Hide Articles List

3 articles on this Page

Ffestiniog yryr amser gynt.

Llythyr oddiwrth Mr. W. 0.…

Yr Eglwys yn Nghymru a'i Llenyddiaeth.

News
Cite
Share

Yr Eglwys yn Nghymru a'i Llenyddiaeth. DYMA destyn ysgrifau gohebydd galluog A ymgyfenwa A. B. yn y Western Mail yr wyth- nosau a basiodd. Gellir meddwl wrth waith yr ysgrifenydd medrus A. B. mai un o amcanion bodolaeth yr Eglwys yn Nghymru" yn awr, ac hefyd er's rhai ugeiniau o flynyddoedd, ydyw gwrthwynebu Ymneillduaeth, a bod ei llenydd- iaeth yn cael ei phrisio yn ol ei galla i gain ddarlunio, erlid, a gwarthrudclo Ymneillduaeth. Y mae y Western Mail am y 18fed o Ionawr yn awr ger ein bron, yn cynwys llythyr o eiddo A. B. ar yr Haul, misolyn yr Eglwys a gyhooddir yn Nghaerfyrddin. Bwria olwg arno o'i gychwyniad, tua haner cant o flynyddau yn ol, o dan olygiad Brutus, hyd yn awr. Yr oedd adeg cysylltiad Brutus a'r Haul yn ddyddiau ei lwyddiant, ac yr oedd ffurf a gallu ei ymosodiad ar, a'i wrthwynebiad i Ymneillduaeth yn y cyfnod hwnw, yn cyfansoddi ei ragoriaeth mawr. Ond er canmawl Brutus a'r Haul dan ei olyg- iad am yr hyn a wnaethant er dynoethiad "Jacs" a 11 Jacycldia,-th Ymneillduol, yr hyn a ystyrir fel ei ragoriaeth mawr, nid ydyw yn yraddangos ei fod yn gallu gweled ei fod wedi bod o wasanaeth mawr er adeiladu yr Eglwys. Ymfalchia yn y dinystr a gyflawnwyd ganddo yn nhir Ymneillduaeth, er y myn fod y dinystr wedi bod yn fantais iddynt; canys fel hyn y dywed,—" Y maent yn ddoeth wedi manteisio ar ei ddynoethiadau, ac mor bell y mae Cymry yn ddyledwyr iddo. Eto nid ydyin heb ofni fod eisieu ail Frutus i nodi allan yn ein dyddiau ni dueddiadau cyffelyb o fewn ein Heglwys ni ein hunain; canys y mae y Defodwr yn gefnder o — 1 \7 l,ltl. v 1"1., n ""(. ;Jrrr,.y'Y'l a¡¡ ucbod, fel y gwelir, yn cynn w ys yr addefiad fod Ymneillduaeth yn ddigon byw i gymeryd awgrym, ac i wella yr hyn oedd feius yn ol dynoethxadau yr Haul, tra y dystaw awgryma fod yr Eglwys yn rhy ddall i weied a rhy ddi- ymadferth i ymysgwyd oddiwrth rnvymau defodaeth, ac nid oes ganddi wyliwr a rhy- i buddiwr.. I Dywed A. B. fod yr Haul drwy ysgrifau H Bugoiliaid Eppynt" wedi gwasgar ofn iachus drwy wersyll y Jacs," tra yr oedd diaconiaid a cheisbyliaid yn hollol ddinertb er daioni. Yna y mae mewn ton gwynfanus yn addef fod addysg wedi effeithio cvfnewidiad pwysig mewn Eglwysyddiaeth ac Ymneillduaeth, a bod yn ein dyddiau ni "Jacyddiaeth" fwy galluog ac anhawdd ymosod ami a'i gwrthwynebu yn effeithiol, sef Jacyddiaeth y wasg Ymneillduol; ac nid sea gan yr Eglwys yr un Brutus i arwain yr ymosodiad. Eel hyn yr ysgrifena,—" Gwnaeth yr Ecml ugain mlynedd yn ol ei waith, ac fe'i gwna-eth yn iawn; ond y mae yr hen ryfelwyr wedi gyda'u hen arweinydd, ac nid ydyw ei fanteil -,vodi syrthio ar olynydd teilwng. Y mae yr Haul yn cael ei ddwyn allan yn llwfr- aidd gan ry wogaeth o gorachod (pigmies), heb j'rwdfrydedd ac heb dalent. Y mae eynlluniaa 20 mlynedcl yn ol yn anamserol erbyn hyn,— rhaid cael ffurf a gwaed newydd ymhob rhan, a ihaid dewis llinelleu newyddion er ymosod ac er r,indd-iffyn." Dywed yn mbellach fod "yr Haul fel hen long; wedi suddo yn y tywod o ddiffyg 'J"I: (■ ,I 11 1 y I), > r. ■, :i;. ) ■ anturiaeth., diffyg talent (intelect), a diffyg cefnogaeth., Yn awr, wrth son am yr Haul,' ni fynwn anaifu y teimlad tyneraf. Diau genyf i'od y eyboeddwt anturiaethus yn haeddu gwell cefnogaeth, ac nas gall feallai fod dim bai arno ef, nas gall y cynyrchion, pa rai sydd inor bell islaw canologrwydd (mediocrity), gynyrchu dirmyg yn meddyliau lliaws sydd yn cosbi en hunain drwy eu darllen. Kid wyf yn gwybod pwy yw yr ysgrifenwyr, na pha fodd eu telir,-beth all fod eu sefyllfaoedd yn y byd neu eu manteision fod. Pe gwyddem hyn oil, dichon, ac ystyried pobpeth, y byddai i'w cynyrchion ad- lewyrchu clod arnynt eu hunain, pa mor ddiffygiol bynag mewn ystyron eraill. Y mae yn ymddangos y perthyna yr ysgrifenwyr gan mwyaf i'r dosbarth gweithiol, ac fel y cyfryw ysgrifenant eu mam-iaith yn ganmoladwy ac nis gall cylchrediad cyfyng y misolyn ganiatau ond tal bychan neu ddim. Dichon fod y nifer fwyaf yn ysgrifenu yn unig er mwyn gweled eu gwaith mewn argraff, yn enwedig y beirdd, ac y mae hyny yn burion ond yr wyf fi yn gwrthod cymeryd fy ngorfodi i ddarllen y fath stwff, a thalu am dano fel cynyrchion clasurol a diwylliedig Eglwyswyr goleuedig. Yr hyn y mae mawr angen am dano ydyw, golygydd galluog gyda waste basket' fawr, a digon o wroldeb i'w llenwi. Y mae yr Haul' yn amcanu at ormod a rhy fach." Yr ydym wedi dyfynu digon, os nad gormod dymnnwn alw sylw yn fyr at rai pethau a gynwys y dyfyniadau uchod. Y maent yn awgrymu hollol ddifaterwch ar ran y clerigwyr i ddysgu y deiliaid yn mhethau crefydd, hyd yn nod y grefydd sefydl- edig; oblegid ni sonir yma am ddim gwaith a wnant yn yr ystyr hyn, ond awgrymir at eu diffyg gwneyd mewn cysyUtiad a lienyddiaeih ;—y mae prif gyfrwng I llenyddol yr • Eglwys — yr 'Haul' yn gynyrch meddwl ac ysgrifell y dosbarth gweithiol, yn ol y dyfyniad. Y mae yr addefiad a wneir o allu y wa"g Ymneillduol, yr hyn a elwir Jacyddiaeth, yn gryfach na Jacyddiaeth y pregethu yn amser Brutus, a'r addedad o sefyllfa fwy diallu yr EiTlwv Iv T 'h 'I- vm}i? ystyr TU  "? i,Y,I liod'.aet yr "Eglwys yn Nghymru" yn colli, tra y mae yn methu darostwng ac atal Ymneillduaeth. Tra mae yr hen ysbryd gelyniaethol a rhyfelgar mor fyw ag erioed, addefir bron yn omiodol eiddilwch a gwendid yr Eglwys i gario y rhyfel yn erbyn y srelyn yn fwy nag un amser o'r blaen, tra y cydnabyddir fod Ym- neillduaeth wedi ymberffeithio, ac yn gryfach a mwy anorchfygol nag y bu erioed. Y mae cyfnodolion y gwahanol enwadau mewn sefyllfa flcdeuog, yn mediu golygyddion galluog yn meddn digon o wroldeb i lenwi y fasged; ac y mae ganddynt gyflawnder o gpnyrchion addfed meddyl- iau diwyUiedig i hulio gwledd o'r fath a gar y darllenwyr yn fisol, &e. Hefyd, y mae toraeth papyrau newyddion yr Tmneillduwyr yn cael eu dwyn ymlaen mewn dul teilwng, meistrolgar, ac eifeithiol; ac ni raid cywilyddio dweyd fod eu cynwys yn cael ei wneyd i fyiy mewn rhan beb fod yn feehan gan y dosbarth gweithiol. Da fyddai pe gwelid llai o ymgynhert rhwng Ymneillduwyr a'u gilydd, ac yn arbenig nwng gwahanol enwadau crefyddol, neu yn fwy :iiodol ymhlith yr enwadau eu hunain. Pa fodd byng, nid oes eisieu tystiolaeth eglurach o ragoriaeth bnyddiaeth Ymneillduol ar eiddo yr "Eglwys ynVghymru" nag a geir gltn A. B. yn y Western Mil." Ond na ymfoddlonwn ar fod yn well, ymdreelvn am fod yn dda.