Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

JSewytkUon JUlundain, fyc.

[No title]

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

MA WRTH, 15. Dcrbyniasom bapurau Paris am cldydd Gwener a dydd Sad-wrn. Dywedir fod ysgariad bwriadol Maria Louisa oddiwrth Bonaparte, i gymmeryd lie i'r diben i agor y ffordd t'w phriodas a Bre- nin Prussia; yr hwn, fel yr ychwanegir gan ba- purau Brussels, a gymmer arno ei hun yr enw o fe! y hyddo yn gydradd ag Ymer- awdwyr Russia ac Austria. Dywedir yn awr na fydd i'r Pennadurlald cyfunol i adael Vienna cyu diwedd y mis hwn. Nid oes un rhan o weithredoedd y Gymmanfa wedi ei gyhoeddi mewn modd swyddol. I Tybir mai diben mynediad Syr Sidney Smith i Vienna yw cymhell y Galluoedd cyfandirol i ddarostwng Galluoedd Barbary, a Ihvyr ddi- dclymu y fasnach mewlI caethion o'r A ffric; ac i'r diben i ddwyn y bwriad olaf ymlaen, dyw- edir fod Cymdeithasau Dyngarol (Philanthro- pic) wedi ei gynnysgaeddu a symau lied fawrion o arian. Amlygir mewn Cyhoeddiad o eiddo'r Tywyso.z Rhaglaw, ei fod yn bwriadu rhoddi ifurf-ly wod- raeth rydd i'r Hanoyeriaid. Ennillwyd cyullwn y gyfraith dros clrosglwy- ddo gwlan o Ffraingc, gan lawer o leisiau yn Nhy Cyffredin Seneddr y wlad honno. Cyhoeddwyd rhai o'r dedfrydau ar y dynion ag oeddynt bleidiol i'r Cortes, yn ddiweddar yn Madrid. Y mae Abbe St. Ildefonso, oed 70, yr hwn a fu byw mewn parch mawr, i gael ei all- tudio i fynachlog dros chwe' miynedd, a''i fedd- ianuau wedi cael eu hattafaelu gan y Llywod- raeth. Caethiwir y Cadfridog J. O' Donaghu mewn castell. A sicrheir i ni fod yr un blinfyd ynghadtv i P. A. Giron, un o'r Cadfridogion a enwogasant eu hunain yn y rhyfel diweddar. Y mae'r Brenin a'i Wevnidogion wedi myned i drigfa frenhinol Escurial, i ochelyd, fel y tybir, i fod yn dystion i gyilawniad y mesurau gerwin a femir yn angenrheidiol ganddynt. Y mae'r Offeiriaid o du'r Brenin hyd yr eithaf drcs ad- fesiad yr hen drefn ar bethau yn yr Yspaen. Yr oedd son yn ymdaenu ddoe, fod Llywod- raeth yr Americ wedi gwrthod y telerau hedd- wch a yrwyd trosodd gan y lloug John Adams, lac wedi gyrru ammodau gwrthrrynebol yn ol. Ond yr ydym yn holloi anwybodus o sylfaen y cyfryw son. Dywedir fod Ffraingc 12,000,0001. yn nyled y wlad hon, sef 8,000,0001. am gynnal carchar- orion rhyfel yn fwy nag sydd arnom ni am gyn- nal pin gwladwyr, y rhai a fuont garcharorion yn Ffraingc a 4,000,0001. am leddiannau Bry- tanaidd yn nhrysorfeydd Ffraingc. Ymddentrys fod dynion yu cael eu cyflogi'nbar- haus yn y lad hon i uno Lleng Germanaidd, y rhai a dyngir gan yr ynadon i wasanaefhu tra fyddo rhyfel rhwng Prydain ag inirhy w wlad. Daeth y Nereus i mewn i Bortsmouth o'r Bra- zils, a nawdd-lynges, ynghyd a 500,000 o ddo- lars i'r Llywodraeth ac i'r Maelierwyr. Daeth y Phoebe n'r ffreigad Essex o'r Americ, yr hon a ysgafaelodd yn ddiweddar, i Blymouth ddoe. Dedfrydwyd George Houston, awdur llyfr cableddus, a elwid Ecce Homo, i ddioddef dwy flynedd o garchar, a thalu dirwy 0 2001.; am gyhoeddiad yr hwn y cospwyd y diweddar Da- niel Isaac Eaton o'r blaen.

SENEDD YMERODROL. I