Hide Articles List

3 articles on this Page

HfoMaiiHH fSgtlraflMl.I

News
Cite
Share

HfoMaiiHH fSgtlraflMl. I CTFREITHOL.—N'i raid i ni aros yn hir iawn eto na bydd priodas a chwaer gwraig drancedig vn gyfreithlon. Er fod y rhesymau a ddygir yn mlaen yn erbyn, gan yr Eglwyswyr yn benaf, yn gryfion, eto y mae y rhesymau yn ffafr newid y gyfraith yn llawer cryfach.. Mewn lluaws o enghreifftiau dymuniad y drancedig cyn marw ydyw ar fod i'w chwaer ei dilyn mewn awdurdod ar yr aelwyd y mae angeu ar ei gwahanu oddi- wrthi. Pwy sydd yn fwy cymhwys i ofalu am yr amddifaid ac i gydymdeimlo a hwy na chwaer ea mam P Tystiolaeth y dysgedigion penaf ydyw, nad ces dim yn y Beibl yn condemnio y peth. Rhoddir enghraifft neillduol gan Gym- deithas Diwygiad Deddf Priodas, o un Postfeistr, yr hwn, ar ol dyfal ddisgwyl am gyfnewidiad yn y ddeddf bresenol, a hyny am flynyddoedd, a aeth, gyda chaniatad y Postfeistr Oyffredino1, i Switzerland gyda. chwaer ei wraig drancedig, a ofalai am ei dy, ac a'i priododd hi. Ar ol magu ei amddifaid yn dyner a gofalus, bu farw ei gwr, ond cullodd bob hawl i eiddo ei phriod." Y mae cadw i fyny berthynas a theulu y wraig drancedig yn ami yndra phwysig er sicrhau heddwch a chydymdeimlad. SYH CHARLES DILICE.-Nos Lun diweddaf cymerodd y boneddwr hwn y cyfleusdra i ddat- gan ei deiralad personol wrth ei etholwyr yn Chelsea o barthed y cyngaws poenus a ddygwyd yn ei erbyn gan Mr. Crawford am odineb a Mrs. Crawford. Gwadai y cyhuddiad yn bend ant. Dyweclaii fod wedi cymeryd i fyny fesnrau, trwy Proctor y Frenhines, i ail agor yr achos, ac i amddiffvn ei hun gerbron y wlad. Daw y piawf yn mlaen yn Gorphenaf, byderwn y bydd i'r Barwnig talentog a'r gwladweinydd galluog hwn lwyddo i chwalu oB cwmwl sydd yn awr yn andwyo ei enw da, ac y gall wneyd i fyny yn anrhydeddus am y camgymeriad pwysig a gyf- lawnodd trwy beidio ymddangos ei hun yn y box yn y prawf cyntaf. Y pryd fywnw dywedid y bnasai.gosoil .S.yr-.C*varles. o rlan cryltelJ 'Oi-' croesholiad y dadleuydd yn dwyn allan ddyg- wyddiadau anhyfryd iawn yn y gorphenol. Caivm i un o wladweinwyr galluocaf yr oes brofi mewn dull cyhoeddus fod ei gymeriad yn ddigon glan i herio y croesholiad llymaf. ACHOB ANOBEITHIOL Y GELYNION.—Y mae y dyfyniad canlynol o Ddatganiad Mr. Gladstone yn deilwng o sylw eifl darllenwyr, fel dyferyn o ymresymiad sydd yn chwalu yr holl ymresym- iadau gelynol am byth:—" Y mae rhai am crfodaeth eithafol, eraili am ddogn gymhedrol o hono, yr hyu a dreiwyd am 80 mlynedd, ond yn hollol ddieffaitb. V map ycbydig yn ei erbyn yn hollol, Ar yr ochr arall, y madriiaiain wrthod Llywodraeth Leol, rhai am ei roddi i'r siroedd, eraill i'r taleithiau. Y mae rhai am sefydtu awdurdod ganol i'r Iwerddon, ond nid gallu deddfwrol. Rhai ailu deddfwrol, ond nid gallu gweithredol. Y mae .rhai am fyned yn mheilach na'r Llywodraeth, gan gymeradwyo undeb cyfamodoi, Nid yw rhai yn cytuno mwy a hwy eu hunain, nag y maent a'u gilydd, a newiclia eu cynlluniau yn mbob araeth a wnant, prawf nid, mae'n wir o welldid yn y dynion, ond o gyflwr anobeithiol eu hachos." Ni fynegwyd dim erioed mwy gWJwol a chynwysfawr. Y mae yn cynwys y cyfan. Teimlir ei nerth gan bawb. LERPWL.—Ar yr lleg ymwelir ag ail brif- ddinas Prydain a phrif borthladd y byd gan ein Grasusaf Frenhines. Erys yn y ddinas am ran o dri diwrnod, sef hyd y 13eg, pryd yr ymedy am Windsor. Ei hamcan yn talu yr ymweliad hwn ydyw i agor yr Arddangosfa Longyddol, lie y gelJir gweled rhyteddodau mwyaf y byd yn y cyich hwn o ddiwydrwydd,'—cywreinwaith, dar- ganfyddiaeth, a pheirianwaith. Y mae y Mri. Lewis a'i Gwmni, Lerpwl, wedi dwyn yr anghen- fil lestr y Great Eastern o Hafan Milffwrdd i'r afon Sloyne, i'w harddangos gyda llongau eraill. Ffurfiwyd cwnmi i'r perwyl gyda capital o 20,OUOp. Yh ychwanegol at arddangos y llestr hynod hon, y fwyaf yn y byd-yn ymyl yr hon nid yw y llongau mwyaf ond erthylod, gwerthir b" J' b nwyddau ysgafn a r Ivy wrain ar ei bwrdd. Y doll o'r lanfa ar y bwrdd ac yn ol fydd un swllt. Gall y llestr dderbyn 10,000—deng mil—ar y iro. MORGWN Y MoR DEHEUOL.—Yn ddiweddar aeth tri o ddynion ieuanc a'u tad allan mewn pleser-fadau i gilfach-for Sydney, Awstralia. Dymchwelodd y bad a syrthicdd y tri i'r dwfr ni welwyd mo honynt mwy yn fyw. Yn mhen diwrnod neu ddau daliwyd yn fyw ddau forgi mawrion (sharks), yn mesur rhwng pump a chwe' llath, heblaw lladd saith eraill. Ar ol eu harddangos i ganoedd o edrychwyr lladdwyd y ddau eraill. Yn eu crombil cafwyd darnau o gyrff dynol heb eu treulio,-esgyrn, coesau, a dwylaw, yn nghyda llodrau a modrwyau. Oddi- wrth yr olion pruddaidd hyn deallwyd fod y pedwar boneddwr wedi syrthio yn ysglyfaeth ar unwaith i'r anghenfilod creulawn. Dywedir mai y farwolaeth fwyaf ofnadwy ydyw marwol- aeth rhwng danedd miniog y shark. BANC CYNILO CAERDYDD.-—Ar 01 marwolaeth un Williams, yr hwn a fuasai yn ysgrifenydd y Bane uchod am dros 30 mlynedd, cafwyd allan ei fod wedi bod ar hyd yr holl amset yn twyllo y cyhoedd yn arswydus, nes erbyn heddyw y mae y rhai sydd ag arian ganddynt ynddo yn clebyg o golli o leiaf 6s. y bunt o'u harian os nad ychwaneg. Dywedir fod y twyll yn eyrhaedd y swm anferth o 55,000p. Ychydig o amser yn 01 yr oedd un Harris, dyn o ddylanwad mawr a chrefyddwr yn Abertawe,* yn cael ei ddedfrydn i benyd wasanaeth am dwyllo fel 'ysgrifenydd Cymdeithas Adeiladu. TRAMOROL.—Yr oedd yr wyth niwrnod i fyny nos Fawrth a roddwyd gan y Galluoedd i Gioeg i ddechreu chwalu ei byddin oddiar y terfynau Tyrcaidd; ond er na wnaeth, nid yw y lIys- genadon tramoro! eto wedi gadael Athens, fel y bygythiai yr Ultimatum, os na ymostyng-ai y Groegwyr i ddyfarniad Ewrop. Edrychir ar ymddygiad y powerau mawrion gan Groeg fel ?yii anghydweddol a rhyddid ac anrhydedd ?Bi'enm??eorge, yr hwn, gan gofio, sydd yn frawd i Dyw'ysoge (ytniu, yu 45 oed, ac yn derbyn 10,000p. yn y flwyddyn o logellau treth- dalwyr y wlad hon. Am beth, nis gwyddom, os nad am ei fod yn euog or pechod o berthyn i'n teulu brenhinol ni. Er fod y sefyllfa yn Groeg, a rhwng Groeg a'r Galluoedd yn "dyn," sicr yw y bydd iddi ymostwng, er yu anewyllys-I gar, i gryfder. Cynhyrfus iawn ydyw pethau yn parhau yn Bwrmah; peil ydyw y wiad o ytnostwn? i'r awdnrdodau Prydemlg. Uymer- wyd meddiant o lawer o drysor, mewn gWahanOll ffyrdd, yn ystod y rhyfeigyrch. Bwriedir ei werthu yn Caicutta i dalu costau y rhyfeigyrch milwro), a disgwylir y bydd yderbyniadauyn II ddÜWl1 i gyfarfod tua haner y gost, neu 150,000p. I U CoRNWALLis WEST.—Y mae yr aelod senedd- ol hwn yn debyg iawn o golli ei sedd y tro nesaf yn Sir Ddinbych. Ymddengys fod y "bobl yn y gynrychiolaeth wedi chvverwi yn fawr wrtho am ei waith annoeth ac annheyrngarol yn ymgynllwyn a'r Toriaid yn Wrecsam nos Sadwrn i guro Mr. Gladstone i lawr a'i Fesurau Gwydd- elig.. Gan nad pa beth ydyw yr aelodau, y mae y 11 bobl fel un gwr o blaid y Grand Old Man. Cyfododd hen gyfeillion Syr Robert Cuniiffe hefyd i'w hwtio yntau am sefyll ar yr un hvyfan a Thoriaid i gondemnio Mr. Gladstone, yr un noson a West. Anhawdd fydd i'r naili na'r Hall enill ymddiried y bobt mwy. HALOGI Y SABBATH.—Drwg genym weled oddiwrth fwy nag un gohebydd fod ewynion yn £ odi yn erbyn dosbarth o-siopan sydd y gwerthu tobaeo a sweets; eu bod yn euog o gadw cil drws y cefn yn agored i blant ddyfod i wario eu pres ar y Sabbothau. Nid ydym yn gweled rhyw lawer iawn o wahaniaeth a.L- yr un pryd rhwng y gwerthwyr a'r rhai a ddenant.- a'u pocedau yn Jlawu o'r man melus-belenau i'w rhoddi i'r dosbarth prydnawn Sabbath yn y eapel. Y mae gwahaniaeth barn yr ydym yn deall ar hyn yn mysg yr athrawon eu hunain. Gwnaeth un athraw doeth ddeddf yn ei ddos- baith nad oedd yr un or ysgoleigion i ddyfod a sweets o gwbl i'r dosbarth. Torodd un y gyf- raith osodedig; aeth yr a..hMW i'w gosbi. Plentyn yr arolygwr ydoedd. Y canlyniad fu i'r arolygwr, meddant hwy," gymeryd ei het, a rhedeg allan yn ddigofns. Ni welwyd mo bono mwy yn a!olygwr, nac yn yr ysgol Sab- bothol. Minciac" y plant oedd yr achos. Pa un ai dydd Sadwrn ai dydd Sul y prynwyd y minci'ic" nid yw o bwys,—dydd Sul yr oedd yn cael ei fwyta yn yr Ysgol Sabbothol.

I ! ERCHYLLDRA AR Y MOR.

Y SENEDI).