Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
TREFN OEDFAON Y SUL. )
TREFN OEDFAON Y SUL. EGLWYS LOEGR. ST. DEWI-10, a 11.30, Parch. D. Thomas. 6 a 0Parch D. Richards. TANYGRJSIAU-10, Pai,ch T. E. Owen, B,A. 6, Parch. D. Thomas. Y MSTHODISTIAID. PENIEL—Parch. D. D. Williams. ENGEDI-Parch. Richard Evans, Harlech. BETHESDA-Mr. John D. Jones, Caegwyn. TAB ERNACL—Parch. Eii Evans, Dolyddelen. GARREGDDU-Parch. D. Evans, M.A, Abermaw. ENGLISH CHAPEL-Rev. R. J. Williams. BOWYDD.—Parch A. Oliver, Talsarnau. RHIW—Parch. O. T. Williams, Criccieth. TAN YGRISIAU- Parch. W. Davies Llanegryn. '( ¡¡ YR ANNIBYNWYR. BETHEL.-IO, Parch. J. R. Parry. 6, Paicli R. T. Phillips. HYFRYDFA- BETHANIA- JERUSALEM—Parch P. Ho .veils. BRYNBOWYDD-Parch. SALEM- CARMEL-Pat-cli Jolm Hughes. Y WESLEYAID. BLAENAU—Mr. Phillips, Llaudiillo. TANYGRTSTAU-2, Mr Phillips. 6, Cyf. Gweddi. LLAN.- -Parch H. Owen, Porthmadog. Y BEDYDDWYR SEION—Parch. Moses Roberts. CALFARIA—Mr. A. R. Jones, Llangollen. MORIAH— CAERSALEM—Cyfarfod Pregethu.—Pregethir gan y Parchn. James Jones, Rhosllanerchrngog, a Dr. E. O. Humphreys, Penygroes. Dechreuir y cyfar- foclydd am 6.30 uos Sadwrn, ac am 10, 2, a 6 dydd Sul. LLANRWST. k SEION.—parch. J. pulestone Jones, B.A., Bangor. SCOTLAND ST.—Parch J. Wuiiams, Colwyu Bay. TABERNACL—Parch W. C. Williams. EBENEZER—Parch. Mr. Roberts, Bettwsycocd. HOREB— Parcii. R. Lloyd Jones, Llanrwst. ST. JAMES—Rev. Mr. Bevan, Colwyn Bay. PENUEL-Parch M. n. Jones.
Advertising
AR WERTH. TY A GARDD rhagorol i weithiwr yn ymyl Station Duffws. Prydles, 31 mlynedd, Ground Rent £ 1 10s., meddiant buan, cyfleusdra rhagorol. Manylion gan HEXRY ROBERTS, Arwerthwr, Tremadog. Rhybudd Masnachol Ar- benig. THE ALBION STORES, Market Square. Llanrwst, R. D. GRIFFITHS, Wholesale and retail Hay, Straw, Corn, Flour, Oilcaes, Provender and Potato, Factor, WINE, SPIRIT MERCHANT, &c. (Ale & Portei- Bottler to the trade). T"\YMUNAF dnvy hyn hysbysu fy lliaws gwsmeriaid a'r cyhoedd yn gyffredinol, fod fy mrawd, Mr. W. E. Griffiths, STAR VAULTS, MARKET SQUARE, LLANRWST, wedi ymadael o'm gwasanaeth i yn gyfan- gwbl, ac nad oes ganddz) yn mhellach hawl i dderbyn nag arian nag anrhyw archebion ar fy rhan, ac nad ydyw mewn unrhyw dull na modd o gwbl yn gysylltiedigi mewn masnach. Yr eiddoch yn ffyddlawn, R. D. Griffiths. YSGOLION SUL JERUSALEM AC EBENEZER. TREN RHAD I GOLWYN BAY, DYDD LLUN, Gorph 31, 1894. Ar y dyddiad uchod bydd i Dren Rhad yn nglyn a'r Ysgolion Sul uchod adael Blaenau Ffestiniog am 7.30 y boreu, gan ddycliwelyd o Colwyn Bay am 7 or gloch yr hwyr. Gellir cael tocynau gan y Mri. J, Morgan, Canton House; John Williams, New London House a Thomas Jones, Gutta Perclia. Pris y cludiad:- DAU SWLLT yn ol a blaen, Plant dan 14eg oed, haner pris. LRUESA W I BAWB YMUNO. Bydd darpariaeth mewn bwydvdd i bawb ar deltrau rhesymol. CYLCHWYL LENYDDOL DOLRHEDYN, A GYNHELJR HYDREF 12EG 1894. Testynau agored i'r byd. BARDDONIAETH. 1. Pedair o benillion coifadwriaethol ar ol Jane Lewis, geneth fach Hobert Lewis, West End. Gwobr 4s. 2. Pedair o benillion coffadwriaethol ar ol Robert Griffiths, bachgen Wm. Griffith, West End. Gwobr 4s. 3. Darn o farddoniaeth i Gadairy Pregeth- wr," gaed yn anrheg gan Mrs. Williams, Rock Temperance Hotel. Gwobr 4s. CERDDORIAETH. 4. I barti o 8 i 12 a gano oreu Penygroes" (Mr. Evan Jones), o donau'r Gymanfa. Gwobr .£1. 5. Deuawd Gwys i'r Gad (R. S. Hughes) Gwobr 6s. 6. 'Unawd Soprano, Cadair wag fy mam (Alaw Manod). Gwobr 3s. 7. Unawd, "Y bachgen ffarweliodd a'i wlad" (R. S. Hughes). Gwobr 3s. ADRODDIADAU. 8. 11 Ystorm (R. J. Derfe1), cyfyngedig i rii dros 18 oed. Gwobr CADAIR.. 9. "Y Tren (Ceiriog), cyfyngedig i rai o dan 18 oed. Gwobr 4s. Rhestr gyflawn o'r testynau a'radroddiadau i w cael am lc., ond anfon at yr ysgrifenydd. MATHEW WILLIAMS, Tanygrisiau Tsgrifenydd.
1- Y MESUR ARIANOL.
1- Y MESUR ARIANOL. AR ol hir a chyndyn ddadleu, daeth y noson i ddarllen am y drydedd waith y mssur mawr chwildroadol a grymus- Mesur y Gyllideb. Bu y Weinyddiaeth yn or-arnyncddgar ar hyd yr wythnosau y bu o dan sylw. Anesmwythai y wlad wrth weled y fath amser gwerthfawr yn cael ei dieulio yn unig er mwyn roddi cyfle i wrthwynebwyr diwygiad gael traethu eu ffolineb ddydd ar ol dydd, ac wythnos ar ol wythnos, yn eu hymgais i wanhau a llesteirio y mesur. Er hyny, y mae y mesur yn werth yr boll amser a dreuliwyd arno, ac y mae ei lwyddiant arianol wedi ei brynu yn rhad trwy ddyddiau blinion o ofalon ac oediadau a'r rhai yr ymladdodd y Weinyddiaeth gyda gwydnwch anhafal. Gorphwysai y baich o amddiffyn y mesur ar ssgwyddau Cangellydd y Trysorlys, ac y mae yn anmhosibl canmol gormod ar ei fedrus- rwydd yn dadlenu dichellion a chyn- ¡ lluniau ei, wrthwynebwyr, ei barodrwydd i dderbyn poh awgrym at well a y mesur o Lc:: 1 ",n :r \7 ri"rt"'I'lri." cHwarcu????u? >y6 y? lwH walth. Gwyddai yn dda y llafur mawr oedd 0'1 flaen pan ymgymerodd a'r gwaith o drin cyfoeth arianol a sylweddol, eiddo y di- nesydd cyfiredin ac eicdo Arglwyddi y tir. Uydnabyddodd Mr. Gladstone y byddai yn angenrheidiol cael senedd- dymor cyffawn i drafod graddfa trethiant, a hyny heb ddim arall ddod ar draws y gwaith. Erbyn hyny y mae trethiant graddol rhwng y ddau ddosbarth o eiddo wedi ei setydlu, yn ogystal a'r egwyddor y dylai y gost o gario yn mlaen dreutiau y llywodraeth gael el dyoddef mor bell ag y byddo modd gydag aberth cyfartal ar ran yr holl ddeiiiaid. Y mae dros dair mil- iwn o bunau yn ychwanegol yn dod hwy orfodi y gwyr mawr i dalu yn deilwng o'i gyfoeth at draul y deyrnas. Felly yn lie dwy filiwn a haner o ddiffyg, bydd ychydig yn ngweddill mewn llaw. Gofyn- wyd i'r Cangellydd beth a wneid os na byddai galw am y tnir miliwn hyn Eu defnyddio at ysgafnhau trethi y dyn tlawd," oedd yr ateb. Dywedodd yn mhellach fod yn ei fryd ddod ar mesur yn miaen pe heb y ddwy fil a haner diffyg. Daeth a'r mesur yn mlaen oddiar deimlad o eisiau diwygiad mater o egwyddor, ac nid mater o ddirwasgiad amgylchiadau ydoedd. Esbonia hyn, i raddau pell, paham yr oedd nror dawel wrth glywed ymoscdiadau, ac mor ymlyngar wrth adranau ei gynllun rhagorol er diwygio sefylifa trethi a thollau etifeddiaethau y deyrnas hon. Y gwan a lethid cyn hyno dan y baich ond yn awr caiff y cyfoethog ddwyn ei ran o'r draul. Arswydai gwylwyr buddianau y bendefigaeth rhag y Mesur, a bod y cyfoethogion yn debyg o gael eu gwasgu i adael eu palasau, a gwerthu y darluniau gwerthfawr oedd yn eiddo i'w teuluoedd, os pasiai y mesur; ond dywedodd y Cangellydd yndawel, "y maent yn colli mwy na'r swm a ofynir mewn diwrnod yn ami ar y rhedeela (ceffylau." Sylw brathog iawn, ac yn cyraedd at. waed y bendefigaeth a'r cyfoethogion. Cafodd y Weinyddiaeth ugain o fwyafrif i'r trydydd darlleniad. Pan gofir fod y doll ar y baril a'r botel, a bod y gwyddelod yn erbyn treth y botel, y mae y mwyafrif yn un rhagorol o galon- ogol, gan mai 14 oedd y dysgwyliadau uwchaf goleddid am goel. Yn awr, beth a wna yr Arglwyddi ? Mesur arianol ydyw, ac ni pherthyn iddynt yr hawl i gynyg gwelliantau firno; gan mai yr oil allant wneyd yw, eiderbyn neu ei wrthod. Casheir ef a chas cyflawn gan Ardalydd Salisbury ond byddai yn ormod iddo fentro ei wrthod, ac i'r wlad gael cyfle i ddywedyd ei barn ar y gwaith. Cawn weled beth a wneir. Wrth gwrs, bydd beirniadu a chondemnio enbyd, ac efallai y bodlonir ar hyny, er fod rhai yn tybio yr anturia Salisbury ar y cwrs, gwall- gof iddo ef ei hun, o daflu y mesur allan. Amser a ddengys. î
11YMOSODIAD LLOFRUDDIOGI AR…
11 YMOSODIAD LLOFRUDDIOG AR HEDDGE1DWAD. Yn Mrawdlys Sirol Amwythig, bu 5 0 herwhelwjr n flaen y Barnwr Hawkins. Ymddengys iddynt fyned i herwhela Tach. 22, 1890, yn agos i'r Annvythig, pryd y daeth yr heddgeidwad Richard Edwards a'r draws y cie, a maglodd yn y rhwyd oedd ganddynt. Ymosodasant arno yn y modd creulonaf, a gadawsant ef i orwedd yn ei waed ar y cae. Cafwyd hyd iddo yn y boreu ac ofaid am ei fywycl am dros dair wythncs o amser. Nid oedd ef yn all i adwaen yr un 0'. ymosodwyr llofruddiog. Yn Mawrth diweddaf, rhododd gwraig oedd yn byw gyda un o'r pum' troseddwr, hysbysrwydd i'r awdurdodau, a dywedodd am y modd y daethant i'w thy, a'r ym- ddiddan fu rhyngddynt am yr ymosodiad. Dywedudd y Barnwr, pe buasent wedi llofruddio y swyddog na fuasai liaw na llais allesid ei godi o'u plaid c-u cadw rhag cosb eithaf y gyfraith. Anfonai Jones aliill i benyd wasacaeth am bum' mlynedd; a'r tri arali am bedair blynedd.
ARCHEB AM FIL 0 BUNAU.
ARCHEB AM FIL 0 BUNAU. Yn Mhrawdlys Manchester, ddydd Mawrth, bu achos archeb (cheque) am fil 0 bunaa o dan sjlvv am amser rnaith. Arwyddwyd yr archeb gan Mr. John Hopwood yn ftafr Mr. W. Sisson, cyfnfydd. Talwyd yr arian gan yr Arianwy, a I cheisiai ysgutorion Mr. Hopwood am gael yr arian yn 01 ar y tii nad archeb Hopwood ydoedd ac i Sisson eigael trwy fodd anmhriodol, Dadleuid o du yr cuiandy pi un a'i twyll neu beidio oedd yr enw "1,. .I"\h.h n r\ Q NOI-.N F OL iddo ef am gynorthwyo Hopwood gyda'u aaigylchiadao. Gwedid yn benderfynol fod yr euw ar yr archeb wedi ei ffugio. Rhoddodd y rheithwyr ddedfryd o biaid y gofynwyr.
IGWR A GWRAIG 0 FFESTINIOG…
I GWR A GWRAIG 0 FFESTINIOG YN LLYS YSGARIAD. Dydd Mercher diweadaf, yn Llys Ys- gariad yn Llundain, gwrandawodd yr Arglwydd Farnwr Lopes achos o ysgariad rhwng gwr a gwraig o Ffestiniog. Yn yr achos hwn gwnai Richard Roberts (Pen- cefn;, Rhiwbryfdir, gais am ysgariad oddi with ei wraig, oherwydd ei godineb ag un D. H. Jones, adeiladydd, gynt o'r ar- dal hon), yn awr yn Lerpwl. Ymddangosod Mr. Condy, yn cael ei gyf- arwyddo gan Mr. Arthur Ll. Rowlands, ar ran yr apelydd Roberts, ond ni chynrychiol- id ei wraig. Sylwai y bargyfreithiwr Fr partion briodi yn 1887, ac wedi byw gyda'u gilydd mewn gwahanol fanau yn Mlaenau Ffestiniog, Yr oedd Jones mewn busnes eang fel adeiladydd. Nid oedd gan yr apelydd Roberts un amhenaeth am ym- ddygiad anweddus ei wraig am tua wyth mlynedd wedi iddynt briodi, pryd y cafodd allan iddi gael ei gweled gyda Jones, ac yn 1889, gadawodd ef, ac yn ganlynol i hyny drachefn cafodd iddynt fod yn aros yn yr Albion Hotel, Llanrwst, dros nos, fel gwr a gwraig. Richard Roberts, a dystiai (yn Gymraeg), iddo briodi Ellen Williams, y ddiffynyddes yn lonawr, 1887, ac iddo fyw yn hapus gyda hi am flwyddyn. Y r oedd yn adnabod D. H. Jones elrs naw mlynedd. Pan glywodd fod ei wraig yn cerdded allan gyda Jones fel merch ieuanc bu iddo wrthdystio yn erbyn hyny; ar am dymor bu iddi wella, Y Llungwyn, 1889 bu iddi ei adael. Mr. R. D. Griffiths, Albion Hotel. Llan- rwst, a dystiai i wraig Richard Roberts, a D. H. Jones ddal yr un ystafell-wely yn ei dy, ar y 24ain o Medi, 1892, fel Mr. a Mrs. Jones." Yr oedd ar ol hyny wedi adnabod Jones, fel yr un oedd wedi bod yu et ay a cniywoda et yn dywed pan gyf- lwynwyd yr erfyneb iddo, nad oedd yn rhy- feddu dim. Dyfarnodd y Barnwr a'r rheithwyr fod y diffynydd a Jones yn euog o odineb, gan ddyfarnu hefyd y swm o gan' punt fel iawn I a'r costau yn erbyn Jones. Yr oedd yr apel am ysgariad yn naturiol yn canlyn. I
YM WE LI AD CLWB Y TIR ARCHWILWYR…
YM WE LI AD CLWB Y TIR ARCHWILWYR A BLAENAU FFESTINIOG. Cyrhaeddodd y Clwb urddasol uchod i orsaf y London and North Western erbyn deg o'r gloch. Dygasid hwy yno mewn cerbydau arbenig wedi eu darparu gan Mr. Harrison, arolygydd'cyffredinol y llinell, YJ. hwn oedd wedi trefnu i swyddog arbenig deithio gyda'r un gerbydres. Oddeutu haner awr wedi deg ymwelodd yr aelodau, tua 48 mewn nifer, gan gynwys cyfeillion, a chwarel- au Oakeley, lie y derbyniwyd hwy gan y Mri. Robeit Roberts, William Owen, ac Owen Jones Ymwelasant ag amryw leoedd gan eu harchwilio yn fanwl, megys y K. Floor yn y chwarel isaf, lie y gwelsant y dull o weithio o dan y ddaiar; y pumping chamber, lie y mae rhai o'r peirianau mwyaf godidog yn Ngogledd Cymru i'w gweled. Cymeraspnt ddyddordeb arbenig hefyd yn y Chwarel Ganol lie y gwelsant y dull o hollti llechau &c. Atn un o'r gloch cymerodd ffrwydriad ar- dderchog o Iwyddianus le o dan reolaeth y gweithwyr. Cyn i'r cwmni adael y chwarel cymerwyd darlun chonynt gan Mr. Williati-i Roberts, ac ar eu ffordd yn ol gan Mr. Hodgson, ar ol yr hyn yr aethant i'r Neuadd Gyhoeddus i fwynhau ciniaw penigamp oedd wedi ei ddarparu yn y modd goreu ar eu cyfer gan Mr. Dunlop. Wrth y byrddau eisteddai, gyda Mr. Dunlop yn y gadair, oddeutu haner cant o aelodau y clwb uchod. Yn ychwanegol atynt hwy yr oedd y bonedd- wyr lleol a ganlyn :—Y Parch T. r. Owen, curad; y Doctoriaid Robert Roberts, Richard Jones, H. D. Evans, a Vaughan Roberts, y Mri. William Owen, Robert Roberts, Owen Jones, H. P. Maybury, arolygydd y Bwrdd Lleol. Wedi gwledd ragorol, cliriwyd y byrddau, a rhoddodd y cadeiiydd y Ilwnc destyn cyntaf allan sef y Frenhines a'r Teulu Brenhinol. Yn ei anerchiad cyfeiriodd Mr. Dunlop at fwriad y Frenhines i ymweled a Ffestiniog ddwy flynedd yn ol, ond y buraid taflu hyny heibio oherwydd rnarwolaeth Due Clarence. Wrth gyfeirio at ymweliad Tywysoga Thywysoges Cymru ag Eisteddfod Caernarfon, dywedai y cawsent gystal croes- awiad gan chwarelwyr Ffestiniog, pe y deuent yma, ag a gawsant yn unman yn y wlad. Gyda golwg ar Chwarelan Oakeley, y rhai yr oedd y didthriaid wedi ymweled a hwy, yr oedd yn gallu tystio yn hyderus fod y teimlad- au goreu yn ffynn rhwng y perchedogion a'r dynion. Hefyd credai yn sicr, fod perchen- ogion y chwarel yn nodedig o ffodus am en bod yn meddu yn eu gwasanaeth y.gweithwyr mwyaf rhagorol yr oedd yn bosibl dod o hyd iddynt. Yr oedd llawer o lwyddiant y chwarel yn ddyledus i reoleiddiad rhagorol y swyddogion oedd o dan arolygiaeth Mr. R. I Roberts. Wrth ddweyd hyn, yn y dyddiau presenol 0 ysgarmes rhwng cyfalaf a llafur, tybia ei fod yn dweuet llawer iawn. Teimlai j cu uyu yn cael eu iianrhydecldu yn fawr drwy j ymweliad y fath nifer o foneddigion galluog ac adnabyddus.—Cynhygiodd Mr. Watney bleidlais gynes 0 ddiolchgarwch 1 Mr. Dunlop am ei garedigrwydd dihafal tuag at yr yrnwel- wyr. Dilyrnvyd ef gan amryw foneddigion eraill, y rhai a dystient yn unfryd i'r golyg- feydd godidog a welsant yn chwarelau Oakeloy. Rhoddwyd amryw lwnc-destynau eraill, ar y rhai y siaradodd y Parch. T. J. Owen, Dr. Jones, a Dr. Roberts. Ymad- awodd yr ymwelwyr gyda'r tren haner awr wedi tri am Borthmadog, ac yr oedd yn ymddangos arnynt eu bod wedi eu boddhau ( yn fawr ar eu hymweliad a Ffestinicg.
IAMRYWIOL.
I AMRYWIOL. iJarllenwyd Mesur Pont Talycafn am y drydedd waith yn y Senedd yr wythnos deli- weddaf. Y11 Llvs yr Ysgariad dydd Iau diweddaf, yr oedd pump o achosion, yn y rhai y ceid y gwragedd yn gofyn am ysgariad oddiwrth eu gwyr, yn benaf ar bwys y fifaith eu bod yn arfer creulondeb yn eu meddwdod. Mae Edison yn awr yn dyfesio cynllun i iro yr ochrau allanol i'r llongau, er eu gallu- ogi i fyned drwy y dyfroedd yn gyflymach. Dywedir os llwydda yn ei ymgais, y gellir gwneyd y daith i'r America mewn pedwar diwrnod. Dywed go-hebydd y Westminster Ga"cite fod cynifer a deugain mil wedi marw o'r cholera, yn Canton, yn China, yr wythnos ddiweddaf. I bob golwg ar hyn o bryd y mae y stric fawr Americanaidd wedi dod i'r pen, yn fwy arbenig yn ngwaith arweinwyr y dynion yn dadleu yn erbyn i'r gwahanol ganghenau masnachol sefyll allan. Mae Crseiro Santo, yr adyn a drywanodd Carnot, ar-lywydd Ffrainc, wedi anfon llythyr at ei frawd, yn gwrthod gwasanaeth y bar-gyfreithiwr Italaidd, Ponireider, i'w amddiliyn, gan ychwanegu y gwyr pa fodd i amddiffyn ei hun gerbron y rheithwyr.
Family Notices
GENEDIGAETHAU. Gnlhtiis.Ar y lOfed cyfisol, priod Mr John Griffiths, lai'nfoel, Blaenau Festiniog, ar fab. W^illiams.—Ar y 9fed cyfisol, priod Mr Hiigli Williams, Bryntawel, Tanygrisiau, ar fab. Parry.—Ar yr I6eg cyfisol, priod Mr. Edward Parry, Panthwfa, Tauygrisian, ar fab. Pugh.Ar y 14eg cyfisol, priod Mr. J. Pugh, 99, Manod road, Blaenau Ffestiniog, ar fab. Jones.—-Ar yr 11 eg cyfisol, priod MrCadwaladv Jones, 37, Manod road, ar ferch.