Skip to main content
Hide Articles List

13 articles on this Page

HEX HANES.

News
Cite
Share

HEX HANES. THOMAS EVANS, PENYFEIDR, YN MHLWYF TREFGARN-FAWK, YN NGHYD A'l DEULU. [GAN H. EVAMS, CAEKFAKCHELL.] PENNOD V. Pan yn 17 mlwydd oed, prentiswyd ef yn saer maen ac adeiladydd gyda ei gefn- b C5 der. Syrthiodd i ychydig o ddifrawaeri gyda chrefydd ar ol hyr. am dro. Yr oedd yn byw rnewn lie digrefydd iawn y pryd hwnw, a'r bobl yn dueddol iawn i yfed gormod o ddiodydd meddwol. A thrwy I y fed ymddyddanion ac esiamplau drwg yn llygru moesau da, o ddirfyg gwyliadvvriaeth dygwyddodd dau beth a barodd lawer o fiinder a gofid iddo yn ol Haw, ac a'i ham- ddifadodd o gysur crefydd am amser hir. Yr oedd un dyn yn y gwaith yn hoff iawn .o'r ddiod feddwol, a tbeulu lluosog ganddo, ac mown rhyw ymddyddan dywedodd J. Evans wrtho am fyn'd i'r dafarn ac yfed ihyw faint, y talai ef am dano. Aetb yntau ac yfodd werth tua Is 6c o porter; a phan welodd ef ar ol hyn yr oedd yn feddw a chlaf iawn. Ac yn fuan ar ol hyn pwelcdd y gair hwnw yn Hab. ii, 15, "Gwae a roddo ddiod i'w gymydog," ac j aeth yn dywydd enbyd ar ei gydwybod. Yr amser bwnw befyd yr oedd yn rhyfel enbyd rhyngom a Ffraino ac er dyagelweh rbag cael ei dynu i'r militia, anogwyd ef i ymofyn rhwymysgrif prentis. Ac yn Hwlffordd, pan yn cael byny, yfodd ormod o ddiod feddwol gyda rhyw gvvmpeini, ac er na tbynodd sylw neb arall, teimlodd ysgafnder yn oi ben, a cbafodd befch an- c, hawsder i fyn'd gartref. Daeth euogrwydd ar ei gydwybod, ac ofnodd fyn'd i BwI- flordd at ei frodyr crefyddol. Ac yn lie tnyn'd at Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd," aeth i grwydro a chyfeiliorni fel dafaa. Aeth yn gyntaf i Tregethyn (Keeston) i wrando yr Aimibynwyr, ond wedi bod yno am dro, ac beb gael dim tawelwch i'w feddwl, aeth oddiyno i Aberbach y libos i wrando pobl y Tabernacl, ond yr oedd rhywbeth yn eisiau yiio wed'yt. Yna aeth am dro i Bont Newgal i wrando y Bedyddwyr, ond yr oedd yr. euogrwydd yn aros. r ol hyny bu yn myned i Gastell y Garn i wrando y Wesleaid, ond yr oedd rbywbetb yn eisiau yno wed'yn. Yna prynodd lyfr gweddi newydd, ac aeth i Eglwys y Plwyf, -a dywedai y gweddiau a'i holl egni yn uwcb na neb ond yr oedd yr euogrwydd yr aros o hyd. Yna aeth ar y Fabbathau a'i Feibl ganddo allan i'r tnaesydd a phen y graig, ond yr oedd yn methu cael dim cysur i'w enaid clwyfus yr oedd yn teimlo gwae Duw uwch ei ben o hyd, yr oedd yn ofni ei fod wedi pechu yn anfaddeuol. Pan yn yr agwedd wrthgiliedig hon o ran -ei ysbryd, yr oedd ail gapel y Methodistiaid yn Tyddewi yn cael ei agor, a rhywfodd neu gilydd aeth ef yno o Nolton. Y bregeth gyntaf a glywodd yno oedd gan David Bees, Llanfynydd, ond ni chafodd ef rldim neillduol trwyddi. Ar ei ol daeth Ebene/er Morris, a phregesh iddo ef oedd yn cyfrif bono tra fu byw. E-i destyn oedd Heb. x, 25, Heb esgeuluso eich cyd- gynulliad eicb huD&ii>> megys y mae arfer rhai." Yi oedd yn dangos y fath bechod jnavvr oed X esgeuluso moddion gras. "Yr oedd yn nen bechod oddiar ddyddiau yr Apostolion hyd yn awr. Yr oedd y rhai oedd yn euog o hono yn dirmygu y daioni a,'r tiriondeb mwyaf, ac yn dangos yr anmharch mwyaf at y Gwaredwr. Y mae lesu Grist; wedi addaw, 'Lie bynag y byddai dau neu dri wedi ymgynuli yn ei enw i fod yn eu canol.' Ond yr oedd ym- ddygiad yr esgeuluswr yn dweyd, I Beth I waeth genyf fi pwy fo yn bresenol, nid af fi yno.' Yrcedd yr esgeuluswr yn gwneyd a allai i ddiystyru a dibenu moddion gras yn ei ardal. Pe byddai pawb felly, ni byddai achos gan Fab Duw yn y byd-yr oedd yn digaloni ei frodyr-yr oedd yn felldith yn ei deulu ac yn yr ardal yr oedd yn byw ac yr oedd yr Apostol yn rhestru y pechod o esgeuluso moddion gras y nesaf at y pecbod anfaddeuol." Yr oedd ei gydwybod yn taranu yn ddychrynllyd o dan y bregeth hon, ac yr oedd yn gorfod ymguddio o olwg Mr Morris. Yr oedd yn meddwl fod ei lygaid yn gweled trwyddo, a phenderfynodd i ddychwelyd at ei frodyr i'r Hen Lofft," eostied a gostiai iddo ao yr oedd yno y Sabboth canlynol yn ddigon boreu erbyn y cyfarfod wyth o'r gloch, a chafodd dder- byniad serchog, heb wybod nad yn yr Hall yT oedd wedi bod. Nid oeddent hwythau yn yr Hall yn gwybod nad oedd yn myned i Hwlffordd yn gyson. Cafodd nerth i ddilyn yn ddifwlch trwy ei oes faith o hyny -allan, ond ni chafodd dawelwch a chysur i'w feddwl am yn agos i bedair blynedd ar ol yr ymwneyd byny a'r diodydd meddwol, byd nes oedd y diweddar William Morris (o Gilgeran y prtd hwnw) yn pregethu yn yr Hall ar y geirlau hyny, "A thi a elwi ei enw Ef lesu, oblegid Efe a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau." 0 dan y bregeth bono cafodd olwg ar Waredwr. 0 Ciliodd ei fodryb a'i mherch, a'i gefnder (ei feistr bellach) yn llwyr oddiwrth grefydd yn fuan, a dyoddefodd ef lawer o'u gwawd filu dirmyg o achos ei grefydd, ond ni wnaeth y cwbl ond peri iddo lynu yn fwy V?iTfgog wrthi. Aeth ei gefnder at grefydd agos yr un amser ag ef, a bu am dro yn odyn sobr a gweithgar. Yna dechreuodd pellwair a phechod, a thramgwyddo wrth Etholedig-aeth-mai llafur ofer oedd ceisio byw yn dduwiol, os nad oedd wedi ei ethol ac o ddrwg i waeth yr aeth, nes myned i seiyllfa druenus iawn. (I'w barhau.)

Advertising

[No title]

AGRICULTURE.

. THE PROFITABLE TEAM.

UNITED COUNTIES HUNTERS' SOCIETY,

4 FAIRS AND MARKETS.

..... NOT COMING BACK.

SriiMEB SHOW OP FLOWERS.j

[No title]

Advertising

UNSOLICITED.

Advertising