Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
[No title]
T Gwlith.—Tri phenill tlws iawn. Gwnewch ymdrech arbenig sillebu yn gywir. Cyhoedffir hwy yn fuan. Peniltio,a ar ot Laura &e. -Mae cryn lawer o nerth barddonol yn eich penillion. Mae rhyw rath o feiddgarwch ynddynt. Buasent yn llawer iawn gwell pe yn fwy syml. Cofiwch fod barddoniaeth mewn symledd. Er fod yma ymdreeh at fod yn fwddonol, eto Did ydym ni yn credu fod mewn peth fel hyn farddoniaeth o gwbl Cyn y plymiaf i ddyfnderoedd Mor o hanes dynolryw. Sy'n dy gynwys. rhaid im' erfyn Benthyg hollwybodaethDuw." Mae genych amryw linellau cyffelyb, yn arwyddo eich bod yn feddianol ar ddawn arbenig i farridoni, ond fod y ddawn hono heb ei disgyblu. Mae yn werth i chwi gymeryd trafferth i ddarllen a myfyiio, nid yn unig beth a ddywedir goat, y beirdd, ond beth a ddywedir am danynt. Bydd yn dda iawn genym glywed oddi wrthych eto a hyny ar destyn arall mwy cydnaws a'ch awen, Cymru Sydd.-Rhaid eyfnewid trydydd linell yr englyn. Dydd Gwyl Detoi Sant.—Mae y peniilion yn dra chymeradwy. Do,fe aeth y gauafheibio.—Wedi eu cysodi, Yn ein nesaf. Coffadwriaethol am Mary &c.—Nid yw y penillion yn gweddu o gwbl i eneth fach flwydd oed. Buasent yn gwneyd y tro yn 11awer iawn gwell i archangel. Cofiwch ddywediad Dr Johnson, sef na ddylesid gwneyd i bysgod bycliain siarad fel morfilod. Y Tarth.—Dyma eich englyn, meddwch :— Y llonydd parth dillynol-a hwna Ar fynwes chwa hwyrol, Le daena'i gwrlid denol Pel llyn dwfr dros feillion Drwg iawn genym fod prif-fardd mor odidog a Gwilym Cowlyd wedi dwyn yr englyn oddiarnoch a'i roddi yn ei awdl farddonol ar "Brydferthwch," yr hon a gyhoeddwyd, fe ddichon, cyn i chwi allu sylweddoli y gwahaniaeth rhwng cynghanedd a chorni simdde. ENGLYNION Ar briodas y Parch J. C Jones, Hebron, Lleyn, & Miss M. A. Lewis, Tanyrallt, Maentwrog. l'w siriol fynwes eiriau—hwn ddenodd Anwyl feinir wiwlan O'n dyffryn ni, lili Ian, Ni fynai fyw ei hunan. Ninnau a rown ar eu liuniad,-heddyw, Iddynt longyfarchiad Ac o lwyr foddlonrwydd gwlad iDaw'Amen' i'n dynauniad. Gwlawier, yn ddafnau gloywon-ariy ddau Fyrdd o wir iendithion Drwy eu hynt hulied yr Ion, Eu llwybrau a mill Hebron. Maentwrog. J. R. JONES (Gerallt).
-----PENILLION I
PENILLION A ddarllenwyd yn JS ghyfarfod Cymdeithas Enweiriawl Bl. Ffestiniog. Ar nawngwaith un dydd o Fehefin Neilkluais o ddwndwr y byd, I'r fan lie mae hedd yn teyrnasu Ar orsedd distawrwydd o hyd I lechwedd y Manod talgribog Sy'n arliin o ramant ei hun, Ai sy'n megis drych gwasanaethgar I'r bryniau gael gweled en lIun.. Eisteddais ar gadair o fwsog Yn nghesail gysgodol ryw fryn, Mewn bwriäd o gael cyfansoddi Englynion i'r'Manod a'r Llyn'; Ond collais bob trem ar gynghanedd Wrth wylio rhyw ddynion oedd draw, Yn cerdded yn chwim tuag ataf A Genwair gan bawb yn ei law. Cyn hir, at y Llyn cyrhaeddasant Gan roddi'r Genweiriau mewn trefn A thynu mewn gobaith y Fasged Gllldasant bob un ar y cefn Gan arswyd ag ofn eu tramgwyddo Dynesais i gysgod y bryn, Ar ymgom a glywais cyd-rhyngddynt Oedd rhywbeth yn debyg i hyn ;— "Yn enw dyn byw Robert Davies, Medd un gwr cyhyrog yn hy. D'oes ynia r'un brithyll am gydio 'Rwyf fi am gael newid fy mhlu Wel wir Capten Hughes ebe yntau, Gwnaf finnau r'un fath yn right siwr, A cheisiwn gyflawni'r ddiareb Sef ffitio y bluen i'r dwr." Yn gogiais fy nghlust o'r tu dehau l'r Llyn r' oedd rhyw seiniau tra lion, 'Rol gwralldo. hen gan adnabyddus Y 'Fam gyda'i baban' oedd hon Yn wir pendeifynais adnabod Y gwr oedd yn gantor mor gu A gwelais cyn hir yn ei berson Y scrchog John Williams. Graigddu. Dilynais hwy 'n ol tuag adref Ymgomient yn fel us heb ball, Y naill yn dwys adrcdd Traddodiad Hen Lyn y Morwynion' i'r llall ) Ar tlydydd yn canu yn lIawen Wrth feddwl dyfodol mor wyn, Oedd iddo r'ol gweled y pysgod Yn claddu mor dda yn y Llyn. Fel yua terfynodd y nawngwaitli I, ,L. Difyraf a dreuliais erioed, > Tra nos yn ei mentyll angladdol Yn claddu y dydd wrth ei throed; Ond er i'm roi mhen ar obenydd A gwahodd cwsg melas i 'ngol, Dychwelais ar edyn breuddwydion I lan Llyn v Manod yn ol. Nawn arall, mewn nwyd ymchwiliadol Am greiriau yr amser a fu, At 'Feddau y Gwyr'—fe ymrodiais I fwyniant unigedd mor gu Ond ataf daeth awel o'r mynydd Mewn hoen gan spardynu fy nerth, A than ei dylanwad esgynais I gopa y Gamallt dra serth. Ceir yma gyflead rhagorol 0 wir arucheledd ein gwlad, Y bryuiau fel mtld wyliedyddion Yn gwarchod y fan mewn parhad A'r Llynoedd fel dyfal athrawon Yn dysgu'r ymwelydd o hyd, I edrych lei hwy tua'r nefoedd Yn nghanol ystormydd y byd. Dan bwys drychfeddyliau reI yna t Yn sydyn eisteddais i law-r, Cofnodais hwy, riiag i ddyfancoll Gael gwledd o athrylith mor fawr; Ond siomiant fel cawr a drywanodd Fwriadau fy nghalon bob un, Dangosodd yu glir na chawn dreulio Y nawn ar y inynkdd fy-hian. Canfyddais In mawr o bysgotwyr Yn pryanr ddynesu i'r lie, .Wrth wrando fe'l elywais yn enwt Ryw Dretor, a, Hugh Plas-yn-dre Aeth pyneiaa y dydd dan eu sylw Tra'i,. disgwyl am "naid' ar y pysg, Ar ffraeth Daniel Jones o Langernyw I'w dala roi ddarlitli llawn dysg. 'Roedd arogl blodau Meheiin Yn Ilwythog o iecliyd yn dod, I chwyddo hapusrwydd y fangre Ar gopa y mynydd di-nod Tra'r diwyd Enweirwyr yn treluio Eu horiau hamddenol ynghyd, Dan wen diniweidrwydd ei hunan 0 olwg deniadau y byd. Cael chwaneg i dreulio eu horiau Mewn gwir ddiniweidrwydd fel hyn. A fyddai'n yn hyfforddiant i grefydd Wneyd duwch hanesiaeth yn wyn: Cael chwaneg i ddringo'n mynyddau » I'r fan lie mae purdeb yn byw; Ddifoda y drain eenfigenllyd Wnallt flodau athrylith yn wyw. Aelodau Gymdeithas Enweiriawl Eweh rhagoch mewn llwwclcliant o hyd, A threuliwch eich oriau hamddenol Mewn mwyniant di-bechod i gyd Dymunwn i ran Mr Casson, Ar doeth Ysgrifenydd hir oes, A llwyddiant i droi llawer eto I rodio ar lwybrau glan moes. BRYFBIB.
CYLCHWYL LENYDDOL A CHERDDOROL…
CYLCHWYL LENYDDOL A CHER- DDOROL GORPHWYSFA PENRHYN. Cynhaliwyd y gylchwyl hon ddydd Linn y Pasg, caf- wyd tywydd da a chynulliad da a hwyl ardderchog. Dehcreuwyd cytarfod y pvydnawn am 2 o'r gloch trwy ganu ton gynulleidfaol, Cymerwyd y gadair gan y Parch Robert Roberts, Cae Ednyfed ac arweiniwyd yn ddeheuig iawn ,gan Gwilym Deudraeth, aed yn mlaen yn y drefn a ganlyn :—Anerchiad gan v cadeirydd. Beirniadaeth Mrs. G, J. William?, ar y Tea Cosies, goreu Miss M. C. Williams, Church st. Miss Maggie Jones, Hyfrydle gadd y wobr am ganu "0 mor harda yw y Nefoedd Wen." Dyfarnwyd y wobr am y Pencil Drawing i Annie Lloyd Williams, Cambrian View. Enillwyd y wobr am ganu yr unawd "Can y Wenynen" gan W. J. Edwards, a R. J. Jones yn ail. Cafwvd cystadleuaeth ddoniol ar adrodd "Adwaener y dyn wrth ei waith" ae euillwyd gan T. H. Jones, 2il, G. P. Williams 3ydd Ritche Davies. Caf odd Miss Maggie Rowlands y wohr am ganu "Cryd gwag fy mhlentyn yw". Dyfsrnodd Mrs. Williams y wobr am wneyd Print patch and Butter hole i Miss J. P. Thomas, Minfforud, 2il Jannet Alice Edwards, 3ydd Ellinor Owen. Un party ddaeth yn mlaen ar y pcdwarawd i blant ''Pie buost ti heddyw yn lloffa" a chawsant y wobr gyda chan- moliaeth. Y gorew am ysgrifenu llythyr Cymraeg Mag- gie Rowlands, J. A. Roberts, ac Annie Jones yn gyfartal oreu, E. E. Williams, a R. R. Jones yn gyfartal ail. Y goreu am ysgrifenu traethawd ar Lie ae amcan y gwyrthiau yn nysgeidiaeth yr Arglwydd Iesn" ydoedd Mr. Wm. Davies, Snowdon St., Portmadoc. Daeth dau o goreu plant yn mlaen i gystadlu ar yr anthem Yr Hafan Ddymunol sef cor Carmel dan arweiniad Dewi Gerddor, a chor Gorphwysfa dan arweiniad Mr. R. S. Jones, goreu cor Gorphwysfa. CYFARFCD YR HWYR. ,'u Cadeirydd farcli ft. J. Jbvans, arweinyaa ivir it u Pritchard. Agorwvd y cyfarfod drwy i Mr. D. Lloyd Evans ganu "The Village Blacksmith." Y goren ar yr englynion i'r Bicycle ydoedd Gwilym Deudraeth. Wele yr englyn "Bicycle sydd farch heb eisiau- dwr na cheirch I'w droi'n chwyrn rhoi'r gwadnau Dan ddyn mewn mynyd neu ddau, Aiff o ol wg ceffvlau." Mr Ephraim Williams, Rhyd pedd y buddugol ar ddad- ganu "Bwthyn yr amddifad, Shawl o eiddo Miss M. C. Williams, Church stteet, oedd yr oreu. Enillwyd y wobr am ddadganu y ddeuawd Y ddau lowr" gan Mr Morris Jones. Glantecwyn oedd y buddugol ar yr Hir a Thoddaid i'r diweddar Mr. Heniy Jones, Caegwyn. Enillodd Mr Ephraim Williams y wobr ar ddadgauu "Cledd fy nhad." Yn gyfartal oreu ar y traethawd "Yr aelwyd, yr ysgol ddyddiol, a'r eglwys yn eu dylanwad ar gymeriad ein hieuenctyd," Miss Williams, Gwilym ter., a Mis Miriam Davies, yn gydradd, a Miss M. E. Owen, Bank, yn ail. Un party ymgeisiodd ar ddad- ganu "Hwyrddydd baf," ac er rhoddi beirniadaeth lem arnynt dyfarnodd Alaw Ddu hwy yn deilwng o'r wobr. Glan Tecwyn a Mr J G Jones, Bryncrug yn gydradd ar y Gywydd i'r Oynhauaf. Mr Owen Pritchard, Market Square oedd y buddugol ar ffurfio Cwestiynau. Daeth pedwar party ymlaen i gystadlu ar ddadganu Distain- ful of danger," goreu gyda chanmoliaeth uchel, party Mr. C. Williams, Rhyd. Y buddugol ar y prif draeth- awd "Hanesiaeth Ysgrythyrol fel cangen o addysgiaeth yn ein hysgolion dyddiol," ydoedd Mr Ellis Ellis, Bryn- berthen. Yn awr doed at brif atdyniad y cyfarfod, sef y gystadleuaeth gorawl "Yr Arglwydd yw fy mugail," a "Haleliwia, Amen." Daeth dan gor ymlaen i'r ym- drechfa, Nazareth, dan arweiniad Mr. 0 R Williams, a Gorphwysfa, dan arweiniad Mr John Jones. (Ymddeng- ys beirniadaeth Alaw Ddu yn ein nesaf.)
DAMWAIN DDIFRIFOL YN CHWAREL…
DAMWAIN DDIFRIFOL YN CHWAREL DIPHWYS. Brydnawn ddydd Gwener y Groglith cymerodd dam wain ddifrifol le yn y chwarel uchod. Ym- ddengys i Mr. D. J. Williams, mab Mr. W. Williams, Glanaber, rodddi ei droed yn yr olwyn. Maluriwyd ef yn y fath fodd fel y bu raid i Dr. Evans dori eu goes ymaith. Cynorthwyid ef yn y gwaitli gan Dr. Griffith, Porthmadog; Dr. Humphreys, Trawsfynydd; a Dr. Mills Roberts, Dolawel, a Dr. Price, Blaenau, 'VWYWVTWVWWW* ▼ y v ffyfv v yfyyfVvvfyyf.T
[No title]
Y gweinidog Methodistaidd enwog" y proph- wydwyd dro yn ol ei fod am droi at yr Eglwys Sefydledig ydyw y Parch. John Williams, Libanus, Maesteg. Mae efe ar fin cymeryd urdcla-u, san- taidd" gyda'r Saeson.
BLAENAU FFESTINIOG.
BLAENAU FFESTINIOG. CYNGERDD ELUSENOIJ. Nos Fawrth nesaf, fel y gwelir oddiwrth yr hysbysleni, cynhelir budd-gyngerdd y brawd cystuddiol Mr. Robert Roberts, Park Square.. Disgwylir i wasanaethu Miss Jennie Owen, Holywell, yr hon bob amser sydd wedi llwyddo. i roddi llwyr fodd- lonrwydd; Tenorydd y Bryniau, yr Cakeley Sliver- Band, ac amryw eraill. Y mae Mr. Parry Jones wedii addaw llywyiidu, a'r Parch. Pari Huws wedi addaw arwain. Y mae amgylehiadan y cyfaill dan sylw yn deilwng o sylw holl grefyddwyr yr ardal, a hyderir yn fawr y rhoddir iddo gynorthwy sylweddol yn ei am- gylchiadau cyfyng presenol. YMADAWIAD MR. W. B. LLOYD.-Dpallwii fod Mr Lloyd yr wythnos hon yn symud o Ariandy y Mr Pugh Jones & Co., Blaenau, i arolygu cangen o'r un ariandy yn Llanrwst. Yr ydym yn llongyfarch Mr. Lloyd ar ei ddyrchafiad, tra ar yr un pryd yn gofidio ein bod yn colli gwr ienanc mor ragorol ag efe o'n mysg. Mae Mr. Lloyd bellach wedi byw yma am amryw o flynyddoedd, ac ni fu meithder ei arhosiad wneyd dim ond dyfnhau paich pob dosbarth tuag ato. Bydd yn golled fawr i eglwys y Rhiw ar ei ol, yn yr hon eglwys yr oedd yn flaenor ieuanc ymroddgar. Mae yn gadael ar ei ol yn Mlaenau Ffestiniog a'r cymydogaethau luaws mawr o gyfeillion sydd yn caru Ai. les a'i lwyddiant yn mhob ystyr. Bydded ei fyd yn wyn bob amser. GALWAD. Bydd yn dda gan luaws cyfeillion y brawd ieuanc Mr. H. Jones Ellis, ddeall ei fod wedi derbyn gwahoddiad taer ac unfrydol oddiwrth eglwys Annibynol Graig Rhymney sir Fynwy. Mae Mr. Ellis- wedi dechreu ar ei:waith pwysig o bregethu yr efengyl yn Jerusalem B. Ffestiniog, ac wedi derbyn ei addygg Athrofaol yu U. C. W. Aberystwyth. Maeyn bregethwr galluog a phoblogaidd, ac yu enill parch a theimlad y rhai oil y gwasanaetha efe iddynt, Bendith yr Arglwydd a fyddo gydag ef yn ei taes newydd ydyw dymuniad lluaws heblaw —ARFON FAB. CABMEL, TANYGRISIAU.—Nos Sadwrn, cynhaliwyd cyf. arfod cystadlenol yn y lie uchod, dan lywyddiaeth y Parch. W. Parri Huws, ac arweiniad y Parch. E. C. Mason. Caf- wyd cynulliad da, a chyfarfod llwyddianus yn mhob ystyr. Am ganu yr unawd Gad i'm aros gyda thi," gwobrwywyd Jennie Williams, Penycefn; Catherine J. Williams, Fron- goch Winifred Williams, Cwmorthin; Andreas Roberts, Dolydd, a Richard Lewis, Gwyndy. Am adrodd yr Emyn 98, John E. Williams, Brynhyfryd Kate Williams, Cwm- orthin Maggie Williams, Penycefn John R. Williams, Cefnmeusydd Jennie Jones, Afon Row; E. J. Williams, Cwmorthin; Maggie Williams, Dolydd. Adrodd yr Emyn 407, Maggie Williams, John R. Williams, Jenrie Jones a William William*, Dolydd. Un ddaeth yn mlaen ar yr Unawd Alto, sef Robert Edmunds, ac yn deilwng o'r wobr. Am adrodd yr ail benod o Efengyl Luc, gwobrwywyd Laura; Williams, Doppog, Jennett A. Parry, eto a Hannah Williams, Penycefn. Can gan Eos Tudur, yn dda iawn. Am adrodd yr ail benod o Epistol Iago, gwobrwywyd C. Grace Griffith. Fron, a Hugh Lewis, Gwyndy. Cystadleu- aeth chwareu y don Saul" ar yr Harmonium, goreu Arthur Jones, Ivy House. Beirniadaeth yr englynion i'r "Undeb- wyr Papyr," goreu, Mr. E. Gwenol Evans, Corwen. Cys- tadleuaeth yr Unawd Soprano, 1* Cryd gwag fy mhlentyn yw," goreu, J. M. Edwards, Bowydcl View. Goreu am yr Ebysgrifiaeth ydoedd W. S. Roberts; 2il, Evan Griffith; 3ydd, David Williams. Am adrodd Yr Ystorm," Laura Williams, Doppog; ail, Jennet A. Parry, eto. Cystadleu- aeth yr Unawd Tenor, Bwthyn bach melyn fy nhad," laf, Eos Tudur. Beirniadaeth adrodd 1. Cor. xv., goreu, Jane E. Thomas, Tynewydd. Beirniadaeth ar y llythyrau, goreu W. S. Roberts, ail, John C. Roberts. Can gan Eos Moel- wynynwirdda. Beirniadaeth ysgrifenu y Salm gyntaf, goreu, Jennie Williams, Penycefn. Cystadleuaeth datganu y triawd, goreu, W. Owen a'i gyfeillion. Cystadlenaeth darllen chwech o adnodau, goreu, W. S. Roberts, ail, M. J. Roberts, Dolydd. Cystadleuaeth adrodd, "Arwerthfa'r Caethwas," goreu, John C. Roberts, ail John G. Jones, Glanypwll. Dyfarnwyd W. S. Roberts a Rd M. Jones, Bowydd Road, yn gyfartal ar yr Unawd Bass. Yn nesaf aed at brif waith y cyfarfod, sef cystadleuaeth y Parties daeth 3 pharti yn mlaen, sef Tanygrisiau, dan arweiniad Mr W. S. Roberts Salem, dan arweiniad Mr Griffith Davies a Brynbowydd, dan arweiniad Mr John Davies dyfarnwyd Tanygrisiau a Brynbowydd yn gyfartal oreu. Beirniadaeth y traethawd, Timotheus fel cymeriad i'w efclychu," goreu, W. S. Roberts. Beirniadaeth y traethawd, Geiriau segur a'r niwed o'u harfer," goreu John Lumley. Yna cafwyd ton gan y Band of Hope, yr hyn a ddygodd y cyfarfod i der- fyniad.—UN OERD YNO. CyJhmjuo anrheg i Mr R. H. Parry, Conglywal.-Fel y mae yn hysbys bellach fod y cyfaill Mr Parry, wedi cael galwad oddiwrth eglwys Annibynol, Bettws, Abergele. Cymerodd y cyfeillion yn Hyfrydfa, gyfleusdra ar ei ymadawiad iddangos eu parch a'u dymuniadau da iddo ar ei ymadawiad o'n plith, a phenderfynasant ei anrhegu ar "Gwyddionadur" yn llawn. Neillduwyd y gyfeillach nos Fawrth diweddaf, i rydd.ymddiddan ar ei ymadaw- iad, ac i gyflwyno yr anrheg iddo. Yr oeddis wedi dymuno ar i'r Parch Parri Huws, i ddod i'r cyfarfod i roi ychydig gynghorion ac anogaethau i'r cyfaill Mr Parry, ar ei ymgyflwyniad i faes y weinidogaeth. Agor- wyd y cyfarfod gan Mr R. D. Williams, a chafwyd anerchiadau byr ac i'r pwrpas gan Mri R. Jones, Shop,. M. O. Williams, D. Williams, Frondirion, Parch D. Davies. Yna cyflwynwyd yr anrbeg dros yr eglwys, gan Mr G. J. Evans. Cafwyd anerchiad yn llawn bywyd gan y Parch W. Parri Huws. Yna caed gair gan Mr R. Parry, o'i deimlad, a diolchodd yn gynhes Pr; cyfeillion yn Hyfrydfa am eu caredigrwydd tuag ato. CYMDEITHAS ADEILIADU MEIRIONYDD.—Nos Iau diweddaf, yn ystafell yr Ysgol Uwchraddol, yn y Blaenau,, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y gymdeithas uchod. Yn absenoldeb anocheladwy y llywydd am y flwyddvn,, Mr. John Pdrry, oherwydd damwain yn y chwatel, etholwyd Mr. William Owen, Isallt, y cynlywydd, i'r gadair, yr hwn a wnaeth ei waith yn rhagorol. Yna. darllenwyd llythyr oddiwrth y llywydd yu gwir ofidio oherwydd ei anallu i fod yn bresenol. Llongyfarchai hwy- yn galonog ar gyfrif sefyllfa peth&u ar derfyn yJlwyddyn. Manylodd y cadeirydd (Mr. Owen) yn yr un 1cyfeiriad. Wedi darllen y cyfrifon, a gwneyd rhai sylwadau arnynt I o'r gadair, a chan Mr. G. H. Ellis, cyfreithiwr y gym-