Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

[No title]

Hanes Eglwys Annibynol Trefgarn…

News
Cite
Share

Hanes Eglwys Annibynol Tref- garn o 1666 i 1866. GAN Y DIWEDDAR J. THOMAS, LLETHER. PENNOD XVIII. Yr oedd yn y gymydogaeth yma garactor hynod arall, Abel William, neu fel yr ad- weinid ef yn gyffredin Abel y Fanle (y Fanglai). Towr ydoedd Abel o ran ei al- wedigaeth. Dyn tal, teneu, ydoedd. Gwyneb cul, yn llawn o sarcasm. Gwallt hirllaes, yn cael ei ranu yn y canol, ac yn syrthio yn dorchau dros ei ysgwyddau. Ei wisgiad cyffredin fyddai o frethyn llwyd o waith gartrefol, hosanau du'r ddafad ac es- gidiau o bwclau o faintioli plat 'menyn cyffredin. Ei brif hynodrwydd ef oedd y gallu a feddai i odli brawddegau, a gwneud i'r cydseiniaid i glecian. Nid oedd na bardd na phrydydd yn ngwir ysfcyr y gair. Ond yr oedd yn meddu ar allu i rygymu gyda y rhwyddineb rnwyaf. Yr oedd hyny oaor naturiol iddo ag anadlu. Yr oedd un- waith wedi ei osod i doi ty a rhyw hen bendo. Yr oedd offeiriad yn y gymydog- aeth yn myned heibio, a dywedodd wrth Abel I I Rhoi bonion to ar benau tai. Ie," ebe Abel A gwehilion byd yn gweled bai." Yr oedd ffermwr ieuanc newydd briodi yn gyru heibio mewn cerbyd newydd gyda'i wraig ieuanc. Gwelodd Abel, ac anerchodd Yr ydwyf wedi cael car newydd." "Mi welaf." A wnewch chwi gan arno i mi "? Gwnaf." Dyma glwyd i ?!udo dynion Sydd yn dotil) ar tiiiant^ithion, A'r gweithwyr ^art-rc.'n byw ar faidd, A'n gwaedd a gyrli&edd Gwerddon." Aeth Abel at Mr Davies, Caswilia, i ofyn pren i wadnu par o glocs. Dywedocld Davies y cai, ond iddo ofyu ar gan, ac fel hyn y canodd "0, Mr Davies, hoffus ddyn, Rhowch i mi onen gron ddiprin O'r blrten i'r bon yn anion lin, Hyd at y brigyn brt-iuif, I glocsen folwen fraith 1 bwyo'r Iml i hen y daith, 0 dan y lhvyn ar dywydd ilaibh, A gwthio'r gwaifch i'r eithaf." Yr oedd Mr Davies yn adnabyddus trwy yr holl wlad fel an hynod a lew mewn gosod esgyrn a thrin clwyfa^ o mawr y cyrchu fyddai ato. Un bora" daeth tri o bersonau ato o dan eu clwyfau, a phob un o honynt wedi eu onoi-un gan faedd, y Hall gan gi, a'r trydydd gan fwtchwr. Ar hyn canodd Abel, yr hwn oedd yn toi yn Caswylia ar y pryd, yn debyg i hyn y n "Daeth tri dyn truenus, Dan glwyfau enbydus, Gan ddanedd awchlyinna a blin Fe gnow'd un gan fochyn, Y llall gan gi cytidyn, A'r trydydd gan gigydd o ddyn Ar ol cael diangfa, Aeth rhai'n i Caswylia, Er gwella en clwyfau yn rhi' Mae Davis wr dawnus Mewn clwyfau mor fedras, Gwna 'n hwylus mae'n ddilys y tri." Nid oedd Abel yn bleidiol i'r ysgolion can a gynelid y pryd hyny; a byddai yn lied anfoddlon fod emynau a &almau yn cael eu defnyddio yn unig i'r dyben o ddysgu tonau. Un boreu hafaidd pan yn myned at ei waith cyfarfu a blaenor y gan, ac yn yr ymddiddan dywedai y canwr fod ganddynt don newydd odiaeth yn cael ei dysgu ar y geiriau :— 0 Daeth bore'r m,-tii, Ar dan i foli Daw, Yr liaul r.'r liyfry(i Iiin, Yn lloni'r werin wiw, &c." Dywedai Abel fod y geiriau yna yn rhy dda i feebayn a merched anystyriol i'w harfer er mwyn dysgu ton. "Byddai rhywbeth tebyg i hyn yn taro yn well debygwn i," meddai Daeth bore'r adar man, Y fran a ddaeth o fry, Y dryw a ddieth o draw, A llwyd y Law i If ba Y deryn brifriyn bra', RI, wrig dail yr ha' mor hy', A'r fwyaich fwyn ar frig y llwyn Yn seinio yn swynol sy V' Ynghylch amser Abel yr oedd llawer o ddadleu ar ddull a deiliaid bedydd. A bu dadl rhyngddo ag un o weiaidogion y Bed- yddwyr (J. James, Beulah), yr hon a ddygid ymlaen ar gan. Diawyddodl i Mr James i alw Cyprian yn Bab. Canfyddodd Abel y camsyniad, a dywedodd Wrth alw Cyprian sanfc yn Bab, Aethosb yn henfab ynfyd, Ilho heibio'th athrod,' gad ei Iwch Mewn heddwch yn y gweryd. Mae ei lyfrau llwydai'dd oil yu Lladin, Ni wnaet o'i feinrwn daeall myniryra 'Dwyt ti ond Cymro gwan disynwyr, Heb allu silln gair yn gywir Na darllen nnrhyw benod fach Agosiach er dy gysu.r." Daliai Mr James fod esiampl Crist yn brawf nad oedd neb ond rhai mewn oed i'w bedyddio. I hyn atebai Abel.- "Os oedd Crist yn ddeg-ar-hugain Pan ga'dd fedydd efo loan, Pa'ni y I 'b a(io'r drefen Gan droi i'r gofar ar dy ycfen, A'th osod yn y ddyfrllyd ffos yi I n ]>ldai y ffermwyr yr amser hyny yn gosod eu gwair i'w dori gan gwmni o tua dwsiu o ddynion fyddent yn cymeryd i dori gwair drwy'r ardal yn ol hyn a hyn yr erw. A chryn rhagorfraint yr ystyrid i gael bod yn un o'r ewmi-ii. Yr oedd Abel a'i fab yn perthyn i'r cylch etholedig. Cafodd mab Abel ei fedyddio (gydag tin arall o'r ewmrii) un F,I)bath. Ar y Llun canlynol, pan yn dyfod i'r cae gwair, anerchodd Abel y ddau yn y geiriau can- lynol "Boren da, chwi Ivchaduriaid. Mawr eich sychcii am y swydd, Mawr eich trachwanb am eich trochi, Mawr y lloni os bydd llvvydd. Mawr eich riiyfyg nwch yr afon, Llnsgo dynion lleia i dysg 'Lawr i'r llynoedd wedi en lleinw, Ttheini 'n meii w yn eich mysg." Ni wna!r inoroedd er en mawredd, Ni wna rhiuwedd pena'r rhai'n, Mwy na'r ffynon beraidd £ t'eina Er eich stwr byth olchi 'ch staen. Lie ho buchedd lotti afiachas, Ni bydd hoenus enaid hwn, Er ei poddi lawr i'r g'.vaeiod, liy(lil ei 't)ecl)okl arrio'ii bwn." Pallai amser i mi ddwyn i'ch sylw am- ryw eraill o gymeriadau hynod yr oes hono megis John Watt y crydd, Henry Charles, Ffynonbedw (brawd Joseph Charles y soniasom am dano), ac eraill oedd yn per- tbyn i'r lie—dynion er eu holl hynodion oeddent yn gymeriadau disglaer, ac yn addurn i grefydd. Gwnaethant hwy waith Duw a dynoliaeth yn eu hamser a'u llwybr eu hunain, ac y mae eu coffadwr- iaeth yn fendigedig. DIWEDD.

Fy Ymweliad a Solfach.

Mafonwy yn Nghaerdydd.

Llinellau Myfyrgari

Y Pum Darlun.

Advertising