywedir y bydd yn rhaid talu 41/- am docyn oedd i'w gael am 34/ 30/- yn lie 25/ Sec. Bydd hyn yn fantais i'r rhan-ddalwyr dros amser, ond mae'n fwy na phosibl mai y cyhoedd a fanteisia yn y diwedd. Yr ydym yn weddol sicr mai effaith anocheladwy peth fel hyn fydd prysuro dyfodiad yr amser pan y eymerir y rheil- ffyrdd drosodd gan y Llywodraeth, ac y gweithir hwy er rnantais y cyhoedd yn lie eu gweithio er budd cydmarol ychydig berson- au fd y gwneir yn awr. Fel rheol nid yw pobl sydd yn gorfaelu yn gweled yn mhell, ac y mae hyny yn wir am gyfarwyddwyr rheilffyrdd y deyrnas.
Gormod o Chv.rareu.
Gormod o Chv.rareu. Gwna Mr. Edward Dicey yn hysbys i'r cyhoedd swm a sylwedd ymddiddan fu rhyngddo ac Ymherawdwr yr Almaen yn ystod ei arhosiad yn y wlad hon. Gan fod Mr. Dicey yn wr cyfrifol gellir dibynu ar gywirdeb ei dystiolaeth. Dywed yn eglur nad yw yn honi adrodd y geiriau a lefarodd yr Ymherawdwr, ond yn unig yn symio i fyny ei hystyr. Ar un mater yn unig y daliwn. Dywedodd yr Ymherawdwr fod yr Almaenwyr hwyrach yn gweithio gormod ac yn chwareu rhy ychydig, ond mai y gwrth- wyneb i hyn sydd yn wir am danom ni Brydeinwyr. Ei farnu ydyw ein bod ni yn chwareu gormod ac yn gweithio rhy ychydig. Gwr craff ydyw yr Ymherawdwr Gwilym gwelodd mewn tair wythnos beth nad yw rhai pobl sydd yn byw yn y wlad yma ar hyd y blynyddoedd wedi ei weled eto. Ond mae gwyr meddylgar ac ystyriol yn gweled er's amser hir bellach fod gor- awydd i chwareu'r bel-droed (yn benaf) .yn gyru dosbarth lluoscg yn ynfyd, ac ofnant fod yr awydd yma yn cael ei gorfeithrin yn y bechgyn sydd yn yr ysgolion canolradd^?^ Cwyn llawerd o rieni mewn llaw; r ardal yn Ngogledd Cymru ydyw fod eubechgyn wedi iddyntadaelyr ysgolion elfehol a myn''d er, ysgolion Sirol yn colli bias ar eu gwersi, ac yn meddwl y dydd (os nad yn breuddwydio yn y nos hefyd) am chwareuon. Cytuna, pob dyn rhesymol y dylai bechgyn a geneth- od cael rhyddid a chyfleusterau i chwareu o fewn terfynau rhesymol, oblegid y mae chwareu iddynt hwy mor naturiol ag ydyw prancio i'r wyn yn y gwanwyn. Ond dylid coHo wedi'r cyfan, fod y rhieni yn eu hanfon i'r ysgol (ac yn talu am eu hysgol) nid er mwyn iddynt ragori mewn gallu i gicio pel a rhoddi eu bryd ar beth felly a'i debyg, ond iddynt gael eu haddysgu mewn pethau a'u dyrchafant ac a'u cymhwysant i ymladd brwydr bywyd sydd yn eu haros. Ffaith awgrymiadol i'r eithaf ydyw fod y mater wedi tynu sylw y teyrn a enwyd. Nid yw ef cofier, yn wr o yspryd a golygiadau Puritanaidd, ac nid dyn benywaidd ydyw. Mae'n rhvdd iawn ei syniadan, ac yn fwy dynol na'r rhan fwyaf. Dichon y gwran- dewir arno ef gan rai na fynant wrando ar ddynion eraill pan ddywedant yr un peth ag a ddywed ef.
FFESTINIOG.
FFESTINIOG. Dydd Sadwrn bu farw Mrs. Ann Humphreys gweddw y diweddar John Humphreys, Pant- llwyd, yn hynod annisgwyliadwy o'r parlys, yn 62 mlwydd oed. Claddwyd hi y dydd cyn- taf o'r fiwyddyn yn inynwent St. Michael. Gedy un ferch ar ei hoi mewn tristwch a galar mawr, ac yn wir amddifad. Yr oedd yn fam dyner a gofalus, ac yr oedd ei rhinweddau yn disglaerio i bob cyfeiriad, gan hawlio iddi air da gan bawb a chan y gwirionedd ei hun. Rhodded Tad yr amddifaid Ei nodded i'r ferch yn ei hamddifadrwyrid a'i galar, Hefyd, bu farw William Lewis Jones, Saer, Rhyd-y-sarn, dydd Sul diweddaf, a chladdwyd ef dydd Mercher, Ion. 1 if, yn mynwent Ram- oth, Llanfrothen. Heddwch i'w lwch. Bu y Wesleyaid yma yn cadw Nadolig Crist trwy ei bregethu, Y pregethwyr eleni oedd y Parchn. Thos. Hughes, Lerpwl, ac O. Madog Roberts. Yr hen ddi-hen wirionedd gafwyd ganddynt. Mae'n dda genyf ddweyd wrth ddarllenwyr y RHEDEGYDD na bu y gwyr hyn yn masnachu gwerth csiniog mewn nwyddau N'zade in Germany a elwir yn wirionedd new- ydd. Toffi melus yr aii ganrif yw hwnw, and a wrtliodwyd gan yr eglwys fel cyfeiliornad damniol. Ond am y gwyr hyn, yr hen wirion- edd a draetliasant, a diau y par ras i'r gwran- dawyr. Y SEINDORF.—Daeth ein Seindorf allan yn ail-oreu yn nghystadleuaeth y Seindyrf yn Dol- gellau ddydd Calan. Buasent yn sicr a fod cael y wobr gyntaf pe buasai Nantlle wedi cys- tadlu gyda eu "chwareuv/yr eu hunaln," acnid myned i Loegr i ymofyn chv/areuwyr ar gyfer cystadleuaeth fechan fel hon.