Skip to main content
Hide Articles List

18 articles on this Page

PATER WARD COMMIT- j TEES.i

PEMBROKE DOCK CHORAL SOCIETY.

PENNAR GUT FATALITY.

Advertising

RAILWAY DISASTER. .

[No title]

[No title]

Advertising

JAP LINER ASHORE. "*■

STORY OF A WAIF.

VISITS HER FUTURE GRAVE.

ATTACKED BY FOXES.

AMERICAN TRAIN SMASH. .

STAGE ROMANCE RECALLED. .

[No title]

[No title]

Hen Feirdd a Phregethwyr Sir…

News
Cite
Share

[ALL RIGHTS RESERVED.] Hen Feirdd a Phregeth- wyr Sir Benfro. GAN Y PARCH. J. S. JONES, HWLFFORDD. WILLIAM JONES, Tad Bedyddwyr Sir Benfro. PENNOD XIV. (Par had.) Gan fod John Jenkins yn byw yn yr un oes ac yn aelod o'r un eglwys a William Jones, ac wedi bod dan ei weinidogaeth, mae ei dystiolaeth ef yu bwysiccach braidd na dim a ellir gael am dano. Gadawaf iddo ef lefaru eto Presbyteriad oedd M r William Jones I yr amser hyny, heb arddel bedydd credin- iol, beth bynag oedd ei feddwl neillduol ef ei hun ynghylch hyny. Y mae yn bossibl iddo gyfarfod a Mr Jenkin Jones ac eraill o'r Bedyddwyr yno, ac iddynt gael rhyw ymddiddanion am hyny ymhlith pethau crefyddol eraill. Y mae yr hanes yn- dweyd iddo gael ei lwyr^argyhoeddi mai bedydd y crediniol oedd gyttunol a'r Gair, eithr efe a gadwodd ei feddwl gan mwyaf iddo ei hun." Yr oedd yn feddiannol ar gorph lluniaidd a hardd, o ymddygiad boneddigaidd, tymher addfwyn caredig ac ennillgar iawn, heb ewyllysio tramgwyddo neb os gallai beidio trwy gadw cydwybod rydd. Yroedd boneddigion yn ei barchu a mynent iddo 1 11 1 gydyrriflurfio ag Eglwys Loegr gan addaw iddo le manteisiol iawn. Mae Mr John Richard (hen weinidog i'r Bedyddwyr) yn ei ysgrif yn dweyd fod rhai yn dweyd i William Jones ddewis cadw cydwybod dda mewn cyssyIltiad a cbrefydd o flaen derbyn saith ugain punt yn y flwyddyn am ddarllen y Weddi Gyffredin yn y Llan. Yr oedd hyny yn gynnyg mawr yr amser hyny, llnwn gystal a saith cant y flwyddyn yn eiri dyddiau ni. Ond er mwyn heddwch cydwybod aeth ef trwylawer o galedi trwy erlid a charcharau, ac amryw ffyrdd. Dy- wedir mai gwr llaith, lied bryderus oedd ef cyn dyfod yr erledigaetb, ond ei fod wedi dechreu ei brofi gan erlid yn wr glew, calonog a hyf. Fodd bynag, cymerwyd ef pan yn Bresbyteriad yn garcbaror i Gastell Caer- fyrddin a bu yno am dair blynedd. Yn ystod yr amser hwnw y cymerodd cyfnew- idiad yn ei farn le parthed Bedydd. Nid oedd un eglwYR drefnus a gweinidog iddi i'r Bed\ddwyr i'w chael yn nes na'r Fenni neu Olchon, a dywedir mai trwy ryw fath o gyfraith o eiddo y brenin y cafodd efe ei ryddid ar derfyn yr amser hwnw. Yr oedd ceidwad y carchar yn barchus iawn o hono, meddir. Dacw ef yn dod allan o'r carchar, ac yn myned ar ei union i Ddyffryn Olchon ar gyffiniau Sir Henffordd, at yr hen weinidog Thomas Watkin i gael ei fedyddio ganddo. Golygfa ddyddorol yw hon—hen garcharor yn cael ei ollwng yn rhydd o garchardy Caerfyrddin, ac yntau yn lie myned gartref yn cymeryd llwybr hollol wahanol, ac yn debyg i'w Geidwad yn myned o Galilea at loan i'r Iorddonen yn myned i Olchon pellder o tua 80 milltir i gael ei gladdu yn nyfroedd y Bedydd mewn ufudd-dod i'w argyhoeddiad, gan ddweyd yn ei ymddygiad fel y canodd Eben Fardd, er 'n mai Methodist oedd ef "0 gydgladdiad gogoneddas, Adyn edifeiriol trist Yn arddangos yn ei Fedydd Ei gydgladdiad gyda Christ, A'i gyfodiad, Codiad er adferiad fydd." &c. Wedi aros ychydig yn ngbymdeithas Thomas Watkin a'r frawdoliaeth yn Olchon, dychwela Wm. Jones yn ol i Rhvdwilym, a dechreua ddweyd wrth ei gymydogion a'i yfeillion crefyddol y modd y bu arno yn y carchar, a'r brodyr a gyfarfyddodd yno, y pleser a gafodd yn eu cwmpeini, a'r goleuni newydd a gawsai trwyddynt, un o ba rai fel y bernir ydoedd Cadben Jenkin Jones. A barnu oddiwrth yr ychydig wyddom am y I? gwr hwn, dyma un o ddynion mwyaf noded- ig yr oes honno. Bernir iddo gael ei eni yn Sir Frycheiniog, ar gyffiniau Morganwg. Dywed Dr. Calamy iddo gael ei ddysgeidiaeth yn Rhydychain. ac iddo ddod yn bregethwr cyn i'r rhyfel cartrefol dori allan, ac os felly, tebygol iddo gael urddiad Esgobol i'w swydd. Yn ystod y rhyfel ymunodd a byddin y S-uedd, a gweithredodd yu y cymeriad dyblyg o bregethwr i'r fyddin ac o Gadben arni hefyd. Adweinid ef o hyny allan wrth yr enw Cadben Jones." Awdurdodwyd ef i godi catrodau, a bu dwy fyddin fawr dan ei ofal am gryn amser, drwy ba rai y dywed- ir iddo ddarostwng gwrthryfel peryglus yn 0 yrbwn yr oedd Haw gan lawer o loneddigion Cymreig yn gystal a Seisnig." Pan basiwyd gan y Llwyodraeth y weithred dros gyhoeddiad yr Efengyl yn Nghymru, dewiswyd ef i fod yn un o'r cymcradwywyr neu brofwyr o'r gweinidogion a ddewisid i'r gwaith. Pennodwyd ef hefyd yn weinidog plwyf Llanthelly. yn Sir Frycheiniog, fel olynydd i'r Parch. Richard Williams, B.D., yr Ihwn a ddiswyddwyd yn herwyd ei ang- hymwysder i'r gwaith cyssegredig. Dad- blygodd y Cadben Jones y pryd hwn yn bre- gethwr teithiol, gweithgar a llwyddiannus. Teithiodd lawer dros fryniau Gwent, Mor- ganwg a Brycheiniog, ac yn ganlynol pen- nodwyd ef yn weinidog plwyfol Merthyr Tydfil. Ar ol hyny bu yn weinidog yn Llangattwg, ger Castellnedd, ac yno yr ydoedd yn amser Adferiad Charles II. i'r orsedd. Yn mhlith y Ddwy Fil a fwriwyd allan gan Ddeddf Unffurfiaeth, yr oedd ef yn un. Tra yn Llangattwg eangodd cylch ei ddylanwad i Sir Gaerfyrddin, ac wedi ei fwrw allan casglodd gynulleidfa, a chafodd rhai o'r cyfryw ynghyd ag efe ei hun eu bwrw i garchar Caerfyrddin mewn canlyniad i hyny yn fuan ar ol yr 4 Adferiad.' Des- grifia Dr. Walker ef fel un o'r rbai penaf o'r teithwyr Cymreig. Y lleill oeddynt Vavasor Powel, Walter Cradoc, Wm. Erbury a Daniel Gam. Dywedir mai efe oedd un ø brif sefydlwyr Ymneillduaeth o gylch Merthyr Tydfil, ac iddo gwrdd a llawer o anbawsderau a pheryglon yo ei oes. Un tro yr oedd ar y ffordd yn myned i bregetbu i rywle, a daeth dyn i'w gyfarfod gyda'r bwriad o'i ladd, ond pan ddaetb yn agos ato, tarawyd y dyn gymaint gan brydferthweh a thegweh ei berson (oblegid yr oedd yn ddyn hynoi o olygus a hardd) fel y methodd yn lan a chyffwrdd ag ef, a mwy na byny, aeth i'r eyfarfod gydag ef a chafodd ei argyhoeddi. Ei enw oedd John James Watkin. Yn fyr, yr oedd Jenkin Jones yn bregethwr enwog a derbyniol, yr hwn a wnaetli lawer o ddaioni yn ei ddydd, ac y mae ei goffadwr- iaeth yn teilyngu cael ei gadw mewn cof gan yr oes hon a'r oesoedd dyfodol. Digon tebyg na fu efe byw yn hir wedi yr I Ad- feriad.' Dyma un o'r carcharorion a gyfarfydd- asai Wm. Jones yn ngharchar Caerfyrddin, ac y mae yn hawdd tybio fod yno gyfeill- achau cynbes wedi eu cynnal yn y carchar oer a thywyll.

[No title]