Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

[No title]

HEN HANES.

Manion.

Dirwest.

Dydd Rhyddid Dyn.

News
Cite
Share

Dydd Rhyddid Dyn. Mae'r ddaear yn y man i fod Yn rhydd fel nefoedd Daw Mae dydd ei rhyddid draw yn d'od, A dydd ysblenydd yw. Ac 0 1 pan ddaw, bydd daear dyn Yn ail i'r nefoedd fawr ei hun, Tros barthaa'r byd, o ras a dawn, Cyflawnder mawr a fydd Pan wnelir pawb yn ddynion da, A phawb yn ddynion rhydd: Godidog a golndog fydd Ein daear pan ddaw'n ddaear rydd. Dedwyddwch fel y mor a ddaw, Yn llanw dros y llawr A sryrir pob gorthrymder draw Gan rym ei donau mawr Rhyw fur didrai o wynfyd fydd Ein daear pan ddaw'n ddaear rydd. Dros gyrau'r byd daw golen'r nef I lawr yn haulwen gan, Pan ddelo dyn i ddyn yn frawd Caredig yn mhob man Byd golen fel y nefoedd fydd Ein daear pan ddaw'n ddaear rydd, V Ni welir diafl ar ddelw dyn Yn sathru dyn dan draed Na neb, pan ddaw y byd i drefn, Yn byw ar gnawd a gwaed Bydd dynion fel angylion mwy, Pan fyddant ryddion megys hwy. Gogoniant mawr a leinw'r byd, Pan gyfyd dyn ei ben- Pan eagyn megis seraph rhydd Hyd eithaf cyrau'r nen Paradwys well na'r gyntaf fydd Ein daear pan ddaw'n ddaear rydd. Ceir clywed can, na chlybu neb Gyffelyb gan erioed, Pan ddaw ein byd i gyd i drefn, A dyn i'w gyflawn oed Llawenydd yn He galar fydd Drwy'r ddaear pan ddaw'n ddaear rydd. Mae' f ddaear yn y man i fod Yn rbydd fel nefoedd Daw Mae dydd ei rhyddid draw yn d'od, A dydd ysblenydd yw. Ac 0 pan ddaw, bydd daear dyn Yn ail i'r nefoedd fawr ei hun. R. J. D.

Advertising