Hide Articles List

12 articles on this Page

I.AT EIN GOBEBWYR.I

Advertising

- - - - - - - MESUR DADGYSYLLTIAD.

[No title]

-_.___"---__- - - - -. - -…

News
Cite
Share

ADDYSG GANOLRADDOL YN I FFESTINIOG. Nos Wener, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr Assembly Rooms, at y gwaith o sef- ydlu ysgol^ganolradd yn y lie. Daeth cynull- iad da o brif ddynion yr ardal ynghyd, er nad cymaint ag y buasid yn disgwyl gyda mater mor bwysig. I Cymerwyd y gadair gan Mr. E. P. Jones, U.H., cadeirydd y bwrdd ysgol, a'r pwvllgor Heol yn nglyn a'r mater, a chaed ganddo sylwadau teilwng ar amcan y cyfarfod, yn nghyda'r gwahanol symudiadau gyda pha rai yr oedd y chwarelwyr fel dosbarth wedi cymeryd rhan pur f}wiog- a phwysig yn- ddynt. Dangosai y fantais mewn gwedd arianol fyddai i Ffestiniog gael Ysgol Ganol- raddol. Dywedai y ceid 1500p o'r Llywod- raeth i'r pwrpas hwn, yn nghyda 500p arall. Hefyd, wedi i ni wneyd yr ysgol cystal ag y gallwn, fod boneddwr arall yn barod i ddyfod ymlaen a rhoddi lOOOp. er ei gwneyd yn well. Darllenodd Mr R 0 Jones, clerc y pwy11- gor, lythyr a dderbyniodd oddiwrth Mr. W. ) C. Davies, yn yr hwn y gofidiai nas gallai, oherwydd pwysau gwaith, fod yn y cvfarfod heno, ond gobeithiai fod n ddefnydd os byddai angen-ei help mewn cyfarfodydd yn y dyfod- ol agos. Hyderai y mynai ardalwyr Ffest- iniog yssrol deilwng o'r lie, ac adeiladau teilwng o'r vseol (cymerarhvyaeth). Y mae caredigion addysg drwv y wlad yn disgwyl wrth Ffestiniog i wneyd ei rhan eto. fel yn y gorphenol, i fod ar y blaen gyda chwestiwn addysg (cymeradwyaeth). Yn nesaf, galwyd ar y Proffeswr J. M. Jones, o Goleg Bangor, yr hwn a sylwai fod gwerin-bobl Cymru ar y blaen i'r holl gen- hedloedd eraill, ag eithrio yr Alban, yn eu dyhead am nddysg. Yr oedd v chwarelwyr wedi en ill iddynt eu hunain er's blvnvdddau y cymeriad o fod ar y blaen i'r werin-bobl yn gyffredin yn hyn. Yr oedd wedi clywed fod rhai yn dvwedyd fod yr ,sgol oedd gan- ddynt yn awr yn llawn digon i gyfarfod angen plant v cbwarelwyr, oLd nid oedd dim ffolach erioed wedi dod o ben dvn call. Yr oedd angen ysgol ganolraddol i lanw y bwlch rhwng yr ysgolion elfenol a'r colegau. Yn nesaf, gahvvd ar Miss Fewings, Dol- gellau, yr hon a longyfarchai Gymru heddvw ar y ffaitb ei bod yn meddu cynllun o addysg berfifaith. Tybia rhai nad oedd ar Ffestiniog angen am ysgol ganolraddol, ond yr oedd hi yn barnu'n wjhanol. Y mae vn awr tua 2000 o blant yn ysgolion Ffestiniog, a gellir disewyl o leiaf ddesr y clnt o'r rhai yna i fvned i'r ysgolion uwchmddol, yr hyn a wnai eyfanrif o 300. Peth bosibl iawn fyddai i bump v cant"o'r rhai y?;a drachefn fyned vn mlaen i'r ysgol ganohadd, vr hyn fyddai'n 150, a gellid cael ysgol lwyddianus iawn gyda'r nifer yna. Wedi hvny elai dau, neu efallai bump v cant i'r brifysgol. Rhoddodd gymeriacl uchel iawn i barod- rwydd genethod Cvmreig i ddysgu, mor bell ag yr oedd ei phrofiad hi yn myned. Yn nesaf cynyg-iwyd penderryniad gan yr Henhdur A. Roberts, "Ein bod fel cyfarfod yn llawenhau am fod ysgol ganolradd i gael ei sefydlu yma, a'n bod yn ymrwymo i wneyd ein goreu i gael y drysorfa ang-emheidiol er codi yr adeiladau gofynol." Os na cheid ysgol yma byddem yn colli y 1,300p o'r sir, a rhaid fyddai i ni dalu ein rhan o'r dreth at ei chynhal mewn lie arall. Mr. W. W. Jones wrth gefnogi, a sylwodd fod y ffaitb fod ysgol ganolradd yn cael ei sefydlu yn y lie yn destyn o lawenydd ar- ben Ig. Yr oedd ein hanes yn y gorphenol yn rhoddi sail dda iddo ef gredu v byddai i ysgol ganolradd hefyd gael ei sefydlu, Pasiwyd y penderfyniad yn unfrydol. Y Frif-athraw Roberts, Aberystwyth, a anerchodd y cyfarfod nesaf, a chafodd dder- byniad neillduol o groesawus. Cyfeiriodd at y sel a ddangoswyd gan chwarelwyr at add- ysg yn y blynyddoedd o'r blaen, a'r gwahan- iaeth mawr oedd rhwng deddf addysg ganol- radd a'r syniad cyffredin am ysgolion gram- madegol. Talodd deyrnged uchel o barch i'r boneddigesau am y rli an a gymerwyd gan- ddynt hwy yn nglyn ag addysg Cymru yn y gorphenol, a dwy elfen ag y deimlai ef yn falch iawn ohonynt yn y mesur ydoedd fod yn bosibl i weithwyr lywodraethu y gyfun- drefn, ac ni wneid gwahaniaeth rhwng y rhywiau. Y í oedd y delwy elfen yma yn rhai addawol iawn. Yr oedd ef o'r farn mai plant uwchlaw y 6ed safon ddylent fyned i'r ysgol ganolradd. Yr oedd yn bwysig ar fod yr athrawon yn yr ysgolion elfenol y rhai goreu ellid gael. Gellid gyda gofal eu gwneyd yn ysgolion canolradd mewn ardal fechan yn gystal u dim ysgolion yn Llundain, neu Lyn- lleifi-ed. Cyfnod newydd ar y wlad oedd hwn. Os yw Ffestiniog i gymeryd ei lie yn mhlith y trefi yn nglyn ag addysg, y mae yn rhaid Iddi wrth ysgol ganolraddol, a gobeith iai y ceid cyfle cyn bo hir i'r pupil teachers fanteisio ar yr addysg e-eid yn y cyfryw ys- golion. Anogodd hwy i fyned ati o ddifrif ac ar unwaith er sefydlu yr ysgol ar linellau cadarn. Cynygiwyd diolchgarwch y cyfarfod i'r siaradwyr gan y Parch. D. Roberts, Rhiw, a chefnogwyd gan y Parch. S. Owen, yr hyn a derfynodd y cyfarfod.

[No title]

7-7-7-Y DDIRPRWYAETH DIROL.

DAL DYNAMEITWYR YN .LLUNDAIN.

I I JEHU A'R ESGOB.

I SEGURDAL DUG COBURG.

I ARGRAFFYVYR -CAERNARFON.

Family Notices