Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

IDILED Y BYD FR GBOEGIAID.…

LLITH CEOMWELL.

CLYWEDION 0 GARWAY.__I

Y DWYL AW__CROE SION. I

CENWCH FAWL I DDUW.

News
Cite
Share

CENWCH FAWL I DDUW. [PEXOD 11.1 Beth sydd yn gynwysedig mewa gwir folianu Duw ? Cydnabyddiaeth barchus o ragoriaethau Duw ynddo ei hun fel Bod anfeidrol, yn meddu pob perifeithrwydd, yn nghyd a chydnabydd- iaeth o'i rinweddau i ni mewn creadigaeth, rhagluniaeth, ac iachawdwriaeth hefyd, cyd- nabyddiaeth ymwybodol o'n hymddibyniaeth ar Dduw; ac o ganlyniad, ein rhwyrnedigaeth iddo. Nis gall fod ymddibyniaeth heb fod rhwymedigaeth mewn canlyniad. Y mae yr Hwn yr ymddibynwn arno yn rhwym o gael ei gydnabod genym fel y cyfryw, a'i gydnabod yw ei folianu. Yn y ddau beth a nodwyd, meddyl- iwyf, y mae molianu^Duw yn gynwysedig. Erfod molianu Duw yn ddyledswydd rhes- ymol, Ysgrythyrol, angenrheidiol, a bllddiol. eto, haws gan filoedd wneud pob peth na hyn. Y mae yr holl anniolchgarwch sydd yn ein calonan yn dangos anwybodaeth am Dduw fel Cymwynaswr, gelyniaeth at Dduw fel Llywydd, a. balclider calon am ymgodi yn uwch na Duw, gan fwrw ymaith ein hymddiriedaeth ynddo fel Creawdwr a Chynaliwr. Wele y fath ddrwg sydd yn ngwreiddyn anniolchgarwch. Hefyd, y mae ysbryd ac agwedd anniolchgar yn atal trugareddau a gaem, ac yn chwerwi y trugareddau a gawsom. Pe diolchem fwy am yr hyn a gafwyd, caem fwy rhagllaw. Y mae agwedd anniolchgar y cardotyn y tro diweddaf yn cau y drws erbyn y tro nesaf pan y mae y cardotyn diolchgar yn gallu llywodraefchu, i raddau, agoriad trysor ei gymwynaswr. Y maetestynanmoli Duw yn aneirif. Y mae ei gymwynasau yn dyfod o bob man, i'w canfod yn mhob lie, trwy bob peth, a chan bawb bron, i iii daioni tymhorol i ni, fel creaduriaid, heb ddiffyg; a daioni ysbrydoli ni, fel pechaduriaid, heb drai—y nefoedd yn gwlawio bendithion, a'r ddaear yn dylifo rhoddion—y greadigaoth yn gwasanaethu arnom, ac iachawdwriaeth wedi nesu atom. Y mae nef a daear, Duw a dynion, creadur a ohreadigaeth, mor a thir, dydd a nos, haf a gauaf, ie, pob peth yn gweini aruom er ein cysuro. Priodol iawn yw dywedyd, 0 na folianent yr Arglwydd am ei ddaioni a'i ryfedd- odau i feibion dynion' Pan yr ydym yn diolch i Dduw am iecliyd, Ilawndid, llwyddiant, ac anrhydedd, yr ydym yn gwneuthur yn dda. Y rhai liyn ydynt roddion rhagluniaeth haelionus Duw, ac y maent yn gofyn ein cydnabyddiad. Ond nid y rhai hyn yw yr unig fendithion a roddir i ni gan ei ddaioni ef. Dylai adfyd gael ei ychwanegu at nifer ei gymwynasau ef, a chael ei goffau yn ein diolchiadaumwyaf dyhewydus. Bendigedig a fyddo Duw am boen, afiechyd, siomedigaeth, cyfyngder, a phob un o'r gwahanol ddrygaii hyny a pli a rai y 11 en wir bywyd dyn, a'r rhai ydynt destynau ein ffrwstgar achwyniadau; drygau ag ydynt ein daiom mwyaf; y rhai ydynt yn cystuddio, eto yn puro—y rhai ydynt yn rhwygo ac yn aredig yr enaid, eto yn ei barotoi i hadau rliinwedd. Bendigedig a fyddo Duw am nad yw ef mor annhirion a'n profi ni trwy y fwyaf peryglus o bob temtasiwn. sef llwyddiant dirwystr am nad ydym ni wedi ein handwyo trwy y cyfiawniad o'n dymuniadau; a'i fod er yn gweled yn dda ein ceryddu ni gyda'i blanfc e-jfreithlon, a chydÙ anwyl a'i Tinig-anedif-, Fab, yr Hwn yr ydym yn gobeithio ei ddilyn trwy borth y bedd i orfoleddus adgyfodiad. Dylem edrych ar ein bod wedi ymroddi yn gywir i'r Duw hwnw, clodydd yr hwn a ganwn, plieidio a chanu clodydd yr Arglwydd gyda gwefusau balogedig. Dylem, hefyd, ymdrechu i gael pob gras yn ei briodol a'i fywiol ymarfer- iad, a chanu a'n calonau yn gystal ag a'n lleis- iau. Rhaid i ni offrwm rhesymol wasanaeth, deall ac ystvried synwyr yr hyn a ganom, rhag na byddom ddoefchach nag adar y nefoedd, y rhai a ganant yr hyn na wyddanfc. Dylem osod ein hunain fel yn mhresenoldeb y Duw sydd yn gweled pob peth, fel y byddo i deimlad o'i e(iryebix(I ef arnom ein dychrynu i weddus barch, a pheri i ni wylio yn erbyn pob peth anghyfaddas i ddifrifoider ei addoliad ef. Boed i ni feddwl ynom ein hunain, tra yr ydym yn cydwybodol ganu maw l i Dduw yn yr eg. lw y-, isod, ein bod yn dysgu gogyfer a'r byd gwell hwnw, lie y bydd llawenydd tragwyddol ar ein penau, an genau wedi eu llenwi am byth ag uchel glodydd i'n Duw; ac nac anghofiwn ystyried y fath beth ofnadwy fydd i'n llefiadau a n galarnadau yn ufFern dderbyn acen uwch. oddiwrth ein rhagrithiol ganiadau o fawl ar y ddaear. Dywedyd fod moli Duw, trwy gana, yn beth diangenrhaid neu ormodol, am y gelhr ei wneutbur yn gystal trwy weddi, sydd gamgymeriad ag y gellir ei broti oddiwrth natur y peth yn gystal ag oddi- wrth brofiad. Heblaw hyn, nid ydym i gymeryd mesurau ein dyledswydd oddiwrth yr hyn a farnwn ni yn briodol neu angenrhediol, ond oddiwrth ewyllys agorchymyn Crist. Yr wyf yn addef y byddai yn ffordd gyllym i ddaros- twng crefydd i ysgerbwd noeth, neu gysgod teneu, pe na byddai i ni wneuthnr ychwaneg nag a dybiai ein natnr Jygredig a. hunan- foethus yn angenrheidiol. Ai ni allem ni ddadleu yr un mor gryf yn erbyn Swper yr Arglwydd ? Ai ni allweh chwi feddwl am ei farwol gariad ef wrth weddio, neu wrandaw y Gair yn cael ei bregethu ? Pa angen am fyned at y bwrdd, neu ddefnyddio bara a gwin ? Ond gan fod hon yn ordinhad ag yr addefir ddarfod ei sefvdlu er cof am angeu a dyoddefiadati Crist, felly, paham DaS gall canu mawl i Dduw fod yn ordinhad ar wahan, wedi ei phenodi i foli Duw mewn modd neillwuol ? (I'w barhan.) Moriab, Llanelli. MAB GWYNrijW