Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

[No title]

AT ElN - GOHEBWYR.

LLESTR GWAG WNA FWYA' SWN.

I O'r PwJl Glo i r Sesedd.i…

Y Cysgwr yn y Capel.

Digon o Ddefnyddiau.

I Y Plentyn.

News
Cite
Share

I Y Plentyn. I Mwyn blentyn bach, ar drothwy'r byd, Chwareua gyda'i degan, Tra cerddi ei fj.m o gylch ei gryd Yn gwneud ei fron yn ddiddan; Hoff wen ei dad fel heulwen nawn, Ddisgyna'n dyner arno, Nes gwelir yno ddarlun llawn 0 gariad yn blodeuo. Y cyntaf daith o gol ei fam Gychwyna'n lion ei galon, Ond profa rhoi y cyntaf gam Fud yn y byd helbulon; Ond drws y ty-ei uchel nod- Gyrhaedda un prydnawnddydd, Tra cwmwl serch yn tori'n glod Ar ben y teithiwr newydd. 0 ddrws y ty fe wel y byd Yn agor fel paradwys, A chymyl teg gobeithion hud Ddiferant arno'u cynwys; Gadawa'r drws i wel'd yr ardd Yn nghwmni ei gyfoedion, Tra gwena pob blodeuyn hardd, Gan swyn ei ruddiau tlysion. Sirioldeb pur yr angel mwyn Sy'n dawnsio ar ei ddwyrudd, Gan chwareu gydag hudol swyn, Dros dannau diniweidrwydd; Ei lygad lion fel arian clir, Ddysgleiriant gan obeithion, Wrth wel'd copaon uchel dir Yn taflu eu cysgodion. Cysuron teg fel blodau ha' Ganfydda yn y pellder, Ei galon fechan a'u mwynha Flynyddau cyn yr amser; Bwriadau gwyn fel ewyn ton, Sy'n chwyddo yn ei fynwes, Tra llwybrau gwyrdd y ddaear hon Yn gwneutliur iddo hanes. Yn llaw ei dad i'r Ysgol Sul, Cyfeiria'r 'tlws' ei gamrau, I ddysgu am y Ilwybr cul, Ac am y Cyfaill Goreu; Mor fwyn y gwena'r bychan lion, Wrth wrando am yr Iesu, Yr hen, hen hanes dania'i fron, Mae'n nefoedd i'w rieni. Yn fuan daw y plentyn hardd I- fyn'd ar negeaeuau, Mor chwim ei droed a meddwl bardd Wrth erlid drychfeddyliau; Fe ddringa'r bryn ar ol yr wyn, A chwilia'r nant am bysgod, A chana gerddi Cymru fwyn Gan lwyr anghofio'i drallod. Dadblyga'n ddyn ar faes y byd. Gorchfyga lawer gelyn, Ond cofio'r llwybrau wna o hyJ A rodiodd pan yn blentyn; Fe gofia'r ardd, a thy ei dad, Lie treuliodd foreu bywyd, A thry'r adgofion yn fwynhad Ar Ilryniau gwyrddlas gwynfyd. Hebron. S. P.

IMPRESSIONS OF PARIS.

Advertising

Advertising

[No title]