Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

[No title]

AT ElN - GOHEBWYR.

LLESTR GWAG WNA FWYA' SWN.

News
Cite
Share

LLESTR GWAG WNA FWYA' SWN. Tad: Dyma i chwi hen ddiareb i sylwi arni; ac. i ymddiddan am ychydig amser yn ei ehylch; mae'n debyg i chwi ei chlywed o'r blaen.—"Llestr gwag wna fwya' o swn." John: Do, fy nhad, mi glywais fy ewythr Morgan o'r Bryn, yn dweyd rywbeth tebyg urrwaith wrth un o'r gweision ag oedd yn ad- rodd ryw chwedl lied fras am dano ei hun. Tad:Wel, os byddwch chwi yn ddistaw yn awr am ddeng mynyd neu chwarter awr, mi adroddaf i chwi hanesyn difyrus am fachgen yn dyfod adref o'r ysgol yn y gwyliau ganol yr haf. Ymddygiad yr hwn oedd yn esboniad j gv^ch o'r hen ddiareb dan ein sylw. 'Tst, mae rhywun yn curo wrth y drws! P-afr sydd yna-beth yw'r mater, Maryf "0, y 'carrier' sydd wedi dyfod a bocs Master William, ma'm." Purion; ceisiwch ganddo ddyfod ag ef i mewn i'r gegin. Gadewch i mi gaol gweled a ydyw pobpeth yn iawn. Ie, dyma'r bocs. Pa faint sydd am ei gario?" "Deunaw ceiniog," atebai y carrier. "Holo! p'le mae'r 'carpet bag' etto?" "Ie'n wir hefyd. 'Rhoswch chwi fynyd. mae hwnw etto ar gael. DjTria fe ma"IIl. A oes rhywbeth arall, ma'm?" -Na, dim arall, John." "O'r goreu ma'm: 'all right then.' Nos dawch ma'm, a diolch i chwi." Ychydig fynydau ar ol hyn gwelyd Elen a'i' chwaer fach yn eistedd ar ochr y ffordd yn ectrjch ac yn dysgwyl am y 'coach,' yr hwn oedd i ddyfod a'i brawd adref o'r ysgol. Yr oedd yn myned braidd yn hwyr, a mawr oedd ei dymuniad am ei weled yn dod, canys yr oedd ganddynt lawer o bethau i'w dweyd wrtho y noswaith hono cyn myned i'r gwely. I Yr oedd y wenol olaf wedi canu nos dawch iddynt; ond dyna lie yr oeddynt hwy yn Bytwi. ar oleu rhuddgoch yr haul ar ben y ty, a'r pelydrau dysglaer a ymluchient yn ol oddiar y gwydr. Yr oeddynt wedi bod yn edrych ychydig ar y gwvbed yn chwareu, yn awr yn dawel a diar- swyd trwy fod y gwenoliau wedi myn'd i gyS'gu. gwelent yr ystlumod hefyd yn ehedeg oddeutu eu penau, ac ymdrechent eu goreu eú: d in, ond nis gallent. Yr oeddynt wedi bod yn gwrandaw ar y gwyddau ar y llanerch las' tu cefn y ty yn canu eu hemyn hwyrol: a'r asen, yr hon oedd wedi bod yn ymdreiglio yn y llwch, yn awr yn cyduno a'u cyd-gan aflafar. Yr oeddynt wedi bod yn gwrandaw ar swyn olwynion, yr hyn a d- nl :ll:>n i fod yn gart—ar olwynion 'omni- bus'—ar olwynion 'caravan,' ond yn awr clyw- sairt dau o geffylau, benau pedwar o geffylau, ben 'coachman,' benau rhai ymdeithwyr, coes- au pedwar o geffylau—yna pedair o olwynion cochion, y rhai y gwyddent oeddynt yn perthyn i'r cerbyd oedd i ddyfod a'u brawd anwyl hwy o'r ysgol. Felly, o'r diwedd, eu brawd a ddaeth; tynas- ant ef allan o'r cerbyd, a phob un yn cydio yn mhob ei law, llusgasant ef i'r ty, ac a'i cofleid- 'd LL cusaaasant, ac a ddawnsiaeant o'i j-.iiglych bron yn ddi-ddiwedd, fel yr oedd yr iawn ac yn weddus i chwiorydd hoffua v -eiid. "Rhyfedd mor felyn yr ydych yn edrych Wi.r:,Tn; ac 0, fel yr ydych wedi tyfu; med- .i oh *?r Jane wrtho, wedi iddynt orphen yfed te; "a'r fath ddwylaw mawrion sydd gan-' d4 onite, mam! 0, gadewch i ni fyned i'r ardd, y mae genyf gymaint o bethau i'w ddweyd wrtho." "Edrychwch yma, William!" meddai ei chwaer fach wrth, "welwch chwi ein ci newydd ni—'Carlo' yw ei enw ef." "Ie'n wir, wyddoch chwi, mae e'n gi 'glor- ious,' medd William. Yr oedd ei chwaer fach yn gwrandaw ac yn ymddangos fel pe &a buasai wedi clywed pethau fel hyn o'r blaen; nid oedd yn medru deal! pa fodd y gallai y ci fod yn 'glorious,' ord yr oedd yn meddwl ei fod yn rhywbeth da iawn. "Dewch gael gweled y pysgod yn y llyn," meddai Elen. "0, y maent yn rhyfedd o 'splen- dacious!" atebai William. "Dewch i lawr i w&elod yr ardd i gael gweled y gwenyn. Dyma gwch gwydr; nis gallwch ei gweled yn dda heno, oblegid y maent yn cysgu." "0, ie, hen gyfeillion 'jolly' yw gwenyn," meddai William; "y maent yn gwneyd llwythi o fel onirl ydynt'?" "Beth! na, na, nid ydynt wedi gwneud un llwyth cart etto," medd Jane, "os llwyth cart yr ydych yn ei feddwl; ond pa beth ydych yn ei feddwl wrth alw'r gwenyn yn "jolly," Wil- liam V "Oh, ryw air yw "jolly I" fy meddwl yw eu bod yn hoffi dyfyrwch, wyddoch-eu bod yn hedeg o amgylch am helfa. Gadewch i ni fyned gael gweled ein gerddi bach—sut y mae fy nglued 'roses' i yn d'od y mlaen erbyn hyn ? "O'r goraf, nyni a awn," atebai Elen; "yr ydym wedi cadw eich gardd chwi mewn trefn. Dyma hi, a'n gerddi ni bob ochr iddi. Dyma ryw fath o 'bell-flower' hyfryd iawn f Nid ydym yn gwybod pa beth y mae yn cael ei alw." "Y 'Campanula rotundifolia,' yw hwn," med- dai Wiiliam. "Edrychwch ar y 'fox-glove' yma, William." William: "Ho, dyna'r Digitalis purpuera." "A gwelwch mor dal y mae fy 'holly-hock' i yn tyfu!" William: "Alsea Rosea' yw hwna." "Pa beth? William—'hollyhock' yr ydym ni yn arfer ei alw, ao felly mae fy nhad hefyd. 0, William! yr ydych chwi am ein gwawdio ni." Wiiliam: "0, nac ydwyf; dyma'r enwau sydd arnynt mewn llyfrau dysgedig—enwau Lladin ydynt. Ond o ran hynny, nid ydych chwi wedi dysgu Lladin etto-felly bydd yn hir cyn y deuwcli i'w gwybod." Yr oedd eu tad wedi addaw i'r plant y caent aros i lawr y noswaith hono, felly hwy a aeth- ant yn awr i mewn i swper. "Wei, William," meddai ei dad, "mae'n dda genyf eich gweled yn edrych mor dda ac mor gryf. Yr ydych yn awr yn un-flwydd-ar-ddeg oed-ac yr wyf yn sicr gan eich bod wedi dysg-a cymaint yn yr ysgol, y bydd yn dda genych addysgu tipyn ar eich chwiorydd yn ystod eich gwyliau. Addysgwch hwynt gymaint ag a alloch. "0. fy nhad," atebai Elen, y mae wedi dysgn i ni ddau neu dri o bethau yn barod. Mae'n galw ein 'Dell-flower' ni yn 'Campanula rotundifolia'—yr 'hollyhock' yn 'Alcea' rywbeth, ac mai enwau Lladin ydynt." "A'r pysgod," medd Jane, "y mae y rhai hyny yn 'splendacious." "Pa beth ydynt?" gofynai y tad, gan edrych yn lied anfoddlon. "0, myfi a ddywedodd fod y pysgod yn 'splen- dacious," atebai William, gan wrido ychydig. "Nid yw Jane yn deall, mae hi yn meddwl mai Lladin yw—'dyw e' ddim ond rhyw air sydd genyf fi." "Ond, William, nid dyna'r fath ddysgeid- iaeth sydd amaf fl eisiau i'ch chwiorydd," atebai y tad. 'Rwyn dymuno i chwi ddyagu aynwyr iddynt. ac nid ewn. Nid yw yn rhyw gamp fawr i ddysgu hyd y nod yr enwau Lladin ar flodeu; nid ydynt hwy ond geiriau, na ddim gwell na geiriau Sacaoneg neu Gymreig, canys gallai pioden (mag-pie) eu dysgu i gyd. Buasai yn well genyf o lawer pe buasech wedi dysgu rhywbeth yn nghylch natur y blodeu, fel y gallech feddwl am danynt, yr hyn nis gall y bioden wneyd. Dichon y gallai eich chwiorydd eich helpu i wneyd hyntiy. "Ond mewn perthynas i'r geiriau eraill, Wil- liam Yr oeddych yn galw y pyegod yn 'splen- dacious'-a chlywodd eich mam chwi yn galw y gwenyn yn 'jolly'—a'r ci yn 'glorious.' Wyd- doch chwi beth, nid wyf yn amheu na theim- lai 'Carlo' ei hunan yn anhapus pe bai yn deall ei fod yn cael ei alw yn 'glorious,' canys byddai yn gwybod mai swn heb sylwedd fyd- dai. Gallwch fod yn sicr gan hynny, er y gallech chwi feddwl i fod y fath eiriau a hyn yn rhai braf iawn, am eu bod yn swnio yn lied fras, nad ydynt ond geiriau gwag a ffol. Mae'n ddigon hawdd dweyd y fath eiriau-ond nid oes neb ond y sawl fyddo a'u penau yn bur wag o.'u defnyddiant. Gobeithiaf, William, nad yw eich meddwl chwi delim yn wag, ond ei fod wedi ei lanw a rhywbeth heb swn. Gadewch i mi gael clywed pa beth fuoell yn ei ddysgu yn yr ysgol." "Cewch siwr, fy nhad." atebai William, "yn union;" oblegid yr oedd arno cisiau dangos ei fod yn gwybod rywbeth heblaw enwau, felly, efe a ddechreuodd adrodd dernyn Seisneg, yn dechreu fel hyn:- "My name is Norval; On the Grampian Hills my father feeds his flock-" Adroddodd y dernyn wrth ei dad gyda chryn hwylusder a bywiogrwydd-gan edrych weithiau yn dra Ilym-bryd arall yn fwynaidd-yn dweyd yn awr a llais uchel-drachfn yn isel ac araf. Felly ei chwiorydd a dybient ei fod yn adrodd yn dda iawn. Yna efe a adroddodd dderyn arall, yn dech- reu fel hyn:- "Most potent, grave, and reverend signiors!" "Wel, William," meddai ei dad, "chwi ad- roddasoch y rhai yna yn bur dda, ond nid wyf mor awyddus am i chwi allu dweyd yn dda, a meddwl yn dda. Yr ydych yn dwyn ar fy nghof hanes am ddyn yn America ag y dymun- wn i chwi ei glywed. "Yr oedd gan Genadwr, ag oedd yn byw yn mhlith Indiaid Gogledd America, was ag oedd yn hoff iawn o wneuthur areithiau mawrion a rhodresgar. Un diwrnod, pan yr oedd y Cenadwr yn myned heibio trwy'r coed, efe a glywai ryw swn dyeithr, a thrwst dynion yn euro dwylaw fel ag y bydfl pobl mewn cyfarfod cyhoeddus weithiau. Wrth edrych efe a ganfu ei was yn sefyll ar ben clawdd a thwr o Ind- iaid yn ei amgylchu. Er nad oedd y dyn yn deall iaith yr Indiaid, etto efe a wna ddigon o swn, fel swn araeth fawr iddynt. Yr Indiaid a wrandawent gyda'r astudrwydd mwyaf, ac nid oedd ganddynt yr amheuaeth lleiaf nad oed- dynt yn gwrandaw ar eu hiaith eu hunain, ond yn unig fod yr areithiwr yn siarad mewn dull rhy uchel iddynt hwy allu ei ddeall. "Nid oedd gan y gwas un drych-feddwl i'w roddi iddynt, oblegid gwag hollol oedd ei ben ef ei hun-felly yr Indiaid druain a aethant ymaith gyda phenau gweigion eu hunain hefyd. Nid oeddent wedi cael dim ond swn uchel a bywiog-nid oedd gair o synwyr wedi cael ei lefaru. "Yr un modd y mae gyda phobl ereill, Wil- liam. Y rhai hynny ag y mae iddynt feddyl- iau bychain ydynt yn gyffredin a'u swn yn uchel: y rhai ydynt yn dweyd fwyaf yw y rhai ydynt yn meuawl leiaf. "Pe tarawech nifer o lestri a ffon, ac i un o honynt wneyd swn mawr a dwfn, deallwch ar v nwaith mai un gwag fyddai hwnw. Felly, wrth sylwi ar eich hoffder chwithau. William, o eiriau mawr, enwau Lladin, ac areithiau godi- dog o ran iaith a dull, yr wyf yn ofni yn fawr pan yr holaf chwi yfory, na chaf lawer o ddrych-feddyliau yn eich pen; gobeithiaf, er hynny, nad yw yn hollol wag; ond y mae yr hen ddiareb bob amser wedi bod, ac yn parhau i fod yn wir, sef mai "Lestr gwag wna fwya' o swnt" J.

I O'r PwJl Glo i r Sesedd.i…

Y Cysgwr yn y Capel.

Digon o Ddefnyddiau.

I Y Plentyn.

IMPRESSIONS OF PARIS.

Advertising

Advertising

[No title]