Hide Articles List

7 articles on this Page

NODIADAU CYFFREDINOL. I

News
Cite
Share

NODIADAU CYFFREDINOL. Mae papyr Seneddol newydd gael ei roddi allan yn cynwys adroddiad Mr. Pierce Joyce, un o Ar- olygwyr Carcharau yn y Werddon, ar driniaetli Mr. W. O'Brien, A.S., yn ngharchar Clonmel, yn mis- oedd Ionawr a Chwefror diweddaf. Mae yr aclrodd- iad yn cynwys y ffeithiau canlynol, y 11ai, fel y gwelir, sydd yn anghytuno mewn llawer o bethau ag adroddiadau y gwahanol newyddiaduron. Dy- wedir na arferwyd unrhyw orfodaeth anheg tjiag ato na chafodd ei daflu ar lawr ei gell; na thyn- wyd ei ddillad oddi am dano tra yr oedd efe yn gor- wedd ar lawr na fu iddo un amser syrthio i lewyg na chafodd ei freichiau eu niweidio y bu i'r ys- garmes rhyngddo ef a swyddogion y carchar barhau am chwarter awr; y cymerwyd ei lygad-wydrau oddiarno rhag iddynt gael eu tori; ei fod wedi eu cael yn ol mor fuan, ag y gofynodd am danynt; na fu hebddynt ond am un prydnhawn yn unig na fu Mr. O'Brien un amser yn noeth yr oedd crys y carchar am dano yn barhaus bu yn aros heb ddim ond y crys hwn am dano am wyth awr fod gwlan- eni a dillad newyddion ynfei ymyl ar hyd yr amser hwix fod llywodraethwr y carchar wedi gorchymyn ar i dan da gael ei gadw er codi tymheredd y lie fod meddyg y carchar yn myned ar ei lw ddarfod i Mr O'Brien wrthod ateb ei gwestiynau yn nghylch ei iechyd, &c. Gwelir pa mor dra gwahanol yw yr adroddiad swyddogol hwn i'r hyn a gyhoeddid yn y newyddiaduron, ac a leferid gan bersonau cyfrifol a dalasant ymweliadau personol a Mr. O'Brien. Y dull a gymerwyd i dreulio y Pasg yn Nghymru ydoedd drwy gynal cyfarfodydd i bregethu, cyfar- fodydd i gystadlu, ac hefyd yr oedd y bel droed yn rneddu atdyniad ryfeddol i filoedd o bobl ieuainc, Mae yn ddiameu fod gan y Saeson eu pel droed hwythau, ond yn ychwanegol at hyny, cafodd y byd Seisnig ei ddyddori a'i gynhyrfu gan areithiau gwleidyddol. Siaradai Mr John Morley yn New- castle dydd Llun, a gwnaeth gyfeiriadau at Fasttr Biwgr" y Barwn de Worms. Effaith y mesur hwn, meddai Mr Morley, a fyddai codi pris y siwgr, a gobeithiai y byddai i'w wrandawyr-sef Cymdeithas Gyfunol y Peirianwyr—arfer eu holl ddylanwad er atal i fesur niweidiol o'r fath gael ei basio. Sylwai y siarad wr ei fod ef yn ffafriol i leihau oriau llafur y dosbarth gweithiol, ond yr oedd o'r farn bendant fod yn rhaid i leihad yn yr oriau hyny gymeryd lie drwy ymdrechion y gweithwyr eu hunain, ac nid drwy ddisgwyl i'r Senedd wneyd hyny. Nid oedd efe yn erbyn y symudiad wyth awr, ond yr oedd yn erbyn y mesur Seneddol wyth awr. Yr un dydd yr oedd Ardalydd Ripon yn areithio yn Mirfield. Dy- wedai efe mai un o arferion y Ceidwadwyr bob amser ydoedd gofalu am fuddianau un dosbarth ar- benig yn y wlad, a hwnw yn ddosbarth bychan iawn. Ond yr oedd y blaid Ryddfrydig yn wastad- ol yn gofalu am les y cyhoedd yn gytt'redinol, felly yr oedd efe yn barnu fod y Llywodraeth gyda'u Mesur Siwgr yn myned i wrthdarawiad union- gyrchol ag un o egwyddorion 'sylfaenol y blaid fawr Ryddfrydig. Gyda golwg ar Lywodraeth Gartrefol, datganodd yr Ardalydd ei huuan yn gymaint Ym- reolwr ag y bu erioed. V Dydd Mawrth yr oedd Ardalydd Salisbury yn Mryste yn anerch dau neu dri o gyfarfodydd. Yn un o'i areithiai vmdriniai a'r cwestiwn Gwyddelig, a safleoedd a chysylltiadau y Toriaid a'r Undebwyr, ac a neges Cymdeithas y Briallu at y dosbarth gweithiol. Dywedai fod deddf Arglwydd Ashbourne wedi profi o les annrhaethol eisioes yn y Werddon, ac fod amryw o dirfeddianwyr yn y wlad hono yn dechreu coleddu syniadau newyddion yn nghylch tir feistri. Gobeithiai y byddai i'r llywodraeth lwyddo i estyn perchenogaetli wladwraidd i'r Werddon, a rhoddi lly wodraethiad Ileol i'r Gwyddel- od, ond ei roddi yn y fath fodd fel na fyd-dai i'r mwyafrif allu gormesu ar y lleiafrif. Yr hyn oedd ar y Werddon ei eisieu ydoedd gweinyddiad pender- fynol a manwl o'r gyfraith; nid oedd dim ond hyn a'i dyrcliafai i fedi o fanteision gwlad wareiddiedig. Os byddai i'r Saeson golli eu gafael ar y Werddon, byddai iddynt golli perl disglaerjo'r Goron Brydeinig, oherwydd byddai argyhoeddiadau pobl Ymerodrol wedi ymadael oddi wrthyt. I MAENTWROG. 111 TEULU Y PLAS.—Y mae y boneddwr haelfrydig o Tanybwich a'i deulu wedi cyraedd yma, ac ymddengys vn bwriadu aros hyd ddiwedd yr haf. Y mae teulu y Maen yn falch'o hono, am.ei fod yn foneddwr ag y maetn bob amser yn dymuno ei anrhydeddu. CYFARFOD PREGETHu.-Cynaliodd yr Annibynwyr yn Gilgal ac Utica eu cyfarfod ar nos Sad wrn, Sul, a Llun y Pasg. Y gwahoddedigion eleni oeddynt y Parch R. Williams (Hwfa Mon), Parch D. M. Jenkins. Lerpwl, a'r Parch. R. P. Williams. Ebenezer. Torodd y blaenaf ei gyhoeddiad, ond llwyddwyd i gael y Parch J. R. Parry, Bethania yn ei le. Cafwyd cynulliadau Iluosog, a phregethu gwir effeithiol. Da genym ddeall fod ein cyfaill ieuanc Mr J. R. Jones (Gerallt), wedi llwyddo i enill Tystysgrif y Parch R. H. Morgan, M.A., mewn Llawfer yn ol cyfntidrefn Phonographia neu gyfasiad Cymraeg o gyfimdrefn Mr Pitman. Y mae ymdrechion y gwr ieuanc hwn yu dangos beth a all benderfyniad ei wneyd, nid oes ond ychydig fisoedd er's pan y mae wedi ymgymeryd a dysgu Llawfer, ac fel y mae yn hJsbys y mae wedi llwyddo i enill amryw wobrwyon mewn barddoniaeth yn ol y mesurau caethion. Buasal yn ddagenym weled mwy o'n dynion ieuanc yn dilyu esiampl y gwr ieuanc liwn trwy gyfaddas ueu hunain at lenwi sefyllraoedd o hwysigrwydd mewn cymdeithas. Da iawn, eled rhc'.gddo eto i dd:sgu y Saesonaeg yn ol awgrymiad .Mr Morgan, Y mae yma. hefyd un arall ar y ffordd i gyraedd yr un safle yn gyfundrefn hon sef Mr John Edward Jones, clere, yn i!gwasi)nae.th W. H. Me Conell, Ysw., yn ei chwarelau yn Towyn Meirionydd. Hyderwu mai felly y bydd yn fuan. Yr eiddoch yn gywir-EINYDD. i

MARWOLAETH MR W. MONA WILLIAMS,…

PENRHYNDEUDRAETH.I

CLYWED

ACHOS DIFRIFOL YN FESTINIOG.

[No title]

DYDDIADUR Y FFUG-FONEDDWR.