Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Eisteddfod y Meinciau, Y Grogiith,…

Calfaria, Llanelli, I

Marvvolaeth a Chladdedigaeth…

ICymru a'r Wybodaeth Newydd.I

- PENYGROES. I j

News
Cite
Share

PENYGROES. I j CYFLWYNIAD TYSTEB I'R PARCH I H. FFINANT MORGAN. Daeth cvnulliad lluosog yn nghyd i gyf- lawni y gwaith pleserus o gyfl wyno Anerchiad a chod o atH. i'r Patch. H. F. Morgan, a'i briod hoff, nos Fawrtb, Ebrill 19eg, ar eu gwaith yn ymadael a Phenygroes. Cadeir- iwyd gan Ficer poblogaidd y plwyf, Mr. Britten, Gorslas. Yn ei araeth, pwysleisiodd y cadeirydd ar y c) feilloarweh a ffynai rhyngddo a Mr. Morgan, ac fel un prawf o hyny, cyfeiriodd at y cyfnewid Uyfrau cedd wedi cymeryd lie rhyngddynt, a hyny er daioni iddo ef yn bersonol, o leiaf; yn wir, dywedai fod y cyfeillgarwcb agosed fel yr oedd rhai yn rnron ag awgrymu ei fod ar ymuno a'r capel Methodistaidd. Canmolai Mr. Morgan fel pregethwr gwyeh. Mr. W iliiams, ysgolfeiatr, a weithredai fel ysgrif- enydd y cyfarfod, ac yr oedd rhaglen ddyddorol wedi ei darpar. Galwodd y cadeirydd -ar amryw oedd yn bresenol i siarad, gan eu cyfyngu i dair mynyd yr un. Siaradwyd gan y Parchn. E. J. Herbert, Urosshands; J. Herbert (B.), Penygroes; H. Edwards, Pontyberem; W. M. Davies, B.A., Hendre; a'r Mri. Evan Lewis, blaenor o eglwys Mr. Morgan, Rees Thomas, a W. Williams. Cafodd pob un o honynt wynt o dan ei edyn, ac yr oedd yr anerchiadau yn "short and sweet" ac i'r pwynt. Cafwyd adroddiad gan frodor o Gastellnewydd- Emlyn—Mr. J. Owen Thomas. Magwyd Mr. Morgan yn yr un ardaJ, a thyfodd i fyny I yn swn melus g weinidogaeth yr enwog Barch. Evan Phillips. Yn ystod y cyfarfod, canwyd gan Gor Meibion y lie, o dan arweiniad Mr. Sydney Morris, organydd capel y Bedyddwyr hefyd gan Mr. David Evans, Pantycastell, Llanlluan William Davies, Penygroes; George Harris, Gorslas (y buddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain am ganu penillion) a Miss Jenkins, Pentwyn. Cyfeiliwyd gan Mr. T. Harris, Gorslas. Aeth yr oil drwy eu gwaith yn dra chymeradwy. Darllenwyd llythyrau yn cynwys gwerthfawrogiad o gymeriad Mr. Morgan, a'i wasanaeth i'r lie yn ystod ei arosiad yno, ac yn datgan fod yní ddrwg ganddynt nas gallasent fod yn bre- senol, oddiwrth y Meistri D. F. Davies, M.E., D.C., Crosshands; Morgans, M. E., Glofa yr Emlyn; D. Davies, C.C., Cil- rhedyn; Samways, ysgolfeistr, Maesy- I bont; a'r Paichn. J. Griffiths, Pentwyn R. R. Davies, Llandiio W. Bowen, Penygroes a Mathry Morgan, Crosshands. Dywedodd I Mr. Williams, yr ysgrifenydd, fod pawb wedi danyos paiodrwydd mawr i gy franu at y dysteb, ac fod y swm wedi cyrhaedd yn mhell uwchlaw en dysgwyliad fel pwyllgor. Gwneid y pwyllgor i fyny gan gynrychiolwyr o'r gwahanol eglwysi, a dyma en henwau Thomas Thomas, W. Williams, T. Morgans (Glofa yr Emlyn), Rees Morgan, George Giiffitlis, T. Stephens, John Davies, Evan Lewis, Arthur Davies, Rees Thomas, John Adams, John Rees, David Bowen, Rees Rees, a J. Owen Thomas. Mr. Rees Thomas oedd ysgrifenydd y pwyllgor, a Mr. Evan Lewis y cadeiiydd. Galwodd Mr. Biitten ar Mr. Owil) m Rees, M.E., Glofa Caebryn, i g.flwyno yr Anerchiad (gwerth £5 5s.) i'r Parch. H. F. Morgan. Dywedai fod yn bleser mawr ganddo i wneud hyny. Ym- syniai yn uchel iawn am weinidog yr efengyl. Rhoddodd dystiolaeth uchel, mewn araeth ragorol, i weithgarweh Mr. Morgan, a datganai ei wert h fawrogiad o hono fel un 0 datganai ei werthf'awl'ogiad 0 hOlJO fel un 0 gymeriad gloew, ac yn fugail ymroddedig. Galwodd ar Mr. Williams, fel ysgrifenydd, i ddarllen cynwys yr Anerchiad, ac with ei glywed, gwelem fod y pwyllgor, yn yr i Anerchiad, yn pwysleisio ar y pwyntiau eanlynol ;—Arddangos teimlad dwys ar ym- adawiad Mr. a Mrs. Morgan gwasanaeth arbenig Mr. Morgan er sicrhau datilenfa deilwng i'r lie; gwerthfawrogiad o hono fel i I pregethwr poblogaidd, bugail ymroddgar, darlithydd,.ardalydd caredig, &c. a pharod- rwydd i hyrwyddo pob achos a thuedd ynddo i ddyrchafu mewn moes a cliref) dd a dymuniad yn dda i Mr. a Mrs. Morgans yn y dyfodol. Cynwysai yr Aneichiad photographs prydferth a chywir o Mr. a Mrs. Morgan. Yr oedd enwau y pwyllgor with yr An- erchiad. Gwneuthurwr yr Anerchiad oedd Mr. Richards, Heol Gastell, Abertawe, ac ni allasai fod yn well. Ar ol cyflwyno yr Anerchiad gan Mr. Gwilym Rees, cyflwyn- wyd y god aur gan Mr. D. Price, un o aelodau ffyddlawn eglwys Jerusalem, lie y bu Mr. Morgan yn weinidog am saith mlynedd. Mynegai yntau ei syniad uchel am ei gyn- weinidog, a cbyfrifai hi yn anrhydedd i gael cyflwyno y god iddo. Atebodd Mr. Morgan mewn araeth fer a phwrpasol, yn mynegu ei I werthfa wrogiad o garedigrwydd Penygroes I tuag ato ef a'i briod, a'i deimladau da at bawb o honynt With ymadael, teimlai yr I holl gynulleidfa eu bod wedi bod yn bresenol mewn cyfatfol eithiiadol o lwyddianus. Arwydd dda ydyw gweled y gwahanol enwadai4 mewn cymydogaeth yn anrhydeddu gweinidog ar ei yi-riadavoia(i a'r lie. Gwyn fyd yr ardal fedr barchu ei gweinidogion. I EDMYGYDD.

—j ILlwyddiant Adroddiadol.i

ILLANNON. !

DYCHYMYG.

Advertising

IThe Beat-all Ointment.

Advertising