Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

17 articles on this Page

WATER SUPPLY.

NO LIGHT.

SENT TO PRISON.

SHOULD SCHOOLS BE SECULARIZED…

[No title]

Wants Ratepayers to Pay!

County Council Politics.

[No title]

---------AT EIN DARLLENWYR.

fALL RIGHTS RESERVED.]

News
Cite
Share

fALL RIGHTS RESERVED.] Hen Feirdd a Phregeth- wyr Sir Benfro. GAN Y PARCH. J. S. JONES, HWLFFORDD. PEREGRINE PHILLIPS, Tad Anni- bynwyr Sir Benfro. PENNOD XV. Cafodd Peregrine Phillips ei garcbarn ddwy waith neu dair am bregethu, a'r tro diweddaf ar ol bod yn y carchar am ideufis cymerwyd ef yn glaf, a gorchymynodd y meddyg ei ollwng allan. Pan glywodd Syr Rerbert Perrot am byn, anfonodd yn union ei gerbyd a'i was at ddrws y carchar i'w gyrchu i'w balas ef. Yno y bu yn gorwedd yn beryglus o glaf am rai wythnosau, a thra y bu yno cynnaliai yr eglwys gyfarfodydd gweddi bod dydd i ddadleu ei acbos ger bron Duw. Ond dylem ddweyd iddo ddyodef nid yn unig i'w garcharu, ond hefyd i'w yspeilio o lawer o'i feddiannau, trwy orfod talu dirwyon trymion am barhau yn mlaen a'i orchwyl anwylaf ei fywyd, sef pregethu yr efengyl i'w gydwlaiwyr, Un tro danfonodd y Sirydd geisbwliaid i gymeryd ei wartheg oddiar y pare—gweithred greulon iawn— ond yn mhen rhyw amser ar ol hyny pan ddaeth awr ymddattodiad y sirydd hwnw, gorfu arno alw am Mr Phillips i ofyn ei faddeuant am y fath ymddygiad. Yr oedd yr hen bregethwr yn falch i gael y cyfle i faddeu iddo wrth gwrs. Lie bynag y byddo calon dyn wedi ei llenwi a Gras Duw-y CARIAD y soniai Crist am dano-nid yn unig y mae maddeu yn waith hawdd, ond mae ei pherchenog yn falch o gael y cyfle. Cofia byth, ddarllenydd mwyn, mai Absenoldeb cariad Duw yn mynwes dyn sydd yn gwneyd yn anhawdd iddo faddeu i'w gyd-ddyn. beth bynag a wna yn ei erbyn. Y fath faddeuwr bendigedig yw Duw. Po fwyaf o Dduw fydd ynot, helaethaf i gyd fydd dy yspryd maddeuol. Maddeuodd Mr Phillips o'i fodd iddo, a thebygol i'r sirydd farw yn dduwiol wedi hyny. Wedi i'r ystorm erledigaethus basio ac i Ddeddf Goddefiad ddod i rym, ymgymerodd Mr Phillips ar unwaith i gael capel newydd ar y Grean yn nhref Hwlffordd, sef Capel Albany, yr bwn a drwyddedwyd Ionawr 17eg, 1671, a phregethodd Mr Phillips ynddo am wyth mis, sef cybyd ag y can- iattaodd Duw iddo i lafurio ar y ddaear. Ar yr 17eg o Fedt yn yr un flwyddyn, ehedodd ei yspryd i'r Wynfa lonydd, i fwynhau tragywyddol orphwysfa y Saint. Claddwyd of yn barchus yn ymyl y pulpud yn eglwys Haroldston. 0 Nid oedd yn eithafol yn ei olygiadau cre- fyddol, nac yn wyllt ei dymher, ond yr oedd yn wr cadarn a phcnderfynol; yn dda.dleuydd gwych dros yr hyn a gredai. Bu mewn dadl gyhoeddus, fel y bernir, ag un Dr. Reynolds, offeiriad yn Nghaerfyr- ddin, parthed dofodan a disgyblaeth Eglwys Loegr, a bu wedi hyny mewn dadl a'i hen athraw, Dr. W. Thomas, Esgob Tyddewi. Cyhoeddodd yr Esgob adroddiad o'r ddadl. ond dywed Dr. John Thomas a Dr. Rees, Abertawe, nad yw yn adroddiad teg, a'i fod heb gydsyniad Mr Phillips, 0 Cafodd waredigaeth ryfedd un tro: ichydig cyn ei farwolaeth yr oedd yn marchogaeth tuag adref yn agos i Freystrop dros le He yr oedd amryw hen byllau glo. Yn ddamweiniol syrthiodd ei geffyl ac yntau i un o'r pyllau hyn, yr hwn oedd yn ddwfn iawn ac yn agog yn Ilawn dwfr, ond gan fod coed croesion o fewn chwe troedfedd i enau y pwll, diogelwyd hwy rhag syrthio i'r dyfnder, Yn fuan digwyddodd hen wraig fyddar a'i hwyryn myned heibio. Clvwodd y plentyn ddyn yn gwaeddi, ac aeth yr hen wraig ac yntau at enau y pwll. Pan ddeallodd yr hen wraig pwy oedd yno, a'r perygl mawr yr oedd ynddo. rhedodd i hysbysu Cadben Longman. Daeth amryw bobl yngbyd yn fuan, a thrwy lawer o drafferth achubwyd Mr Phillips a'r ceffyl." Er mai yn nhymhor yr erledigaeth yr oedd yn gweinidogaethu, eto bendithiodd Duw ei lafur lei ag i'w alluogi i dderbyn i gymundeb 67 o aelodau, y rhai oil a fuont byw ar ei ol ef a dywed Dr. John Thomas Mai i'w lafur ef yn benaf y mae cyfodiad eglwysi Annibynol Sir Benfro i'w briodoli." Bu yn pregethu yn ardal Trefgarn Owen yn amser y Werin Lywodraeth, ac yr oedd rhai o aelodau yr eglwys fach oedd yn cyfarfod yn ei dy ef yn Dredgraan Hill yn byw yn Nbrefgarn. Pan yr hunodd efe rhifai y ganghen yn N hrefgarn 32 o aelodau, rhai o ba rai ydoedd Hugh Harris, Ysgwier, Orugglas, a i wraig; Dafydd Skeel, Isaac Bamer, James a Dafydd Hicks, George a Thomas Gilbert. Gyda y rhai hyn ac eraill y bu Peregrine Phillips yn llafurio, a phriodol yn ngwyneb yr oil hyn yw ei alw vn dad Annibynwyr Sir Benfro." Mae ffrwyth ei lafnr i'w weled hyd heddyw yn ffurfiad eglwysi Annibynol y Sir, yr hynaf o ba rai yw Albany, Hwlffordd. Y Parch Ebenezer Richards- yn ein flesaf.

Advertising

Meeting at Fishguard.

Meeting at Haverfordwest.

Meeting at Pembroke Dock.

Advertising

[No title]

Liberals Awake. !