Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Trefn Oedfaon y SuL !

A YDYW YR UNDEiOI ) YMERODROL…

News
Cite
Share

A YDYW YR UNDEiOI ) YMERODROL MEWN PERYGL? O'r holl areithiau galluog o blaid mesur Mr. Gladstone, y fwyaf felly yn ein tyb ni ydoedd eiddo Mr. Labouchere, yn St. James' Hall, T lundain, nos Iau, y 2gain cynfisol. Er mai celhveriaeth wywol, fel yn areithiau Cang- hellydd y Trysorlys, ydyw pr.f nodwedd allanol holl fynegiadau cyhoeddus perchenog a golyg- ydd Truth, eto y mae egwyddor, a gonestrwydd trwyadl yn gorwedd o dan, a thu ol i'r cellwair y m dd angosi ado]. Gwrth-ddadl fawr y Toriaid yn erbyn y mesur ydyw, ei fod yn peryglu, os nad yn arwain yn uniongyrchol i wahaniad yr Iwerddon oddiwrth Lywcdraeth Ganolog y Deyrhas Gyfunol. Oni bai fod dynion pwysig or rhengoedd rhydd- frydig yn cymeryd yr un olygiad, ni fuasai y golygiadau Toriaidd o gwblyn hawlio sylw. Yr ydym y cyfeirio wrth gwrs at Ardal dd Hart- ington, un o Is-gadbeniaid ffyddlonaf Mr. Glad- stone am flynyddoedd lawer un o'i edmygwyr mwyat, a'i gyfaill mynwesol. Ifeb mewn un modd ameu gonestrwydd yr Ardalydd, pendefig ydyw, yn gweled llanw mawr yn ysbryd Radic- aliad yr ysbryd gwerinol yn uchel am lywod- raeth T? Bbl" a Thrwij y Bobl" gweled y mae'y llanw nwn yn dod gyda nerth anwrth- wynebol i ysgubo ymaith am byth ragorfreintiau treisiol y bendefigaeth. Nid ydyw y cwrs a. gymer ond yr hyn a ddisgwyliasom. Un arall ydyw John Bright, un a broffesa wladwriaeth hollol wahanol i'r Ardalydd-un o ddyniion y bobl ydyw df; ond ar yr un pryd y cyfaiil mwyaf mynwesol 1 Mr. Gladstone, carwr heddweh gelyn anghydmoddlon rhyfel, ac amddiffynydd awnderau y Goron ar yr un pryd. Yr ydym yn gyfaddef, nad ydym yn deall Mr. Bright; nac yn lawn, pa beth ydyw ei resymau dros wrthod ei gydymdeimlad a Mr. Gladstone. Ei brif wrth- ddadl yntau ydyw, tod y mesurau yn tueddu yn uniongyrchol i wahaniad. Rhydd y gwrthgiliadau pwysig hyn oddiwrth ochr Mr. Gladstone,fantais i ni farnu didwyllecld amcanion ein Prif-weinidog, na buasai byth yn aberthu cydweithrediad ei hen gyfeillion ei gyfeillion goreu, ar allor mympwy neu hunan- gais, fel y dywed y Toriaid. Y casgliad anoch- eladwy ydyw fod gan Mr. Gladstone resymau oll-orchm^nol, ac argyhoeddiadau o'r fath fwyaf difrifol yn gálw am y cam pwysig hwn yn hanes ei wladweimaeth. Amlwg yw mai nid dynion 11a phlaid, ond egwyddorion, sydd ddyfnaf ac uchaf yn ei feddwl. Gair mawr yr I Ardalydd yn ei ddwy araeth fawr ydoedd y "Liberal Party," ond fe dderfydd y gan yna yn fuan, ac fe symudir y pwyslais. Cadw plaid 1,A,rtl-, ei gilydd oedd y pwnc mawr hyd yma, cadw plaid rhag myned i ldwr: ond codi eg- wyddorion i fyny a'u gosod yn y front yw yr arwyddair yn awr. Y mae yn llawenydd di- gymysg genym weled fod Mr. Gladstone, ar ol hir ymdrech, o'r diwedd yn sefyll ar Iwyfin glir a gogoneddus egwyddorion Rhvddfrydig, ar wahan oddiwrth yr amcan gwir bwysig o gadw y blaid Ryddfrydig wrth ei gilydd. Gwna hyn enill iddo blaid Uawer crvfach. Yr egwyddor y gweithia Mr. Gladstone ei holl gynllun arni ydyw, fod yr Iwerddon wedi cael cam ac anghyfiawnder ar hyd y canrifoedd, trwy osodiad cyfreithiau gorthrymus i'w llyw- odraethu gan y wlad hon, gan ddynion, yn hytrach oeddynt yn amddifaid naill ai o gyd- ymdeimlad neu o gymhwysderau ymarferol i'w ffurfio. Y canlyniad ydyw fod y wlad hon y dydd heddyw yn gorfod cadw byddin o 30,000 o wyr yn yr ynys i gadw 5 miliwn o bob] rhag gwrthryfela, a deuddeg mil o filwyr eraill, o dan yr enw o warcheidwaid, mwy nag y mae yr Unol Daleithiau yn eu cadw ar g\yfer haner can' milwn. Dyna yn fyr hanes y gorphenol, a hanes yr Ynys y dydd heddyw. Beth yw yr ystyr? Ai nid fod yr Ynys mewn gwirionedd yn awr mewn cyflwr o wahaniad o ran ei hys- bryd a'i theyrngarweh ? Nid yw yr uÚdeb, fel y mae, ond undeb ar bapyr, yn cael ei wrthod i gan gorff y bobl, a'i ategu gan fyddin 0\ fidogau. Amcan Mr. Gladstone, 'fel yr eglurai Mr. j Labouchere, ydyw troi yr undeb dychymygol hwn yn undeb gwirioneddol, trwy sicrhau teyrn- garwch gwirfoddol y Gwyddelod a chvfreithiau cyftawn Canlyniad uniongyrchol y cydymdeinilad a ddangosir yn y' wlad hon gan y werin tuag at y werin Wyddelig fydd cylymu y ddwy wlad, cylymu y pedair cenedl, yn Saeson, Ysgotiaid, Cymry, a Gwyddelod, yn un wladwriaeth deyrn- garol wrth yr un awdurdod canolog fel ei cyn rychiolir yn yr orsedd. Pe byddai i'r fath beth ddygwydd ag i'r Senedd bresenol wrthod pasio y mesur, fe ddychwelid Mr. Gladstone i'r Senedd gyda mwyafrif unol ac aruthrol gan y bobl. Seliai pob aelod Rhyddfrydig ei dynged .am byth pe y gwrthodai iddo ei bleidlais. Nid yw yr hyn a elwir yn Undeb yn awr ond ychydig gyda 80 mlwydd bed. Beth ydyw y canlyniad wedi bod ? Yn ystod y tymor byr yna, collodd yr Iwerddon filiynau yn ei ph obl- ogaeth Lie bynag y siaredir yr iaith Saesoneg rl heddyw, fe geir yno Wyddelod a yrwyd o'u g-wlad gan gyfreithiau gorthrymus, lawer o honynt wedi cael eu taflu allan o'u cartrefi i ochrau'r ffyrdd yn mreichiau eu mamau gan y tirfeistri. Llywodraethwyd yr Iwerddon a. decld- fau mor greulawn, a ffiaidd, a fuasent yn Eloegr yn esgor ar wrthryfel a chwildroad gwaedlyd. Yn 1820, tynodd Sydney Smith ddarlun trist o gyflwr yr Iwerddon yn nhudalenau yr EdÙlbttrth Review, darlun a barhaodd yn hollol gywir hyd yn ddiweddar iawn. Trwy gyflawni y creulon- dcrau mwyaf echryslawn y llwyddodd y Gwy- ddelod i gael ychydig o welliantau. Awdwyr y creulonderau hyn, mae'n wir oedd y cynhyrfwyr; end creawdwyr y cynhyrfwyr oedd creulon- derau y cyfreithiau. Hyd yrna nid oedd y werin Brydeinig yn gyfrifol; yn awr, os anfonir dynion ganddi i'r Senedd a wrthwynebant ryddhau y Gwyddelod o'u cadwynau, bydd..y bobl hefyd yn cyfranogi cir cyfrifoldeb. Y guarantee goreu am gyd-glymiad y Gwyddelod a'r deyrnas hon mewn gwirionedd, fydd cyd. ymdeimlad y werin Brydemig a hwy yn yr argyfwng presenol. Cyfeiriad uniongyrchol Mesur mawr Mr. Gladstone ydyw, gyda gwelliaritau yn Mesur Pryniad y Tiroedd, sicrhau yr undeb trwy roddi awdurdod seneddol i gynrychiolwyr Gwyddelig ffurfio eu deddfau eu hunain. Dywedai Mr. Samuel Smith, yn Rhyl, ar yr 28ain cynfisol, ei fod yn credu dod y Parnelliaid yn hollol ddi- dwyll pan yn åweyd y' byddai iddynt gario allan i'r llythyren eu hymrwymiadau,—fod y syniad i wlad fel yr Iwerddon, sydd yn dibynu bron yn. hollol ar Loegr am ei masnach ymwahanu yn un hollol afresymol. Credu y mae gelynion Toriaidd y Mesur fod Democratiaeth yn sicr o gymeryd lie y dull presenol o lywodraethu trwy ddylanwad gwenwvnllyd y Bendefigaeth, a fod tynged yr House of Lords, y blwydd-daliadau, a'r gwastraff ar y teulu brenhinol yn sicr o ddy- fod, a hyny yn fuan, yn gwestiynau i wneyd byr waith arnynt. Dojen gyntaf yn nghadwen fawr rhyddhad y bobl, trwy'r bobl, ydyw rhydd- had yr Iwerddon. Y mae y cynllun wedi ei dynu allan; y mae yr egwyddor wedi ei dat- guddio. y cwbl sydd yn eisiau, yw ychwaneg o oleuni ar fanylion (details), a gwclliantau yn details y Mesur Tirol, a bydd yr Iwerddon ar un llaw wedf ei diarfogi oddiwrth esgusodion, a Lloegr yri ddigon cryf yn ngolwg y byd o ran gallu materol a moesol, i gymeryd y rhodd yn ol, ie, i orfodi y Gwyddel od i ymostwng. A wna Mr. Gladstone gydsynio i wella ei gynygion tirol ? Cawn weled ar y iofed cyfisol, sef dydd Llun nesaf. 41 BYW FYDDO'R BOBL."

DATGAXIAT) MR. GLADSTONE.