Hide Articles List

7 articles on this Page

NODIADAU CYFFREDINOL. I

MARWOLAETH MR W. MONA WILLIAMS,…

News
Cite
Share

MARWOLAETH MR W. MONA WILLIAMS, DEGANWY (GYNT 0 TANYGRISIAU.) Gyda chryn lawer o ciristwel-i y daetli y newydd i'n clustiau fod y brawd ffyddlon^a doeth hwn wedi gadael y fuchedd hon. Cymerodd yr amgylchiad le bore dydd Mercher diweddaf, ar ol iddo fod yn cwyno am wytlmosau o'r bronchitis, a gwanhau y nerth, nes o'r diwedd weithio angau, ac yr ehedodd ymaith at yr Iesu, yn ei 80 mlwycld o'i oedran. Nid oedd cyfarfod a Daw yn beth dyeithr i William Williams, yr oedd wedi ei gyfarfod filoedd o weith- iau yn ystod ei fywyd yn ordinhadau ei dy, ac yn y weddi ddirgel, a diau y gallasai efe ddweyd wrth gyfarfod ag angau fel y dywedodd Jacob wrth gyf- arfod ag Esau ei frawd, "Gwelais dy wyneh fel pe gwelwn wyneb Duw." Yr oedd treulio oes faith fel yr eiddo ef mewn blasus gymundeb a Duw fel gwas ffyddlawn a doeth, yri "troi tywvllwch iddo yn oleu ddydd." Na, nid oedd yr hen frawd yn ofni marw. Galwai ar ei gyfeillion ato i'w ystafell wely iddynt gael gweled pa fodd yr oedd dyn duwiol yn marw," Teimlir cliwithdod gan lawer am dano yn Nyfliyn Conwy, ac yn enwedig ei hen gyfeillion yn Ngorllewin Meirionydd. Adgofir ei ddoethineb, ei hwyll, a'i dduwiolfrydedd, am fiynyddoedd lawer. Cyflenwi y byddai efe lie bynag y byddai, a theimlir o lawer man wagle ar ei oh mae y byd yma dipyn yn ivvy gwag i ni ar ol ei golli, y cyfaill mwyaf genial, ieuangaidd ei yspryd a welsom erioed-yn gallu cydfvned ä phob symudiad, ac ambell waith yn rhagweled nes bod yn foddion igreu symudiadau yn ei ardal neu ei wiad. Llawn fwriadai symud yn 01 i Tanygrisiau ddiwedd yr haf, os cuffai fywyd, ond yn lie hyny, Duw a'i s.ymudodd ef ato ei hun i fwvnhau gwlad heb dymestl, nac awel oer, lie y caiff anadlu yn rhycld mewn eangder mewn gwlad well. Yn wir, y mae y nefoedd yn gwisgo swyn a dv- munoldeb ychwanegol pan gofir, os awn yno, y ceir cwmni William Williams yno hefyd. Ni theimlir ei golled yn fwy yn unman nac yn ei gylch teulu- aidd gyda ei anwyl unig ferch a'i phriod garedig a'r phlant. Mawrhawyd y gymdeithas o'i ddau tu ni chafodd neb well gofal nac efe gan berthynasau, a diameu mai y fraint uchaf ganddynt hwythau oedd gwasanaethu ar y fath un a'u tad. Ei Dduw ef a fyddo yn Dduw iddynt liwythau, ac i'w plant. Y CLADDEDIGAETH. Cymer y gladdedigaeth le dydd Sadwrn nesaf. Cyrhaedda orsaf y L. & N. W. Railway o Deganwy tuag un o'r gloch. Cychwynir oddiyno i gapel Bethesda, pryd y cynelir gwasanaeth crefydd ol, ac yr eir oddiyno i'r gladdfa, y cemetery newydd. D. JONES, Garregddu.

PENRHYNDEUDRAETH.I

CLYWED

ACHOS DIFRIFOL YN FESTINIOG.

[No title]

DYDDIADUR Y FFUG-FONEDDWR.