Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

I Newyddion Llimdainj 4-c.

News
Cite
Share

Newyddion Llimdainj 4-c. DYDD AIAWRTI-1, MAI 9. NEITHIWYR derbyniasom bapurau Paris am y 6fed; eiddo Frankfort i'r ail, a Brussels i'r 7fed o'r mis hwn. Nid oedd Bona- parte wedi gadael Paris mor ddiweddar a bore dydd Gweiier diweddaf, ac nid oes y son lleirtfam ei ymadawiad i gychwyn tuair cyffiniaû yn y papurau hyn. Y mae crybwyll ansaAvdd y Trysorfeydd Ffrengig yn cael ei esgeuluso ymliapurau Paris am ddydd Mercher a dydd lau, yr hyn sydd yn ymddangos yn dra hynod ac anarferol; y ] prisoedd diweddaf a grybwyllwyd oedd, y Consols bump y can} 56y. Y casgliad natturiol oddi wrth yr esgeulusad uchod yw fod y pris- oedd wedi gostwng yn is, ac i raddau brawychus, fel y barnwyd mai callineb oedd peidio cy- hoeddi yr amgylchiad h«vn} rhag digalonni'r wlad. Yr oeddid yn disgwyl i'r amddififynfeydd ar Montmarte i ddechreu dydd Sadwrn, dan arol- ygiaeth y Cadfridog Haxo a'r Uchganwriad Lami; ymddiriedir amddiffyniad y ddinas i 30,000 o'r Gosgorddion Gwladwriaethol, pan fyddo lluoedd y gadres ar waith mewn parthau ereill; ond y mae'r Gosgorddion i gael eu rheoli gan Swytldogion perthynol i fihvyr y gadres. Gvrrodd yr Ymerodres Maria Louisa allan ^gyhoeddiad o Schonenbrum ar y dydd olaf o Fawrth, i hysbysu i'w .deiliaid, trigolion Dug- iaethau Placental, Parma, Guastala, y rhai a ganiatawyd iddi ynghyttundeb Fontaineblieu, ei bod yn analluedig i fyned j*n bersonol i' w Llywodraethau, ac o herwydd hynny, ei bod wedi deisyf ar ei tlnd yr Ymerawdr i gymmeryd yHywodraeth yn ei law, ac yn galw ar y trigolion i ufuddhau ilw lywodraetti ragddar- bodol ef. LLYTHYRC.OD HAMBURGH. Vienna, Ebaill '21.—Nid ydys wedi danfon ymaith orchymyn i ddechreu'r rhyfel hyd yma; cithr )' mae'r prif reolwyr wceli tlerbyu cyfar- wyddiadau dirgelaidd pa fodd i ymddwyn vtig- wyneb rhyw amgylchiadau a allent ddigwydd y mac'r Gymmanfa yn aros yma etto. St. Petersbitrgli.—Daeth y cennadwr Persiaid ar y (27ain o Fawrth (hen amser) i Zarskogexlo, lie y derbyuwyd ef gyda phob anrhydedd ddy- ledus i'w urddas gan y Cadf. Gscharowsky. Am nad yw'r Elephantiaid a ddygodd efe yn anrheg- ion i'r YTmerawdr yn gallu teithio ar y tymmor oer, gadawyd hwy dros y gauaf yn Tscherkask, a dygir hwy yma yn yr haf. I PAPURAU FRANKFORT A BRUSSELS. Schajfhausen, Ebrill 27.—Dal wyd y Dywys- oges Berthier (gwraig i un o Gadfridogion Bona- parte) yn nheyrnas Wirtemberg. Mewn cennadiaeth o Milan am y 19eg, dy- wedir fod y Neapolitiaid wedi cael eu llwyr orchfygu yn y frwydr a ymladdwyd rhyngddynt a'r Awstriaid ar y 14eg, gerllaw Forii, gy.da'r golled o 3000 mewn lladd,a 4000 o garcharorion; cymmerwyd peiriannau gwersyll Murat. Cil- iodd y Neapolitiaid tuag Ancona, He yr ym- ddengys fod Murat yn cynnull ei fyddiu gan feddwi anturio i frwydr newydd. Os efe a orchfygir ni fydd ganddo un llwybv i ddiangc, ond trwy fyned i'r llougau a'u wyr, os bydd hynny alluedig, gan fod gryrmynyddig Arezzo, y rhai a ddrvvgdrinwyd gan ei iuoedd ef, oil dan arfau, ac yn barod i ymosod arnynt yn eu gwrth- gychwyniad. Dywedir fod Murat wedi gofyn cadymbaid (armistice) ddwy waith, ac wedi addaw cydweithredu n'r Cyugreirwyr cyn gynted ag yr heddychont ag ef; eithr gwrthodwyd ei holl gynnygion. Pan nesaodd y Cadfrido Nugent at Florence, chwennychai'r Neapolitiaid yn y ddinas honno roddi eu hunain i fynu ar ammodau, ac arcs yno dros nos: eithr gwrthodwyd hyn, a gorfu arnynt gychwyn allan yn y nos. Vienna, Ebrill 26.—Yn ol yr hanesion o Po- land, y mae cuddgennadon Bonaparte wpdi bod yn ymdrechu tywys y bobl yno ar gyfeiliorn, ond ofer fu eu gwaith. Y mae plaid gadarn yno yn chwennych i Poland gymmeryd yr enw teyrnas yn lie Dugiaeth Fawreddig. Dywedir fod Al- exander wedi cydsynio a'r dymuniad hwn, a bod y mesurau angenrhtÚdiol wedi cael ei parottoi i'r diben i ennill cydsyniad y Gymmanfa. Lluoedd Russia ydynt yn cychwyn gydi brys trwy Saxony a Bohemia, eithr prin y gallant fod ar y Rhine cyn canol Mai. Y mae'r Cadfridog Von Geismar yn myned i Glatz i hebrwng gwraig Jerome Bo- naparte i'w g%vlad ei hun hi a annedda yn Goep- pingen. Mewn. llythyrau cyfrinachol o Gratz dywedir eu bod yn disgwyl y Brenin Siarl o'r Yspaen yno a'i ddiweddi, ynghyd a'r Tywysog Ileddwch. Nid ydym wedi clywed nemawr yn ddiwedclar am Lys yr Archdduges Maria Louisa, eithr dy- wedir ei bod wedi Riynegu yn ddiweddar wrlh J rhai ag oeddynt o'i hamgylch na fyddai iddi fyth ddychvvelyd i Ffraingc, ac am hynny ei bod wedi gollwng y Gweinidog, a roddasid iddi gan Bona- paate ar ddechreuad ei rhaglawiaeth. i fyned adref i FfraingCj-yn ol eiddymuniad. Brussels, 11,fai 5.—Trwy lythyrau o Courtray ymddengys fod dydoliadau o'r lluoedd Ffrengig yn parhau enciiio oddiwrth Bonaparte ac yn dy- fod dros y cyffiniau. Hysbysir mewn llythyr o Paris fod amryw foneddigesau de la Halle (o'r farchnad) wedi cael eu gosod yngharchar am amlygu eu dymun- iad dros ddychweliad ell Tad Daionus i Ghent. Fouche, yr hwn a ddanfoypdd am danynt a ymdrechodd eu tyneru, cithr tramgwyddasant ef trwy eu hattebion, a gyrrodd hwy i garchar, eithr ni auturiodd efe i'w cadw yno dros dair awr o amser. Y chwanegir yn y llythyr hwn, fod Bonaparte yn peri i' w luniau a'i feddiannau gwerthfawr i gael eu syppynu i fynu, megis pe byddai yn meddwl am wrthgychwyniad, yr hyn sydd yn peri i'r werin ei alw le Prince de Lam- balle. Mewn hanesion anghyoedd o China dywedir fod y fasnach wedi ei liattal, a bod yr holl ton-au wedi cael gorchymvn i hwylio ymaith heb ddadlwytho eu nwyddau, o herwydd fod y llougau Brytanaidd yn gwarchae ar eiddo yr Americ yno. Yr ydym yn deall fod cynnyg wedi cael ei wneuthur i'r Llywodraeth i drosglwyddo'r llythyr-godau gyda'r cyflymdra o flaw milldir yn yr awr trwy agerdd (steam) a bod y dar- luniadau o'r cynllun mor foddhaol a pherftaith fel y mae'r Llywodraeth wedi cyniuieryd y cynnnyg i'w hystyriaeth mwyaf difrifol. Mewn l!ythyr oddiwrth bonheddig mewn sef- yllfa swyddol yn Antwerp, dywedir fod yng- liylch 907,000 o wyr arfog o bob parth yn cychwyn yn erbyn Bonaparte; fod byddin i Ffraingc yn ddiifygiol iawn o geffylau a niarig- nelau; ac ma i'r dyb gyffredin yw y bydd tri mis yn ddigon o amser i derfynu tynged Bwrop t y tvmth hon.

[No title]

[No title]