Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

[No title]

HEN HANES.

News
Cite
Share

HEN HANES. THOMAS EVANS, PENYFEIDR, YNI MHLWYF TREFGARN-FAWK, YN NGHYD A'I DEULU. [GAN H. EVANS, CAERFAROHELL.] PENNOD I. Gaawyd Thomas Evans yn Spittal, Sir Benfro, dydd Sul, Tachwedd 3ydd, 1756. Ymddengys fod ei rieni a'i frodyryn ddigon diystyr o grefydd, gan iddo ef ddyoddef llawer o wawd ac erlid pan yr ymunodd gyntaf a chrefydd yn Woodstock ,yn ddeu- naw oed. "Er hyny, arhodd ei ddwylaw of yn gryf, a breichiau ei ddwylaw a gryf- asant trwy ddwylaw grymus Dduw Jacob." Yr oedd ei ymarweddiad yn dwyn tystiol- aeth yn meddyliau pawb a'i hadwaenai, mai dyn yn ofni Duw ydoedd, ac mat crefydd oedd ei hyfrydwch penaf. Yr oedd yn fawr am fyw yn ol y Gair; a'i ddywed- iad cyffredin yn ngwyneb pobpeth dyrys oedd, Beth mae y Beibl yn ei ddweyd ?" Yr oedl yn ymorphwys yn gwbl ar raglun- iaeth Daw, fel y credai, yn ngwyneb pethau croes i gig a gwaed, fod I pobpeth yn cydweithio er daioni i'r rhai sydd yn oaru Duw." Ac ami y dywedai, What happens is best." Dydd Sul, Tachwedd 14eg, prfododd yn Castellnewydd-bach, a Sarah Bevan, o Felin Martel; ao ymddengys Dad oedd eu priodas yn anghymharus, gan ei bod bithau yn ferch grefyddol iawn. Yn Spittal y cartrefasant ar ol priodi, yn hen gartref ei rieni, ac yn ddigon tlawd eu hamgylchiad- au. Yr oadd y ddau, er yn gyfoethog mewn gras a ffydd, yn ddigon dilwybr am fyw yn y byd. Nid oeddent wedf eu dysgu i "wneyd y goreu o'r ddau fyd ond cawsant y fraint o wneyd y goreu gyda y pwysioaf, gan gredu mai byd yn myned heibio oedd hwn, 800 mai dyeithriaid a pbererinion oeddent ar y ddaear; a'u prif ymdrech oedd oyrhaedd y I wlad well a buont yn ddiwyd iawn yn hyfforddi eu plant yn mhan y ffordd sydd yn arwain i'r bywyd. Pan oedd o 30 i 40 oed, dewis- wyd of yn flaenor yn eglwys Woodstock, a bu yn ffyddlon iawn yno, nes iddynt ym- sefydlu yn yr Hall. Tua'r flwyddyn 1799, symudasant o Spittal i Penyfeidr, yn mhlwyf Trefgarn- fawr, tyddyn bychan gwael iawn oedd t hwnw ac yno y treuliodd weddill ei oes, gan ddilyn yr alwedigaeth o gigydd; ac edrychid arno fel dyn geirwir, a gonest mewn masnach. Bu ef, a'i wraig, a'r teulu yn ffyddlon iawn yn dilyn moddion gras yn yr Hall, er fod ffordd ddrwg iawn ganddynt i fyned yno dros y mynydd. Ar ol iddo ef fethu gan waeledd, nid oedd ei wraig yn foddlon esgeuluso un moddion o ras ao 01 byddai yn gwlawio yn drwm, dywedai, Beth yw ychydig o wlaw i rwystro i fyn'd i'r cwrdd, Did bwrw tan y mae." Buont yn ddiwyd iawn, fel y dywedwyd, i fagu eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Yr oeddent yn ofalus iawn rhag iddynt gymysgu a phlant ysgafn a drwg, a gwiriwyd yr addewid hono yn eu teulu, Hyfforddia blentyn yn mhen ei ffordd, a phan heneiddio nid ymedy a' hi." Cawsant y fraint o weled eu plant oil, ond James, y bachgen ieuengaf, yn "cofio eu Creawdwr yn nyddiau eu hieuenctydd." Bu ef am ychydig o foreu ei oes yn ddigon gwyllt, a mawr oedd eu pryder am fab eu henaint. Aeth ef i weithio, a sefydlodd yn Cilgerran, ao yno y cafodd droedigaeth amlwg iawn. Nid oedd ei dad wedi clywed am hyny pan aeth y diweddar Barch. Wm. Morris, o Gilgerran y pryd hwnw, i siarad agef: Wel, Thomas bach," meddai Mr I Morris, y mae yn debyg y gwelwchchwi eich plant oil yn y nefoodd ?" "Byddwn yn hyderus iawn am hyny," meddai Thomas, pe bawn am gwel'd y wild boy yo cael tro." A mawr oedd llawenydd y teulu pan glywsant fod y mab ieuengaf wedi dod "atoeihun." Daethant oil yn enwog mewn crefydd, a'i bum' mab yn swyddog- ion eglwysig; ond gan y bydd gair i'w ddweyd am bob un o honynt, rhaid eu gadael yn awr. Yn y flwyddyn 1816,ymwelwyd a'r teulu gan dwymyn drom iawn yr oeddent oil lawr o dani yr un pryd ond eu mhab John. Bu farw mtrch iddynt o'r enw Mary y pryd hwnw, yn agos i 18 oed. Merch rhinweddol iawn, y mae yn debyg. Bu Thomas Evans yn annhebyg i fyw hefyd. Pan yn wael iawn, yn agos i anglu, aeth yr hen Siors Thomas, o TrifHeton, i'w wdled, a dywedodd wrtho nad oedd i farw y pryd hwnw, y cawsai fyn'd ar bwys ei ffon dros y Mwntan i'r Hall am aoaser ar ol hyny. A gwir oedd hyny er na ddaeth fel cynt, bu yn abl myned yno ar bwys ei ffon am lawer blwyddyn. (Ilw barhau.)

Manion.

Dirwest.

Dydd Rhyddid Dyn.

Advertising