Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

[No title]

AT ElN - GOHEBWYR.

LLESTR GWAG WNA FWYA' SWN.

I O'r PwJl Glo i r Sesedd.i…

News
Cite
Share

O'r PwJl Glo i r Sesedd. Mewn ysgrif fywgraffyddol o Mr. Sam Woods, yr aelod Seneddol dros Walthamstow, a ym- ddangosodd yn ddiweddar mewn rhifyn o'r M. A. P., dywed Mr. Woods wrth gyfeirio at ei ddyddiau boreual:— "Gweithiais am ugain mlynedd yn y lofa, gan lanw pob safle, a chyflawni pob gwaith, o yru merlyn i fynu i fod yn swyddog yn y tofa, ac fel canlyniad naturiol yn ystod y blynyddau hyny ar gyflrif yr oriau hirion a weithiwn, di- gwyddai yn fynych na welwn oleu dydd Xn ystod y gauaf, o un hwyr Sul hyd foreu y Sul nesaf. I lawr o'm blynyddau boreuaf modd bynag, hyd yr amser presenol, yr wyf wedi dilyn yr Ysgol Sul yn gyson, ac ynddi hi y cefais gyfleusderau i ddysgu darllen. Pan yn 16eg oed drwy dref ddoeth Rhaglun- iaeth, daeth gweinidog ieuanc perthynol i'r Bedyddwyr, rhyw bedair blwydd hynach na mi, i fyw i'r gymydogaeth lie yr oeddwn. Cymerai y boneddwr hwn ddyddordeb dwfn yn mwnwyr ieuainc yr ardaL Cof genyf iddo gymeryd ataf fi yn neillduol, ac am ddwy flynedd bum dan ei ddylanwad uniongyrchol. Yn 18 oed yr oed- dwn wedi gwneud cymaint cynydd yn fy myfyr- dodau, fel y gwnaed cais at y Parch C. H. Spurgeon am fy nerbyn i'w goleg ef er mwyn fy mharotoi i'r weinidogaeth, a roddwyd ad- dewid am y lie gwag nesaf yn y coleg, ond wedi ystyried y mater yn llanwach gan fy nhad, i'r hwn yr oeddwn yn gweithio yn y lofa —cododd wrthwynebiad i mi fyned, am efallai y buasai yn golled arianol i'r teulu, a bu raid i mi droi fy sylw at rywbeth arall." Ddajllenydd ieuanc, ti a weli yn hanes Mr. Sam Woods, A.S., mai ffordd sicr i anrhydedd yw dilyn yr Ysgol Sul. K.

Y Cysgwr yn y Capel.

Digon o Ddefnyddiau.

I Y Plentyn.

IMPRESSIONS OF PARIS.

Advertising

Advertising

[No title]