Hide Articles List

5 articles on this Page

CYSTADLEUAETH LENYDDOL PENIEL…

News
Cite
Share

CYSTADLEUAETH LENYDDOL PENIEL AC ENGEDI, FFESTINIOG, 1886. Foneddigion,Yn y RHEDEGYDD am yr wythnos ddi- weddaf geilw un a ymgyfenwa "Chwareu Teg" y pwyll- gor i eglnro paham 11a wobrwywyd yr ail oreu am yr englyn "Athraw." Fel y gallo ef a Iphob un o'r ymgeiswyr eraill weled na allai y pvryllgor hwnw nag un pwyllgor Hall ddweyd pwy oedd yr ail cyhoeddwn y feirniadaeth, gyda chaniatad y Gol., fel y gallo y darllen- wyr weled a wnaeth y pwyllgor rhyw gam ag ef, Hyn a allwn sicrbau, 11a wnaed dim yn fwriadol i'w ddiraddio na dim arall. JOHN E. JOKES, Ysg. Y FEIRNIAE-AETH. Y mae yr ymgeiswyr ar y testyn hwn yn Uuosog: — Caradog, 'Rhen Obed Edom, Einion ab Collwyn, Arthur, leuan, Bachgen, Cyuan, Cyrnro, A. Tannyson, Clodd- iwr, Idwal, ac Ap Dudwy. Drwp,, genyf orfod mynegu mai cyffredin iawn yw y rhai hyn. Y maent i gyd yn ddiflygiol mewn cynghanedd mn syniad. Caradog.—Ar y 7fed o Fawrth y derbyniais yr eiddc ef. Y mae Ap Dudwy, a'i fawrhydi brenhinol A. Tenny- son, yn gynghaneddol feius. Yr un modd Cloddiwr; nid yw yr un o'r ddau englyn yn gwbl Ie olaidd. 'Rhen Obed Edom.—Prin y mae ei drydedd linell yli hollol gywir; y mae yr ystyr yn briodol. Yr un un yw Arthur, leuan, a Bachgen; y mae ei gynghaneddiou ef yn well na'i syniadau; gocheled gymysgu ffugyrau, a fFugyrau a ffeithiau. Y mae englyn leuan yn terfynu yn dda. Idwal.—Cawn ganddo ef gyrghanedd gywir, ond nid ydyw yn synied i sobrwydd. Cynan.—Diweddu yn drwsgl a gwanaidd mae yr eiddo ef. Gymro.—Nis gallaf ddirnad ystyr "gyffyi'ddiad." na gweled fod llawer o ddifli ond cynghanedd yn y drydedd linell. Un dlos a phriodol yw yr olaf. Einion ab Collwyn.—Y mne ei englyn ef yn gywir, yn weddol gymeriidwy o ran syniad, an yn meddu graddau o dlysni awenyddol. Efe yw y goreu, gwobrwyer ei awdwr. IOLO CAERNARFON. [Dylasai hwn fod wedi ymddangos yr wythnos ddiweddafj YR AWR GINIAW. Gydweithwyr,—Y mae llawer o siarad i'w glywed yn ein plith y dyddian hyn am yr Amr Giniaw, neu yn hytrach y dymunoldeb o geisio cael diddymu yr awr, a chyraeryd haner awr yn ei He, a chael yr haner arall yn y boreu neu yn yr hwyr. ■ Mae yn ddiameu y byddai hyn yn lleshad cyffredinol i ni os gallem ei gael, ac y mae yp anhawdd deall fod unrhyw reswm dros ei wrthod i ni, gan nad yw yn bvrhau dim ar yr amser sydd yn ddyledus oddiwrthym i'n meistri, ac y mae un chwarel yn y gym- ydogaeth yn cydnabod hyn tnvy ei ganiatau. Mae am- ryw resymau i'w clywed yn cael eu dwyn yn mlaen dros hyn, a chredwn fod rhai o honynt yn deilwng o'n sylw, megis v rhai canlynol: — i. Mae llawer o honom yn gweithio yn bur bell dan y ddaear, ac o ganlyniad byddwn yn bwyta ein tamaid yn rhywle yn agos i'r fan y gweithiwn heb dd'od i oleu dycld, ac ar ol bwyta ni bydd genym ddim i'w wneyd i aros i'r awr elel'oel i fyny'ond sefyll a'n dannedd yn curo ar eu gilydd, neu yute gerdded yn ol a blaen i geisio cadw ein hunain yn gyneS oreu y gallwn, a hyn cofier yn misoedd cynes yr haf. Mae y gwahaniaeth hwn i'w deimlo yn fawr wrth yr hyn oedd 30 mlynedd neu ragor yn ol, pan oedd pelydrau cynes yr haul a'i oleuni yn Lreiddio i mewn i bob rhan o'n chwarelau, 2. Mae eraill o honom sef y dosbarth a elwir yn chwarelwyr (yn yr ystyr fwyaf manwl o'r gair), yn gweith- io yn bresenol yn y melinau (sheds) l1ychlyd-mor, lych- lyd yn wir nes y bydd megis niwl ynddynt—a gwynebau y rhai sydd ynddo yr unlliw a'r cymylau llwch, yr hyn sydd yn dangos ar unwaith fod yr awyr yn y lleoedd hyn yn afiach oni fyddai cael bod yn y lleoedd llychlyd hyn am 1ai o haner awr bob dydd yn rhywbeth tuag ar estyn rhywfaint ar oes y gwynebau llwydion hyn. 3. Hefyd siaredir ac ysgrifenir ar ddiwylliant meddyl- iol, a dyrchafu y dosbarth gweithiol; pe caem gyrph iach, gallai y byddai yn haws i ni gael meddyliau diwyll- iedig bydd ein goruehwylwyr ac eraill yn ami yn ein hanog yn gryf i ddiwyllio ein hunain yn ein cyrddau Ilenyddol a'n heisteddfodau lleol os ydynt yn dymuno ein llwyddiant yn ddi-dwyll, wele gyfle (er mai bychan yw) i hyrwyddo hyn gam yn mlaen. Mae rhesymau eraill lu yn cael eu dwyn yn mlaen yn ami i ategu y syniad, ond rhag meithder, gadawn hwy y tro yma gydag yn unig ddwyn i sylw, ai ni fyddai yn ddoeth i ni oil fel chwarelwyr yn yr ardal hon wneyd cais am hyn o welliant a hyny heb oedi ? Yr eiddoch, CATWG. CYFARFOD LLENYDDOL PRENTEG. Beirnictdaeth ar y Penillion, er cof am y diweddar Mr. John Owen, Hendre Howell, Prenteg. Daeth degyn mlaen i'r ymdreeb, a da genyf ddweyd fod glewion yn ei plith. Y mae pump neu chwech ohon- yut yn gyfansoddwyr rhagorol, fel mai gorchwyl digon anhawdcl ydyw gwahaniaethu rhyngddynt. Y maent i gyd yn hynod 0 ddiwallau. ond y mae rhai 0 hinynt yn meddu mwy 0 gryn lawer o'r peth hwnw sydd yn eyffwrdd y galon nag sydd gan eraill. A ehyffelybu yr ymdrech i redegfa safarit o ran teilyngdo(l, mor bell ag y gallaf fi weled, fel y canlyn, gan ddechreu gyda'r olaf hyd at y cyntaf. Seth Jones, ac Eifionfab, yn cerdded yn araf, araf. I Wylwr am na welir, Plentyn Galar, ac Ochenaid, yn cerdded yn llaM-er mwy lieinyf. Castellfab, a Deigryn Adgof, yn rhedeg yn dda am y gamp. Deigryn ab Deigron, a Credinio], yn rhedeg yn well, Cyfaill, yn rhedeg yn oreu. Felly "Cyfaill a ystyriaf yn oreu, ac y mae ei farwiiad yn glod i'r gystadieuaeth ac iddo ei bunan. Y mae "Crediniol" a Deigryn ab Deigron" yn gyfryw ag y gellid eu cyplysn yn gyfavtal ail, pe hai ail 0 honi hi, a gellir cyplysu 11 Deigryii k(igof a "Castellfab" yn gyf- artal drydydd os mynir. Ni buaswn yn petruso rhoddi y wobr i unrhyw un o'r pedwar Hehod, ond gan i un arall ddyfod i law, un a ysfyriaf dipyn yn well, wrth gwrs i hwnw y rhoddir y wobr.. Os bydd "Cyfaill" yn bresenol dymnnaf arno ddarllen ei gyfansodd'ad, oblegid bydd hyny, nil gredaf, yn ddigon 0 foddlonrwydd i'm cyfeill- ion na chawsant y dorch, eu hod wedi cael tegweh. TEGFELYN. O. Y. Yr wyf yn deall erbyn liyn inai y buddugwr ydoedd Mr. Evan Morgan (Llew Madog).

-I CROESOR.¡

BLAEN AU FFESTINIOG.

PENILLION COFFADWRIAETHOL…

ER GOFFADWRIAETH