Hide Articles List

10 articles on this Page

Y--A'RI Y SAETH A'R r/YVA-

BETHESDA.1

ICYNGOR SIROL iEIn!IONYDD.

News
Cite
Share

CYNGOR SIROL iEIn- IONYDD. Dydd Iau, cynaliwyd cyfarfod neillduol o Cyngor Sirol Meirionydd yn y Bala i ystyried a thrafodd (1) y cynllun am addysg ganolradd yn y sir fel y mae wedi ei gyhoeddi gan Ddirprwyaeth Elusenau; (2) i yslyried a thrafod penau deddf neu freinlen er cyfan- soddi Prif-athrofa Cymru fel ei mabwys- iadwyd yn Nghynadledd Gyfunol y; Brif- athrofa a gynaliwyd yn yr Amwythig, ar y 6ed o Ionawrdiweddaf, yn nghyda chofnodiad ar y freinlen fwriadedig wedi ei dynu allan gan Dr. Isambaid Owen. Llywyddwyd gan Mr. A. Osmond Williams, U.H,, ac yr oedd nifer dda o aelodan wedi dod yn nghyd. Darllenwyd llythyrau oddiwrth Fwrdd Ysgol Llanbedr a chyfarfod misol Gorllewin Meirionydd o blaid sefydlu pum' ysgol yn y sir, ac oddiwrth Fwrdd Ysgol Ffestiniog o blaid tair ysgol. Cynbygiodd Mr. Haydn Jones, Towyn, fod y cynllun o Addysg Ganolradd yn cael ei dderbyn gyda'r eithriad o fod yr adranau 84 a 91 yn cael eu rhoddi i mewn fel y cyflwynwyd hwy gan Gyd-bwyllgor Addysg ac yn lie y rhai a roddwyd i mewn gan Ddir- prwywyr yr Elusenau. Eiliwyd gan Henadur Lewis Lewis. Yr Henadur Edward Jones a ddywedodd nad oedd raid i'r cynllun wrth ond ychydig amddiffyniad ar ol araeth glir Mr. Haydn Jones. Yr oil oedd arnynt eisieu ydoedd cyfranu addysg, nid i ryw ardal neillduol, ond i'r holl sir (clywch, clywch). Yr oedd Bala, Dolgellau a Ffestiniog wedi dangos fod ganddynt bob hawl i'r ysgolion. Ond a oedd y pwyllgor i aros yma, ac i esgeuluso parthau ereill o'r sir ? Byddai hyny yr anghyfiawnder mwyaf nid yn unig i'r treth- dalwyr ond i ieuenctyd y sir (clytfch, clywch). Y Cyngborwr E. Parry Jones a sylwodd fod ysgolorion yn myned ar gynydd Yr oedd yn cofio y drafodaeth pan y ceisiwyd sefydlu un coleg, fod rhai yn dweyd fod yr un hwnw yn ormod, a phan y ceisiwyd tri dywedwydfod un yn ddigon, ond pan gafwyd y tri yr oedd yr un wedi myned yn gryfach. Yr Henadur Jonathan a ddywedodd ei fod ef yn rhyfeddu at y llythyr a dderbyniwyd oddiwrth Fwrdd Ys-ol 1, festiiiiog yn pleidio tair ysgol. oblegid yr oedd pawb ac yr oedd ef wedi bod yn siarad a hwy yn cymeradwyo cynllun y pwyngor (clywch,, clywch.) Sylwai yr Henadur Andreas Roberts os edrychirar Addysg Gftnolraddol a'r y^gohou canolraddol o gyfeiriad arianol a masnachol yn unig. Y m'?e y cvfeillion hyny sydd am ddim ond tair ysgol Ganolraddol i'r sir yn bur agos i'w lie, gan y byddai y dosparthiadau ysgolion yn fwy cyfartal i'w gilydd o ran poblogaeth, a gwerth trethiadol a gallu i dalu yn well i'r Staff angenrheidiol i gario yr ysgolion yn mlaen. Pe y rhoddid Towyn, Abermaw, a Dolgellau yn un dosparth ysgol, I byddai ei boblogaeth felly yn 20,000, a'i werth trethiadol oddeutu £ 97,000, yr hyn fyddai bron yn gyfartal yn y pethau hyny i ddosparth ysgol Ganolraddol Ffestiniog, ac ni byddai y draul ond i gyfarfod ag un Staff yn He tair. Ond pan gymerir i ystyriaeth arwynebedd y dosparth gynygir i ysgol gan- olraddol Dolgellau, sydd yn cyraedd o Din as, Mawddwy, Abeillefeni, Talyllyn, Corris, Pennal, Aberdyfi, Abergynolwyn, Towyn, Abermaw, Dyffiyn, Harlech, Talysarnau, ae i gyrion Trawsfynydd. Y mae traul ac lanhwylustod mawr yn cyfodi i'r boblogaeth i gyrchu eu plant i Dolgellau, o'i gydmaru a dosbarth ysgol Ffestiniog, He y mae y boblog- aeth yn llawer nes i'w gilydd, a'r ysgol. Gan hyny credai y dylai egwyddor y cynllun sirol o ddwyn yr ysgolion canolraddol mor gyfleus ag oedd bosibl i'r boblogaeth, bwyso o blaid cynllun Pwyllgor Addysg y Sir, o sefydlu y nifer a gynygir yn y scheme. Ar gynhygiad yr Henadur Edvyard Jones, braslun siarter Prif-athiofa i Gymru.

MARWOLAETH "MR DAVID JAMES…

BLAENAU FFESTINIOG. I

MAENTWROG.I

CLYWED.

Family Notices

LLANRWST.

lVIESUR lVIR GLADSTON:M I