Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

11 SEFYLLFA DDIFRIFOL PETHAU…

?;,!?o?, i j?I . LLAN RWiST…

News
Cite
Share

?;?o?, i j? LLAN RWiST .(, i 1,,1 Gapel Penud. —Yn y Capel uchod, dyddiau Mercher a lau, Ebrill 11 a 12, cynhaliwyd cyf- arfodchwdrterol Cymanfa Bedyddwyr siroedd Denbigh, Fflint, a Meirion. Yr oedd y Gyn- adledd dydd M ercher o d an lywyddia.eth yr Is-gadeirydd, y Parch B. Evans, Rhuddlan, yn absenoldeb y Llywydd. Gweithredwyd fel ysgrifenydd yn ei ddull deheuig ei him gan y Parch E. R. Jones, Brymbo. Ymdriniwyd yn fanwl a lliaws o faterion yn dwyn cysylltiad a chynydd yr enwad yn y tri Sir a gynrychiol- wyd. Yn neillduol, y gwaith Genhadol Car- trefol ynyrh wn yn ddiweddar y mae dyddordeb neillduol yn cael ei deimlo ac ymdrechion canrnoladwy wedi eu gwneutbur yi-i y ff ordd o gynorthwyo eglwysi gweiniaid, a ebychwyn achosion newyddion. Paratowyd ymborth yn Vestry y Capel i'r gweinidogiop. ar cenadon gan bwyllgor a chwiorydd yr eglwys. Yr oedi yr holl drefniadiu yu, bobpeth a ellid ei ddym- uno. yr byn a Mlewyrcha gryn glod iddynt ac am yr byn y cawsant bleidlais neillduol o ddioichgarweh gan y Gynadledd. Ifos Fercher a dydd iau; pvegethwyd gan y gweinidogion canlynol Parchn. A. J. Parry, Cefnmawr-j.- H. C. Williams. Corwen; W. G. Owen, Colwyn; T. Roberts, Abergele E. Mitchell; Rhos J. James, Puthin ;,E. Wil -li, Holywell; T. Jones. Bagillt It r oedd y capel yn orlawn, a llawer y noson ddiweddaf yn analluog i gael lie. Yr oedd yr oedfaon yh fendithiol, yeanu yn fywiog, a'r pregethwyr yn eu hwylisu goreu yn dweyd yr hen banes gyda grym a hyawdledd anarferol. Trodd y cyfarfod all-n yn llwyddiant perffaith yn mhob ystyr, a dymuna yr eglwys gydnabod yn ddiolchgar yr holl gyfeillion a estynasant 6u caredigrwydd gyda'l' parod- i rwydd ar sirioldeb mwyaf. M?e yr eglWY sl mewn cyfiwr dymunol a llwyddianus ac yn Uawngwaith. LLYS YNADOL.—Dydd Iau, o flaen Dr. Jones ac O. Isgoed Jones, Ysw. Lladrala ganhen droseddwr.—Yr hedd- geidwad Bebb a gyhuddai Owen Williams (Now Minffordd). o Bangor, o ladrata glo oddiar J. Jones, Bryntrallwyn, Llansa.ntffraid Bu yr achos :> flaen y llys o'r blaen, a chodwyd gwarant i ddal y troseddwr, gan nad oedd yn ymddangos. Cafwyd ef yn ngharchar Caer- narfon, wedi ei draddodi am drosedd mewn lie arall. Ti-oseddodd drachefn y dydd y daeth allan, ac anfonodd ynadon Caernarfon ef yn ol am fis. Y mae hyn yn rhoddi cyfrif am yr I oed iad yn ei ddwyni fyny yn Llanrwst, yn ol y warrant roddwyd i'w ddal. Dywedodd mewn amddiffyniad mai y dyn oedd gydag ef a'i .L tynodd i mewn i'r lladrad. Traddodwyd ef il garcharal11 fis. Y mae yn hen droseddwr- dim llai na 57 o achosion yn ei erbyn ar lyfr; llys Bangor yn unig, a'r .troseddau hyny yn cynwys rhai duon iawn. Ymae ei gymar ar goll, wedi ffoi rhag yr awdurdodau sydd yn chwilio am dano ar wahanol gyhuddiadau. LLYS YXADOL ETO.—Dydd Llun, o fl:.en yr un ynadonag- a eisteddai dydd Iau. Gi heb drwydded.—Harold Wood a gyhuddai Alfred Thomas o fod yn cadw ci heb drwydded. Eto am yr un trosed(I.-Ilarold Wood a gy- huddai David Roberts, cigydd, o gadw ci heb drwydded. Amddiffynid gan Mr Dayid Jones. Gan mai hwn yw yr ail waith, rhaid dirwyo i 25s., ond argymellai y fainc ar i'r Bwrdd ei ostwng i 58. Achosion a(ldysg.-Evan Jones, y swyddog gorfodol, a gyhuddai John Davies; Chwarel y Rhos, Capel Curig, o esgeuluso anfon ei blant i'r ysgol. Dirwy o 5s. yn achos y triphlentyn. Eto.—John Morris, Bronhyfryd, Llangerniw, a gyhuddido esgeuluso anfon ei blant i'r ysgol. Dirwy o 6s. I Eto.-Daniel Jones, Brynawel, Dolwyddelen, a gyhuddid o esgeuluso addysg ei blentyn. Cyflwynwyd tystysgrif gan frawd y plentyn, thaflodd y fainc yr achos allan. Peidio ialu at gyrtal ei dad.—William Parry, y swyddog elusenol, a gyhuddai Lewis Jones, Brymbo, Eglwysbach, o esgeulaso talu swllt yr wytbnos at gynal ai dad, yn ol archeb y gwarcheidwaid arno. Caniatawyd gwaratit yn ei erbyn. LLYS ARBENIG.-Dydd Mawrtb; o flaen Dr Jones sc O. Isgoed Jones, rYsw. Ymgais am hunan-laddiad.- Evan Jones, Cerniach, Llanrwst, a ddygwyd i fyny ar y cyhuddiaduchod Ei fab, Richard Jones, a dystiodd fod ei dad yn isel ei feddwl er's amser, ae aeth allan i'r. ydlan at y das wair Ionawr 28, i dori ychydig o'r das, fel y dyvvedai wrtho. Aeth yntau yno yn mhen ychydig ar ei ol, a chafodd ef ar ei liniau, ei wddf wedi ei dori, a'r gyllell wair ar lawr yn ei ymyl. Dr Evans a dystiai iddo gael ei alw at Eviin Jones, Ion. 28. Cafodd fod twll dwfn wedi dori yn ei wddf. Bu mewn sefyllfa isel o ran ei feddwl cynt, ac yntau yn gweini arno. Yr oeddyn wellynawr, a chredai ei fod yn abl i ofalu am dano ei hun. Rhwymwyd ef i gan'punt, a'i ddau fab fel meichiafon i'r swm o haner cant yr un.

.BETTWS-Y-COED. -.j

I ; BLAENAU FFESTINIOG,|

POttTlIMADOG.

[No title]