Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

If I N HANES.

News
Cite
Share

If I N HANES. THOMAS rVANS, PENYFKIDB, YN MHLYv'YF TREFGAEN-FAWK, YN NGHYD A'l DEULU. [GAN H. EVANS, CAERFAIICHELL.] PENNOD VI. Fe allai y byddai yn well adrodd nn peth inewn cyuylltiad ag ef, er dangos tynerwch cyd- wybod John Evans. Pan yn dyfod oddiwi th en waiLh nn noson aeth ei feistr i'r dafarn, ac aiefch yntan i'w lety. a dygwyddodd fed priodas wedi bod yn y lie y diwrnod hwnw, ac yr oeddent yn uadw y "nos ar 01" mewn yfed a rhialtwch mawr yn agos i'w lety. Yr oedd yn clywed swn y ftidl a'r cann o'r ty, a chlywodd y rhai oedd yn niyned i mewn ac allan yn dweyd en bod yli dawnsio yn iawn yno. Yr oedd wedi clywed llawer o son am ddawnsio, a llawer o son am hyny yn y Beibl, ond nid oedd ef wedi gweled dawns erioed, a daetb cbwant mawr arno i gael golwg arnynt. A chyda'r tywyll-nos aeth alian gerllaw y drws i gael eu gweled, a phan oedd yno daeth ci gefnder yno, a gwelodd ef pan oedd yn myned i'r ty, a dywedodd, "Beth John, ai chwi sydd fan byn ? Dewch i mewn." "Na," meddai John, ni ddeuaf i mewn." Ond cyd- iorid ei gefnder ynddo i'w dynu i mewn, ond yr oedd John yn gwrthod yn benderfynol. Wei," meddai ei gefnder wrtho, os na ddoe i mewn, « Tro hcibio dy lygaid rbag edrych ar wagedd, ac i mewn yr aeth ef. Ond aeth y saeth i galon John, ac ymaith yr aeth i'w lety dan grynn, ac lii chysgodd drwy y nos gan ofid a galar am y dnedd oedd vnddo at wagedd, a meddwl fod y fath ddyn a'i gefnder yn gallu ei geryddn am hyny. Ychydig cj^n iddo ymadael o Nolton, yr oeddynt wedi myned i'r chwarel, a cbyn dechreu irweithio dechreuodd John siarad ag ef am ei ■i»vflwr, a gofynodd iddo pa fodd yr oedd yn teimlo ar ol myn'd mor bell, er pan oedd yn »roffepu crefydd. II 0 John," meddai, "pan byddaf yn meddwl am hyny yr wyf yn gwylltu. Yr wyf yn bechadnr colledig a thrnenns, moi wir o fyned i uffem a phe bawn yno yn awr." Dywedodd John wrtho nas gallai ddweyd hyny, fod Duw yn gyfoethog o drngaredd, ac yn achub hyd yr eithaf, a bod llawer wedi cael tro wedi myned yn mhell iawn. 0 meddai, yr wyf wedi pechu yn eibyn goleuni ac argyhoeddiad. Yr wyf yn cofio amser pan y byddwn yn gwrando y gair, nen mewn cyfarfod gweddi, neu ddarllen y Beibl, yr oedd rhywbeth penodol yn cwrdd a'm meddwl. Ond yn awr gallaf wrando pobpeth, a gwneyd beth a fynaf heb deimlo dim; nid 068 dim gobaith i'm bath i" ac ymaith yr aeth i feddwi, er mwyn cael tawelwch i'w feddwl. Heb fod yn faith ar ol hyn, ymadawodd John a Nolton, ac di chlywodd ragor yn ei gylch. PENNOD VII. Ar 01 i John Evans dreulio tua naw mlynedd yn ardal Nolt.on, ba yn gweithio am rai blyn- yddoedd mewn gwahanol fanau yn Sir Bentro, ond lie bynag y byddai, yr oedd yn yinwasgu -at y dyegyblion y peth cyntaf yn mhob man. Yna ymsefydlodd yn Tyddewi, a bu yn gweithio am amser maith gyda y diweddar Mr George Williams, tad y Paich. George Williams, Llys- yfran, a pharhaodd cyfeiilgarwch mawr rhyngddo a'r teulu tra y ba byw. Yr oedd ef yn cyirif Mr G. Williams yn nesaf at fod yn berfaith, ac yr oeddent hwythan fel tenia yn meddwl am J. Evans yr nn fath. Dywedai y Parch. George Williams am dano yn ei angladd Bydd arnaf rwymau i John Evans i dragywyddoldeb. Yr wyf yn ei ystyried fel tad i mi. Efe ddetnydd- iodd yr Arglwydd i fod yn foddion iachawdwr- iaeth i mi. Efe ddywedodd gyntaf wrthyf am achos fy enaid," &c Gan ei fod wedi treulio • cymaint o amser gyda Mr G. Williams a'i deuln, y mae y Hytbyr canlynol a dderbyniwyd oddi- wrth y Parch. G. Williams yn dangos y meddwl mawr oedd ganddynt am dano u Llysyfran, 29ain Gorph., 1882. Anwyl Gyfaill,—Y mae yn dda genyf gael cyfie i ddweyd gair am eich tad. Yr oedd efe 1 mi, nid yn nnig yn un o ragorolion y ddaear, ond yn un o'r rhai rhagoraf yn mhlith y rhaj rhagorol. Ni feiddiaf ddywedyd yr oil yr wyf yn ei feddwl a'i deimlo mewn pertbynas iddo. Nid arfer gweniaeth a wnaethum ar ddydd yr angladd gorfod atal yr oeddwn bryd hwnw, ac felly yn awr. Yr oedd nid yn nnig yn uchel yn fy ngolwg, ond yn anwyl iawn genyf. Yr oedd yr anwyldeb wedi dechreu oddiar pan oeddwn yn blentyn, ac ni ddarfu leihau dim yn ystod yr haner canrif y bum yn adnabyddns o hono. Treuliodd gryn amser dan gronglwyd fy rhieni, ac yr oedd sirioldeb a serchogrwydd ei natur wedi meddianu fy nghalon gymaint pan yn blentyn, fel y mynwn dreulio llawer o amser gydag ef, a mynwn gysgu gydaf ef y nos. Ac yn gymysged- ig ag ymddyddanion plentynaidd (y rhai a ad- roddodd wrthyf lawer gwaith gyda llawer o hwyl mewn blynyddau diweddarach), dywedai lawer wrthyf am yr lesn, gan fy rhybuddio yn ddwys i gadw oddiwrth bob drwg. Clywodd fi un diwrnod yn arfer gair na ddylwn am blentyn arall, a throdd ataf gyda y difrifwch mwyaf, ac adroddodd i mi adnod o'r Beibl; ac nid yn ami, os unwaith, y darllenais yr adnod hono byth wed'n heb gofio am John Evans. Yr oedd gan fy rhieni y parch mwyaf iddo, a'r ymddiried llwyraf ynddo. Ni chlywais ganddynt yr un bai, na thebyg i fai, yn cael ei osod erbyn erioed. Fel dyn yr oedd yn hawddgar, lion, a difyr ac yr oedd y ddynoiiaeth biydtenh hon wediei haddurno a gras y nefoedd. Ac i'r nefoedd y mae wedi myneo, ac y man y nefoedd ar ei wantais o gael J. Evans iddi. Ni bydd arnaf inau eisiea gwell nefoedd nag y mae efe wedi ei chael. Yr eicdoch yn gywir, gan gredu a theimlo pob pair yr wyf wedi ei arfer uchod. H. Evans." G. WILLIAMS." (I'w barhau.)

» Penillion Cydymdeimlad

[No title]

AGKIC CULTURE.

» NORTH PEMBROKESHIRE FARMERS…

• SHEEP BRANDING IN CARDIGANSHIRE.

North Cardiganshire Cob Improvement…

+ SOLVA WANTS NOTHING BETTER.

• Birds that Pass in the Night.…

RURAL LIFE.

•'. German Education.

[No title]

Advertising