Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

T Gwlith.—Tri phenill tlws iawn. Gwnewch ymdrech arbenig sillebu yn gywir. Cyhoedffir hwy yn fuan. Peniltio,a ar ot Laura &e. -Mae cryn lawer o nerth barddonol yn eich penillion. Mae rhyw rath o feiddgarwch ynddynt. Buasent yn llawer iawn gwell pe yn fwy syml. Cofiwch fod barddoniaeth mewn symledd. Er fod yma ymdreeh at fod yn fwddonol, eto Did ydym ni yn credu fod mewn peth fel hyn farddoniaeth o gwbl Cyn y plymiaf i ddyfnderoedd Mor o hanes dynolryw. Sy'n dy gynwys. rhaid im' erfyn Benthyg hollwybodaethDuw." Mae genych amryw linellau cyffelyb, yn arwyddo eich bod yn feddianol ar ddawn arbenig i farridoni, ond fod y ddawn hono heb ei disgyblu. Mae yn werth i chwi gymeryd trafferth i ddarllen a myfyiio, nid yn unig beth a ddywedir goat, y beirdd, ond beth a ddywedir am danynt. Bydd yn dda iawn genym glywed oddi wrthych eto a hyny ar destyn arall mwy cydnaws a'ch awen, Cymru Sydd.-Rhaid eyfnewid trydydd linell yr englyn. Dydd Gwyl Detoi Sant.—Mae y peniilion yn dra chymeradwy. Do,fe aeth y gauafheibio.—Wedi eu cysodi, Yn ein nesaf. Coffadwriaethol am Mary &c.—Nid yw y penillion yn gweddu o gwbl i eneth fach flwydd oed. Buasent yn gwneyd y tro yn 11awer iawn gwell i archangel. Cofiwch ddywediad Dr Johnson, sef na ddylesid gwneyd i bysgod bycliain siarad fel morfilod. Y Tarth.—Dyma eich englyn, meddwch :— Y llonydd parth dillynol-a hwna Ar fynwes chwa hwyrol, Le daena'i gwrlid denol Pel llyn dwfr dros feillion Drwg iawn genym fod prif-fardd mor odidog a Gwilym Cowlyd wedi dwyn yr englyn oddiarnoch a'i roddi yn ei awdl farddonol ar "Brydferthwch," yr hon a gyhoeddwyd, fe ddichon, cyn i chwi allu sylweddoli y gwahaniaeth rhwng cynghanedd a chorni simdde. ENGLYNION Ar briodas y Parch J. C Jones, Hebron, Lleyn, & Miss M. A. Lewis, Tanyrallt, Maentwrog. l'w siriol fynwes eiriau—hwn ddenodd Anwyl feinir wiwlan O'n dyffryn ni, lili Ian, Ni fynai fyw ei hunan. Ninnau a rown ar eu liuniad,-heddyw, Iddynt longyfarchiad Ac o lwyr foddlonrwydd gwlad iDaw'Amen' i'n dynauniad. Gwlawier, yn ddafnau gloywon-ariy ddau Fyrdd o wir iendithion Drwy eu hynt hulied yr Ion, Eu llwybrau a mill Hebron. Maentwrog. J. R. JONES (Gerallt).

-----PENILLION I

CYLCHWYL LENYDDOL A CHERDDOROL…

DAMWAIN DDIFRIFOL YN CHWAREL…

[No title]

BLAENAU FFESTINIOG.