Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
JOHN LUXTON & CO., Principal Billposters & House Agents LLAN ELLY. LESSEES OF48 POSTING STA TIONS IN TOWN AND COUNTRY. TERMS MODERATE. PERSONAL ATTENTION GIVEN TO A U WOKE. THE SOUTH WALES BILL POSTING CO., .LIMITED, Permanent Hoardings 14 all the leading Thoroughfares of Town and Country TERMS MODERATE. PUBLICITY GUARANTEED. Speoial Attention ttfveu to Tradesmen's Announcements I SKCBKTART "DAVID, Auctioneer, 14, Vuughan Street, Llanelly. I MANAGER: BERT HALL, 71, Andrew Street, Llanelly. AARON STONE, UCTIONEER, v ALUER, P C., GREENFIELDS, LLANELLY. J. DA VIES, Of LLWYDCOED, LLANNON, Registrar of Births and Deaths FOR THE SUB-DISTRICT OF LLANNON, .And of MARRIAGES for the DISTRICT OF LLANELL Y. 'ICE :— COWELL HOUSE (OPPOSITE POST OFFICE), LLANELLY. SPECIAL SURGICAL APPLIANCES. -QUNIAI.. HERNIA TRUSSES. AMORAL HERNIA TRUSSES SCROTAL HERNIA TRUSSES. UMBILICAL HERNIA TRUSSES. MOO MAIN TRUSSES. ELASTIC STOCKINGS, KNEE CAPS. NOMINAL BELTS, CHEST EXPANDERS INGRAMS, PATENT ENEMAS, &c. 8 U) BY J. WADE, Chemist, Llanelly, Delicious, Nutritive, & Digestible. k OOD I For Infants, I UvauqS, and The ACEDII f The following letter is published by t sPecictf oermission of the Russian f 4 I COurt- J I ill j j. Balffintal Csalle. i 1\ Y SCOTLAND, y 25ih September, 1&96. 11 Sh.s I w Please forward to Balmoral X Castle one dozen 2/6 Tins of ? | Benger's Food for H.I.M. The i L impress of Russia, addressed 7 v to Miss Coster. We have K u deceived the box ordered from j /{ Petel"hoff. I v Yours truly, ft  X  | Messrs. F. B. Beager & Co., Ltd., j (j Bga a ??' is soM fn Tine at 116, 2/6, (* Sf. bf chemwte? 860,, everywhere. r ) CAMBRIA CYCLE CO., LTD., LATE JOHN S. BROWN. WARNING TO THE PUBLIC! Beware of Small Cycle Agents who state they are able to supply Cycles of any make. -4 The CAMBRIA CYCLE CO. hold the Sole Agencies for HUMBERS RALEIGHS QUADRANTS PREMIERS SWIFTS RUDGE- WHITWORTHS SINGERS I \1 ENFIELDS RAPIDS RAGLANS ROVERS OSMONDS HUDSONS CAMBRIAS &c. Therefore, beg to Caution the Public that any of the High Grade Machines bought from other agents cannot be guaranteed by the Makers. The CAMBRIA CYCLE CO. are prepared to give RIDING LESSONS, Free of Charge, at their Spacious Riding School, and will also take old machines in exchange. WT MACHINES ON HIRE. REPAIRS A SPECIALITY. Pneumatics from £6. I Cushions from 30s. Second-hand Defiances (Equal to New) from £3 to R4.  IT* FTfT?? CAMBRIA CYCLE CO., LTD., LATE JOHN S. BROWN, 1!US'AY?T?''E?nrs ?STfiT?T?'E??T! T T A'Mr?T T  7' MARKET STREET, LLANELLY. A GREAT IMPROVEMENT. NEW FURNISHING BUSINESS FOR LLANELLY. The Only Practical Furnisher in the Town.  'icrc!! W. o. EVANS, HOUSEHOLD & GENERAL FURNISHER, Begs to inform the Public of Llanelly and District, that he. has acquired the Shop at the corner of C'OW.ell and Murray Streets (lately occupied as County Court Offices), which have been Greatly Enlarged and Improved, with a view of fully meeting the growing demands of the town and district. The Premises will shortly be OPENED with a New and Varied Stock of Furniture, viz., Dining, Drawing and Bedroom Suites, &c., Bedsteads and Bedding, Carpets, Rugs, Floorcloths, Linoleums. Intending Customers would do well to reserve their purchases until W. 0. E. Opens with his select Stock at Popular Prices. THE BEST and Healthiest TEMPERANCE BEVERAGE  lrHE sf HER* BEER   m  from  ^V$\ No other Extract makes Beep MK Beware of Vile l?nitatious- Sold in 6 d I/- and I' Small Tasting Sample Free on receipt of 2d. Stamps to cover Postage. I Factory—Bloonisbury Works, LEEDS. i Small Tasting Sample Free on receipt of 2d. Stamps to cover Postage. Breakfast Beverairer^^P^ AT HO-ME OR ARROAI), For Millions & Millionaires ISl at one Farthing' A5k your Grocer, Chemistp or Store for a Gd., 1 2/ FACTORY- Bloomsbury Works, LEEDS. j Am RHAGLENI, &c, AM Y PRISOEDD MWYAF RHAD, ANFONER I ercpry," LLANELLI..
IDILED Y BYD FR GBOEGIAID.…
IDILED Y BYD FR GBOEGIAID. Y mae ysbryd anghyfiawn, gormesol, a llofruddiog y Galluoedd sydd yn galw eu hunain yn Alluoedd Cristionogol, wedi llwyddo i gael yr hyn yr ymgeisient am dano, set darostwnir Groeg, y genedl y mae y byd yn fwyaf dyledus iddi o holl genhedloedd y ddaear, ag eithrio yr luddewon; ac o'r ochr arall, y mae y Galluoedd wedi llwyddo i amddiSyn y Twrc, y wlad a'r genedl fwyaf dieflig a llofruddiog. Nid yw yr hyn a wnaed gan y Galluoedd yn ddim amgen nag ail actio yr hyn a wnaed yn Jerusalem tua pedair canrif a'r bymtheg yn ol, sef, gollwng Barabbas yn rhydd, a chroeshoelio yr Iesn. Y mae hanesyddiaeth yn ail adrodd ei hun, ac j mae yn ail adrodd dyfnderau llygredd y weithred dduaf yn hanes y ddaear yn yr ar- gyfwng presenol. Mor anniolchgar yw y byd am y daioni y mae yn ei dderbyn. Gall pob dyn a chenedl, yn mhob gwlad wareidd- iedig dan haul, ddweyd fel Paul, "Dyledwr ydwyf hefyd i'r Groegwyr." Y mae mil- myrdd ffrydiau o gysuron yn dod i ni yn barliaus oddiwrth y Groegwyr, cysuron nad ydym yn iawn weled eu gwerth, am nad ydym wedi gwybod beth yw bod hebddynt. Trwy iaith y Groegiaid yrydym ni wedi cael y Testament Newydd. Yr iaith Roeg oedd yr iaith lanaf, buraf o holl ieitboedd y ddaear ar y pryd, ac yr oedd yn ofynol i gael Hestr glan i ddal dyfroedd y bywyd. Yr iaith yr oedd Homer wedi canu, Sophocles yn dramayddu, Plato yn athronyddu, Lye- urgus yn deddfu, a Demosthenes yn rhaiadru ei araethyddiaeth. Y mae yn yr iaith gyfoeth annarluniol, ond y trysor mwyaf o'r oil yw Efengyl ein hiachawdwriaeth, ae y mae y byd yn ddyledus i'r Groegwyr am hyny. Ni fyddai y byd wedi dysgu ysgrifenu hanes heblaw fod y Groegwyr wedi eiddysgu. Herodotus a Thncydides sydd wedi rhoi bodolaeth i Macaulay a Bancroft; Sophocles y Groegiad sydd wedi bod yn dysgu y ffordd ac yn cyffroi ysbryd Shakespeare. Oni bai fod Homer yn Groeg, nid yw yn debyg y bydd- ai Milton yn Lloegr. Yr oedd caniadau ae arwrgerddi Groeg yn allu ac yn ysbrvdiaeth iddynt bum' can mlynedd cyn Crist, ac ymae dylanwad y farddoniaeth hono, a'i hadlais, vn deimladwy yn Tennysons a Longfellows y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y mae pob athrcfa, pob dysgybl, a phob gwlad, yn derbyn yn barhaus o gyfoeth meddyliq Groeg, a gall pawb ddweyd ei fod yn ddyledwr i'r Groegwyr, Y Groegiaid sydd wedi dvsgu 0 J 0 adeiladwaith i'r byd—adeiladau prydferth a defnyddiol. Mae yn wi r fod yr Aifftiaid yn adr'iiadu eu pyramidiau, a'r Celtiaid eu crom- lechau, ond ceisio codi cofgolofnau i'r meirw yr oeddynt. Ond y mae Groeg yn codi cof- golofnau i'r byw, yn benar. Y maent yn cymeryd cwrs newydd, a thri phrif beth eu holl adeiladau oedd cadernid, defnyddioldeh, a phrydferthweh. Y mae y Partheon sydd yn ei hadfeilion, yn dangos olion o ogoniant digyflelyb. Prynodd Lord Elgin ddan lwyth llong o hen feini yr adfeilion. Suddodd t un ar ei thaith i'r wlad hon, ond y mae 1 lwyth y Hong arall i'w gweled heddyw yn y British Museum, ac y mae yr hen adfeilion wedi bod yn ysbrydiaeth i filoedd o arch-adeiladwyr trwy yr oesau, a phery felly hyd derfyn amser. Nid oes eglwys na chapel, palas na thyddyn, teml na bwthyn da a phrydferth nad ydym yn ddyledus i'r Groegwyr, mewn ystyr neillduol, am dano. Pan edrychir eto ar gerfluniaeth, o Groeg y mae wedi dyfod. Hwy ddechreuodd weithio ffarf wynebau dynol mewn marmor a terra-cotia. Y mae y byd yn ddyledwyr i Pheidks am y gerfluniaeth sydd yn prydferthu y temlau, a'r trefi, a'r dinasoedd. Oddiwrth y Groegiaid y mae y physigwriaeth sydd yn gymaint bendith i ni wedi dyfod. Y mae Hippocrates, y meddyg Groegaidd, yn anfarwol, a thelir gwarogaeth iddo yn holl Athrofeydd Meddygol y byd heddyw. Efe yw tad y Claf-dai a'r Athrc)- feydd Meddygol, a gall pob claf a leddfir ei boen, a phob un a wellheir o'i afiechyd, ddweyd fel Par.1, u Dyledwr ydwyf hefyd i'r Groegwyr," a diolch i Dduw am Dr. Hippo- crates, y meddyg Groegaidd. Ond y mae y byd yn ddyledus i Groeg am ei gwroniaeth yn mrwydrau iawnder a rhyddid; tra mae prif alluoedd Ewrop heddyw yn wrthwynebol i Groeg. Ond os metha y Groegiaid, yn bresenol, a chyrhaedd eu hamcan o gael y Cretiaid yn rhyddion, a gosod bach yn ffroen y diafol ymgnawdoledig sydd yn Ilywod- raefchu y Tyrciaid, y maent yn sicr o Lvyddo yn y diwedd. Er fod gohebydd y Dafty Chronicle yn dweyd fod Groeg yn godf, ac na chyfyd byth mwy, nid ydym yn gallu credu hyny, er mor debyg y mae pethau yn edrych beddyw. Ond y mae yn ddigon posibl y daw pethau yn well nag yr ydym yn meddwl eto. Y mae Groeg wedi cael buddugoliaethau rhyfeddol o'r blaen pan oedd yr anghyfar- taledd yn fwy nag ydyw yn bresenol. Y mae brwydr Marathon, pan y mae deg mil o'r Groegiaid o dan arweiniad Miltiades, yn gorchfygu dros gan mil o'r Persiaid. Y mae y meddylddrych sydd gan y Groegiaid yn anorchfygol, ac fel y dywed un o'r ysgrifen- wyr Ffrengi^, Y mae meddylddrych Groeg yn cael ei eni mewn rueddyliau achalonau yn barhaus, a phe difodid pob Groegwr oddiar wyneb y ddaear, ni ddifodir byth y meddyl- ddrych sydd ganddo." A phe terfynai y rhyfel yn yr annrhefn presenol, yr ydym yn ddigon sicr fod Grove!" yn yr ystyr uwchaf, wedi enill y dydd. Y mae y meddylddrych oedd ganddi wedi cydio yn ngwerin Ffrainc, Germany, Italy, Prydain, ac America. Y mae Groeg fechan wedi myned yn Groeg fawr. Ei meddylddrych hi yw prif feddyl- ddrych y byd gwareiddiedig heddyw, ac y mae y darn llaw wedi ysgrifenu ar galchiad y pared dynged y Twrc, fel na fedr llygredd y Galluoedd gadw wrth eu gilydd y fath bentwr o bydredd lawer yn hwy. Goreu pa gyntaf y difodir y Twrc oddiar wyneb y ddaear, a'r nefoedd a noddo Groeg ddynol, wrol, ryddfrydig, a bendithiol.
LLITH CEOMWELL.
LLITH CEOMWELL. FA H H A D Rhaid cyfaddef i mi bendroni llawer i go tie yr oil oeddwn wedi ysgrifenu, ond yn methn yn loew a boddloni fy hun, a. rhaid i mi briodoli hyny i'r cof gwael sydd yn fy meddiant. Mae yn union deg yn debyg i ogor i gario dsvfr; ond drwy y cyfan, Mr. Gol., os ceir hwyl a hatndden, dichon y gor- phenir yr hanes eto, am ei fod mor ddyddor- ol i mi, beth bynag. Rhaid cyfaddef y gwir, yr wyf yn methu cofio yn mha le y darfu i mi ei adael. Daeth i Jawr i Gaerdydd, a gwnaeth yno gryn wrhydri. Cafwyd brwydr boeth iawn yn St. Fagan ar yr 8fed o Fai, 168-1 nid neb llai na Chromwell oedd y gorchfygwr. Aeth Cromwell drwy Drefynwy a thrwy Casgwent ar yr lleg o.Fai-cymerai y dref-yinc)sodal ar y castell, a theulu y castell yn pallu rhoddi fyny, efe a adawodd y Milwriad Ewar igym- eryd y castell, yr lawn yii nilien pedair wyth- nos a wnaeth hyny. Yr oedd Cromwell yn myned rhagddo i osod terfysgwyr i lawr; dyna un ysgarmes yn Aberthyn wrth Bontfaen, Morganwg. Y mae un helynt go dcligrifmewn o\ sylltiad a'r ysgarmes hon—yr oedd yno un hen wron Oymreig a elwid "Penwyn Penylan," cleddyf yr hwn oedd wedi archolli Ilawer I- Pengrwn," am hyny Pengrwniaid oedd wrth-blaid y brenin, ae o'r braidd y caed neb i'w orth- recliii ond amgylchynwyd ef yn Aberthyn gan wyr Oliver, a gorfu iddogymeryd arno ei fod wedi ei ladd, a gorweddai yn mhlith y meirw ar Ian yr afon yno. Pan welodd ei elynion hyn bu lawen ganddynt; ond nid cynt y troisant eu cefnau nag y cododd Pen- wyn, gan ddechreu ymffrostio yn ei waith gwihydrol. Aeth Cromwell rhag ei fiaen i Abertawe a Chaerfyrddin, ac ar ei daith i Benfro yr oedd y terfysgwyr wedi herio yno nad oedd yr un gallu a fedrai gymeryd Cas- tell Penfro; ond aeth Crqmwell rhag ei fiaen fel Ilew, a'i fechgyn yn wrol, a darfu iddynt gyrhaedd yn mhen rhyw ddeno, niwrnod; ond gan fod nwyddau rhyfel yn brin, megys cyfiegrau, &c., buont am wythnosau cyn cym- eryd y dref a'r castell, yr hyn gymerodd le Gor. lleg, pan y gorfu i Poyer, Langhern, ac ereill, roddi eu hunain i fyny i drugaredd Cromwell. Fel hyn y syrthiodd Pen fro, ac y gorphenodd y rhyfel Cymreig hwn, yna dych- welodd Cromwell. Dichon mai ar y daith wrth ddychwelyd y trodd hen Eglwys .Ficer Llanymddyfri fel math o faracs neu lety i'w filwyr. Sylwn ar ei brif waith a'i ogoniant eto.
CLYWEDION 0 GARWAY.__I
CLYWEDION 0 GARWAY. I Clywed fod y tfasiwn wedi cyfnewid yn hollol gan rai o ferched yr ardal, sef fod y merched yn myn'd ar ol y becbgyn. Clywed fod y merched hyn er cael gafael ar eu hanwyliaid yn teithio lleoedd lleidiog a garw iawn ar eu holau. Clywed i gyfarfod cystadleuol y dirwestwyr droi allan yn dda iawn. Olywed rhai yn dweyd fod y gymdeithas ddirwestol wedi marw. Clywed fod ereill yn dweyd yn wahanol, a bod areithiwr dirwestol enwog i ymweled a'r lie yn fuan. Clywed fod rhai yn synu fod mor lleied o elw wedi wneud oddiwrth gyfarfod cystadleuol y dirwestwyr. Ni chlywais faint oedd yr elw. Dichon y caf wybod hyny eto. ISAFAELWR. I
Y DWYL AW__CROE SION. I
Y DWYL AW__CROE SION. I Mr. GOL.Yr oe(ld yn flin genyf na fuaswn wedi anfon fy llythyr i fewn yn nghynt yr wyth- nos diweddaf, ond nid oedd yngytieus genyf, gan fy mod yn rliwyrn o fyned i gymanfa gerddorol yn y sir hon, a thrwy hyny, nid oedd modd genyf ei anfon mewn amser fel ag iddo ym- ddangos yn y papyr diweddaf. Wrth fyned am rawd y mae dyn yn dod i fwy o wybodaeth felly fin au y diwrnod hwn. Yr oeddwn yn gwybod pa fodd y mae dynion y lie hwn yn ymddwyn pan gartref, ond y diwrnod hwn cefslis wybod pa fodd y maent oddi cartref. Yr oedd rhai, y diwrnod hwn, fel pe buasent wedi eu gollwng yn rhydd o rhyw gaethiwed, ac ni wyddent beth i'w wneud. Yr oeddynt yn od o debyg, Mr. G ol-, fely gwelsoch loi bach pan yn cael eu gollwng allan o'r llociau i'r meusydd gvvyrddion yn nechreu yr haf ac fel lloi mewn llawer ffordd arall, hefyd. Yr oedd- ynt yn brefu am laeth y fuwch goch cyn disgyn o'r gerbydres, ac wedi iddynt ddisgyn, yr oedd- ynt yn rhedeg am y cyntaf tuag at y stwciau i gael tori eu syched a thrwyth yrheiddyn. Dyna lie yr oeddent yn canu yn y gymanfa heb or- phen llyncnhwnw, nes eu bod yn debycach i loi. Y mae yn drueni fod dynion yn Nghymru oleu yn camddefnyddio y gwyliau cvsegredig hyn. Mae rhyw aderyn mawr, ysgylfaethus, wedi dechreu achwyn arnaf yn un o'ch rhifynau diweddaf, am na ddywedais yn ddigon eglur yn nghylch y "paham" hyny, a dywedoclc1 ei fod mor dywyll wedi iddo ei ddarllen a chyn hyny. Dichon ei fod, nen ni fuasai yn amlygu ei ddall- ineb yn y MERCURY. Yr oedd y paham yn ddigon eglur i'w weled, ond efallai ei fod yn fwy na allasai yr Eryr weled. Mae llygaid crafF i fod gan yr aderyn hwn, os yw o'r iawn ryw; ond dichon nad yw, ond efallai ei fod yn Eryr o ran meddwl, a dim ond meddwl, ac nid oes ganddo lygaid Eryr, fel yr ymddengys i ddar- llenwyr eich papyr. Dywedai nad oedd yn hofli cyfeillachu a llwynogod. Credaf, Mr. Gol., mai liwynog yn mhluf eryr ydyw. Pwy ddywedodd wrtho am alw ei hun yn Eryr P Mae cwdihw" yn agosach, canys gwel hono wedi nos, ond ni wel hwn wedi dydd. Boed hysbys iddo, os deuaf o hyd iddo y bydd yn amddifad o'i bluf. Dyma ddwy linen iddo esbonio erbyn y tro nesaf :— "Llunier i "an haner gair, Ond i anhgall a dengair." SHON CHWARETJ-TEG. Dydd Sul wythnos i'r diweddaf, cynaliwyd cyfarEodydd haner-blynyddol y Tabernacl, pryd y pregethwyd gan y Parchedigion J. Ffoulkes, Aberafon, a Da vies, Pontardawe. Cafwyd cynulliadau Iluosog drwy y dydd, a chasglwyd yn mhob cyfarfod. Yr oedd y canu hefyd, y tro hwn, yn llawer gwell nag arferol. Dymunwn weled cymanfa ganu eto yn fnan, fel ag y cawsom yn ddiweddar, er gweila rhagor ar ganiadaeth y cysegr. Y mae yn flin iawn genyf eich hysbysu yr wythnos hon am farwolaeth yr henafgwr Rees Davies, Ty'rlan, yr hwn a hunodd yn yr angeu dydd Ian, Ebrill 15fed. Yr oedd i'w weled yn gwanychu er's misoedd In. wer, ond ni chyfyng- wyd ef i'w wely hyd at ychydig ddiwrn odau cyn ei farwolaeth. Y dydd Lluu caulynol, daeth torf luosog mewn cerbydau i ddangos yr arwydd olaf o barch iddo. Claddwyd ef yn mynwent Philadelphia, ger Caerfyrddin, ac yno y gorwedd ei lwch hyd ddydd yr adgyfodiad, pan y dadebrir ef gan udganiad yr udgorn. Gan fod cymaint o son am y Tumble yn y dyddiau hyn, penderfynais dalu ymweliad a'r lie. Nos Sadwrn wythnos i'r diweddaf, cychwynais o m llety, a chyfeiriais fy ngnamrau tuag yno. Aethum heibio i dy y saer heb aros dim, gan feddwl galw yn y ty nesaf er mwyn cael ychydig laeth i'm disychadu, ond pan gyrhaeddais ef, gwelwn blentyn bychan ar gefn y Black Dog," yr hwn oedd yn sefyll ar drothwy'r drws, ac yn llygad-rythu arnaf fel pe buasai heb weled dyn o'r blaeu, a ffwrdd a mi i'r 'fumble. Llawer o ysgrifenu sydd am y lie hwn yn bresenol, yn nghyd a '• benywod y drysau," fel y gelwir hwynt, ond yn wir, Mr. Gol,, nid oes eisien iddynt: nid wyf yn gweled. dim yn wahanol yma i rywle arall. Dywedodd un ddynes ieuanc wrthyf, pan oeddwn tiii chanol y 'stryd, fod cyngherdd mewn ysgoldy a elwir Bethesda y noson hono, i ddechreu am saith o'r gloch mynediad i fewn, tair ceiniog. Gan nad oedd y He yn mhell, aethum i lawr yn union, er fy mod dipyn yn ddiweddar. Yr oedd yr ysgoldy yn orlawn o bobl, fel arfer, ac wedi ei wisgo a blodau, a'r genethed ieuainc wedi dreso "np to date," fely dywedir. Yr oedd yma ganu ae adrodd neillduol gan y plant; yr oeddyut bron yn rhagori ar y rhai mewn oed, er eu bod hwythau wedi gwneud yn rhagorol. Chwareuodd y brawd ieuanc hwnw yr otferyn yn hynod eiieithiol. Terfynwyd y cyfarfod gan y cor, a chafodd pawb lawn gwerth eu harian. Melus, moes eto," yw dymuniad llawer heblaw yr ERYR.
CENWCH FAWL I DDUW.
CENWCH FAWL I DDUW. [PEXOD 11.1 Beth sydd yn gynwysedig mewa gwir folianu Duw ? Cydnabyddiaeth barchus o ragoriaethau Duw ynddo ei hun fel Bod anfeidrol, yn meddu pob perifeithrwydd, yn nghyd a chydnabydd- iaeth o'i rinweddau i ni mewn creadigaeth, rhagluniaeth, ac iachawdwriaeth hefyd, cyd- nabyddiaeth ymwybodol o'n hymddibyniaeth ar Dduw; ac o ganlyniad, ein rhwyrnedigaeth iddo. Nis gall fod ymddibyniaeth heb fod rhwymedigaeth mewn canlyniad. Y mae yr Hwn yr ymddibynwn arno yn rhwym o gael ei gydnabod genym fel y cyfryw, a'i gydnabod yw ei folianu. Yn y ddau beth a nodwyd, meddyl- iwyf, y mae molianu^Duw yn gynwysedig. Erfod molianu Duw yn ddyledswydd rhes- ymol, Ysgrythyrol, angenrheidiol, a bllddiol. eto, haws gan filoedd wneud pob peth na hyn. Y mae yr holl anniolchgarwch sydd yn ein calonan yn dangos anwybodaeth am Dduw fel Cymwynaswr, gelyniaeth at Dduw fel Llywydd, a. balclider calon am ymgodi yn uwch na Duw, gan fwrw ymaith ein hymddiriedaeth ynddo fel Creawdwr a Chynaliwr. Wele y fath ddrwg sydd yn ngwreiddyn anniolchgarwch. Hefyd, y mae ysbryd ac agwedd anniolchgar yn atal trugareddau a gaem, ac yn chwerwi y trugareddau a gawsom. Pe diolchem fwy am yr hyn a gafwyd, caem fwy rhagllaw. Y mae agwedd anniolchgar y cardotyn y tro diweddaf yn cau y drws erbyn y tro nesaf pan y mae y cardotyn diolchgar yn gallu llywodraefchu, i raddau, agoriad trysor ei gymwynaswr. Y maetestynanmoli Duw yn aneirif. Y mae ei gymwynasau yn dyfod o bob man, i'w canfod yn mhob lie, trwy bob peth, a chan bawb bron, i iii daioni tymhorol i ni, fel creaduriaid, heb ddiffyg; a daioni ysbrydoli ni, fel pechaduriaid, heb drai—y nefoedd yn gwlawio bendithion, a'r ddaear yn dylifo rhoddion—y greadigaoth yn gwasanaethu arnom, ac iachawdwriaeth wedi nesu atom. Y mae nef a daear, Duw a dynion, creadur a ohreadigaeth, mor a thir, dydd a nos, haf a gauaf, ie, pob peth yn gweini aruom er ein cysuro. Priodol iawn yw dywedyd, 0 na folianent yr Arglwydd am ei ddaioni a'i ryfedd- odau i feibion dynion' Pan yr ydym yn diolch i Dduw am iecliyd, Ilawndid, llwyddiant, ac anrhydedd, yr ydym yn gwneuthur yn dda. Y rhai liyn ydynt roddion rhagluniaeth haelionus Duw, ac y maent yn gofyn ein cydnabyddiad. Ond nid y rhai hyn yw yr unig fendithion a roddir i ni gan ei ddaioni ef. Dylai adfyd gael ei ychwanegu at nifer ei gymwynasau ef, a chael ei goffau yn ein diolchiadaumwyaf dyhewydus. Bendigedig a fyddo Duw am boen, afiechyd, siomedigaeth, cyfyngder, a phob un o'r gwahanol ddrygaii hyny a pli a rai y 11 en wir bywyd dyn, a'r rhai ydynt destynau ein ffrwstgar achwyniadau; drygau ag ydynt ein daiom mwyaf; y rhai ydynt yn cystuddio, eto yn puro—y rhai ydynt yn rhwygo ac yn aredig yr enaid, eto yn ei barotoi i hadau rliinwedd. Bendigedig a fyddo Duw am nad yw ef mor annhirion a'n profi ni trwy y fwyaf peryglus o bob temtasiwn. sef llwyddiant dirwystr am nad ydym ni wedi ein handwyo trwy y cyfiawniad o'n dymuniadau; a'i fod er yn gweled yn dda ein ceryddu ni gyda'i blanfc e-jfreithlon, a chydÙ anwyl a'i Tinig-anedif-, Fab, yr Hwn yr ydym yn gobeithio ei ddilyn trwy borth y bedd i orfoleddus adgyfodiad. Dylem edrych ar ein bod wedi ymroddi yn gywir i'r Duw hwnw, clodydd yr hwn a ganwn, plieidio a chanu clodydd yr Arglwydd gyda gwefusau balogedig. Dylem, hefyd, ymdrechu i gael pob gras yn ei briodol a'i fywiol ymarfer- iad, a chanu a'n calonau yn gystal ag a'n lleis- iau. Rhaid i ni offrwm rhesymol wasanaeth, deall ac ystvried synwyr yr hyn a ganom, rhag na byddom ddoefchach nag adar y nefoedd, y rhai a ganant yr hyn na wyddanfc. Dylem osod ein hunain fel yn mhresenoldeb y Duw sydd yn gweled pob peth, fel y byddo i deimlad o'i e(iryebix(I ef arnom ein dychrynu i weddus barch, a pheri i ni wylio yn erbyn pob peth anghyfaddas i ddifrifoider ei addoliad ef. Boed i ni feddwl ynom ein hunain, tra yr ydym yn cydwybodol ganu maw l i Dduw yn yr eg. lw y-, isod, ein bod yn dysgu gogyfer a'r byd gwell hwnw, lie y bydd llawenydd tragwyddol ar ein penau, an genau wedi eu llenwi am byth ag uchel glodydd i'n Duw; ac nac anghofiwn ystyried y fath beth ofnadwy fydd i'n llefiadau a n galarnadau yn ufFern dderbyn acen uwch. oddiwrth ein rhagrithiol ganiadau o fawl ar y ddaear. Dywedyd fod moli Duw, trwy gana, yn beth diangenrhaid neu ormodol, am y gelhr ei wneutbur yn gystal trwy weddi, sydd gamgymeriad ag y gellir ei broti oddiwrth natur y peth yn gystal ag oddi- wrth brofiad. Heblaw hyn, nid ydym i gymeryd mesurau ein dyledswydd oddiwrth yr hyn a farnwn ni yn briodol neu angenrhediol, ond oddiwrth ewyllys agorchymyn Crist. Yr wyf yn addef y byddai yn ffordd gyllym i ddaros- twng crefydd i ysgerbwd noeth, neu gysgod teneu, pe na byddai i ni wneuthnr ychwaneg nag a dybiai ein natnr Jygredig a. hunan- foethus yn angenrheidiol. Ai ni allem ni ddadleu yr un mor gryf yn erbyn Swper yr Arglwydd ? Ai ni allweh chwi feddwl am ei farwol gariad ef wrth weddio, neu wrandaw y Gair yn cael ei bregethu ? Pa angen am fyned at y bwrdd, neu ddefnyddio bara a gwin ? Ond gan fod hon yn ordinhad ag yr addefir ddarfod ei sefvdlu er cof am angeu a dyoddefiadati Crist, felly, paham DaS gall canu mawl i Dduw fod yn ordinhad ar wahan, wedi ei phenodi i foli Duw mewn modd neillwuol ? (I'w barhan.) Moriab, Llanelli. MAB GWYNrijW