Hide Articles List

10 articles on this Page

NODION Y DYDD.

News
Cite
Share

NODION Y DYDD. Cafodd Mr John Redmond nifer lied ddíJ i'w bleidio yn Nhy y Cyffredin yn nglyn a'i gynygiad i ryddhau y carcharor- ion Gwyddelig, sef y dynameitwyr. Yr oedd ei araeth ef ei hunan yn dda iawn, ac ar y cyfan yn un eithaf cymedrol. Nifer ei bleidwyr oedd 83. Gwneid hwy i fyny o naw o Barnelliaid, a 63 o Wrth-Barnell- iaid, yn nghydag un ar ddeg o Ryddfryd- wyr, yn mhlith pa rai y cawn enwau rhai o Radicaliaid Cymru, megis y Mri. p. Lloyd George, John Herbert Lewis, John Herbert Roberts, Arthur Williams, ac R. D. Burnie. Tua diwedd yr wythnos o'r blaen bu farw Mr Louis Jennings, yr aelod Ceid- wadol adnahyddus dros Stockport. Er ei fod yn lied wael er's tro, daeth y diwedd gyda sydynrwydd. Yr oedd wedi ei ddwyn i fyny fel newvddiadunyr, a gwnaeth waith rhagorol fel y cyfryw yn y Taleithiau Unedig*. Bu ar daith yn yr India dros y Times (LlundainJ, ar ol yr hyn y cynhygiwyd iddo olygyddiaelh y New York Times, yrhon swydd a dderbyn- iodd. Wedi. blynyddau o lafur caled a Hwyddianus yno, daeth i'r wlad hon, ac yn lied fuan etholwyd ef i'r Senedd dros Stockport. Yn Nhy y Cyffredin, pan oedd Mr James Lowther yn dwyn yn mlaen ac yn siarad ar ei gynhvgiad i atal 1 dramorwyr dinodded ymfuda i'r wlad hon, cyfeiriodd at Mr Jennings[Iel un oedd wedi dwyn penderfyniad cyffelyb o flaen y Ty. Ar ei ol yr oedd Mr Gladstone yn siarad, yr hwn yn nghwrs ei araeth, a ddywedodd fod Mr Lowther wedi llefaru geiriau teimladwy am y dnveddar Mr Jennings, yr hwn, meddai, oedd wedi enwogi ei hun yn nglyn a'r mater dan sylw. Dymunai ail-adrodd ac adsain y geiriau o gydymdeimlad, "ac y mae yn ueillduol o dda genyf wneudhyny. "meddai, am ei bod yn digwydd, fel yr wyf yn credu, nad oeddwn o gwbl mewn lfafr gyda Mr Jennings, yr hwn a'm gwnaeth, yn ol a glywais, yn arwr llyfr sydd yn if nghyhuddo o bob math o annghysondeb- llyfr sydd, yn ddiameu genyf, wedi ei ysgrifenu a'r dalent a'r medrusrwydd a'i hynoda ef, ond yn un yn anffortunus ag y mae galwadau eraill am fy amser wedi fy rhwystro i'w ddarllen." Oyfeirio a wnai y .'lWwWeinidog at lyfr o hanes ei fywyd a gyhceddwyd "gan Mr Jennings lfynyddau yn ol. Nid oedd mwyafrif y Toriaid yn Stockport yn Ngorphenaf diweddaf ond bychan, felly gellir disgwyl am ymdrechfa boeth iawn. Mae y ddwy blaid yn effro iawn o ran eu parotoadau at y frwydr. :0: Gallwn gasglu mai cyfarfod da oedd yr un a gafwyd yn Nghaer ddydd Sadwrn, pryd yr ymgynullodd Pwyl'gor Gweithiol CyngrhairRhyddfryol y Gogledd i ystyried sefyllfa cwestiwn Dadsefydliad yn ngwyneh Araeth y Frenhines. Nid oedd y cadeir- ydd, Mr Humphrey Owen, yn bresenol. Efallai nad oedd hyny o nemawr golled. gan mai Rhyddfrydwr lied ddof ydyw efe. Cafwyd llawer gweH cadeirydd yn mherson Mr Gee. Condemniai efe y llywodraeth am beidio cadw at raglen Newcastle. Ond yr oedd hyd yn nod Ryddfrydwr mor gadarn a Mr Gee yn datgan ei foddlon- rwydd mewn i'r mesur cofrestriadol gael y flaenoiiaeth a r fesur Dadgysylltiad, yr hyn sydd yn groes i raglen Newcastle, ar yr hon yr oedd Dadgysylltiad" yn ail. Cyd- welai Mr Powell, Gwrecsam, a hyny hefyd, GweH genym ni y safle a gymerodd y Parch Evan Jones, Caernarfon, sef gwrthwynehu symud cwestiwn Dadgysylltiad o'r safle a roddwyd iddo eisioes yn rhaglen y blaid Rhyddfrydig. Methai y Parch A J Parry a gweled fod Mr Gladstone wedi delio yn onest â ChymJu. Y Parch Ellis Edwards, M.A., a gredai mai wedi ein trin yn wael iawn y raw y Llywodraeth. JNid oedd Mr Gbdstone wedi rhoddi dim ond un swydd i'r aelodau Cymreig, a swydd Ohwip oedd hono. Pe buasai Mr Gladstone yn selog dros Ddadsefydliad, buasai wedi rhoddi Cymro yn y Weinyddiaeth. Siarad- odd y Parch J Machraeth Rees hefyd yn gryf iawn ar waith y Weinyddiaeth yn chwareu a Chymru. Gorphenwyd syniad-I au y siaradwyr uchod, ac craill, mewn penderfyniad, yr hwn a fabwysiadwyd gyda dim ond tri yn erbyn. Ond mae yn dda genym mai rhesymau y boneddigion hyny dros wrthod ei bleidio bedd am nad ystyrid ef yn ddigon cryf. .Er yr boll siarad a'r ysgrifenu hyn, ychydig iawn ydym yn ei glywed yn y dyddiau diweddaf am symudiadau yr aelodau Cymreig. Gobeithiwn nad ydynt yn ofni rhoddi cyhoeddusrwydd i deimlad y wlad hyd yn nod i Mr Gladstone. Nid oes eisieu dibynu pobpeth ar Mr Stuart Rendel. Efe sydd yn cael ei ddefnyddio o hyd fel cyfrwng rhwng yr aelodau Cymreig a Mr Gladstone. Gwell fyddai rhoddi prawf ar ddawn berswadiol rhywun arall, weithiau. Soniwyd y buasem ddydd Llun diweddaf yn cael rhyw ddatguddiad a'n boddlonai gan y Llywodraeth yn nghylch Dadgysylltiad. Ond dydd Llun a ddaeth ac a aeth heibio, heb son am ddim ond peth moi ddiwerth a Mesur Attaliol, Nid ydym yn deall fod Mr Gladstone wedi rhoddi unrhyw addewid y bydd i Fesur Dadgysylltiad gael ei ddwyn yn mlaen a'i wneud yn brif fesur y Senedd dvmor nesaf. Mae Mr Gladstone wedi ein gwerthu gyda chwestiwn rhaglen Newcastle. Cyn yr etholiad yr oedd y Cymru yn anwyl ac yn enwog ganddo, ond wedi iddo basio, rhydd y Prifweinidog brawf o'i anwyideb ohonom drwv roddi Dadgysylltiad ar y degfed ris yn Araeth y Frenhines. Mae y wlad wedi dangos ei hannghymeradwyaeth bendant o hyn. Ond beth y mae ein haelodau yn ei wneud? Dywedir eu bod yn gwneu'd rhywbeth. Cofynwn ninau beth yw hwnw? Yr oedd golwg rhai am frwydro arnynt ychydig amser yn ol. Yn mha le y mae yr ysbryd Ilwnw heddyw? Nid yw ein papyrau Rhyddfrydig yn taranu cymaint ag y byddent, ac y mae gohebwyr Cym- reig rhai o'r papurau Seisnig wedi cymed- roli cryn lawer ar eu syniadau. Swm y I cwbl a glybuir ganddynt yn awr ydyw am i ni fod yn blont da ac amyneddgar, liad yw yn bosibl gwthio yn mlaen ar' hytf o bryd &c. A ydyw yn iawn priodoli yr holl bethau hyn i'r ffaith fod Mr. Thomas Ellis wedi ei roddi mewn swydd.

LLOFRUDIAETH YN KETTERING.

MARWOLAETH AELOD .GWYDDELIG.

ETHOLIAD -PONTEFRACTv1

CYNGHAWS YN NGHYLCH EWYLLYS…

-ETHOLIAD WALSALL.j

ETHOLIAD HALIFAX. I

YN AELOD SENEDDOL AM DDEG…

NEWYDDION CREFYDDOL.

EISTEDDFOD ANNIBYNWYR FFESTINIOG.