Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

TREFN OEDFAON Y SUL I

AT EIN GOHEBWYR.

[No title]

[No title]

[No title]

Advertising

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

Y mae Llywodraeth yr Unol Dalaethau yn naturiol yn bryderus ynghylch y darganfyddiad diweddar o glwyf y gwartheg ar fwrdd y Hong Ontario. Pellebrodd Llywydd talaeth Illinoes at yr Arlywydd, yn ei hysbysu fod y gwahardd- iad i allforio anifeiliaid Americanaidd a fygythid gan lywodraeth y wlad hon yn profi yn niweid- iol iawn i fasnach amaethwyr yn y talaethau hyny lie mae y clwyf heb wneyd ei ymddangos- iad. Atebodd yr Arlywydd i'r perwyl fod y Llywodraeth Brydeinig wedi ei hysbysu am yr anwiredd oedd yn cael ei ledaenu, a'i fod yn hyderu y gellid setlo y mater yn fuan. Y mae Llywodraeth Canada hefyd wedi anfon cenadwri i hysbysu nas gal!ant hwythau ganiatau i anifeiliaid o'r Unol Dalaethau groesi y terfyn i'w tiriogaeth; ond gwrthwynebir y penderfyn- iad gan yr Amerieaniaid, a haerir nad oes dim arwyddion anarferol o'r clwyf yn un man yn eu tiriogaeth hwy.