Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
TO BE SOLD. A52incli Bicycle, ball bearings, both wheels plated A new last year, present owner given up riding. Apply at the RHEDEGYDD, Office. CTYMDEITHIH RYDDFRYDOL DOSBARTH FOURCROSSES. CYNELIR CYFARFOD BLYNYDDOL y Gym- ) deithas uchod yn YSGOLDY JERUSALEM, NOS IAU NESAF, MAI 2il, 1889, pryd yr an- erchir y cyfarfod gan D. LLOYD GEORGE, YSW., ac amryw eraill. Hefyd, etholir Swyddogion am y flwyddyn. Y cyfarfod i ddechreu am 7 0'1' gloch. HELAETHIAD y RHEDEGYDD. YR ydym yn cymeryd y cyfleusdra hwn i wneyd yn hysbys ein bod yn bwriadu gwneyd helaeth- iad sylweddol at y RHEDEGYDD erbyn dydd Gwener nesaf, a hyny heb godi ei bris- Yr ydym yn dra diolchgar am y gefnogaeth ragorol a roddwyd i ni yn y gorphenol. Oni fuasai am hyn nid anturiasem ymgymeryd a'i helaethu. Y mae ei gylchrediad wedi myned ar gynydd parhaus. Yr ydym yn neiliduol o ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth, yn ddarllenwyr, yn ddosbarthwyr, ac yn hysbysiedwyr. Gan y bwriad,.vn wneyd ein goreu gyda'r papyr, yr ydym yn apelio yn hyderus am barhad o'r gefnogaeth a estynwyd mor barod i ni yn yr amser a aeth heibio. GWOBR 0 GINI. Cynhygir y wobr uchod am y TRAETHAWD desgrifiadol goreu o Weididogion Ymneillduol ac Eglwysig yn preswylio yn mhlwyf Ffestiniog, Na fydded i'r desgnfiad o bob gweinidog gym- eryd mwy o le nag un wyneb o foolscap, mewn llawysgrif o faintioli cymedrol. Gellir dynodi y gwahanol gymeriadau drwy eu galw yn Rhif i, Rhtf 2, &C., yn hytrach na thrwy ddodi :(1 henwau. Y traethodau i fyned i law Golygydd y RHEDEGYDD ar neu cyn Mai 23ain. Ym- ddengys y feirniadaeth yn y RHEDEGYDD am Mai 31am. Y traethawd buddugol i fod yn eiddo rhoddwr y wobr, ac i gael ei gyhoeddi. ""A"d.4.A.A.A..AA.ÀU1LA..{\A.AA.A.44 A A..» Pob Gohebiaeth i'w hanfon fel y canlyn: Editor, 'Rhedegydd' Office, .JÍI Blaenau Festiniog
AT  AT EIN GOHEBWYR.
AT  AT EIN GOHEBWYR. T. AP IECJAN.—Bu raid eu gadael hyd yr wythnos nesaf. GLAN MYFYR A NANMOR WYN. Mewn Haw. Diolcli.
HAWLIAU Y DOSBARTH I GWEITHIOL.
HAWLIAU Y DOSBARTH GWEITHIOL. Mae y dyddiau i ddirmygu y gweithiwr, ac i edrych arno fel un anbeilwng o ddyrchafiad ac anrhydedd, wedi myned heibio er's cryn amser bellach. Lawer 0 flynyddau yn ol yr oedd mawrion ein gwlad yn dal eu penau yn rhy uchel hyd lwybrau urddas a balchder, fel nad oeddynt yn dewis ymostwng i gymeryd sylw 0 weithiwr, ond pan fyddai ei ddynoliaeth yntau yn ymostwng i t. wenieithio iddynt. Yr oedd gormod o ddwndwr y byd yn eu clustiau fel na allasent glywed un deisvf- iad 0 eiddocreadnr o weithiwr. Yr oedd y mawrion rhodresgar a chymhenfeilch hyn yn ddeillion i'w holl rinweddau, ac yn fyddar i'w holl anfanteision. Prin yr ysgwydasai yr un ohonynt eu tafodau mewn lIe cyhoeddus i ddadleu o blaid y gweithiwr. Ond mae dyddiau y sarhau—dyddiau troi yr ysgwydd oer -wedi darfod i raddau. Cydnabyddir heddyw fod y gweithwyr yn ddynion, megis eraill, ac ystyrir eu bod fel dosbarth yn allu 0 nerth a dylanwad yn y wlad. Gwelir yn hollol eglur eiibod yn gallu yfed yn helaeth o ffynhonau addysg iach mor naturiol a neb yn y wlad. Cyn belled ag y mae gallu meddyl- iol yn myned, nid yw llawer ysgogyn balch a hunanol, sydd yn tybied fod y blaned yn troi oddeutu ei fys bach ef; yn deilwng 0 ddatod carai esgid ami faehgen 0 weithiwr. Mae yr holl wlad yn cymeryd ei hargyhoeddi, yn raddol, ond yn sicr, fod y gweithiwr yn haeddianol 0 ddyrehafiad. Nid yn fynych y clywir hyd yn nod y Toriaid mwyaf ystyfnig ac anobeithiol yn dadleu dros ei gadw i lawr a'i ddiraddio. I ba beth y mae y cyfnewidiad angenrheidiol hwn yn syniadau yr awdurdodau beilchion am y gweithiwr i gael ei briodoli? Ni a gredwn mai i'r gweithwyr eu hunain yn benaf. Daethant o'r diwedd i gredu mai nid 0 dan draed neb yr oedd eu lie hwy i fod-nad oedd yn angen- rheidiol iddynt hwy na neb arall ymgrymu yn wasaidd, na llyfu y llwch er mwyn rhoddi gwenau ar wyneb ac arian yn llogellau rhyw un dosbarth arbenig yn y wlad. Trwy i'r gweithwyr ddeffroi eu hunain yn yr olwg ar eu ceffyrau, bu hyny yn foddion i ddeffroi eraill. Ond cymerwyd cryn amser i argyhoeddi llawer i arglwyddyn modrwyog ac ystiwerdyn ymyrgar fod yn y gweithiwr druan, elfenau i wneyd cymeriad anrhydeddus, heb son am gael ei ddyrchafu fel person cyhoeddus. Efallai nad yw y wlad eto wedi ei llwyr argyhoeddi i raddau digon helaeth yn y mater hwn, ond na laesed y gweithwyr eu dwylaw. Mae olwynion y cerbyd wedi dechreu troi, ac y mae ar eu llaw hwy i'w cadw i droi yn y dyfodol, ac i droi yn llawer iawn cyflymach nag y maent yn bresenol. Mae y dosbarth gweithiol eu hunain i'w canmol yn fawr am eu hymdrechion dyfal i daflu hualau trais, ac i ddatod llyfFetheiriau gorthrwm oddiwrthynt, a dylasent gael cynortliwy a chefnog- aeth pob dosbarth arall i wneyd hyny. Maent yn darllen llyfrau da a buddiol, yn cyflenwi eu meddyl- iau a gwybodaeth sylweddol a thrwyadl, yn ym- hyfrydu mewn rhoddi addysg bur ac effeithiol i'w plant, ac yn cyfranu yn helaeth at y sefydliadau hyny sydd yn add urn l'n gwlad. Mae yr ystyr- iaethau hyn yn galw am i'r gweithwyr ddyfod allan eu hunain yn fwy cyhoeddus, ac yn galw yn arbenig am i bawb roddi cymhorth a chwareu teg iddynt i wneyd hyny. Maent fel dosbarth yn y gorphenol wedi profi eu hunain yn nodedig o ffyddlon i ddos- barthiadau eraill pan yn ceisio myned i safieoedd o anrhydedd, ond a ydynt hwy eu hunain yn cael y gyfran a haeddant 0 gynrychiolaeth ar fyrddau y cyhoedd? Dyma gwestiwn teilwng o'u hystyriaeth hyd yn nod ar adeg dawel fel hyn, pan y gallant gael hamdden a phwyll i dclod i ddealltwriaeth a'u gilydd, ac i drefnu eu catrodau yn nghyd, fel y byddont yn barod pan ddaw y cyffeusdra iddynt i ddangos eu nerth a'u dylanwad. Ofer ydyw dadleu nad oes ganddynt o ran gwybodaeth, medr, a phroflad, ddi kon(dd o dd; niou, y iylesid eu dyrcl: afu i safieoedd o urddas ac ymddiriedaeth. Nid yw a f ii i sa fieoe d d o ur d das ai e Yb.ti cii -nia g iie l au ac i yn ddoeth iddynt aros i barotoi eu magnelau ac i awchlymu eu cleddyfau yn nghanol arogl mwg y frwydr. Rhaid deffro mewn pryd i drefnu, os am sicrhau goruchafiaeth. Gwyddom y gall fod cryn siarad yn eu plith ar y mater yr ydym yn ysgrifenu j arno, ond y mae yn bosibl siarad a siarad yn ddi- baid, a cholli y fuddugoliaeth yn y diwedd. Mae digon o siarad wedi bod, onid doeth a fyddai gweith- redu bellach? Ond bod yn bwyllog a gofalus i ddod i ddealltwriaeth briodol a'u gilydd, mae yn eithaf posibl i weithwyr Cymru gael gwell cyn- rychiolaeth yn y lleoedd hyny y mae cyfiawnder a chwareu teg yn galw yn ucbel ar hyd y blynydd- oedd am iddynt ei gael. Bydded iddynt gladdu pob llwfrdra ac yswildod allan o'r golwg, ac ym- daith allan fel guroniaid na bydd dim a'u boddlona ond cael meddiant o'u hawliau teg a cliyfreithlon.
I Tref; Oedfaon v Sul.I
Tref; Oedfaon v Sul. EGLWYS LOEGR. ST. MICHAE1 -1), a 11-15 (English), Parch. ST. MARTHA -10 Parch. ST. DEWI—10, 11-30 (English), Parch. J Davies, 6 Parch i Harries. TA NYGRISIA 7i -10, Parcli. ] Harries, 6 Parch J Davies 'i METHODISTIAID. PENIEL—Farch. T J Wheldon, B.A. ENGEDI-Fa-rch. Hugh Pugh, Gwynfrvn EETHESDA Parch. R Roberts, Dolgelley rABERNACL-Parch. Hug* Roberts, Rhydmain GARREGDDU—Parch. W R Jones, Holyhead ENGLISH CHAPEL-Rev. D B Jones, Gwersyllt JBOWYDD-Parch. J R Williams, Pentre uchaf RHIW Parch. D Roberts i TANYGRISIAU-Parch. G T Parry, Llanberis YR ANNIBYNWYR. BETHEL—Mr H P Thomas, o Athrofa Bangor I HYFRYDFA—Parch. J E Evans, Caerfyrddin BETHANM—Parch. J. R. Parry, JERUSALEM—Parch. P. Howell BRYNBOWYDD- 10 Cyfarfod Gweddi 6 Parch. W Pari Huws, B.D. S VLEM—10,. Parch. W Parri Huws, 6 Cyfarfod Gweddi CARMEL—Parch. E. C. Mason, Tanygrisiau Y WESLEYAID. BLAENAU—Parch. 0 M Roberts, Didsbury College TANYGRISIAU-2 0 M Roberts, 6 Cyfarfod Gweddi LLAN—10 a 6 Mr Evan Rees, Penrhyn Y BEDYDDWYR. SEION—Cyfarfod Gweddi '¡ CALFA RIA-IO Cyfarfod Ysgol 6 Cyfarfod Gweddi MORIAH-2 a 6 Cyfarfod Gweddi I SALEM, TANYGRISIAU—Parch Samuel Pierce, Penrhyn
DYDDIADUR Y FFUG-FONEDDWR.
DYDDIADUR Y FFUG- FONEDDWR. Yn ddiweddar daeth i'm meddiant ddau neu dri o ddyddiaduron lied ddyddorol, ac yr wyf yn medd- ,wl am gyhoeddi ambell un o honynt yn awi ac yn y man. Nid wyf am ragymadroddi ychwaneg. Dyma i'cli darllenwyr ddolen neu ddwy o Ddyddiadur y Swell, neu y ffug-foneddwr." EBRILL I.-Dyina ddydd gwyl yr holl ffyliaid, a'r hyn sydd yn bwysicach fyth, sef dydd gwyl fy ngenedigaeth inau. Buaswn wedi gwahodd rhai or cymydogion i gyd-lawenychu a mi, ond y mae trychfileiddiwch eu moesau yn gyfryw ag sydd yn clafychu fy enaid. EBRILL 2.—Yr oeddwn er's mis yn ol wedi bod yn tynu fy llun. Derbyn y lluniau heddyw oddi- wrth yr arlunydd. Anfon y cwbl yn ol gydag anathema ddaeargrynfaol, am fod y ploryn sydd yn ymdabernaclu ar flaen fy nhrwyn wedi ei dynu yn rhy amlwg. Yr oeddwn wedi gorchymyn i'r arlun- ydd fod iddo dynu fy nhrwyn heb na phloryn na chochni arno. EBRILL 3.—Cymeryd gormod o'r "effeithiol" neitliiwr. Hyny yn acliosi i fy mreuddwydion fod yn lied raniantus. Y trychineb ofnadwy a'm cyfar- fyddodd yn fy mreuddwyd yd oedd gweled fy hunan heb nac addurn, liarddwch, na gogoniant—yr oedd fy mwstas wedi diflanu. Pan ddeffroais yr oeddwn yn foddfa 0 chwys ac yn crynu drwydclof. Rhodd- ais fy nghrys gwyn glan am danaf, coler a chadach am fy ngwddf, cuffs am fy arddyrnau. &c- ac aethum i'r glass (nid wyf yn credu mewn ^hyd yn nod i'r glass fy ngweled yn anhrefnus), i edrych beth oedd y mater. 0 lawenydd, gwelwn fod fy mwstas yn ei le, yn dirf ac yn ffi-iv)-,thla,vii. Eis- teddais o flaen y glass o chwech y boreu hyd ganol dydd, i gyrlio fy mendigedicaf fwstas, heb na brecwasst na dim byd. EBRILL 4.—Myned i 'ngwely hyd amser te, oher- wydd fy mod wedi digio wrtli y byd, gan i mi dder- byn llythyr oddiwrth rywun a dim Sgweiar" ar ei gas. Pan godais, rhoddais ddarlith wreichionllyd i'r olchwraig am fod yna ysmotyn cymaint a blaen ewin chwanen ar lawes chwith fy nghrys gwyn. EBRIl 5.-Oclieiieidio yn ddwys wrth weled fod blaen fy nhrwyn yn parhau i gochi. Tyngu 11 w het ar flaen myniawyd yr ymborthaf ar starch a blawd ceirch fel na byddo i liw fy nhrwyn mwyach fy nhafiu i'r falan, a fy nghadw yn effro "drwy y nos. EBRILL 6.—Bachgen bach yn capio i mi ar y stryd. Dyma yr hogyn callaf a mwyaf gobeithiol yn yr ardal. Bydd yn y Senedcl cyn hir. Addewais roddi mincieg iddo pan welwn ef nesaf. Prynais glos pen glin, a photelaid o beth i berswadio fy ngwaflt i droi ei liw, ac infestiais mev/n peiriant godidog i wneyd fy nhrwyn yn llai. EBRILL 7.—Dydd Sul, fel mae'r gwaethaf. Gwraig y parson wedi anfon i mi yr arswydolion ceiniog, nid amgen y Christian Herald a'r Gad Lef. Anfon- af lytliyr twrna iddi am ei hindipence. Mae rhai pobl yn ofnadwy o ddigywilydd. Rhoddi y papurau i'r olchwraig (gan ei badyn gwrthod cymeryd pres) am starchio a smwddio fy ngholer a hithau yn ddvdd Sul. EBRILL 8.—Y forwyn yn colli saim ar lawes fy nghot. Rhoddi rhybudd iddi ymadael, a dal coron yn ei chyflog. Tori fy eye-glass. I fy ffyrnigo yn fwy, cael llythyr oddiwrth fy mam i ddweyd fod yr hen wraig yn dyfod yma yfory. Mae yr hen wraig yn un mor ofnadwy o gomon, ac yn un mordueddol i holi a stilio, fel y buasai yn well ddengwaith genyf anfon pres y tren am iddi aros gartref. EBRILL 9.—Yr hen wraig wedi dod. Ymbarelo whalbon fawr o dan ei chesail a hen giarpad bag wedi llwydo yn ei llaw. Dim bonet newydd na dim byd. Yr oeddwn yn chwys hyd fodiau fyi-iaraed pan welais hi. Yr hen wraig yn siarad dros y stryd, minau yn dirgel felldithio yr ymbarelo a'r ciarpad bag nes cyraedd y ty. EBRILL 10.—Cuddio fy modrwy swllt a cheiniog, fy menyg, a fy cigars, &c, er mwyn arbed gwaith deuddeng awr i dafod fy mam. Yr hen wraig yn myned adref hefo'r tren olaf. Rhyddhad mawr. Gorfc d cario'r ymbarel a'r bag i'r station. Cymeraf fy nienydddio cyn y gwnaf hyny eto. EBRILL II.-Aros yn y ty i ddysgu rhegi yn barchus yn ol y ffasiynau diweddaraf. Mae fy stoc o regfeydd clasurol wedi myned i lawr er's tro. Mae cyniaint 0 v/aith blagiardio yn y byd, fel y mae yn anmhosibl i mi gyflawni y gwaith hwnw i foddlon- rwydd hb wneud cyfeiriadau personol at yr hen Facligen o Fwth y Brwmstan. Ieir pobl y ty nesaf yn aflonyddu ar fy nghwsg. Myned yno a rhoddi tro yn nghorn gyddfau dau bechadur o Gochin China. Cyn myned i n'gwely, cael symans am fwrdro da pluog. EBRILL 12.-Cael fy argyhoeddi. nad yw y mas- ba y ltoe d di lia i yw y mas- nachwyr y byddaf yn delio a hwy yn parchu digon arnaf. Penderfynu y bydd i mi o hyn allan geisio, fy cigars 0 Lerpwl, fy nhybaco 0 Fristol, fy watch o Coventry, careiau fy esgidiau o Northampton botyn-iali fy nghrys 0 Lundain, a fy nant-bigydd o Paris. EBRILL 13.—Gwneyd fy ngoreu i gofio anghofio ei bod yn ddydd Sul. Cael hwyl ac arddeliad wrth ddarllen y Sporting News. Tafiu scent hyd bedair siwt 0 ddillad. Penderfynu dysgu dawnsio, a chael