Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Newyddion Z/hudain, fyc.

[No title]

News
Cite
Share

MERCHEH, 26. Mewn llythyrau a dderbyniasom y bore hwn o Torbay, dywedir nad oes neb dieithriaid yn cael myned at y Belerophon yn y porth hwnnw ond bod rhyddid i fadau fyned o'i hamgylch, cyn agosed ag y gellir cael golwg gyflawn ar i Napoleon Bonaparte, yr hwn sydd fynychaf ar y bwrdd ymharth ol y Hong; y mae rhai wedi bod mor agosed atto ag y gallasent weled fod ei lygaidynllwydaidd, a'i walltyn wineu, &c. Derbynwyd papurau Paris am y 23ain. Cyn- nwysant annerchiad oddiwrth Davoust, fel Penrheolwr byddinoedd y Loire a'r Pyrennees, yn yr hwn yr amlyga efe ymostyngiad y milwyr hyn i awdurdod y Brenin, gan ddywedyd na ddichon y fyddin neillduo ei hachos oddiwrth eiddo dinasydion Ffraingc yn gyffredin; ac o herwydd hynny fod yr arfogion hyn mewn modd didwyll yn derbyn Uywodraethy Brenin, yr hon a wna Ffraingc yn ddedwydd trwy ebar- gofiad haelfrydig a chyflawn o'r hyn a aeth heibio; a chan ymddiried yn gidii-n N-ii yr hyn a fynogodd ei Fawrhydi, bod y fyddin yn tyngu ffyddlondeb i'r Brenin, ac y bydd iddi dywallt ei gwaed i gadw'r llw, a wnaeth i araddiifyn y Bretiin" a Ffraingc. Y mae'r Journal des Debats yn ammeu cyw- irdeb yr hanes uchod) gan ystyried ei fod yn anghysson ag ymddygiadau'r fyddin ar y Loire, yr hon sydd yn parhau mewn agwedd ryfelgar; pa fodd bynnag dichon fod agosrwydd y byddin- oedd cyfunol attynt yn achos o'r anghyssondeb ymddangosiadol rhwng eu profl'es a'u hym- ddygiad. Cyhoeddwyd llythyr Bonaparte at Dywysog Rhaglaw Prydain mewn un o'r papurau hyn; yr hwn sydd fel y canlyn U CHDER BKENHINOL,—O herwydd bod yn agored i'r tersysg-bleidiau, ag ydynt yn rhannu fy ngwlad, ac i elyniaeth Galluoedd mawrion Ewrop, myfi a orphenais fy ngyrfa Jy wodraethol, ac yr wyf yn dyfod, fel Themistocles, i fwrw fy hun ar lettygarwch pobl Prydain. Yr wyf yn arddelwi oddiwrth eich Uchder Brenhinol ymgeledd' y cyfreithiau, ac yn rhoddi fy hun i'r mwyaf galluog, y mwyaf diysgog, a'r mwyaf haelfrydig o'm gelynion. (Arwyddwyd) (I NAPOLEON. u RocJ\fort} o Qrphtnhaf," Ä I'' J Dychwelodd y Cadfridog Becker, yr hwn a aethai gydà. Bonaparte i Rochfort, i Paris. Yr oeddid yn disgwyl i M. Murat gymmeryd llong yn Toulon -i hwylio i Frydain. Enuillwyd am- ddiffyufa Bedfort yn Alsace gan luoedd Awstda, wedi gwneuthur o honynt bump ymosodiad, yn y rhai y coilwyd llawer o fywydau o'r ddau tu. Y mae llynges Frytahaidd a lluyddwyr wedi cyrraedd geneu'r Gironde, i amdditFyn Madame, os bydd eisieu, ar ei dychweliad i Bouideaux. Dywedir fod y rhaglaw yn parottoi i wneuthur gwrthwynebiad egniol; eithr bernir y bydd arno gywilydd al'i yiifddvgi,,td pan ddysgo efe mai yn erbyn inerch Louis XVL y cyfeirir ei wrth- wynebiad anrasol. Y mae'r trysorfeydd Ffrengig yn parhau gos- twng. Yr oedd y consols bump y cantddydd Gwener cyn iseled a 56^. PIGION O R L'LYSARGRAFF AM XEITIIIWYR; Sicjiddfa Rhy fel, Gorph. 25, 1815. Y mae'r Tywysog Rhaglaw, fel arwydd o'i uchel gymmeradwyaeth, o yrnddygiad gwrol y gatrod cyntaf a'r ail o'r Diffyn-gor (-Lj/i,' Guards) ym Innvydr Waterloo ar y ISfed o'r mis di- weddaf, wpdi gweled fod yn dda i gyhoeddi ei hun yn brif fihvriad o'r ddwy gatrod hynny. Swyddfa Rhyfel, Gorph. 25, 1315. Ei Uchder Brenhinol y Tywysog Rhaglaw, yn enw, a thros ei Fawrhydi sydd wedi gweled yn dda i gymmeradwyo'r cynnyg o fod i'r holl ga- trodau a fuont yn ymdrech Waterloo, i gael caniattad i osod y gair Waterloo ar eu banerau, mown ychwanegiad at yr arwyddeiriau ereill a ddichon fod arnynt, er coffadwriaeth o'u gwa- sanaeth arddcrchog ar y 18fed o Feheiin, 1815. Morlys, Gorph. 25,1815. Pigion o lythyr y Cadpen Maitland, o'r Bel- lerophon, a amserwyd Basque Roads Gorph. 14. IIeddyw daeth y Count Las Casses a'r Cadfr. Alemand i'r Hong hon, a chynnyg i mi dderbyn Napoleon Bonaparte, i'r diben i fwrw ei hun ar hyivawsedd y Tywysog Raglaw. Derbyniais y cynnyg, ac y mae efa i ddyfod i'r llong hon y foru ac i ragflaenu pob camsynied dywedais wrihynt nad oedd gennyf fi awdurdod i roddi neb ammodau, ond mai'r unig beth a allaswn wneuthur oedd ei drosghvyddo efa'i gymdeithion i Frydain, fel y byddai i'r Tywysog Rhaglaw roddi iddo y derbyniad a farni efe yn addas. Cynnwysir llythyrau ereill yn y Llysargraft" oddiwrth y L!ynge.s) dd Keith, a ysgrifenwyd yn y Vile de Paris, yn Ilamoaze ar yr 21ain,ac eiddo'r i Cadpen Alymer, o'r Pactolus, a'r Gad- pen Palmer o'r Hebrl1, a ysgrifenwyd ar yr afon Gironde ar y l4eg. Y rhai a cldailuniint y modd yr aeth y Pactolus, yr Hebrus a'r Fa!- mouth, i'r afon honno. Daethant ar gyfer y llongborth ar y 3dd, danfonasant gennad i gyn- nadleddu a'r Cadfridog Claussel, yr hwn oedd yn blaenori yn Bourdeaux; eithr ni ddychwelodd y cynnadleddwr, a deallwyd ei fod wedi cael ei gadw, a bod Ciausel wedi gyrru allan gyhoeddiad i hysbysu na byddai i un math o gyfrinach i gael ei chynnal a.'r Brytaniaid, a bod Bourdeaux a'i holl gymmydogaeth dan warchae, gan fygwth pawb a amlygent yr anfoddloiirWydd lleiafi'w lywodraeth ef, a. chospedigaethau milwraidd. Ac am nad oedd neb arwyddion y gallasid dy- huddo'r Cadfridog Ciausel, ar yr lleg frurfwyd y llongau mewn modd trefnus i fyned i mewn i'r afon trwy drais os rhaid fyddai; pan ncsasom at yr afon gwelwyd pump o longau yn gwthio allan trwy'r fynedfa ddeheuol, gorfu aruom ymwasgaru i'r diben i chwilio y rhai hyn; eithr ymgynnullodd y llyngesan yn y nos drachefn, a ddoe aethom i'r afon, daeth cennad attorn o cli-ef Royan i fynegu na byddai iddynt hwy saethu arnom os na ymosodem ni arnynt hwy. Yr oedd y faner drilliw yn chwirio ar yr holl warch- gloddiau, eithr ni digwyddodd un weithred ry- felgar nes cyrhaeddasom fangnelfa Verdun, er bod yr holl warcii-loddiau yn barod saethwyd attoni-yn barhaus o'r fangnelfa uchod nes daeth yr holl longau i'r angorfa ond ni wnawd y niwed lieiaf, ac ni saethodd y llynges un ergyd, o her- wydd na fynnai'r Cadpen Aylmer, yr hwn oedd yn blaenori, aflonyddu'r tuedd caredig ag oedd efe yn deall a ITynnai ym mysg y bobl y, gyf- fredin. Danfonwyd cennad at ClauseLdjv iefn, ac yr oeddid yn disgwyl ei attebiad; tiv "vd mesurau i reoleiddio ae arfogi 'r blaid Fren .,0.1 yno, ac i amddiffyn yr afon, os lfyddai i Clausel ddanfon lluoedd grymus i ddarostWHg tueddtad- au'r bobl. Ciliodd y gelynion o fangnelfa Verdun yn y nos, ac aeth ychydig Frytaniaid I yno i ddinystrio'r mangnelau; yr oedd y mang- nelfeydd ereill yn raddol yn tynnu'r banerau trilliw i lawr ac yn derchafu ciddo eu Brenin cyfreithlon; ac nid oedd ond gwarchglawdd Meche heb wneuthur hynny pan ddaeth y cen- nadiaethau ymaith. Mewn llythyr oddiwrth y Cadfridog Syr Hudson Lowe, yn y Llysargralf, hysbysir ei fod ef a rhai o'r lluoedd Brytanaidd wedi hwylio o Genoa tua MarseiJes, i'r hwn le y daethant ar yr lleg o'r mis hwn, i weithredu i, yn ol y byddai amgylchiadau yn gofyn. Mynegir gan lythyr oddiwrth y Cadfridog Syr J.Leith, a ysgrifenwyd vii N-lartinique, I I 'I Mehefin ?0, ac a cyhoeddwyd yn y Llvsargratl i fod y drefedigaeth honnc me?n am2y)c!i1adn? embyd cyn dyfodiad Hongau ei Fawrhydi j'r He, yr oedd y r!aHam¡af o Swyddogion y fyddin yn bleidiol i Bonaparte, ac, heb gyn- northwy, in allasai'r rhaglaw eu liywodraethu: yr oedd rhai o honynt yn gwisgo'r hedrosyn in. IIiw, ac ereill yn dywedyd eu bod yn ehwennych dychwelyd i Ffraingc, ac felly gyrwyd hwynt oil yno, ond ynghylch 150 o wyr y 26ain catrod, y rhai a ddyrchafent y faner wen. AVecii i'r Bry- taniaid feddiannu'r sefyllfaoedd milwiaidd ar yr ynys, gyrrodd y rhaglaw ordinhad allan dros roddi derbyniad i longau Brytanaidd ar yr un telerau ag eiddo Ffraingc. Yr oedd y rhaglaw yn garedig iaivn, ac yn amlygu'r hyfrydwch oedd ganddo, o herwydd i ddyfodiad fiynges Prydain fod yn achos i ragflaeiiu chwyldroad dychrynllyd yn yr ynys honno. Yn Llysargraff swyddol Paris am y 22ain o'r mis hwn, dywedir Itid y Brenin wedi dileu aw- durdod y rhai ag ocddynt i arolygu cyhoeddiadau o 20 papurlen a than hynny, a herwydd fod mwy o anghyueusderau nag o fante??n' vw c? fodi Oddiwrth hynny 0 hyn allan ymddibynna foeli oddi?rth hynny; o ijyn aiian vmddib?)na ei Fawrhydi ar sel yr ynadon i gcspt y sa?l a gamarferant rydd-did y wasg. l Y Ihae Duges Angouleme wedi hwylio o Borts- mouth yn y ffreigad Forth, tua Bourdeaux.

[No title]