Hide Articles List

10 articles on this Page

Cymanfa Ganu Bedyddwyr Llanelli…

PWLL

PONTYATES.

! ' ———————————————— ' I Ebenezer,…

-.-I Capel Newydd, Hendy.…

I Coroniad" Morleisfab." j…

News
Cite
Share

I Coroniad" Morleisfab." j I Gwledd a hir gotir yn Llangennech a'r cylchoedd oedd Cwrdd Coroni "Morleisfao," a gynaliwy.l yn SJem, Llangennech, nos I Fawrtb, Mawith 22ain, 1910. Yr oedd y I capel wedi ei orJenwi. Cymerwyd y gadair gan Moiley Joseph, Ysw., Plasderw, yr hwn a lanwodd ei swydd yn ddeheuig. I I gychwyn y cyfarfod, cafwyd cainc ar y delyn gan Master George Arfryn Thomas, Bettws, yr hwn a swynodd y dorf. Canodd Mr. Griff Williams Chwifiwn Faner," a Mr. Tom H. Jones, Pontardulais, Breu- ddwyd y Bardd," yn efFeithiol iawn. Ad- roddodd Mr. Hugh A. Jones Dringo," a Mr. Tom Williams "Carwn ein Gwlad," yn rhagorol. Cododd y canu penillion gyda'r delyn gan Mr. Edgar Thomas, a'i eneth fechan saith mlwydd oed, lanw hwyliau y dorf i dir uchel iawn. Chwythwyd y Corn GwJad" gan Mr. David Thomas, Tycoch. Yna galwodd Gwili "-yr hwn a lanwodd ei swydd fel Arch-dderwydd i'r yrnylon--y beirdd i'r llwyfan i ffurfio y cylch ac wedi I darllen y feirniadaeth, gorchymynodd i Dan ei Choed" sefyll ar ei draed, ac anfonodd "MeUnfab" a Talmai" i gyrchu y buddugwr, sef "Morleisfab," i'r Ilwyfir., yn swn See the conquering hero comes," ar y cornet gan Mr. Vavid Thomas, ac ar y berdoneg gan Mr. Gordon Picton. Wedi i'r Arch-dderwydd ofyn deirgwaith, "A oes heddweh 1" ac i'r dorf ateb nes adseinio'r muriau, gal wyd Miss Thomas, Penlan, i osod y Goron ar ben y bardd, yn nghanol banllefau o gymeradwyaeth. Canwyd Can y Coroni yn gampus iawn gan Miss Blodwen Hopkin, vr bon hefvd a ganodd, i derfynu, "Hen Wlad fy Nbadau," wedi rhoddi diolchgarwch i'r cadeirydd, ac i bawb gymer- odd ran yn y cyfarfod. Un o'r dyddiau pwysicaf yn hanes Llan- gennech ydyw coroni "Morleisfab." Cadeir- iwyd ef o r blaen, tua deunaw mlynedd yn ol, ond, i'm goIwg i, y mae annhraethol fwy o swyn yn y Goron na'r Gadair; ond beth bynag am hyny, y mae y ddwy ganddo yn awr gall eistectd yn y "Gadair" a'r Goron ar ei ben. Hyd y gwn i, ni choronwyd bardd ,yn Llangenneeh o'r blaen; am hyny, cured y coedwigoedd cylchynol eu dwylaw, a chaned Afon "lHorlais Gan Coroniad un o'r meibion anwylaf a fagwyd ar ei glan, ac a fabwysiad- odd ei henw yn enw barddol iddo ei hun, ac a gerfiodd ei enw yn ddwfn yn llechres anfarwolion Cymru. ANERCHIADAU Y BEIRDD. I O! chwythwch yr udgorn yn Salem, Llan- gennech, Mae heno yn noson coroni y bardd Mae'n destyn gorfoledd, pe iawn sylweddolech, Coroni Morleisfab am Awdl yr Ardd." Efe ydoedd brenin Eisteddfod Carneddi, Efe oedd y garddwr rhagoraf i gyd A deg yn cystadlu, Morleisfab a orfu, Ymffrostied Llangennech lie siglwyd ei gryd. Chwarelau Bethesda adseinient ei enw, Pan wybu'r chwarelwyr am hvyddiant y bardd; Aeth bachgen o Hwntw ar goron hardd loew I lawr ir Deheudir am 11-Awdl yr Ardd." U! enwihweh fanerau o benau y bryniau- Yr Allt a Phenlan, a ben graig Goitre Wen, Rhowch iddo anrhydedd,dyrchefwch fonllefaul Hardd frenin Llangennech—efe yweicb pen. Mae'r goron o arian yn gorphwys yn weddus, Rhydd urddas arbenig ar arlais mor lan Morleisfab sydd heno yn edrych yn daclus, Yn gwisgo ei goron fel brenin y gan. Boed llongyfarchiadau i'm cyfaill talentog Am gynyrch ei awen ynfrenin a wnaed A'i ben dan y goron, rhowch glodydd i'r gwron, A chawod o Hodau yn llawrlen i'w draed. Pontyrhyl. BRYNFERCH. -0- Morleisfab! Gardd" mor lasfyw—a'ch un Ni cheir; mae'n ddigyfryw fchwi Breuddwyd ces-bereiddied yw Ond dyna-Eden ydyw. Dan ei choed," yn ddioedi—Hon ganwr Llangennech-cewch fawrfri; Arfon ei choron i chwi 0 galon rydd drwy Gwili. GWILI. Morleisfab ydyw Rabbi—y beirddion, Byw Arddwr uchelfri; Coron addas Carneddi, Copa hwn a'i cipiai hi. I waradwydd, garddwr Eden—gwympodd Trwy gampau annyben; Ond dyma fardd o'i ardd wen Fry gododd heb freg adeu. Heddyw Heddwch," waedd addas gy- Mae'n gweddu i'w deyrnas; [hoeddwn, Wyr awen ar len daear las, Am arddwr mwy ei urddas. Mae'n fater dwyster dystaw-er hyny, Gwroaiaid wnaeth syrthiaw: Hyn ddywedaf yn ddidaw,— Camp, yn wir, oedd cwympo naw. Byw i urddas wna beirddion,—am hyny Dymunant lwydd cyson o wladgarol frawdol fron, I'r dyn geir dan ei goron. GWYDDERIG. -0- Mewn gardd mae cloddio'r cloron—ac yoo Ceir ceniii y Firython, A niferi o foron I Geir o hyd o'r fangre hon. Ond Morlais ffraeth aeth i hon-a gartldodd1 Gydag urddas beirddion A hwn a orfu yn Arfon enfawr, Efe yw y cawr all dyfu coron. Hawddamor fardd y goroii,Ilon ganed Llangennech ganeuon C'-qffe(i fwyn Mynwy a Mon Yw goreu fiwsig Aaron. AARON MORGAN. -0- Pale mae y naw? ai yn ngholl rhwng y blodau, A geisieut o'r ardd i harddu eu haeliau ? Ni welaf and un, a ddychwelodd a'r tlysion I'w rhoddi yn emau i lathru'n ei goron. Breninfardd ar orsedd yw ef er's blynyddau, Oed heddyw mae'n deyrn tan y goron yn ddiau; Awdurdod teyrnwialen ei awen ysgydwo, Nes gwneud anial bywyd fel gardd yn blodeuo. Fu'r daith drwy yr ardd ddim yn gwbl bleserus,— Cudd drain o dan ddail y rhos peraroglus; Ond cludwyd ei cheinion ar leni i Arfon, Dychwelodd ei phersawr yn 'splander y goron. Byw fyth fyddo'n brenin yn ngardd buddugcl- iaetb, Ysgafnach fo'i groes o dan gysgod ei dalaith; A phan ddelo tymhor blodeuo'r pren almon, Boed gwynwallt ei ben megys coron dan goron. Arianwawl ei goron dros orwel ei hwyrddydd j Fo n taflu budlewyrch i'w awdl a'i gywydd; Ca'ed proffwyd y piydferth ysbrydiaeth i'w emyu, Nes caffo aurgoron y nef gyda'i thelyn. Cwmfelin. W. H. JONES. Wed,r vmdrecti a'r myfyrdod Wele'n harwr ar ei orsedd, Wedi gornest yr eisteddfod Nofia bellach mewn tangnefedd; Wedi'r brw'ydro efo'r cewri Daeth o Armagedon Arfon, A choronig llwydd yn liathru Ar ei goryn pert barddonol. Pwy mor wladgar a'r anwylyd Anrhydeddir genym heno? Pwy mor onest ? Pwy mor ddiwyd Fa dros iaith ei wlad yn brwydro ? Deil y "Tan Cymreig" i losgi Fel y Berth ar lawnt ei galon, A pha rytedd yw fod Cymru Yn ymffrosto yn ei gwron Gwenodd Eifion athrylithgar Ger y Tau Cymreig gyneuodd, Llawenychodd Job awengar NVrth fyu'u' trwy yr "Ardd" gynyrchodd; Amlwg yw mai pen saer celfydd Yn ngwasanaeth awen Cymru Fu yn cyneu'r Tan ysblenydd Cyn myn'd tua'r Ardd i gauu. Bu dan goed yr Eden gyntaf, Lie y collodd dyn ei goron; Bu yn ngardd yr Ymdrech Olaf Yn cael trem ar Rosyn Saron Tragwyddoldeb fel pe'n gwywo Dan y barug oer, difaol, Cyn i awrlais Duw i daro Awr ei Dranoeth dwyf, buddugol! Canodd i'r "Blodeuyn" hwnw Welodd Emrys fwyn yn gwenu Pan oedd natur wen yn welw A phob blod'yn wedi trengn Beth fel gardd at ddeffro awen Fwyn y bardd i ganu emyn ? Testyn Salm ga yn mhob dalen Ac yn uhlystai pob blodeuyn. Gwened llwydd yn nen ein gwron, Yn wastadol yw ein gweddi; 0 na ddeuai'r haf a choron Cymru wen i'r Llan eleni; A phan dderfydd ganu Salmau Per ar danau tlws ei awen, Caffed dynu cerdd o danau Telyn Duw mewn tlysach Eden. Dafen. BEN DAVIES (Pelydrog). -0- Anwyl fardd o'r iawn elfen,-dyn i'r beirdd, Dania'r byd a'i awen Gwron byw a geir yn ben, I Cawr ydyw mab Ceridweu. Llanrwst. ERYL MENAI. —o— Morleisfab, arab wron,—yn yr Ardd Ceir ef dan ei Goron, A mwynhau y mae yn hon Lafurfawr ysglyf Arfon. GWELEDYDD. -0- Gwynfa awen yw yr Ardd, Brenin anian yw y bardd, Rhwng y blodau gwnaeth ei oed, Canodd ganiad dan ei choed; Daeth yn ol dan lasach nen Gyda choron ar ei ben, Eithr crwydra hud ei gerdd Mwyach dan bob canghen werdd. Colli'r goron yn yr Ardd Wnaeth rhieni cyntalr bardd, Plant di-awen yw yr oil Wylant am goronau coll; Enill coron wnaeth efe Am i'w awen gadw'i lie, Fro fy maboed cofia'r ardd Ddydd coroni-th frenin-fardd. Coron arian ydyw hon, Balchder bardd y cywair lion Ond mae arall ganddo ef, Roddwyd iddo gau y Def: Bellach mae dwy goron wen Yn disgleirio ar ei ben, Gwyr ei enaid gwrol mwy Nad o'r Ardd y daeth y ddwy. Tra fo blodau'n lloni'r byd Ni chaiff awen fyn'd yn fud, Tra fo Duw yn planu coed Dan eu brig y bydd ei hoed Tra fo gwawr wrth byrth yr Ardd Dal i fyw wna can y bardd, Try yn gan concwerwr byw Wedi canu'n nghwmni Duw. Coleg Coffa, Aberhonddu. CENECH. —o— Hwn yw'r gwr i wisgo'r goron,—o bawb, Mae'n ben y prydyddion; Yn ein genau ei geinion Geir mwy o Fynwy i Fon. Curo da oedd curo deg-o gewri, Am y goron landeg 0 chwenych curo 'chwaneg, fe gurai Y dyn a fynaiheb dynu'i faneg. VOLANDER JONES.  (I'w barhau). I

DYCHYMYG. I

ILLINELLAU j

The Beat-all Ointment.

Advertising