Skip to main content
Hide Articles List

18 articles on this Page

[No title]

MAE SON AM DANYNT.

News
Cite
Share

MAE SON AM DANYNT. Mrs. Watts-Hughes. Me-.vn ynddiddan ag hen gyfai'll ryw noson n&t.t ddwy yn ol, cefais ychydig hanes y gan- torae pcuv'jg uchod, yr hon fu farw beth am- ser yn ol. A chan fod y gwr hynaws o Lan CATA yn gofyn a oedd iddi gysylltiad a Sir Bert:) (er ni ddaeth y gofyniad trwy gyirwng y .GolMfn Gymreig). nid allan o Ie yn sicr, yw ar "ddu a gwyn" yr hyn a fynegwyd imi. Flyuyddoedd lawer yn ol preswyliai yn N-h -rn-t:-dyrhiw un o'r enw Thomas Watt, ac yn ei. ddydd yr oedd yn ddyn dylanwadol yn yr ardal, yn meddu ar gryn allu, yr hyn a ddef- nyddiai yn achlysurol i bregethu yr efengyl yn Nhrefgarn. Yr oedd gan y Thomas Watt hwn -ju mab, ac efe oedd tad Mrs. Watts- Hushes (Miss Watts y pryd hyny). Mae dau o gefnaer.vyr iddo yn awr yn byw yn Solfa—sef Mr. James Jenkins a Mr. Moses J enkins (brodyr). Symudodd tad Mrs. Watts-Hughes o'c ardal yn mhell cyn ei geni-a thua Dow- taia y cyfeirjodd ei gamrau—eyrchfan pobloedd lawf-,r yn y dyddiau o'r blaen. Tua phedair biynedd a deugain yn ol, mwy neu lai, bu Mrs Watts-Hughes ar ymweliad a'r ardal hon, ar gais Mr. Thomas, Llethr—(gwr ag y mae ei gof- fadwriaeth yn wyrdd hyd heddyw)—yn nhy yr hw¡o y lletyai. Canodd y gantorea enwog droion YI1 Nhrefgam, ac aeth i lawr i Dyddewi ar gais J::i eyfeillion. Clywodd ein hysbysydd hi yn canu y pryd hyn, a'i dystiolaeth oedd iddi wr.rei::ldio'r dorf a'i llais melodaidd. Canai yr "i don "Crugybar" ar y geiriau. "0 fryn- iau(.d.er3a.lemeeirgweled"ne3i'rgynulle;dfa bron eolli arnynt eu hunain. Yr oedd y dylan- wad yn lethol, yn-.ron. Pan yn Xowlais, yn ferch bur ieu:1::lc, elai yn fynych ic.\vn ar ddisper'od o dy ei thad a'i man—a buont betn Ilr-sc-r cyn dod o hyd iddi. Yr oedd gan ry'.v foneddigcs cedd yn byw tuag "ergyd l careg" o'i chartre' berdonog (piano) yr hwn chwajeuid ganddi yn ddyddiol. Ac yn nghym- ffenestr y foneddiges hen y mynai tr ferch fach fod o hyd ac o hyd. Cafodd ei swynu gymaint nes iddi syrthio mewn cariad a'r c-rferyn—ei "ehariad cyntaf'—ac yn fuan wedi hyn gwel'yd hi yn chwareu 'i bysedd ca-in dros nodau'r offer cerdd. Yr oedd Mrs. \Val.ts-d :.lghes wedi ei geni i ganu, a'i phrif i uchelga.is yn nyddiau ei hieunctyd oedd d'cd yn hyddysg yn nghelf y gan. Gwelwyd yn fuan Vt'edi hyn ei gobeithion wedi eu sylwedd- olt. Manteisiodd ar bob cyne gafodd i gyfoeth- ogi ei meddwl ac i oleuo ei deall mewn cer- ddQJiaeth. Nid oedd hi wedi ei geni a "llwy aur yn ei genau" (fel y dywedir); isel i raddau oeSd ei hamgylchiadau. Oud daeth ei chyfeil- IjQli yn Nhowlais i'r adwy i'w chynorthwyo a t'h.rwy eu caredigrwydd, galluogwyd hi i fyned i'r ''Academy," a chafodd anrhydedd yno yn bur f'-ian. Nid yn "ofer ac am ddim" y danu iddynt gyfranu. Ni chafwyd gwell Hog am ar- ian erioed. Ar ol trculio ei gyrfa addysgol yn yr "Academy" (a gyda llaw, graddio yno yn anrhydeddus), galwyd yn fynych am ei gwasan- aeth mewn cyngerddau, etc., ar hyd a lied y wlr.d. Rhoddodd ei goreu i'r genedl, a nhau macchludodd ei dydd, galar mawr a wnaeth- pNv-r ei hol. Dyna. ddarllenydd, yr ychydig banes a gyfranwyd i ni am Mrs. Watts-Hughes. a gwelir fod iddi gysylltiad pur agos a Sir Benfro—hen Sir sydd wedi bod yn fagwrfa cedyrn—ajnryw o honynt sydd heddyw yn addurn iddi, ac yn "caru'r wlad a'u macco." Prof. Nicholas, Coleg Presbyteraidd, Caerfyrddin. Wele wr arall sydd wedi rhoddi anrhydedd ar Sir Benfro. Magwyd a ganwyd ef yn yrayl Troedyrhiw, ac y mae yr hen dy diaddum yn arcs hyd heddyw, a bob tro aiff yr ysgrifenydd h.o'r fali, nid ]>?o' yn anghono'r ffaith ddarfod i ddyn mawr gaeL ei eni yno, yr hwn ddaeth yn Brcneswr Coleg Caerfyrddin. Yr oedd Mr. Xichnlas yn ysgolor gwych. a'i wybodaeth eang yn- llifo i -.vahanol gyfeiriadau. Yr oedd yn un ifr dynior. glanaf y medrech gyfarfod ar daith dí\ rnod-d¡:.J.meu fod y "ladies" yn dotio arno! Bu ef droion yn Solfach, a'r tro olaf y mae coi gan fy ughyfaill am dane oedd yn Nghwrdd Cwarter y Sir yn y Cwrdd Ueha. Cymerodd ran yn y gwasanaeth. Yr oedd ei bresenoldeb na:n s.r y ILvyfan, mewn pwyllgor, neu gyfarf- od p"?gethu yn rhoddi urddas ar y cynulliad. "Er \vedi marw yn llefaru etto." Jon&h Evans, Y Dyn DaU. Diolch am allu i weled! Ond am ygwr uchod yr oedd yn amddifad o'r gallu hwnw— a dyna wrthddryeh tosturi yw y dyn daH, cnide? Ac yn ddall y ganwyd Jonah Evans. Caitref ei dad a'i fam oedd Treasser Fach. yn ochr Trefgarn etc. Yr oedd yn ddyn talentog eithriadol, a syn meddwl sut ddarfu iddo ddod i gymaint gwyboHaeth o dan amgylchiadau mor anft'ortunus<?) Yr oedd yn gystadleuwr myn.- ych mewn eisteddfodau o nod, a chipiai y llaw- ryf bron bob ergyd. Cynygiwyd gwobr fawr am draethawd yn un o eisteddfodau'r Gogledd ryw dro-a phan fydd y wobr yn sylweddol, y pryd hyn y ceir gwei'd niferoedd yn tynu am y durch. Felly yr oedd y pryd hyn, ac amryw o feirdd ac ysgrifenwyr campus yn eu plith. Ond Jonah a orfu; a bron yn ddieithriad pan y cynygiai am y traethawd mewn eisteddfod delai allan yn oichfygwr. Darllenwyd genym ei draethawd ar "Amser" beth amser yn ol. ac yr oedd yn anghyffredin o dda. Pregethai hefyd yn ami. Cafodd ei dori lawr yn gynar- rhy gynar i olwg daear; ond meddyliodd y Net fod yn llawn bryd i'w alw adref i'r wlad lie nad oes neb yn ddall. "Abel y Fanie Rhaid cyfeirio yn fyr at yr hen gymeriad wre, gwreiddiol hwn, am iddo ef weled goleu ddydd yn yr un ardal a.'r rhai a enwyd eisoes. Abel William oedd ei enw priodol, ond fel "Abel y Fan Ie" yr adnabyddid ef oreu. Nid oedd ei.£ieu ond dod i gyffyrddiad ag ef unwaith i'w adnaLod. Gwisgai, ceiddai, siaradai yn wahanol i bawb eraill. Yr anialwch fyddai trigi'a fwyaf cydweddol yw natur. Rhyw Elias o ddyn oedd. Ei brif hynodrwydd oedd ei allu i fa.rddoni(?) Yr oedd yn boblogaidd yn y grefft hon, a mynych iawn y gofynid ganddo i wneyd pwt o gan i hwn, ac i hyn a'r Hall. -Dirro-,i yw a ganlyn i ddangos ei ddireidi a.'i "wit" ba.rod. Yr oedd yna Sarmwr yn y gym- dogaeth wedi cael "car" newydd, ac yr oedd yn gwylio'r cyile i ddod o hyd i Abel er mwyn iddo wneuthur penill i'r "ear." Gyda Haw, efallai mae gwell yw dweyd nad oedd bywiol- aeth fras i weision ffarm y gwr boneddig hwn, ac yr oedd Abel wedi dod i wybodaeth o'r gwiiionedd. Ond un diwmod, cyfarfyddodd y ffarrnwr ag Abel ar y ffordd, a gofynodd iddo a fyddai mor garedig a gwneyd penill bach i'r "car newydd." A chan guro'r ddaear a'r ffon. a "ch:l,thu'i wddwg," yn y fel hyn y canodd:— "Dyma gar at gario dynion I gael rhoi eu boliau'n dynon; A'r bobi g:ntre'n byw ar faidd, Fe'i clywir eu gwaedd o V/erddon." Mae yn bur dcbyg na ofynodd y ffarmwr hwn byth end hyny i Abel am bcnill i'w "gar" na dim arall. Hawdd fyddai ymhelaethu, end yn wir, nid oes bias yn awr. Mae yr hen bererin wedi gorphen ei daith er's biynyddau. end y mae ei hen ddywediadau fraethbei-t a'i benill- ion "taleen slip" wedi dyfod i lav/r yn eti- feddiaeth i'r ardalwyr presenol. 'Roedd mab iddo yn byw yn Solfach er's mheU cyn cd ganym—Harry Abel wrth ei enw—ac yr oeel,; cryn lawer o nodv.'eddion ei dad yn y bachgeij hwn. Gobeithio y bydd yr ychydig ncdiadau hyn; am rai o enwogion a anwyd yn ein hymyi yn dderbyniol gan ein darllenwyr. KILMOREY.

Rolophernes a'i Loyn Byw.…

Marwolaetb Mrs Sarah Harries,…

Yes, if You Please.

Y Medelwr.

Yr Acgel a'r Baban.

--------G

Beddargraff Gurnos. '" ?

Ti Elli fod yn ijymro.

Fy Ma

Cyfieithiad o'r Emyn:

YR ESRUTHREN (ROCKET APPARATUS).

[No title]

Advertising

IMPRESSIONS OF PARIS.

. SWANSEA FISH WHARF.

Advertising