Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

IBYWYD AC ANTURIAETHAU I.MADOG…

I -'.- PRENTEG

IEISTEDDFOD UNDEBOL CWMORTHIN,…

[No title]

Y MYNWENTYDD.

News
Cite
Share

Y MYNWENTYDD. Syr,—Erfyniaf am ychydig o'ch gofod i wneyd sylw byr ar Iythyr Mr Killin, ar fater y monwentydd. irn ynideinilo a gwendid ei achos, y mae yn gochel cytfwrdd a'i pwnc mewn dadl ac yn ysgrifenu ar bethau o'i ddeutu. Nid yw o un pwys i ni Ymneillduwyr pwy a awgrymodd y cyfarfod yr ysgrifenir yn ei gylch, na pha un ai y wardeniaid, ai Mr Davies, Caerblaidd, ai Mr Killin, ai yr oil mewn cyd- ddealltwriaeth a'u gilydd a'i galwodd ynghyd. Digon i ni ydyw gwybod mai nid yr Ymneillduwyr a'i galwodd. Nid yw o un pwys i ni ychwaith pwy a roddodd restr y taliadau gerbron y cyfarfod. Digon i ni eto ydyw gwybod mai nid yr Ymneillduwyr. Gofyna y gwr parchedig ai offrwm ydoedd unig arfer y plwyf. Atebaf ie, a phan y byddai talu gofelid am gyhoeddi y swm a'i alw yn offrwm. Onid ydyw cyfarfod Garregddu yn proti mai clyna oedd yi arfer, Digon posibi i mi ddweyd fel y dywed Mr Killin, fod offrwia yn sawru o Babyddiaeth, oblegid yr wyf yn credu felly. Credaf hefyd fod i Ymneillduwr dalu mwy am le beddrod, nag sydd angenrheidiol i ddwyn costau yfonwentynanghyf- iawnder. Dywed Mr Killin hefyd, fod ei weithredoedd caredig tuag at Ymneillduwyr wedi tynu arno wg ei gyfeill- ion eglwysig. Os yw cymwynasau mor fychau yn cyttroi eu digofaint, y mae yn proti yn Itmlwg na ddylai hawliai y plwyfolion yn y monwentycld fod at drugaredd y fath rai. Gwna hefyd restr o'i weithredoedd daionus y rhai a wnant ar yr ainod grasol fod iddynt dalu ei ofynion. liywed fod y 'Celt' ar 'Gwalia'-dau elyn anghymodlawn—yn cytuno i gyhuddo Methodistiaid Gorllewin Meirionydd, o gyfyngu claddedigaeth y marw i'r pregethwyr a'r gweinidogion, a chodi tal o bum' swllt yr un am eu gwasanaeth, ac nil. welodd efe neb yn ceisio gwadu hyny. Pa angeurhaid sydd am wadu dim a ddywedo y Celt a'r Gwalia am y Methodist- iaid Calfir.aidd. Os yw y gwr parehedig yn tynu ei holl gasgliadau mor ddiofal a hyn draain o'i wrandawyr, Y mae y Celt a'r Gwalia yn anghywir, ac nid yw yn beth anghyff- redin iddynt fod felly pan yn ysgrifenu am y Methodistiaid Calfinaidd. Hefyd nid wyf yn gwyhod am bwyllgorau wedi eu penodi er dylanwadu yn anheg ar y perthyuasau i gladdu dan y drefn newydd. Gwn na wnael digon yn y eyfeiriad hwn. Yn hytrach yr ydim wedi bod yn esgeulus hyd anflyddlondeb i'n hegwyddorion. Dywed fod rhai wedi nacau cychwyn cynhebryngau am na chaent gladdu hefyd. Y mae yn ddigon tebyg. Yr wyf yn ei ystyried yn wendid ynom na buasem oil yn gwneyd gyifelyb. Cyhudda ni o droi yn ol cyn cyrhaedd y fonwent. I ba raddau yr ydym i'n beio am hyn, barned y rhai na thywyllent addoldai yr Ymneillduwyr, ar achlysur yn y byd hyd yn nod cyfarfod y Feibl Gymdeithas. Pa wahaniaeth gyda golwg ar y ddadL hon nad yw y gair "offrwm" yn neddf y claddu. a pha rwymau sydd arnom ni i gymeryd i ystyriaeth arfer gwyr eglwysig yn Ne ac Gogledd Cymru. Os fdyw y gwr parch- edig yn meddwl fod rhywbeth yn ei Iythyr o'r dechreu i'r diwedd yn berthynasol, y mae yn ddigon o goniiemniad ar y ddisgyblaeth feddyliol yr aeth drwyddi. Dywedais ei fod wedi tori cytundeb dealledig. Paham na fuasai yn son rhywbeth am hyny yn berthynasol. Ychwanegaf unwaith eto mai offrwm. ydyw unig arfer y plwyf, nad oes gan yr ofteiriad hawl i ddim ond offrwm gwirfoddol, ddarfod i'r offeiriad geisio hawl gan y trethdalwyr, ddarfod i'r trethdal- dalwyr wrthod ei rhoddi iddo, ac nad oes neb ond cyfeillion rv ofteiriad a feia unrhyw un am weithredu yn ol pende-fyn- li»d y trethdalwyr. Dwyn ar gof y pethiru hyn oedd-<'y unig arncan yn ysgrifenu. Am hyny ni ilinaf chwi mwyach ar y pen hwn. D. ROBERTS.

CYFARFOD ORDEINIO MR. R. H.…

I YMA AC ACW.