Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Hanes Bglwys Annibynol Trefgarn…

News
Cite
Share

Hanes Bglwys Annibynol Tref- garn o 1666 i 1866. GAN T DIWEDDAB J. THOMAS, LLETHER. PENNOD XVI. Bu gweinidogaeth Mr Griffiths yn hynod 0 lwyddianus o adeg yr ymraniad am tua haner can mlynedd, pan ddechreuodd ei nerth roddi ffordd. Gofynai Dr. Fletcher o Lundain, yr hwn oedd yn pregethu yma ar foreu Sabbath, mewn syndod i Mr. Griffiths, pa fodd yr oedd yn cadw ynghyd y fath gynulleidfa mewn lie mor wledig ac anmhoblogaidd ? Ac wedi i Mr Griffiths egluro iddo y cynllun, Now," atebai, "I cease to wonder you adopt the true Apos- tolic plan." Yr dedd Mr Griffiths fel Pregethwr yn gynwysfawr ac ymarferol. Byddai ei ran- iadau bob amser yn naturiol, ac oil yn y testun. Triniai ei fater yn ddeheuig, a dywedai lawer mewn ychydig eiriau, a chyfleai ei feddwl gyda'r fath eglurder na fyddai yn hawdd ei gamddeall. Ni fyddai byth yn ceisio cynhyrfu teimladau anifeil- aidd y gwrandawyr, ond siaradai yn hynod doddedig, a byddai ei apeliadau yn ddwys- .ion a miniog. Fel gweinidog a bugail yr oedd yn dyner a gofalus, ac yn neillcfliol o fuddiol ac adeiladol yn ei ymweliadau yn y ddysgyblaeth yr oedd yn dyner braidd hyd at fai. Nid oedd yn ddim cynadledd- wr, ac anaml iawn yr elai oddicartref, ac ni symudodd droed erioed i hel poblogrwydd. Ei eglwys oedd ei gylch, ao i adeiladaeth hon y cyflwynodd ei amser, ei nerth, a'i dalentau. Nid yn ami y daeth i ran un gweinidog i ganfod mwy o lwyddiant ar ei lafur nag a gafodd Benjamin Griffiths. Daliodd i bregethu hyd o fewn i ychydig wythnosau i'w farwolaeth, ao y mae yma rai heno nad anghofiant tra fyddont byw ei bregeth olaf, yr hon a draddododd yn Pen- ycwm. Teimlai yn lied wan, a gofynodd i un o'i ddiaconiaid i ddechreu y cyfarfod, ac ar ol gweddio rhoddodd y diacon y penill canlynol o lyfr Samuel Roberts allan:- Mae'r afon fawr gerllaw, Mi welaf frig y don, Pa fodd anturiaf trwy Dymheatlog donau hon 0 Dduw Elias, tyr'd i lawr, I dori grym yr afon fawr." panWjnl.3KV-ben don Gwlad ys" arnyni, nid fel y mae wedi ei llurgunio yn Llyfr Tonau Stephens a Jones, ond fel y daeth o dan ddwylaw yr hen Tansur ei hawdwr, a chafodd gymaint o effaith ar ei deimladau nes y bu am gryn amser yn methu tynu ei destun. Ond ni chlywodd nebyn pregethu gyda mwy o ddylanwad nag y pregethodd y noson hono. Braidd yr oedd grudd sych yn y capel. Gwaelodd Yn raddol ei iechyd, a diffygiodd ei nerth gan ergydion dilynol o'r parlys, a bu farw yn 1862 yn 84 ml. oed. Gydag un eithriad, nid oes genym hanes fod yr eglwys hon wedi profi rhyw dym- horau o ddiwygiadau nerthol. Yn y flwyddyn 1840-1, ychwanegwyd tua 150 o aelodau, ond wrth olrhain ei hanes o'i chychwyniad yn 1666 tueddir ni i feddwl mai graddol a pharhaol y bu ei chynydd. Nid oes hysbysrwydd cywir am nifer yr aelodau pan yr yinranodd yr eglwys, ond y mae yn debyg mai tua 120 arosodd ar ol gyda Mr Griffiths. Yn ystod ei weinidog- aeth bedyddiodd o fabanod dros 800, ynghyd a llawer ar broffes o'i ffydd. Ni fyddai yr addoliad yn cael ei hynodi gan lawer o swn, ac anaml iawn y byddai yr amenau, a byddai pregethwyr yr hwyl- iau yn cyfrif yr eglwys yn un Stoicaidd, oer a dideimlad. Yr oedd hen wr bywiog a gwreso, ei deimladau, yn aelod a phre- gethwr gyda'r Methodistiaid, yn byw yn y gymydogaeth o'r enw Wililam Edwards daeth yma i wrando rhyw wr dieithr oedd yn hynod am ei ddoniau cyffrous. Rhodd- ai William ambell i Amen, gan edrych oddiamgylch ac amneidio ar hwn a'r llall, ond methai gael neb i'w eilio. Wedi gwneud sawl eynyg aneffeithiol, dyma efe ar ei draed, ac yn bloeddio ftllan Amen Gogoniant "1 yn nghanol yr hen geffylau mudion yma." Byddai William ei hun yn danllyd iawn pan yn pregetbu, a byddai weithiau yn mhoethder ei deimladau yn colli llywodraeth ar ei dafod. Yr oedd Yn elynol iawn i "smugglo," ac yn ngwyneb 0 fod treth mor drom ar yr halen yr amser hyny byddai llawer o'r gwaith yna yn cael ei gario ymlaen ar hyd lan y mor yma. Pan yn rhybuddio ei wrandawyr o'r perygl o anufuddhau i Pduw, bloeddiodd allan, A I cofiwch wraig Lot, wrandawyr, iddi hi am ei hanufudd-dod i gael ei throi yn golofn halen, ac fe ddywedir fod dwy dunell.o un o'i chwarthorion yn awr yn nhy Dai bach ar ben craig Lochvan." (I, w barhau.

[No title]

Y Geninen am Ionawr.

Watcyn Wyn.

Dyfed.

---__--------Addysg ein Gwlad.

Ochenaid.r

Advertising

Hints to Advertisers.

Advertising

[No title]