Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

[No title]

Hanes Eglwys Annibynol Tref-I…

News
Cite
Share

Hanes Eglwys Annibynol Tref- garn o 1666 i 1866. GAN T DIWEDDAR J. THOMAS,^LLETHBB. PENNOD XVII. Yr oedd yn pertbyn i'r eglwys hon amryw o ddynion lied hynod yr amser hyny; dynion darllengar, myfyrgar, a deallus, gan amlaf yn pertbyn i'r dosbarth gweithiol, rbai o honynt yn pregethu yn rhyw ran o'r cylch bob Sabbath. Yroedd- ent yn gydnabyddus a gweithiau y prif dduwinyddion, megis Dr. Owen, Baxter, Charnock, Gurnal, ao esboniadau Gill, Guise, Doddridge, ac ereill. Wedi gor- phen eu diwrnod gwaith, treulient lawer o'r nos i ddarllen a chyfaneoddi eu pre- gethaa. Dyna Thomas Watt. Yr oedd yn feddyliwr ac yn gyfansoddwr da, ond traddodwr gwael, undonog, ac aneffeithiol. Nid oedd yn meddwl, cyfansoddi, na thra- ddodi yn debyg i neb ond ef ei hun. Yr oedd ganddo ei ddull ei hun o wneud pob gorchwyl; ni fyddai yn cydio mewn arfyn fel neb arall, na chymaint a hogi ei fladur fel neb a fu o'i flaen, nao a ddaeth ar ei ol. Yr oedd yn myned gyda rhyw frawd tua ffair Llandeloy, yr hwn oedd yn dueddol iawn i yfed i ormodedd. "Yr wy'n penderfynu peidio meddwi heddyw, Tomos," meddai. Aie," atebai Tomos, 'dw i ddim." "Sut yr ydych yn gwybod syrfchiwch chwi ynte "? "Am fy mod wedi penderfynu peidio yfed dim," meddai Tomos. "Acosydychchwiam beidio raeddwi, penderfynwch chwi i beidio yfed, a chwi ddewch adref yn ddyn sobr 03 na wnewob ohwi hyny 'ro i ddim hyna am eicb pen- derfyniad i beidio meddwi." Yr oedd Isaac Owen o'r tu arall yn ddyn hollol wahanol i Tomos Watt. Nid oedd yn gystal meddyliwr na chyfansoddwr, ond yn rhagori llawer arno fel pregethwr; siaradwr rhwydd, dawn deniadol, ao os yn fyr o ddryehfeddyliau- stori fach. Dy- wedai dyn ieuanc oedd newydd ddeohreu pregetbu wrth Isaac, gyda tipyn o ym- 0 ffrost, Yr wyf wedi gwneud dwy bregeth ar yrun testun. Twt, obe Is,,lac, "beth yw hyny at yr hyn wyf fi yn gallu wneud. Yr wyf fi wedi gwneud un bregeth i bump nou ohwech o destunau." Yr oedd wil gellweirus mor naturiol i Isaac ag anadlu. Yr oedd llawer o bregethu taithiol yr amser hyny, a digwyddodd fod dieithriaid ■i yn pregethu yma am bump neu chwech o Sabbathau yn olynol. Ac ar ol i'r rhes o gyhoeddwyr dewi, cododd Isaac, a chyda gwedd mor sobr a barnwr, dywedodd, Fe fydd yma bregethwr dieitbr y Sabbath nesaf eto, gyfeillion—Mr. Griffiths, Tref- garn." Yr oedd yma bregethwr cynorthwyol arall yn ieu nag un o'r ddau yna, sef James Evans. Dyn ieuanc o dalentau disglaer a llafurus iawn am wybodaeth. Yr oedd er yn ieuanc iawn wedi cyrhaedd adnabydd- iaeth helaeth a gramadegau amryw ieith- oedd. Darllenau gydag adeiladaeth ei Destament Groeg, ac yr oedd yn gallu gwneud ychydig a'r Hebraeg a'r Syriaeg. Pan yn 14 oed collcdd ei olygon. Yr oedd yn llwyddianus fel cystadleuwr eistedd- fodol. Pregethai yn rymus, ond byddai ei iaith yn rhy glaaurol i'r bobl gyffredin i gael y budd mwyaf 0 dan ei weinidogaeth. Ysgrifenodd lyfryn bychan er budd i broffeBwyr ieuainc, Y Cristion Dyddor- gar." Yr oedd ei faterion yn dra gwerth- fawr, ond yr oedd ei arddull mor fombast- aidd fel y methodd y llyfr gyrhaedd ei amcan. Bu farw o'r darfodedigaeth yn 1842. Yr oedd yn yr ardal yma rai dynion hynod iawn, wedi cyrbaedd gradd helaeth o wybodaeth yn y gwyddorau a'r celfydd- ydau, dynion hollol hunan-ddysgedig. Yr un mwyaf hynod, feallai, o'r rhai hyn ydoedd Joseph Charles, un o'r dosbarth hyny nad ydynt yn gwneud eu hymddan- gosiad mewn ardal ond tuag unwaith inewn ewpwl o ganrifoedd. 0 ran ei gorff, yr oedd o dan y taldra cyffredin gwyneb bychan, llyfn a difarf, trwyn bycban a theneu, rbwng dau lygad miniog yn am- rantu yn ddiatal, a tbalcen o gryn faintioli yn crogi drostynt. Yr oedd yn hynod o ran ei drwsiad-breeches, a socasau patent cord, a'r botwmau yr ochr fewn i'r coesau, ac nid o'r ochr faes, gwasgod o'r un def- nydd, a dwy neu dair 0 gotiau yn ol gradd- au yr hin, a'r isaf o honynt fyddai yr hiraf, a'r uwchaf y byraf. Yr oedd yr holl fot- ymau o blwm neu beuter, &c wedi eu gwneud ganddo ei hun, a dwy glocsen am am ei draed. Paham yr ydych chwi yn gwisgo y got hiraf yn isaf "? gofynid i Joseph. Am yr un rheswm ag y gosodwch chwi y slates bargod y ty yn hirach na'r un uwchlaw iddi atebai, Byddai ei logellau yn gyflawn 0 bapyrau a llyfrau, potelaid 0 ino yn orogi wrth un 0 fotymau ei wasgod, dau neu dri o benau, a razer i'w mendio. Byddai yn ei law ffoa o bump i chwe troedfedd 0 hyd. Yr oedd yn rbifyddwr diail yn ei oes, ac yn fathe- matician rhagorol; yr oe3d mor gyfarwydd yn mhedwar ilyfr Euclid ag ydoedd yn y llyfr corn. Yr oedd yn hoff iawn o astronomyddiaeth. Treuliodd lawer noson i wylio symudiadau y bodau wybreool. Yr ,)r,rl,i yn gallu colio cylchdroadau dyddiol a blynyddol maintioli a phellder yr holl blanedau oddiwrth yr haul. Yr oedd yn gydnabyddus a phob constellation yn yr hemisphere hon, ac yr ydoedd wedi cyfrif diffygiadau yr haul a'r lleuad am ugeiniau os nad canoedd o flynyddoedd i ddod. Yr oedd hefyd wedi astudio gryn lawer ar physigwriaeth, ac efe fyddai "gwaedwr" cyffredinol y gymydogaeth. Yr oedd tyns gwaed y pryd hyny fel meddyginiaeth yn fwy oiewn arferiad nag ydyw y dyddiau hyn. Os byddai rhywbeth y mater ar was neu forwyn, danfonid am Joseph i'w gwaedu, a byddai yn all right. Gofynais i feddyg paham na fyddid yn tynu gwaed y dyddiau hyn os oedd mor effeithiol ? "Amy rheswm goreu yn y byd meddai, sef am nad oes gwaed yn- ddynt i'w dynu." Tynai Joseph mwy 0 waed o fercbed bochgoch, aelodog y dydd- iau hyny nag sydd yn ngwythienau lliprin- tD iod gwelw yr oes hon, sydd yn byw ar de a choffi, a chln. Bwyd llwy, blawd ceirch sycan a llaeth yw'r bwyd i gynyrchu gwaed ac ymenydd, breichiau a borddwyd- ydd hefyd. Ami iawn y gwelid Joseph yn Hwlffordd 0 flaen drws Mr Potter, y Ilyfr- werthwr, yn ei drwsiad arferol, a'i dwy glocsen ar ei draed, a'i ffon yn ei law, yn nghanol trwp 0 foneddigion a boneddigesau, yn deongli rhyw ddirgeledigaethau neu yn esbonio rhyw phenomenon ag oedd wedi, neu ar gymeryd lie yn y byd wybrenol, a bydd- ai mor artrefol yn eu mysg a phe buasai yn nghymdeithas cynifer o fugeiliaid. Yr oedd Joseph yn gryn dipyn 0 athron- ydd, a deallai natur y meddwi dynol yn well na llawer. Cynygiwyd unwaith i droi y gyfeillach yn gwrdd i adrodd profiad- au, a cheisiwyd gan Joseph i adrodd ychydig o'i brofiad. Na wnaf er dim," meddai Joseph, "y mae fy mhrofiad yn beth rhy gysegredig i gael ei drafod yfory yn siop (erydd neu efail y gof." Yn ystod y cyfarfod yn y capel byddai Joseph yn y vcstry, Ni fyddai byth yn eis- tedd, ond cerddai yn ol a blaen yn araf a'i bapyr yn ei law, a'i ben yn y llaw arall, yn cymeryd nodiadau o'r bregetb. Ysgrifen- odd gyfrolau yn y dull yna, ynghyd a'i tiylweldau ei hun arnynt. Ar ol ei farwol- aeth syrthiodd ei holl weiLhiau i ddwylaw dynion nad oedd yn gallu eu prisio, ac aeth llawer 0 honynt yn goelcerth, a gwasgar- wyd uas gwyddis i ba lø. (I'w barbau.")

THE FiiOPOdED MW ROUi'E.

Haverfordwest Brewster Sessions.

Advertising

IThe Pembrokesh founds. -…

An Impudent Theft.

Roose Brewster Sessions.

Advertising

---Welsh Muse ;xd the Bible.

Pembrokeshire Quarter Sessions

Advertising

Hints to Advertisers,

Advertising

Advertising