Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Eisteddfod y Meinciau, Y Grogiith,…

Calfaria, Llanelli, I

Marvvolaeth a Chladdedigaeth…

ICymru a'r Wybodaeth Newydd.I

- PENYGROES. I j

—j ILlwyddiant Adroddiadol.i

ILLANNON. !

News
Cite
Share

I LLANNON. Anhawdd gan y mwyafrif, os nad yr oil, o breswylwyr Llannon, a'r plwyfi cylchynol, fyddai ymdawelu pan y clywsant fod y diweddar Ddafydd Roiberts, Ystlyscoed, wedi gorphen ei yrfa. O'r braidd y rhaid im' nodi j fod pob calon yn teimlo a'i adnabu ef, oher- wydd ni fu o fewn i'r haner-canrif diweddaf neb yn byw yn ein plith yn meddu ar y fath gyflawnder o'r rhinweddau sydd yn angen- rheidiol er cyfansoddi yr hyn a elwir genym yn ddyn. Anfarwol Ddafydd Roberts Ni fu tebyg cymwynaswr yn y wlad. Mi 'roedd j I gen'ti galon agored bob amser. Nid gwen heddyw, a gweniaeth y dydd dilynol. Gwel- aist hir ddyddiau ar y ddaear defnyddiaist hwynt er daioni, ac nid amheus genyf na fydd, wedi i'r glaswellt dyfu dros dy fedd, goffa da am danat. Heddwch i'th lwch hyd foreu'r codi. I Pe ond rhyddid gawsai'm teimlad I Wrth adgofio'r blwyddi fu, Dywedai yn union ymadroddion Fu cyd-rhyngwyf a thydi; I Llawen genyf am yr oriau A dreuliasom yn y coed, Pan nad oeddwn ond fel crotyn Tuag un-ar-bymtheg oed. Llawer orig ar brydnawnddydd Aeth fel mynyd heibio in' Byd yn anghof, 'gosb yn ddibwys, Pan a'm gwyneb tua'r Bryn Holi wnelai rhai o'r teulu, Pa le treuliaist dy brydnawn Minau dd'wedwn, Gyda Dafydd ''— Yna croesaw da a gawn. Mi 'roedd adrodd cyfrioachau I Hwn yn Heddfu tymher ddrwg I Mi 'roedd ganddo hanes difyr, Byth yn tynu unrbyw wg Cwrddem weithiau ar yr heol, Chat a gawsem ni waeth beth Byddem debyg i gyfreithwyr- Ni fu arnom unrhyw dreth. Efelwen fu ein hir swyddfa, Yna y bu dadleu brwd Dafydd, ie, a'r gof yn dadlu, I' Minau'n taflu arnynt ffrwd Difyr oedd ein cyfarfyddiad, I Hyn a gofiaf hyd fy medd I Tithau sydd mewn gwell cyfrinach, Lie teyrnasa bythol hedd. Golled gawsom wrth ffarwelio A dyngarwr fel tydi; Buost fyddlawn dros egwyddor"— Dyna ddywed torf ddin' Nid anghofir Dafydd Roberts" Gan drigolion tref a gwlad Er rhoi ffarwel dros beth amser. Mae dy gofio yn fwynhad. I Heddwch perffaith oedd dy gwmni, Tangnefeddus nefol drem. Efelychaist yn feunyddiol Ddioiweidrwydd Bethlehem Llwybrau hedd, ti a'i dilynaist, Gwron oeddet dros y gwir Mae'n drueni fod gan angeu'r Fath awdurdod yn ein tir. Dafydd," tawaf, gyda dywedyd, Gwyn dy fwyniant yn y nef; Hawliaist hyn, ond ti gei lawer O'i rasusau gwerthfawr Ef; Blinaist yma yn swn y ffrydlif, Tawel fuost dan dy groes; Ufuddheaist i'th Waredwr Fel pob "arwr" trwy dy oes. L'annon. E. G. JONES.

DYCHYMYG.

Advertising

IThe Beat-all Ointment.

Advertising